Lleoliad: Siambr y Cyngor, Bodlondeb, Ffordd Bangor, Conwy, LL32 8DU
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: David Jones (Coleg Cambria), Dafydd Evans (Grŵp
Llandrillo Menai), Maria
Hinfelaar (Prifysgol Glyndŵr),
Judith Greenhalgh (Cyngor Dinbych) a Sasha Davies (Bwrdd Cyflawni Busnes) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfodydd o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 21.6.19
a 28.6.19 fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd blaenorol a gynhaliwyd 21 Mehefin 2019 a 28 Mehefin 2019 fel rhai cywir. |
|
DIWEDDARIAD AR Y RHAGLEN WAITH A COFRESTR RISG Y BUE PDF 175 KB Adroddiad
gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Adolygwyd, a chymeradwywyd statws RAG pob tasg o fewn
y Rhaglen Waith yn ddarostyngedig ar ddiweddaru’r gweithredoedd hynny sydd yn
llithro mewn coch. Adolygwyd cynnwys y Gofrestr Risg a chymeradwyo’r
meini prawf asesu ar gyfer pob tasg. Cytunwyd y dylid ychwanegu ‘Swyddfa Rhaglen’ i’r
gofrestr. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol. PENDERFYNWYD ·
Adolygu, a chymeradwyo statws RAG pob tasg o fewn y
Rhaglen Waith yn ddarostyngedig ar ddiweddaru’r gweithredoedd hynny sydd yn
llithro mewn coch ·
Adolygu cynnwys y Gofrestr Risg a chymeradwyo’r meini
prawf asesu ar gyfer pob tasg. ·
Cytuno y dylid ychwanegu ‘Swyddfa Rhaglen’ i’r
gofrestr. RHESWM DROS Y PENDERFYNIAD Diweddaru
cynnydd y tasgau ar y Rhaglen Waith ynghyd a chyflwyno fersiwn diweddaraf y
Gofrestr Risg TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan dynnu sylw at y materion hynny oedd wedi eu cwblhau yn y rhaglen
waith ynghyd a’r nifer hynny sydd angen sylw yn y misoedd nesaf. Amlygwyd bod
tasgau ac amserlen wedi ei ddynodi ar gyfer swyddogion penodol ynghyd a statws
RAG. Cyfeiriwyd at y gofrestr risg oedd wedi ei hatodi gyda’r adroddiad ac
atgoffwyd yr aelodau bod y ddogfen yn cael ei hadolygu yn fisol gan y Grŵp
Swyddogion Gweithredol. Grŵp Cyflawni
Busnes Rhoddwyd
diweddariad gan Askar Sheibani (Is-gadeirydd Grŵp Cyflawni Busnes) ar ei
weledigaeth i’r Grŵp gryfhau eu perthynas gyda’r Bwrdd fel bod modd i’r
Bwrdd fanteisio ar wybodaeth ac arbenigedd y Sector Breifat i ddenu cyfoeth,
targedu mwy o gyfraniadau a chynhyrchu busnes i Ogledd Cymru. Ategodd yr angen
i gydweithio gan geisio’r fargen orau. Sylwadau yn codi
o’r drafodaeth: -
Bod y sector breifat yn rhan sylfaenol o’r
cynllun -
Y dylai cofnodion y grŵp fod yn eitem
safonol ar raglen y Bwrdd -
Y byddai gwaith y Bwrdd yn cael ei graffu gyda
negeseuon clir ac argymhellion uniongyrchol -
Gwahodd Aelodau o’r Bwrdd i fynychu / annerch
mewn cyfarfodydd -
Cynnal cyfarfodydd ar y cyd er mwyn adeiladu’r
ymdeimlad o dîm -
Ymgynghori gyda’r Grŵp cyn hysbysu am Reolwyr
Prosiect -
Bod angen i ddiwylliant y sector breifat a’r sector
gyhoeddus gyfuno -
Bod angen cynnal deialog agored, cyfathrebu’n
glir a rhannu gwybodaeth yn effeithiol Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn ag addasu cylch gorchwyl y
Grŵp Cyflawni Busnes i adlewyrchu’r sylwadau uchod, awgrymodd y Swyddog
Monitro y gellid adolygu’r cylch gorchwyl fel bod modd sefydlu trefn fyddai yn
gweithio i bawb. Penodi Cadeirydd
Bwrdd Cyflawni Busnes Adroddwyd bod
proses apwyntio mewn lle ynghyd a swydd ddisgrifiad (drafft) ar gyfer Cadeirydd
y Bwrdd Cyflawni Busnes. Amlygwyd yr angen i ymgynghori gyda’r ddwy lywodraeth
ynglŷn â’r penodiad. Sylwadau yn codi
o’r drafodaeth -
Mai rôl annibynnol fydd gan y Cadeirydd -
Bod angen i’r person fod ag angerdd am yr
ardal, yn adnabyddus, yn arweinydd a
chyda chysylltiadau da Mewn ymateb i sylw
y byddai’r penodiad yn ‘benodiad cyhoeddus’ awgrymwyd yr angen i sicrhau
dealltwriaeth o’r cyfyngiadau ariannol yn y trafodaethau a bod trefn arfarnu
apwyntiadau llywodraeth leol wedi ei dilyn. Swyddfa Rhaglen Amlygodd Dilwyn Williams y byddai hysbysiadau ar gyfer rhai swyddi yn y swyddfa rhaglen yn cael eu hysbysebu yn ystod yr Haf. Adroddwyd y byddai swydd Cyfarwyddwr Rhaglen yn cael ei hail hysbysebu ar y 29ain o Orffennaf gyda’r dyddiad cau ar y 23ain o Awst. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |
|
CYLLIDEB REFENIW 2019/20 - ADOLYGIAD CHWARTER CYNTAF (Mehefin 2019) PDF 532 KB Adroddiad gan Dafydd L Edwards, Swyddog
Cyllid Statudol yr Awdurdod Lletya Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodwyd
a derbyniwyd Adolygiad Chwarter Cyntaf y Cydbwyllgor ar gyfer 2019/20. Derbyniwyd
cadarnhad y Cydbwyllgor i ddefnyddio’r Gronfa Wrth Gefn (oedd wedi ei glustnodi
ar gyfer y diben hwn) i ariannu unrhyw ddiffyg incwm yn 2019/20 Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Dafydd Edwards, Swyddog Adran
151 PENDERFYNWYD Nodi a derbyn yr Adolygiad Chwarter Cyntaf y Cydbwyllgor ar
gyfer 2019/20. Derbyn cadarnhad y Cydbwyllgor i ddefnyddio’r Gronfa Wrth
Gefn (oedd wedi ei glustnodi ar gyfer y diben hwn) i ariannu unrhyw ddiffyg
incwm yn 2019/20 RHESWM DROS Y PENDERFYNIAD Bod
angen nodi gwariant a ragwelir ar gynllunio prosiectau (a geisir yn allanol a
staff) yn 2019/20, tra bod cyfalafu’r costau prosiect hynny ddim yn bosib tan
2020/21, a’r gorwariant a ragwelir ar
gostau recriwtio TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad er
mwyn darparu manylion y gwariant a'r incwm gwirioneddol
ar gyfer chwarter cyntaf blwyddyn ariannol 2019/20 ynghyd a rhagamcaniad o alldro blwyddyn lawn yn erbyn y gyllideb
flynyddol. Nododd Swyddog Adran 151 bod y drefn ariannol wedi bod yn un
heriol a’r gyllideb ar gyfer
eleni wedi ei baratoi gyda’r
wybodaeth oedd ar gael ar
y pryd. Ategodd bod rhagdybiaethau yn parhau gan nad oedd cadarnhad o’r grant ESF ac felly arian yn cael
ei symud rhwng cyllidebau i adlewyrchu penderfyniadau
staffio. Er hynny, nid oedd
yn rhagweld pryderon amlwg ar y gorwel. Cyfeiriwyd at adroddiad strwythur y swyddfa rhaglen a gymeradwywyd yng nghyfarfod y Bwrdd Uchelgais ym Mehefin
2019 ar y sail bod y strwythur
yn fforddiadwy o fewn y cyfraniadau ariannol craidd. Eglurwyd y gellid gweithredu hyn drwy ddefnyddio’r cyfraniadau craidd cytunedig ynghyd a reserfau a gariwyd ymlaen. Ategwyd y byddai fforddiadwyedd ar gyfer 20/21 yn ddibynnol ar
fargen lwyddiannus
a bod cyfalafu’r costau
staff yn ymwneud a phrosiectau. Mewn ymateb i sylw
ynglŷn â chronfa wrth gefn ar
gyfer diswyddiadau, amlygwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal
ac y byddai’r mater yn cael ei ystyried
wrth gynllunio ymlaen a gosod cyllideb tair blynedd Sylwadau yn codi o’r
drafodaeth -
Angen adeiladu reserfau -
Angen anfonebu Cynghorau am gyfraniadau -
Wrth
osod y gyllideb rhaid amlinellu bod y cyfraniadau yn parhau'r un fath -
Diolchwyd am y gwaith |
|
CAIS ADEILADU CAPASITI SEFYDLIADOL ESF PDF 196 KB Adroddiad
gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol Penderfyniad: Cytunwyd y byddai’r Grŵp Swyddogion
Gweithredol yn, ·
parhau i ddatblygu Cynllun Busnes i WEFO
(Welsh European Funding Office) gefnogi eu cais am arian o’r Gronfa
Gymdeithasol Ewropeaidd ·
sefydlu
Grŵp Tasg a Gorffen i arwain ar ddatblygu’r Cynllun Busnes ·
cyflwyno
adroddiadau chwarterol ar y cynnydd i’r Bwrdd Uchelgais Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad
gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr
Arweiniol PENDERFYNWYD
y byddai’r Grŵp Swyddogion Gweithredol yn, ·
parhau
i ddatblygu Cynllun Busnes i WEFO (Welsh European Funding Office) gefnogi eu cais
am arian o’r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd ·
sefydlu Grŵp
Tasg a Gorffen i arwain ar
ddatblygu’r Cynllun Busnes ·
cyflwyno adroddiadau
chwarterol ar y cynnydd i’r Bwrdd
Uchelgais RHESWM DROS Y PENDERFYNIAD Byddai
cyllid o’r gronfa yn cyfrannu at ariannu swyddi o fewn y Swyddfa Rhaglen hyd at
fis Mehefin 2023, yn ôl weithredol i fis Mehefin 2018 TRAFODAETH Cyflwynwyd adroddiad yn manylu
ar waith y Grŵp Swyddogion Gweithredol ar gais Cronfa Gymdeithasol
Ewropeaidd i ddylunio ac adeiladu’r capasiti angenrheidiol ar gyfer cyflawni
Cynllun Twf Economaidd Gogledd Cymru. Y bwriad fydd derbyn £3m fyddai’n caniatáu ariannu swyddi o fewn y Swyddfa Rhaglen hyd at fis Mehefin 2023. Byddai hyn yn
golygu swyddfa rhaglen hunangynhaliol. Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â manylder ariannu swyddi'r swyddfa rhaglen nodwyd mai amcangyfrifon
oedd wedi eu cynnwys yn
yr adroddiad ac y byddai manylion llawn yn cael
eu cynnwys yn y cynllun busnes. Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn ag amserlen cyflwyno cais, nodwyd bod bwriad cyflwyno cais erbyn diwedd
mis Hydref 2019. Cadarnhawyd, pe byddai Prydain
yn ymadael a’r Under Ewropeiaidd ddiwedd Hydref bydd Llywodraeth Prydain yn cyflenwi’r
arian. |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Mae’r adroddiad ynglyn a drafft dogfen
Pennawdau Telerau Drafft Bargen Twf Gogledd Cymru sydd wedi ei ddynodi yn
ddogfen gyfrinachol gan Adran y Llywodraeth ar gyfer darpariaethau Adran 100
(A)(2) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Gan hynny mae’n ofynnol eithrio’r adroddiad rhag ei chyhoeddi gan y byddai yn datgelu gwybodaeth
gyfrinachol. Cofnod: Penderfynwyd cau allan y wasg
a’r cyhoedd oherwydd bod yr adroddiad ynglŷn â drafft dogfen Penawdau
Telerau Drafft Bargen Twf Gogledd Cymru
sydd wedi ei ddynodi yn
ddogfen gyfrinachol gan Adran y Llywodraeth
ar gyfer darpariaethau Adran 100 (A)(2) Deddf Llywodraeth
Leol 1972. Gan hynny mae’n ofynnol
eithrio’r adroddiad rhag ei chyhoeddi
gan y byddai yn datgelu gwybodaeth
gyfrinachol. |
|
PENAWDAU'R TELERAU I ystyried yr
adroddiad (copi ar wahân i’r
Aelodau yn unig) Penderfyniad: Bod
Bwrdd Uchelgais Economaidd yn croesawu Drafft y Penawdau Telerau fel arwydd
cadarnhaol o ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru i
Gynllun Twf Gogledd Cymru, gan edrych ymlaen at gau’r Penawdau Telerau cyn
6.9.19 Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol PENDERFYNWYD Bod Bwrdd Uchelgais Economaidd yn croesawu Drafft y Penawdau
Telerau fel arwydd cadarnhaol o ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig a
Llywodraeth Cymru i Gynllun Twf Gogledd Cymru, gan edrych ymlaen at gau’r
Penawdau Telerau cyn 6.9.19 RHESWM DROS Y PENDERFYNIAD Cymeradwyo penawdau telerau
ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru |