skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Glynda O'Brien  01341 424301

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Morwenna Edwards (Cyfarfwyddwr Corfforaethol).

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(i)            Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol yn eitem 7 ar y rhaglen – Darpariaeth Iechyd ym Mlaenau Ffestiniog, am y rhesymau a nodir:-

 

·         Y Cynghorydd Sian Hughes - oherwydd ei bod yn gyflogedig  i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

·         Y Cynghorydd Elin Walker Jones – oherwydd ei bod yn gyflogedig  i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

·         Y Cynghorydd Dafydd Owen – oherwydd bod ei ferch yn gyflogedig fel nyrs i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

·         Y Cynghorydd Rheinallt Puw – oherwydd ei fod yn gyflogedig i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

 

‘Roedd yr aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau sy’n rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

(ii)           Datganodd y Cynghorydd Dewi Wyn Roberts fuddiant personol yn eitem 7 ar y rhaglen – Darpariaeth Iechyd ym Mlaenau Ffestiniog, gan nodi bod ei ferch yn gyflogedig i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

 

‘Roedd yr aelod o’r farn nad oedd yn fuddiant sy’n rhagfarnu ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

(iii)             Datganodd y Cynghorydd Linda Ann Wyn Jones nad oedd yn datgan buddiant personol y tro hwn yn Eitem 7 – Darpariaeth Iechyd ym Mlaenau Ffestiniog oherwydd ei bod wedi gwneud cam gyda hi ei hun a phobl Blaenau Ffestiniog yng nghyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu hwn a gynhaliwyd 4 Medi 2017.

 

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 192 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyhd ar 13 Mehefin 2017, fel rhai cywir. 

 

(Copi’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 13 Mehefin 2017, fel rhai cywir.

 

 

5.

DIGARTREFEDD pdf eicon PDF 226 KB

I ystyried adroddiad Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant ar yr uchod. 

 

(Copi’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)  Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant ar ddigartrefedd yng Ngwynedd. 

 

(b)              Gosododd yr Uwch Reolwr Tai a Llesiant gefndir o’r maes gan nodi ei fod yn un o gyfrifoldebau statudol y Cyngor sydd wedi eu hamlinellu yn Neddf Tai (Cymru) 2014.  Croesawyd newidiadau i’r ddeddfwriaeth digartrefedd a ddaeth i rym a oedd yn caniatáu achosion fod yn agored am gyfnod llawer hirach.  Fodd bynnag roedd mwy o faich ar swyddogion ac er derbyniwyd rhywfaint o arian grant trosiannol roedd yn dod i ben 31 Mawrth 2018 a’r Llywodraeth heb ymrwymo i unrhyw grantiau pellach ar ôl hynny.  Pwysleislwyd na fyddai’r gwasanaeth wedi gallu ymdopi heb yr arian trosiannol yn sgil y newidiadau na chael cymaint o lwyddiannau atal digartrefedd.  Yn ogystal, nodwyd bod newidiadau ar y gorwel yn y drefn budd-dal a fyddai’n gosod baich ar y gwasanaeth ac yn dilyn gwaith a gomisiynwyd cyfeiriwyd at y prif ganfyddiadau o’r ymchwil hwn. Roedd y gwasanaeth yn wynebu sawl her drwy newidiadau deddfwriaethol a budd-daliadau ac wedi adnabod bod y galw wedi cynyddu a’r rhagolwg y bydd yn parhau i dyfu.  Roedd yn hanfodol ystyried sut y byddai’r gwasanaeth yn ymateb er mwyn sicrhau cynaladwyedd a’r gallu i reoli gwariant i’r dyfodol.

 

(ch)        Ar nodyn positif, nodwyd yn 2015/16 bod Gwynedd y gorau yng Nghymru o safbwynt canran a lwyddwyd i atal digartrefdd ond bydd yn gostwng eleni oherwydd colled mewn un aelod o staff.

 

(d) Rhoddwyd cyfle i Aelodau ofyn cwestiynau ac fe ymatebodd y swyddogion fel a ganlyn:

 

(i)               Nad oedd cynnydd yn y nifer o bobl a gyfeiriwyd i lety gwely a brecwast ond eu bod wedi aros yno am gyfnod hirach.  Serch hynny, roedd y gwasanaeth wedi llwyddo i’w cynnal o fewn y gyllideb.   Sicrhawyd bod y gwasanaeth yn ceisio osgoi rhoi teuluoedd gyda phlant mewn llety gwely a brecwast.  Ceisir ar bob achlysur gadw unigolion lle maent drwy negydu gyda landlordiaid.  Drwy godi treth cyngor ar ail-gartrefi hyderir y gellir ail-fuddsoddi’r arian yn y maes hwn ar gyfer cyflenwi anghenion yr unigolion. 

 

(ii)              Gofynnwyd i’r Rheolwr Digartrefedd a Tai Cefnogol anfon gwybodaeth i’r Rheolwr Aelodau fel a ganlyn:

 

·         Faint o bobl a gyfeirir i lety gwêly a brecwast

·         A ydynt yn unigolion / teuluoedd / pobl ifanc / gwryw / benyw

·         Costau ar gyfer yr uchod

 

(iii)          O safbwynt tai a lesir gan landlordiaid preifat, telir rhent ar yr un raddfa â lwfans tai lleol.

 

(iv)          Bod yr achosion yn rhai ar draws y Sir sy’n cynnwys trefi a phentrefi gwledig.

 

(v)           O safbwynt sut mae’r Cyngor yn paratoi ar gyfer y newidiadau yn y system budd-daliadau, nodwyd bod y gwasanaeth yn :

 

·         ceisio sicrhau bod unigolion yn ymwybodol o’r newidiadau

·         sicrhau bod datblygiadau eiddo yn addas

·         cydweithio gyda’r Uned Tai Gwag, a’r sector tai preifat 

·         rhoi cyngor i bobl

 

(vi)          Yn wyneb y ffaith bod cynnydd yn yr achosion, nodwyd bod pwysau ychwanegol ar y staff i ganfod llety i unigolion yn enwedig o ystyried mai stoc bychan o dai sydd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

TAI GWAG pdf eicon PDF 232 KB

I ystyried adroddiad Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant ar yr uchod. 

 

(Copi’n amgaeedig)

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant ar dai gwag yng Ngwynedd a oedd yn cyfeirio at nifer o fentrau o gymorth i berchnogion tai i wneud y gorau o’u heiddo.

 

          Adroddwyd bod y Gwasanaeth Tai wedi llwyddo i ddod a 455 o dai yn nôl i ddefnydd ac yn sgil hyn wedi llwyddo i gartrefu 915 o bobl Gwynedd ac sydd wedi galluogi unigolion i aros yn eu cynefinoedd. 

 

          Cafwyd blas gweladwy, ar ffurf sleidiau, o rai o’r tai problemus yn nhrefi / pentrefi Trawsfynydd, Maentwrog, Llan Ffestiniog, Penygroes, Bryncrug, Dolgellau, Caernarfon, Llanbedr, Bangor, Nefyn, Llandwrog a Thywyn.

 

          O safbwynt parhad a dyfodol i’r arian sydd ar gael, nodwyd bod y Cyngor o ran rhaglen cyfalaf wedi bod yn buddsoddi ac yn denu arian o ffynhonellau eraill. Hyderir y gellir ail-fuddsoddi arian ychwanegol a ddaw drwy’r cynnydd yn nhreth Cyngor ar ail-gartrefi at ddefnydd dibenion dod a tai gwag yn ôl i ddefnydd. 

 

          Amlygwyd y prif bwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

 

(i)               Gofynnwyd a fyddai modd dwyn achos gorfodaeth gan gyfeirio yn benodol at dy yn Llan Ffestiniog a oedd mewn cyflwr truenus ers blynyddoedd lawer ac wedi achosi cryn boendod i gymdogion cyfagos.

 

(ii)              Mewn ymateb, amlinellodd y Rheolwr Tai – Cyflenwad a Gorfodaeth y pwerau  sydd mewn grym i’r Cyngor, gan nodi bod modd dwyn achos gorfodaeth ar berchennog eiddo os yw’r eiddo yn effeithio ar strwythur tŷ drws nesaf. Yn yr achos penodol hwn nid oedd yn creu effaith strwythurol ar y ty cyfagos. Nodwyd ymhellach bod trafodaethau ar y ty dan sylw yn mynd rhagddynt ers blynyddoedd lawer gyda swyddogion awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac anogwyd yr Aelod lleol i drafod y mater ymhellach gyda swyddogion y Parc oherwydd nad oedd gan yr Uned Dai bwerau i ddatrys y mater. 

 

          O safbwynt buddsoddiadau i berchnogion tai, nodwyd nad oedd yn ofynnol iddynt ymgymryd â phrawf modd, ac nad oedd y buddsoddiad ar gyfer prynu tai, ond yn hytrach gwneud gwelliannau a dod a thai yn ôl i ddefnydd.  Nodwyd ymhellach y gallai prawf modd arwain at sefyllfa a fyddai’n arafu y gwaith o ddod a thai gwag yn ôl i ddefnydd gan bod landlordiaid yn gwneud buddsoddiad eithaf sylweddol eu hunain mewn costau adnewyddu.  Fe fyddai’r ty gwag yn rhan o gynllun lesu am gyfnod o 5 mlynedd, neu ar gael i bobl oddi ar restr aros y Cyngor neu gleientau Gwasanaethau Cymdeithasol. 

           

(iii)             Gofynnwyd beth oedd y targedau a sut y byddir yn mesur llwyddiant?  Gwnaed sylw pellach bod y llogau oddeutu 8 / 9 % yn 2008 a oedd yn bolisi ffafriol ar y pryd ond a oedd y ffigyrau wedi gostwng? 

 

Mewn ymateb, esboniodd y Rheolwr Tai – Cyflenwad a Gorfodaeth y gweinyddir dau fath o fenthyciad – un mewnol a’r llall ar ran Llywodraeth Cymru.  ‘Roedd dipyn o alw am y benthyciad ac roedd y gwasanaeth wedi ei newid yn ddiweddar gyda’r amser talu yn ôl wedi ei ymestyn.  Cadarnhawyd bod y cynllun wedi ei lefelu allan oherwydd bod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

DARPARIAETH IECHYD YM MLAENAU FFESTINIOG pdf eicon PDF 204 KB

I benderfynu ar eiriad terfynol argymhellion y Pwyllgor Craffu Gofal Arbennig a gynhaliwyd ar 4 Medi 2017. 

 

(Copi’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad a oedd yn cynnwys chwe argymhelliad yn deillio o drafodaeth ar y mater uchod yng nghyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gofal Arbennig a gynhaliwyd ar 4 Medi 2017.

 

          Eglurwyd mai pwrpas yr adroddiad ydoedd cadarnhau geiriad terfynol yr argymhellion i’w cyflwyno i’r Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant ynghyd a Phrif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, er gweithrediad.

 

Roedd gwahaniaeth barn ymysg Aelodau ynglŷn â geiriad cymal (ii) o’r argymhellion ac fe gyniwyd ac eilwyd i ddiddymu’r geiriau “amser rhesymol” a’i ddiwygio fel a ganlyn:

 

“bod y Pwyllgor yn gofyn  am adroddiad ar ddarpariaeth iechyd yn ardal Blaenau Ffestiniog gan asiantaeth annibynnol yn syth, i’w gyflwyno i sylw’r Pwyllgor Craffu Gofal.

 

Bod y Pwyllgor Craffu’n galw ar y Bwrdd Iechyd i fonitro gwybodaeth a data mewn perthynas ag effeithiolrwydd gwasanaethau iechyd cyfredol yn ardal Blaenau Ffestiniog a llesiant ei thrigolion yn rheolaidd ac i ymrwymo i addasu/newid y ddarpariaeth os oes tystiolaeth i gyfiawnhau hynny.

 

Cadarnhawyd bod gweddill yr argymhellion sef (i), (iii), (iv), (v), a (vi) yn dderbyniol.

 

O safbwynt darparu adroddiad annibynnol fel awgrymir uchod, nodwyd y byddai’r Cyngor yn medru cynnig enwau ymgynghorwyr arbenigol allanol i gyflawni’n gwaith.

 

Nodwyd nad oedd Cyngor Iechyd Cymuned yn hapus nad oedd cynrychiolydd wedi derbyn gwahoddiad i’r Pwyllgor Craffu Gofal Arbennig ar gyfer y drafodaeth.

 

Penderfynwyd:                      Cyfleu yr argymhellion terfynol isod i Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant a Phrif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsti Cadwaladr:

 

                                      

(i)               Bod y Pwyllgor Craffu Gofal yn galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i rannu’r holl wybodaeth gefndir fu’n rhan o’r penderfyniad gwreiddiol i newid darpariaeth cyfleusterau a gwasanaethau iechyd yn ardal Blaenau Ffestiniog.

(ii)              Bod y Pwyllgor yn gofyn am adroddiad ar ddarpariaeth iechyd yn

ardal Blaenau Ffestiniog gan asiantaeth annibynnol yn syth, i’w gyflwyno i sylw’r Pwyllgor Craffu Gofal.  

Bod y Pwyllgor yn galw  ar  Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fonitro gwybodaeth a data mewn perthynas ag effeithiolrwydd gwasanaethau iechyd cyfredol yn ardal Blaenau Ffestiniog a llesiant ei thrigolion yn rheolaidd ac i ymrwymo i addasu/newid y ddarpariaeth os oes tystiolaeth i gyfiawnhau hynny.

(iii)            Yn deillio o’r dystiolaeth a gyflwynwyd gan Bwyllgor Amddiffyn Ysbyty Blaenau Ffestiniog am ddiffyg ymateb i ddeisebau a gohebiaeth yn y gorffennol, bod y Bwrdd yn rhoi ystyriaeth fanwl i ddiffygion ymgysylltu ac ymgynghori yn y gorffennol er mwyn gwella’u trefniadau ar gyfer y dyfodol. Anogir y Bwrdd Iechyd i gyfathrebu’n rheolaidd ac effeithiol gyda thrigolion ardal Blaenau Ffestiniog mewn perthynas â darpariaeth cyfleusterau a gwasanaethau iechyd lleol.

(iv)            Gofynnir i’r Aelod Cabinet Amgylchedd a’r Aelod Cabinet Gofal gomisiynu asesiad o hwylustod a hygyrchedd gwasanaethau iechyd trwy gludiant cyhoeddus a chymunedol o fewn dalgylch Ysbyty Alltwen. Tra byddai’r flaenoriaeth i’w roi ar y dalgylch yma, wedi ei gwblhau, gellir ystyried os oes budd i gynnal asesiadau tebyg mewn ardaloedd eraill.

(v)             Bod yr angen am gartrefi addas ar gyfer pobl hŷn yn cynnwys y ddarpariaeth o dai gofal ychwanegol yn ardal Blaenau Ffestiniog yn cael  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.