skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorwyr Menna Baines, Anwen Davies,    R.Medwyn Hughes, Linda Ann Wyn Jones, Beth Lawton a Peter Read. Hefyd y           Cynghorydd W.Gareth Roberts (Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a      Llesiant).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)       Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol, yn yr eitemau canlynol am y rhesymau a nodir:

 

·         Y Cynghorydd Cai Larsen yn eitem 5 (Strategaeth Digartrefedd) oherwydd ei fod yn cynrychioli’r Cyngor ar Fwrdd Cartrefi Cymunedol Gwynedd

·         Y Cynghorydd Dewi Roberts yn eitem 6 ( Recriwtio a Chadw Staff Gofal Cartref) oherwydd bod ei wraig yn gweithio i’r Adran Gofal fel gofalwraig

 

Nid oeddynt o’r farn eu bod yn fuddiannau sy’n rhagfarnu, ac ni adawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw faterion sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 104 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 13 Medi, 2018 fel rhai cywir  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol 13 Medi, 2018 fel rhai cywir.

 

5.

STRATEGAETH DIGARTREFEDD pdf eicon PDF 82 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Craig ab Iago

 

I dderbyn adroddiad ar yr uchod  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant yn nodi bod Cyngor Gwynedd wedi cynnal Adolygiad Strategol o Ddigartrefedd yn unol â gofynion Deddf Tai Cymru (2014). Ategwyd bod canfyddiadau’r adolygiad yn gosod sylfaen i ddatblygu Strategaeth Ddigartref a bod y Gwasanaeth Tai ar hyn o bryd yn ymgynghori ar gamau gweithredu lleol fyddai’n ymateb i amcanion a gofynion y Strategaeth.

 

Cyfeiriwyd at y crynodeb gweithredol oedd wedi cael ei gynnwys gyda’r adroddiad oedd yn cynnig dadansoddiad manwl o lefelau a natur digartrefedd, awdit o’r gwasanaethau ac adolygiad o’r adnoddau sydd ar gael i’w gwario ar ddigartrefedd yn y Sir. Ategwyd bod y crynodeb gweithredol yn darparu tystiolaeth ar gyfer Strategaeth Digartrefedd Rhanbarthol Gogledd Cymru ochr yn ochr â Chynllun Gweithredu Darpariaeth Leol Digartrefedd Gwynedd.

 

Derbyniwyd cyflwyniad ar ffurf power point gan yr Uwch Reolwr Tai a’r Rheolwr Digartrefedd a Tai Cefnogol yn crynhoi prif ganfyddiadau'r adolygiad a’r ystyriaethau sydd wedi eu hadnabod. Amlygwyd bod cynllun gweithredol lleol (2018-2022) wedi ei llunio fel ymateb i’r adolygiad ac ar gael ar wefan y Cyngor

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r effaith mai credyd cynhwysol yn ei gael ar waith y Tim Digartrefedd, atgoffwyd yr aelodau nad oedd gwasanaeth llawn Credyd Cynhwysol wedi ei gyflwyno i Wynedd hyd yma ac mai ymgeiswyr newydd yn unig sydd yn derbyn y cymorth. Er hynny, nodwyd bod gwaith yn cael ei wneud i baratoi unigolion a theuluoedd ar gyfer y newid a bod swyddog priodol ar gael i gynorthwyo gydag unigolion bregus. Anogwyd yr aelodau i gyfeirio unrhyw geisiadau am gyngor  i’r Swyddogion Atebion Tai sydd ag arbenigedd yn y gwasanaeth.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â’r nifer uchel sydd yn cael eu troi allan o’u cartrefi oherwydd diffyg talu rhent, amlygwyd bod y Tim Digartrefedd yn awyddus iawn i gydweithio gyda’r Cymdeithasau Tai ac y byddai gwybodaeth am unigolyn / deulu yn cael ei rannu i geisio datrysiad cyn i rywun gael eu troi allan. Ategwyd bod gan y Cymdeithasau Tai gamau i geisio atal digartrefedd ac os yw’r camau hynny i gyd wedi eu cymryd bydd y Gwasanaeth Digartrefedd yn camu i mewn i gynorthwyo a chynnig cefnogaeth.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chapasiti y Gwasanaeth i ymdrin â'r cynnydd yn y niferoedd sydd yn gofyn am gymorth nodwyd nad oedd adnoddau digonol gan y Gwasanaeth Digartrefedd i ymdopi a’r  gwaith ychwanegol. Awgrymodd yr Aelod Cabinet y gellid cyflwyno adroddiad fyddai’n amlygu bod y gwasanaeth yn ymwybodol o’r her y byddant yn ei wynebu i ymateb i’r cynnydd. Ategodd Pennaeth y Gwasanaeth bod pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau bod y person yn ganolog i’r gwasanaeth a drwy ragweld y  bydd cynnydd pellach yn y galw, nodwyd bod bid ariannol wedi ei gyflwyno i gryfhau’r capasiti ar gyfer y galw cynyddol yma. Bydd rhaid gwneud y defnydd gorau o’r adnodd a cheisio blaenoriaethu

 

Nododd y Cadeirydd nad oedd eisiau gweld effaith Credyd Cynhwysol yn faich ychwnaegol ar swyddogion y Gwasanaeth ac y dylid amlygu unrhyw  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

RECRIWTIO A CHADW STAFF GOFAL CARTREF YNG NGWYNEDD - POBL HYN pdf eicon PDF 88 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd W.Gareth Roberts

 

I dderbyn adroddiad ar yr uchod  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Uwch Reolwr Busnes yn amlygu canfyddiadau cychwynnol ymchwiliad gan gwmni CELyn i’r maes recriwtio a chadw staff gofal cartref yng Ngwynedd. Ategwyd y byddai’r adroddiad terfynol yn cael ei gyflwyno fel rhan o ymchwiliad craffu gan y Pwyllgor sydd eisoes yn rhan o raglen waith y Pwyllgor.

 

Nodwyd bod y sefyllfa wedi dirywio yn ddiweddar gyda rhestrau aros am ofal mewn rhannau o Arfon a Phen Llyn yn ogystal a Meironnydd erbyn hyn. Ategwyd bod hyn yn destun pryder i’r Adran ac yn golygu bod nifer o bobl yn gorfod mynd heb ofal ar draws y Sir.

 

Diolchwyd am yr adroddiad a mynegwyd mai amserol oedd cyflwyno’r negeseuon cychwynnol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r niferoedd o becynnau sydd yn cael eu cyflwyno yn ôl gan y sector breifat, nodwyd bod y wybodaeth ar gael a bod y sefyllfa yn cael ei monitro

 

Nododd Pennaeth y Gwasanaeth bod canran uchel o weithwyr presennol o fewn oedran ymddeol ymhen 5 i 10 mlynedd a gallai hyn ychwanegu at y broblem i’r dyfodol.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod angen sicrhau cynnal trafodaethau gyda’r Sector Breifat

·         Bod angen denu pobl ifanc i lwybr gyrfa mewn gofal - a oes modd darganfod beth yw’r demograffi a beth oedd oedran pobl yn dechrau gweithio ym maes gofal

·         Angen targedu mwy o ddynion i’r maes gofal

·         Nad oedd cael car yn angenrheidiol (fel gofynion swydd) ymhob cymuned

·         Bod angen uchafu statws y gwaith

·         Rhaid rhoi ystyriaethau i gyflog a phwysau gwaith

           

          Amlygodd y Pennaeth Gwasanaeth y byddai cynigion briff yr ymchwiliad i’w             hawgrymu mewn cyfarfod gyda’r Aelod Cabinet, Pennaeth y    Gwasanaeth a             Cadeirydd ac   Is-gadeirydd y Pwyllgor er mwyn symud y gwaith            yn ei flaen       fel maes blaenoriaeth.

 

          Gwnaed cais i'r aelodau gyfeirio eu henwau ymlaen i’r Rheolwr Craffu os oedd        ganddynt ddiddordeb bod yn rhan o’r ymchwiliad. Awgrymwyd cael    aelodau o’r      trydydd sector a phartneriaid i fod yn rhan o’r ymchwiliad hefyd.

 

          Diolchwyd i’r swyddogion am y wybodaeth.

          Derbyniwyd yr adroddiad