Lleoliad: Siambr y Cyngor, Bodlondeb, Ffordd Bangor, Conwy. LL32 8DU
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Ian Roberts (Cyngor Sir y Fflint), Yr Athro
Iwan Davies (Prifysgol Bangor), Askar Sheibani (Bwrdd Cyflenwi Busnes), Iwan
Trefor Jones (Cyfarwyddwr Arweiniol y Bwrdd) a Dafydd L. Edwards (Swyddog Adran
151). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o
fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
COFNODION CYFARFODYDD BLAENOROL PDF 95 KB Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd
ar 26.7.19 fel rhai cywir (ynghlwm). Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf, 2019 fel rhai cywir. |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd
yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y
drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth
eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth
Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn
cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am
ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n gorbwyso hawliau’r
unigolion yma. O ganlyniad, mae’r budd
cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y
drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth
eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf
Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod yr
adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i
breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd
cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma
fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion yma.
O ganlyniad, mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn
eithriedig. |
|
PENODI CYFARWYDDWR RHAGLEN Penodi
Cyfarwyddwr Rhaglen (ceisiadau a
dogfennau ategol i’w cylchredeg ar wahân ar gyfer aelodau’r Bwrdd yn unig). Penderfyniad: PENDERFYNWYD i gynnig y swydd i AW, a dirprwyo’r
hawl i gytuno ar bwynt cychwyn o fewn y raddfa gyflog i Brif Weithredwr y Corff
Atebol a Phrif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Eurig Williams
(Rheolwr Gwasanaethau Ymgynghorol Adnoddau Dynol y Corff Atebol). PENDERFYNWYD i gynnig y swydd i AW, a dirprwyo’r hawl i gytuno ar bwynt cychwyn o fewn y raddfa gyflog i Brif
Weithredwr y Corff Atebol a Phrif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint. RHESYMAU
DROS Y PENDERFYNIAD Gweithredu i benodi Cyfarwyddwr Rhaglen ar
gyfer y Cynllun Twf. |