skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Glynda O'Brien  01341 424301

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2018-19.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Penderfynwyd:          Ail-ethol y Cynghorydd Eryl Jones-Williams yn Gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2018/19.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2018-19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Penderfynwyd:                      Ethol y Cynghorydd Dewi Wyn Roberts yn Is-gadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2018/19.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorwyr Annwen Daniels, Anwen Jane Davies, Sian Wyn Hughes, Cai Larsen, Rheinallt Puw a Peter Read. 

 

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.   

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd y Cynghorydd Eryl Jones-Williams fuddiant personol yn Eitem 6 – Trefniadau Cwynion Gwasanaethau Cymdeithasol oherwydd bod ei wraig yn derbyn gofal ac y byddai’n gadael y Siambr pe byddai trafodaeth benodol ynghylch materion gofal cartref.

 

5.

MATERION BRYS

I ystyried unrhyw faterion sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.

6.

COFNODION pdf eicon PDF 107 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 20 Ebrill 2018, fel rhai cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 20 Ebrill 2018, fel rhai cywir. 

 

7.

TREFNIADAU CWYNION GWASANAETHAU CYMDEITHASOL pdf eicon PDF 631 KB

Aelod Cabinet:   Cynghorydd W. Gareth Roberts

 

I dderbyn adroddiad ar yr uchod.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant yn amlinellu’r drefn o ymdrin â chwynion gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant yn ystod 2017-18, gan nodi bod y Cyngor hwn gyda’r gorau yng Ngogledd Cymru o ran datrys ac ymdrin â chwynion.

 

Rhoddwyd cyfle i Aelodau graffu cynnwys yr adroddiad ac fe amlygwyd y pwyntiau canlynol:

 

(i)               Croesawyd yr enghreifftiau o lythyrau o ddiolch o fewn cynnwys yr adroddiad a oedd yn galonogol dros ben, a gofynnwyd beth yn nhyb yr Aelod Cabinet ydoedd rôl y craffwyr?  

 

Mewn ymateb, eglurwyd bod cyflwyno’r adroddiad i’r Pwyllgor Craffu yn drefn tryloyw a bod modd i’r Aelodau gynnig sylwadau ar y cynnwys a fyddai’n cael ei gyflwyno fel rhan o’r adroddiad i’r Cabinet.  ‘Roedd yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant yn eithaf’ hyderus bod y Cabinet yn heriol.  Ychwanegodd y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant bod rôl craffu yn allweddol gyda phwyslais yn hyn o beth gan asiantaethau cenedlaethol i sicrhau bod Aelodau yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd o fewn y drefn a’r math o gwynion a dderbynnir. 

 

(ii)              Gofynnwyd a oedd tueddiadau / patrwm i’r cwynion a dderbynnir? 

 

Mewn ymateb, eglurwyd pe byddai’r swyddog perthnasol yn gweld tueddiadau, byddai yn y lle cyntaf yn codi ymwybyddiaeth o’r mater i’r Tim Rheoli Adrannol, ac i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol.  Darparir adroddiadau chwarterol a bod tueddiad i’r cwynion fod yn ymwneud a prinder gofalwyr cartref a materion cenedlaethol megis trothwyon ariannol.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant nad oedd y niferoedd o gwynion yn bwysig ond yn hytrach beth ydoedd union natur y gwyn a’r hyn a wneir i oresgyn unrhyw broblemau. Sicrhawyd bod yr Adran yn cymryd pob cwyn o ddifrif ac yn ceisio datrys unrhyw broblemau yn fuan.

 

(iii)             Gofynnwyd a oedd rôl i Aelodau Etholedig fod yn fwy ymarferol ar lawr gwlad?     

Mewn ymateb, eglurwyd y byddai modd iddynt adrodd ar gwynion yn uniongyrchol i’r Adran yn dilyn cynnal cymorthfeydd yn eu wardiau ac y gellir ychwanegu hyn i’r trefniant.  Ond rhaid ystyried bod trefniadau a phrosesau penodol i’w dilyn.

 

(iv)   Gofynnwyd sut y diffinir cwyn / ymholiad?

 

Mewn ymateb, tynnwyd sylw at enghreifftiau yn Nhabl 2 i’r adroddiad ac fe nodwyd y ceir nifer yn cysylltu trwy Aelodau Cynulliad / Seneddol sydd yn bennaf yn ymwneud â diffyg gofal cartref ar gael.  Ychwanegodd yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant bod yr Adran yn rhagweithiol ac yn derbyn unrhyw her gan geisio datrys problemau y gorau gallent.  ‘Roedd hyn yn cael ei adlewyrchu yn y niferoedd o gwynion sydd yn mynd yn ei blaenau i cam 2 neu ymlaen i’r Ombwdsmon. 

 

(v)              Cyfeiriwyd at y log gwersi i ddysgu o gwynion a dderbyniwyd gan yr Adran, ac yn benodol gofynnwyd pam bod dau uwch swyddog yn ymdrin â chwyn?

 

Eglurwyd mai’r rheswm ydoedd bod y gwyn dan sylw yn ymwneud ag mwy nag un maes a sicrhawyd bod y wybodaeth yn derbyn trafodaeth yn y Tim Rheoli.

 

(vi)             O safbwynt y log gwersi i  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.