skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhonwen Jones  01286 679780

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2019-20.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

  1. ETHOL CADEIRYDD

 

Penderfynwyd:  Ethol y Cynghorydd Dewi Wyn Roberts yn Gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2019/20.

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso i Aelod newydd ar y  pwyllgor, Y Cynghorwr Gareth T M Jones.

 

Diolchwyd i’r Cynghorydd Eryl Jones-Willimas am ei gefnogaeth fel Cadeirydd y pwyllgor dros y ddwy flynedd diwethaf.

 

Rhoddwyd diolchiadau a dymuniadau gorau i Gareth James (Rheolwr Cefnogi Aelodau a Chraffu) ar ei ymddeoliad mis Awst 2019.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2019-20.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Penderfynwyd:  Ethol y Cynghorydd Beth Lawton yn Is-gadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2019/20.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb..

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Councillors Richard Medwyn Hughes, Linda Ann Jones, Cai Larsen, Peter Read.

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd y Cynghorydd Dewi Wyn Roberts fuddiant personol yn eitem saith - Anawsterau Recriwtio oherwydd bod ei wraig yn gweithio yn y maes gofal.  Gan fod yr eitem yn fater cyffredinol recriwtio staff newydd, nid oedd o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu, ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 91 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 28ain o Fawrth 2019yn gywir.  (atodir)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 28 Mawrth 2019, fel rhai cywir yn amodol ar gynnwys cyfeiriad at y trydydd sector yn y frawddeg gyntaf ym mharagraff gwasanaethau hwb yn eitem pump.  Nodwyd rhai syniadau ac angen ar gyfer gwasanaethau sydd yn cyfuno gwaith y Bwrdd Iechyd Gofal a’r trydydd sector gan gynnwys elfen o dai’.

 

 

7.

ANAWSTERAU RECRIWTIO pdf eicon PDF 27 KB

 

Aelod Cabinet: Y Cynghorydd Dafydd Meurig


I dderbyn adroddiad ar yr uchod.

 

*10.35 – 11.35

 

(amcangyfrif amseru)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Adroddiad cyffredinol er gwybodaeth gan yr Aelod Cabinet, Oedolion, Iechyd a Llesiant. Cyflwynwyd yr adroddiad cyntaf yn Nhachwedd 2018 gan yr Uwch Reolwr Busnes yn amlygu canfyddiadau cychwynnol y gwaith a wnaethpwyd gan gwmni CELyn yn edrych ar recriwtio a chadw gofalwyr gofal cartref.

 

Yn ehangach wedyn mae ‘Y Gweithlu a Recriwtio o fewn y maes Gofal’ yn un o flaenoriaethau Strategol y Cyngor 2018-23 a phwrpas yr adroddiad yw cyflwyno rhaglen waith. 

 

Disgwylir derbyn sylwadau gan yr Aelodau i’w bwydo i’r pedwar ffrwd gwaith sef tâl ac amodau gwaith.  Edrych ar eu sgiliau arbenigol, a proffil y swydd, gan feddwl am y ffordd orau o gyfathrebu a marchnata recriwtio staff yn y dyfodol.

 

Mapio’r Gwaith

·         Nododd yr Aelod Cabinet i gwestiwn gan Aelod bod grŵp wedi ei sefydlu ac wedi dechrau ar y gwaith o fapio’r hyn sy’n digwydd yn barod er mwyn adnabod unrhyw fylchau sy’n bodoli.  Roedd y grŵp yn cynnwys swyddogion allweddol o’r Uned Datblygu’r Gweithlu, adnoddau Dynol a Darparu Mewnol.  Rhagwelid tynnu gwasanaethau eraill i mewn yn ystod y misoedd nesaf.

 

 

·         Nododd y Rheolwr Cefnogi Aelodau a Chraffu, gan fod y gwaith yma yn mynd ymlaen gan yr uned, daeth y pwyllgor i benderfyniad flwyddyn ddiwethaf oedi'r ymchwiliad craffu i’r pwnc Anawsterau Recriwtio ar hyn o bryd.  Un elfen o bwysigrwydd sydd angen ei gydnabod yn y gwaith mapio yw gwaith sylfaenol sydd wedi ei gomisiynu gan  Grŵp Iechyd Canolbarth Cymru.  Roedd dau Aelod o’r pwyllgor hwn wedi bod yn craffu ychydig ar y gwaith o fewn y grŵp, felly roedd gan y Cynghorwyr profiadol hyn gyfraniad pwysig i’w wneud o fewn gwaith mapio.

 

Camau Penodol:

Disgwylid cwblhau’r gwaith mapio erbyn mis Hydref 2019.

 

Tâl ac Amodau Gwaith

 

Cyflwynwyd y drafodaeth ddilynol gan yr Aelod Cabinet, gyda’r Uwch Reolwr Busnes, Oedolion Iechyd a Llesiant â Rheolwr Gwasanaethau Ymgynghorol Cefnogaeth Gorfforaethol yn cyfrannu mewnbwn mwy manwl ar y rhaglen waith.

 

·         Nodwyd bod y gwasanaeth o’r farn bod anghysondeb yn amodau a thelerau gwaith y sector anibynnol a’r ddarpariaeth fewnol ar draws y maes. Nodwyd fod y gwaith trawsnewid gofal cartref yn anelu i gysoni’r amrwyaieth sy’n bodoli er lles y sector.

 

·         Eglurwyd fod y gwaith o drawsnewid gofal cartref yn rhoi’r ffocws ar dynnu gwastraff allan o’r system gyfredol. Mae’r gwasanaeth o’r farn fod modd ariannu gwellainau mewn amodau a thelerau gwaith trwy andabod yr elfennau hynny sydd ddim yn ychwanegu gwerth ac ail ail ddefnyddio’r arian. Yn ogystal a gwella amodau a thelerau gwaith dylai newid y ffordd fyddwn yn comisynu i’r dyfodol arwain at roi sicrwydd gwaith tymor hirach i staff a phatrymau gweithio sy’n rhoi balans bywyd a gwaith gwell. Nodwyd fod y gwaith ym maes gofal catref yn fwy aeddfed na meysydd eraill ond fod y ffrwd gwaith yma yn edrych hefyd ar draws y maes gofal megis Preswyl / Nyrio ac Anableddau Dysgu. Roedd cynabyddiaeth y ffrwd gwaith yn uchelgeisiol ac yn mynd i fod yn sialens.  

 

Camau Penodol:

Disgwylir cysoni lefelau cyflog  y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.