skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1a & 1b, Neuadd y Sir, Ffordd Wynnstay, Rhuthun LL15 1YN

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

Ethol Cadeirydd ar gyfer 2019/20.

Cofnod:

Etholwyd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn (Cyngor Gwynedd) yn Gadeirydd y Cyd-bwyllgor ar gyfer 2019/20.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2019/20.

Cofnod:

Etholwyd y Cynghorydd Mark Pritchard (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) yn Is-gadeirydd y Cyd-bwyllgor ar gyfer 2019/20.

 

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Ian Bancroft (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam), Iwan Davies (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy), Sasha Davies (Bwrdd Cyflawni Busnes), Dafydd Edwards (Cyngor Gwynedd) a David Jones (Coleg Cambria).

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

6.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 96 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 17 Mai, 2019 fel rhai cywir  (ynghlwm).

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 17 Mai, 2019 fel rhai cywir.

 

7.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd.  Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion yma.  O ganlyniad, mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd.  Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion yma.  O ganlyniad, mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

 

8.

PENODI CYFARWYDDWR RHAGLEN

Penodi Cyfarwyddwr Rhaglen  (ceisiadau a dogfennau ategol i’w cylchredeg ar wahân ar gyfer aelodau’r Bwrdd yn unig).

Penderfyniad:

I gynnig y swydd i Mr Iwan Trefor Jones, gan awdurdodi Prif Weithredwr y Corff Atebol, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Bwrdd Uchelgais Economaidd i gadarnhau yr amodau a’r telerau yn unol â chyfarwyddyd y Cyd bwyllgor.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Geraint Owen, Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol y Corff Atebol.

 

PENDERFYNWYD i gynnig y swydd i Mr Iwan Trefor Jones, gan awdurdodi Prif Weithredwr y Corff Atebol, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Bwrdd Uchelgais Economaidd i gadarnhau yr amodau a’r telerau yn unol â chyfarwyddyd y Cyd-bwyllgor.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Gweithredu i benodi Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer y Cynllun Twf.