skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr Annwen Daniels, Anwen Davies, Rheinallt Puw ac Angela Russell.  Hefyd y Cynghorydd W.Gareth Roberts (Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Nodi unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd y Cynghorydd Elin Walker Jones fuddiant personol yn Eitem 6 – Awtistiaeth – Gwasanaethau Plant a’r Gwasanaeth Addysg – oherwydd:-

 

·         Ei bod yn gweithio i’r tîm cyfatebol i Derwen yn y canol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

·         Bod ei merch yn gweithio fel Dadansoddwraig Ymddygiad yn Ysgol Pendalar.

 

Nid oedd o’r farn eu bod yn fuddiannau sy’n rhagfarnu, ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw faterion sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 103 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 7 Mehefin, 2018 fel rhai cywir  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r 7 Mehefin, 2018 fel rhai cywir.

 

5.

DIWEDDARIAD - GWASANAETHAU ANABLEDD DYSGU pdf eicon PDF 109 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd W.Gareth Roberts

 

I dderbyn adroddiad ar yr uchod  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant yn diweddaru’r aelodau ar gynllun gweithredu arolygiad Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru o ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y Gwasanaeth Anabledd Dysgu. 

 

Ymhelaethodd y Pennaeth a’r Uwch Reolwr ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau.  Codwyd y prif bwyntiau a ganlyn:-

 

·         Gan mai’r Tîm Cefnogaeth Weithredol a PBS yw’r tîm cyntaf o’i fath yng Nghymru, nodwyd y byddai’n fuddiol i’r pwyllgor dderbyn adroddiad, unwaith y bydd y gwaith o gasglu’r data wedi’i gwblhau ym Mawrth 2019, yn amlinellu’r hyn a ddysgwyd o’r model yma, y deilliannau a sut y bwriedir ei ddatblygu i’r dyfodol gyda siroedd eraill.

·         Croesawyd cydweithio agos a phositif y gwasanaeth gyda’r Bwrdd Iechyd.

·         Nodwyd, o ran y gwendidau, bod angen gwella a miniogi’r berthynas gyda’r gwasanaethau therapi galwedigaethol arbenigol o safbwynt cyfarch anghenion oedolion gydag anableddau dysgu, sy’n fwy cymhleth a heriol.  Hefyd, byddai angen edrych ar gael swyddogion gwybodaeth a chyngor yn rhan o’r Tim Ataliol newydd, fydd yn dod i rym ym mis Ebrill 2019.

·         Nodwyd bod y gwasanaeth yn cyfarch yr her ariannol drwy gyfuniad o ffactorau, gan gynnwys cydweithio gyda darparwyr allanol i edrych ar bob cyfle i gyflwyno ceisiadau am grantiau, canfod gorddarpariaeth, adolygu pob achos mae’r gwasanaeth yn ei gefnogi ac edrych ar leoliadau all-sirol.

·         Croesawyd gweledigaeth y gwasanaeth a’r gwaith datblygol sy’n digwydd gyda Dr. Sandy Toogood o Brifysgol Bangor.

·         Mewn ymateb i ymholiad ynglŷn â faint o geisiadau am gymorth a chefnogaeth sy’n cael eu gwrthod a pham, eglurwyd, yn wahanol i’r drefn hanesyddol lle ‘roedd pobl yn cael eu gwrthod oherwydd nad oeddent yn ffitio i mewn i gategori penodol, bod yr anghenion yn cael eu diwallu mewn ffyrdd gwahanol erbyn hyn.  Nodwyd y gellid edrych yn fwy manwl ar y ffigurau, i weld oes yna ffigurau ynglŷn â phobl sy’n cael eu gwrthod, ond credid, petai yna anghenion, y byddai’r anghenion hynny yn cael eu cyfarch, naill ai gan y Gwasanaeth Anabledd Dysgu, neu’r Gwasanaeth Oedolion.  Ychwanegwyd bod trafodaethau ar y gweill ynglŷn â chryfhau’r trefniadau o ran yr oedolion hynny lle mae elfen o risg, ond nad ydynt, o angenrheidrwydd, yn mynd i fod angen cefnogaeth arbenigol.  Nodwyd ymhellach, wrth edrych ar y data sydd gan y gwasanaeth, o bosib’ y gellid canfod gwybodaeth sy’n ateb y cwestiynau a godwyd gan yr aelod ac y gellid parhau’r drafodaeth gyda hi.

·         Diolchwyd i’r aelodau staff hynny sy’n gweithio yn eu hamser eu hunain yn cynorthwyo gyda’r grwpiau a’r cyfleoedd cymdeithasol fin nos, yn bennaf yn y grwpiau coginio.  Fodd bynnag, cwestiynwyd pam bod hynny’n digwydd yn y lle cyntaf a holwyd onid oedd yna rôl i’r trydydd sector fod yn cynorthwyo gyda’r math yma o weithgareddau.

·         Nodwyd bod y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu wedi edrych ar yr ôl-groniad o asesiadau DoLS, ac wedi rhoi neges glir i’r adran ynglŷn â’r angen i sicrhau ymdrin ag achosion  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

AWTISTIAETH pdf eicon PDF 19 KB

Aelodau Cabinet – Y Cynghorwyr W.Gareth Roberts, Dilwyn Morgan a Gareth Thomas

 

I dderbyn yr adroddiadau isod  (ynghlwm):-

 

(A)       Gwasanaethau Anabledd Dysgu

(B)       Gwasanaethau Plant

(C)       Gwasanaeth Addysg

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd - adroddiadau’r Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant, yr Aelod Cabinet Plant a Theuluoedd a’r Aelod Cabinet Addysg yn manylu ar y gwasanaethau cyfredol ym maes Awtistiaeth a’r cynlluniau i’w datblygu dros y blynyddoedd nesaf.

 

Gan fod y gwaith yn digwydd ar draws nifer o wasanaethau ac yn cael eu cynllunio a’u cynnal gan 3 o adrannau’r Cyngor, cyflwynwyd adroddiadau ar wahân gan y 3 adran.

 

Ymhelaethodd yr Aelodau Cabinet a’r swyddogion ar gynnwys yr adroddiadau, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau.

 

(A)     Gwasanaethau Anableddau Dysgu

 

Codwyd y prif bwyntiau a ganlyn:-

 

·         Mynegwyd pryder nad oedd anghenion oedolion sydd ag awtistiaeth, ond heb anableddau dysgu, yn cael eu cyfarch a bod awtistiaeth yn cael ei drafod o dan y gwasanaethau anabledd dysgu.  Nid oedd gan y mwyafrif o bobl sydd ag awtistiaeth anableddau dysgu ac ‘roedd symudiad bellach i edrych ar awtistiaeth fel cyflwr yn hytrach nag anabledd.  Hefyd, ‘roedd gan bawb gyfraniad i’w wneud, ac ‘roedd yn bwysig hybu sgiliau pob unigolyn.  Yn wyneb y ffaith bod y Bil Awtistiaeth yn mynd drwy Senedd Cymru ar hyn o bryd, byddai’n rhaid i’r Cyngor gymryd anghenion pobl ag awtistiaeth o ddifri’ ac mewn ffordd wahanol i’r ffordd y gwnaethpwyd hynny hyd yma.  Mewn ymateb, nodwyd bod y Gwasanaeth Anabledd Dysgu yn cymryd yr anghenion hyn o ddifri’.  Cadarnhawyd nad oedd awtistiaeth yn wasanaeth ar wahân o fewn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant ar hyn o bryd ond y credid ei fod wedi ei leoli lle mae’r arbenigedd i ddelio gydag achosion eithaf cymhleth yn bodoli o fewn yr adran ar hyn o bryd a bod y rôl o gydlynu ar draws yr adran a’r cyswllt hefo adrannau eraill yn digwydd yn y fan honno.

·         Nodwyd bod yna ddiffyg cefnogaeth ar gyfer pobl sydd â chyflyrau llai dwys a llai hirdymor a phwysleisiwyd pwysigrwydd cefnogi oedolion cyn iddynt fynd yn ynysig neu i sefyllfa lle mae angen cymorth proffesiynol a meddyginiaeth arnynt.  Nodwyd hefyd bod ymyrraeth gynnar yn arbed arian yn y pen draw a chyfeiriwyd yn ogystal at ddiffyg arbenigwyr iechyd meddwl yn y Gwasanaeth Iechyd.

·         Mynegwyd y farn y dylai’r Cyngor gyflogi swyddog awtistiaeth fyddai’n bwynt cyswllt i deuluoedd ac yn gallu cydweithio gyda’r trydydd sector.  Awgrymwyd hefyd y dylid cynnwys gwybodaeth ar y wefan ynglŷn â pha adnoddau, grwpiau sydd ar gael.  Mewn ymateb, nodwyd y penodwyd gweithiwr cefnogol drwy’r Prosiect IAS fydd yn gweithio yng Ngwynedd.  Hefyd, fel y byddai’r gofynion yn newid a mwy o ddata yn dod trwodd ynglŷn â’r hyn sydd angen i’r Cyngor ei wneud, byddai’r adran yn parhau i ystyried beth yn union sydd angen ei ddarparu.  Gallai hynny, yn y pen draw, arwain at yr angen am swyddog cydlynu neu debyg, ond nid oedd y Cyngor wedi cyrraedd y pwynt hynny eto.

 

(B)     Gwasanaeth Plant

 

Manteisiodd yr Aelod Cabinet ar y cyfle i ddiolch i’r Cynghorwyr Beth Lawton ac Angela Russell am eu cyfraniad i’r cyfarfodydd herio perfformiad ac i’r Cadeirydd am ei  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.