Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1a & 1b, Neuadd y Sir, Ffordd Wynnstay, Rhuthun. LL15 1YN
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Yr Athro Graham Upton (Prifysgol
Bangor), Dr Gwynne Jones (Cyngor Sir Ynys Môn) a
Dilwyn Williams (Cyngor Gwynedd). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys
ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 95 KB Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y
cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 15 Mawrth, 2019 fel rhai cywir (ynghlwm). Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 15 Mawrth, 2019 fel rhai cywir, yn
ddarostyngedig i’r cywiriadau isod:- Presenoldeb – nodi mai’r Dr Gwynne Jones, ac nid Marc Jones, oedd yn bresennol fel
prif swyddog ar ran Cyngor Sir Ynys Môn. Diweddariad ar raglen waith
y Bwrdd Uchelgais Economaidd:- ·
Nodi y bu i’r Grŵp Cyflawni Busnes
bwysleisio pwysigrwydd cynnwys Twristiaeth Antur o fewn y prosiect Cyd-fenter
Tir ac Eiddo Rhanbarthol. ·
Nodi y bu i Gyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy bwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod
Adeiladwaith Carbon Isel yn rhan o’r prosiect Tir ac Eiddo. |
|
DIWEDDARIAD AR RAGLEN WAITH Y BWRDD UCHELGAIS PDF 172 KB Adroddiad
gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol
(ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1.
Cymeradwyo statws RAG pob tasg o fewn y Rhaglen
Waith, yn unol â’r adroddiad. 2.
Dirprwyo’r awdurdod i’r Cyfarwyddwr
Rhaglen, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Bwrdd Uchelgais i gytuno
ar swydd ddisgrifiad a’r broses o benodi Rheolwr Rhaglen Ddigidol. 3.
Ymrwymo hyd at £55,000 (yn amodol ar arfarniad
swydd a llwyddiant
y Cynllun Twf) o’r gyllideb “Cynllunio,
Datblygu a Chefnogi Prosiectau” ar gyfer ariannu’r swydd Rheolwr Rhaglen
Ddigidol am gyfnod o flwyddyn. 4.
Cyflwyno adroddiad cynnydd chwarterol ar waith
y Bwrdd i’r partneriaid unigol ar gyfer dibenion
adrodd a chraffu y cyrff unigol. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol. PENDERFYNWYD 1. Cymeradwyo statws RAG pob tasg o fewn y Rhaglen
Waith, yn unol â’r adroddiad. 2. Dirprwyo’r awdurdod i’r Cyfarwyddwr Rhaglen, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Bwrdd Uchelgais i gytuno ar
swydd ddisgrifiad a’r broses o benodi Rheolwr Rhaglen Ddigidol. 3. Ymrwymo hyd at £55,000 (yn
amodol ar arfarniad swydd a llwyddiant y Cynllun
Twf) o’r gyllideb “Cynllunio, Datblygu a Chefnogi Prosiectau” ar gyfer ariannu’r swydd Rheolwr Rhaglen
Ddigidol am gyfnod o flwyddyn. 4. Cyflwyno adroddiad cynnydd chwarterol ar waith
y Bwrdd i’r partneriaid unigol ar gyfer dibenion
adrodd a chraffu y cyrff unigol RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Diweddaru a chadw trosolwg ar gynnydd tasgau’r
Rhaglen Waith. Cymeradwyo proses penodi Rheolwr Rhaglen Digidol. Er sicrhau llif gwybodaeth
ar y prosiect i’r cyrff partneriaethol. TRAFODAETH Mynegwyd anfodlonrwydd a phryderon gan y sefydliadau addysg ynglŷn â’r drefn o flaenoriaethu
cynlluniau. Nodwyd hefyd nad oedd y llythyrau at Nigel Adams, AS a Ken Skates, AC wedi eu rhannu
gyda hwy cyn eu hanfon
at y ddwy Lywodraeth. Tynnwyd sylw hefyd nad oedd logos yr holl bartneriaid
ar y llythyrau hynny. Roeddent o’r farn
bod hyn oll yn tanseilio’r bartneriaeth a’u rôl hwythau fel
ymgynghorwyr i’r Bwrdd. Mewn ymateb, cadarnhaodd yr Is-gadeirydd nad oedd
bwriad i danseilio unrhyw agwedd o’r bartneriaeth
a bod y bartneriaeth yn hollol gyfartal. Cadarnhaodd hefyd na
wnaed unrhyw benderfyniadau caled ynglŷn â chynlluniau unigol, a bod y cynlluniau wedi’u rhaglennu, yn hytrach na’u
blaenoriaethu. Eglurodd y Cyfarwyddwr Arweiniol fod llythyr wedi’i
anfon at y ddwy Lywodraeth ers cyfarfod diwethaf y Bwrdd yn nodi
y bydd y prosiectau yn cael eu
rhaglennu. Yn ystod cyfarfod
diwethaf y Bwrdd roedd cydnabyddiaeth bod rhai o’r prosiectau
ar y blaen yn nhermau parodrwydd. Nodwyd bod 5 prosiect trawsnewidiol wedu eu hadnabod
fel rhai fyddai yn barod
ar gyfer y cam cyntaf: Prosiect Cysylltedd Digidol; Prosiect Cyd-fenter Tir ac Eiddo Rhanbarthol,
Porth Caergybi; Prosiect Rhwydwaith Ynni Lleol Blaengar;
Prosiect Gorsaf Bŵer Trawsfynydd. Cytunwyd y byddai’r 14 prosiect yn cael eu
cynnwys o fewn Penawdau’r Telerau, gan eu cynnwys
mewn 2 gam. Golyga “parod” fod y prosiectau yn bodloni profion
(a) prawf cysyniadol, (b) deilliannau ac effaith, (c) buddsoddiad a buddsoddiad anuniongyrchol y sector breifat a
(d) parodrwydd i gyflawni ar amser. |
|
Adroddiad
gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol
(ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol. PENDERFYNWYD 1. Cymeradwyo ffurf a strwythur y Gofrestr Risg,
a chytuno bod y risgiau a’r statws RAG (Coch, Ambr, Gwyrdd) sydd wedi’u cynnwys
yn gywir ac yn ddigonol a bod y mesurau lliniaru sydd wedi’u nodi yn gymesur o
ystyried y risgiau sydd wedi’u hadnabod. 2. Adrodd yn chwarterol
ar y risgiau i’r Bwrdd Uchelgais ac yn fisol i’r Grŵp Swyddogion
Gweithredol. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Er mwyn gweithredu’n effeithiol, mae
Cynllun Twf Gogledd Cymru angen
Cofrestr Risg fanwl ar gyfer
y cam Cynllunio a Datblygu. Ystyrir bod adrodd yn chwarterol
i’r Bwrdd Uchelgais yn ddigonol,
gan y bydd yna adrodd yn
fisol i’r Grŵp Swyddogion Gweithredol. |
|
SEFYDLU IS-FWRDD TRAFNIDIAETH PDF 168 KB Adroddiad
gan Iwan Evans, Swyddog Monitro (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Iwan Evans, Swyddog Monitro. PENDERFYNWYD 1. Penodi Is-fwrdd Cyflawni Trafnidiaeth gyda’r Rôl a’r
Cylch Gorchwyl wedi’u hamlinellu yn Atodiad 1 i’r
adroddiad. 2. Penodi Arweinydd Cyngor Sir Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts, i weithredu fel aelod
cyswllt gyda’r Is-fwrdd Cyflawni Trafnidiaeth. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Yn
sgil dechrau Cytundeb Llywodraethu Un (“GA1”) a sefydlu’r Bwrdd Uchelgais
Economaidd fel Cyd-bwyllgor sy’n gwneud penderfyniadau, mae angen penderfyniad
ffurfiol y Bwrdd Uchelgais er mwyn penodi is-bwyllgor. |
|
BWRDD CYFLAWNI BUSNES PDF 184 KB Adroddiad
gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr
Arweiniol (ynghlwm). Penderfyniad:
(i)
Rôl Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy; (ii)
Atebolrwydd Cadeirydd y Bwrdd Cyflawni Busnes; (iii)
Yr angen i symleiddio rôl a chyfrifoldebau arfaethedig y Bwrdd; (iv)
Pryder bod galwadau cynyddol ar fusnesau i gymryd rhan mewn
trefniadau cyffelyb; (v)
Materion cyllidol. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol. PENDERFYNWYD 1. Gohirio penderfyniad ar y mater hwn hyd oni fydd
canlyniad yr ymgynghoriad â Llywodraeth y DU a
Llywodraeth Cymru ar y bwriad yn
hysbys. 2. Bod
y trafodaethau gyda’r Llywodraethau i gychwyn ar sail yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Bwrdd Uchelgais. 3. Rhoi sylw i’r
materion canlynol wrth ddarparu drafft
pellach o’r adroddiad:- (i) Rôl Cyngor Busnes Gogledd
Cymru a Merswy Dyfrdwy; (ii) Atebolrwydd Cadeirydd y Bwrdd Cyflawni Busnes; (iii) Yr angen i
symleiddio rôl a chyfrifoldebau arfaethedig y Bwrdd; (iv) Pryder bod galwadau cynyddol ar fusnesau
i gymryd rhan mewn trefniadau
cyffelyb; (v) Materion cyllidol RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Er
mwyn cael eglurder ynglŷn â materion penodol a godwyd cyn rhoi’r Bwrdd Cyflawni Busnes ar sylfaen ffurfiol
fel rhan o strwythur datblygol y prosiect. TRAFODAETH Cyflwynwyd adroddiad llafar gan Sasha Davies ar gyfarfod o’r Bwrdd
Cyflawni Busnes a gynhaliwyd y diwrnod cynt lle pwysleisiwyd
yr angen am eglurder ar rai materion, sef atebolrwydd
Cadeirydd y Bwrdd Cyflawni Busnes, yr angen i
symleiddio rôl a chyfrifoldebau arfaethedig y Bwrdd, pryder bod galwadau cynyddol ar fusnesau i
gymryd rhan mewn trefniadau cyffelyb a rhai materion cyllidol, megis trefniadau cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer Cadeirydd
y Bwrdd. Derbyniodd Ashley Rogers fod angen adnabod a diffinio rôl Cyngor
Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy â’r disgwyliadau
ganddynt hwy hefyd, a nododd fod ganddo awgrymiadau
ynglŷn â sut i gyfarch hyn.
|
|
PAPUR GWYN LLYWODRAETH CYMRU - GWELLA TRAFNIDIAETH GYHOEDDUS PDF 201 KB Adroddiad
gan Iwan Prys Jones, Rheolwr Rhaglen (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad cryno ar gynigion
Llywodraeth Cymru i Wella Trafnidiaeth Gyhoeddus a’r ymateb i’r ymgynghoriad ar
y Papur Gwyn, sydd wedi’i atodi i’r adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad cryno ar gynigion Llywodraeth
Cymru i Wella
Trafnidiaeth Gyhoeddus a’r ymateb i’r
ymgynghoriad ar y Papur Gwyn, sydd wedi’i atodi i’r
adroddiad. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Er
mwyn rhoi hysbysu’r Bwrdd o’r ymateb rhanbarthol sydd wedi’i gyflwyno. |
|
ADOLYGIAD(AU) BARGEN DDINESIG BAE ABERTAWE (SBCD) PDF 215 KB Adroddiad
gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr
Arweiniol (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1.
Derbyn yr adroddiad ar yr argymhellion sydd yn y ddau adroddiad adolygiad, “Adolygiad
Annibynnol o Fargen Ddinesig Bae Abertawe” ac “Adolygiad Mewnol o Drefniadau
Llywodraethu Bargen Ddinesig Bae Abertawe 2.
Nodi’r asesiad RAG (Red, Green, Amber) o statws Cynllun Twf
Gogledd Cymru yn erbyn bob un o’r argymhellion. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol. PENDERFYNWYD 1. Derbyn yr adroddiad ar yr argymhellion
sydd yn y ddau adroddiad adolygiad, “Adolygiad Annibynnol o Fargen Ddinesig Bae Abertawe” ac “Adolygiad Mewnol o Drefniadau Llywodraethu Bargen Ddinesig Bae Abertawe. 2. Nodi’r asesiad RAG (Red, Green, Amber) o
statws Cynllun Twf Gogledd Cymru yn erbyn bob un o’r argymhellion. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD 1. Er mwyn i’r Bwrdd
Uchelgais ddeall casgliadau ac argymhellion yr Adroddiad(au). 2. Er mwyn Bwrdd Uchelgais
ganolbwyntio ar y gwersi a ddysgwyd o’r gwelliannau a awgrymir o fewn yr Adroddiad(au) er mwyn
gallu bwrw ymlaen â Chynllun Twf Gogledd Cymru. 3. Er mwyn asesu sefyllfa’r
Bwrdd Uchelgais yn erbyn yr
argymhellion a’r casgliadau sydd yn yr Adroddiad(au). TRAFODAETH Nodwyd nad oedd
rhai o’r argymhellion hyn wedi’u derbyn a’u
bod i’w hystyried ymhellach yn rhanbarth
Bae Abertawe. |