Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Rhonwen Jones  01286 679780

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr Peter Reed. 

Cydymdeimlwyd a’r Cynghorwr Linda Ann Jones yn ei phrofedigaeth. 

Deallwyd bod Y Cynghorwyr Rheinallt Puw wedi ymddiswyddo o’r Pwyllgor Craffu Gofal, mater i grŵp Plaid Cymru yw penodi yn ei le. 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwr Cai Larsen (Bwrdd Cartrefi Cymunedol Gwynedd).

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 99 KB

Bwrdd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 31ain Ionawr 2019 yn gywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 31ain o Ionawr, 2019 fel rhai cywir.

 

 

5.

DRAFFT STRATEGAETH TAI pdf eicon PDF 60 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cefndir:

Cyflwynwyd diweddariad ar yr adroddiad gan yr Uwch Reolwr Tai a Llesiant, Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant a'r Swyddog Strategol Tai, gan ofyn i’r aelodau ystyried cynnwys y strategaeth ymhellach, cyn i’r ddogfen gael ei chyflwyno ger bron y Cyngor llawn ar gyfer ei mabwysiadu yn ffurfiol.

Y Cyd-destun yw bod Deddf Tai (Cymru 2014) yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol lunio Strategaeth Tai ar gyfer ei hardal bob pum mlynedd.  Mae’r Strategaeth Tai yn gyfle i adnabod ffactorau sy’n dylanwadu ar y galw am dai ac i amlinellu blaenoriaethau'r Cyngor a’r modd y bydd yn ceisio cyflawni’r amcanion strategol fel awdurdod lleol.

 

Bwriad y Strategaeth yw gosod fframwaith i sicrhau bod y Cyngor yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau cywir ar gyfer darparu cartrefi i bobl Gwynedd a gwneud y defnydd gorau o’r adnodau prin i wella darpariaeth a’r draws y Sir.  Golygai fod yna gyfle euraidd i’r Strategaeth Tai wneud gwahaniaeth dros y blynyddoedd i ddod; er mwyn manteisio yn llawn bydd yn rhaid i’r Strategaeth fod yn ddogfen fyw gan ymateb i wahanol gyfleoedd a godir.  Y consensws yw  cydweithio yn agos gyda’r Cymdeithasau Tai a Phartneriaid eraill i fonitro cynnydd ac i addasu’r blaenoriaethau.

 

Cafwyd cyfle i drafod rhai o flaenoriaethau a chynlluniau datblygu'r Strategaeth Tai gyda’r aelodau o’r Pwyllgor Craffu Anffurfiol Gofal ar y 31ain Ionawr 2019; mae’r sylwadau hynny wedi eu hystyried wrth ddatblygu cynnwys y strategaeth ac mae elfennau wedi eu haddasu.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i’r swyddogion am eglurhad o’r penawdau o fewn y strategaeth gan roi cyfle i’r aelodau rhoi sylwadau arnynt.

 

Amlygwyd y prif bwyntiau a ganlyn yn ystod y drafodaeth:-

·         Gyda’r toriadau o fewn y Cyngor, bydd hyn yn anhawster i’r Strategaeth Dai?

·         Ar ba sail mae Cymdeithasau Tai yn gwerthu eiddo mewn ocsiynau, beth yw’r anhawster i adnewyddu'r tai hyn fel eu bod yn cyrraedd safon foddhaol i fyw ynddynt?

·         Tai gwag - adran cynllunio yn gwrthwynebu cynlluniau ar eiddo gwag, yn unol â pha argymhellion maent yn seilio penderfyniadau’r gyfundrefn?

·         Treth ddaliadwy ar dai gwag yng Ngwynedd, cwestiynu'r ffenest amser os yw yn realistig?

·         Patrwm lleoliad y tai gwag yng Ngwynedd – angen diffinio’r ardaloedd problemus

·         Her sydd yn wynebu pobl ifanc heddiw fel cyflogaeth - pobl ifanc angen crefft (seiri, trydanwyr, adeiladwyr, a phlymwyr). Trydydd sector- HWB Digartref Bangor?

·         Rhestr aros – faint o geisiadau sydd ar y rhestr, beth yw trosiant y ceisiadau?

·         Dealltwriaeth o dai fforddiadwy.

·         Cynllun adeiladu gan yr awdurdod lleol?

Ymhelaethodd y Pennaeth Oedolion Iechyd a Llesiant gyda’r  Swyddogion Tai a’r Aelod Cabinet yn eu tro, ar y pwyntiau uchod, gan bwysleisio mai Strategaeth y Cyngor ydyw, gyda chyfraniad y Partneriaethau Tai yn rhannu ein gweledigaeth i’r dyfodol.

 

Eiddo Is-safonol - Cymdeithasau Tai:

Yn anffodus gyda rhan o eiddo’r Cymdeithasau Tai, mae angen gwerthu'r stoc os bydd gwariant yn uwch ar eu hadnewyddu nag adeiladu o’r newydd. 

 

Rheswm arall yw bod patrwm maint teuluol wedi newid sydd yn rhwystro'r Cymdeithasau gynnig yr eiddo ar sail rheolau'r wladwriaeth.  Felly gwell  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.