skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Glynda O'Brien  01341 424301

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan Y Cynghorydd Elfed P. Roberts.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatgan o fuddiant personol.

3.

MATERION BRYS

I ystyried unrhyw faterion sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 283 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2018, fel rhai cywir.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2018, fel rhai cywir. 

 

5.

PLANT MEWN GOFAL pdf eicon PDF 595 KB

Aelod Cabinet:          Cynghorydd Dilwyn Morgan

 

I dderbyn adroddiad ar yr uchod.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc ar yr uchod a chymerodd y cyfle i ddiolch i’r Cadeirydd a’r Pwyllgor am eu diddordeb a’u cefnogaeth i’r Gwasanaeth. 

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu cefndir, niferoedd o blant mewn gofal, cymhariaeth gyda Siroedd eraill, achosion Llys a gwybodaeth ynglyn â’r Tîm Trothwy.  Nododd bod niferoedd plant mewn gofal ar gynnydd ond prysurwyd i ddweud ei fod yn batrwm cenedlaethol.   Ar hyn o bryd nodwyd bod Elusen Nuffield yn gwneud adolygiad gwerthfawr yn edrych i fewn i orchmynion gofal a hyderir y ceir adborth o’r adolygiad hwnnw yn fuan.   Gwnaed cyfeiriad at y graffiau cymhariaethol o fewn yr adroddiad ac er y gwelir cynnydd yn y cyfanswm o blant mewn gofal eleni nodwyd bod negeseuon positif hefyd yng nghynnwys yr adroddiad

 

Rhoddwyd cyfle i Aelodau graffu cynnwys yr adroddiad ac fe amlygwyd y pwyntiau canlynol ynghyd â’r ymatebion gan y swyddogion perthnasol:

 

(a)              O edrych ar y graff ar dudalen 17 o’r adroddiad, pryderwyd bod ffigwr o blant mewn gofal ar gyfer Gwynedd yn ymddangos yn uchel i gymharu â Siroedd eraill a gofynnwyd beth ellir ei wneud i’w ostwng?  A oes patrwm daearyddol i’r ffigyrau o fewn Gwynedd? 

 

Mewn ymateb, nodwyd yn raddol dros amser bod y ffigwr wedi cynyddu i 227 ym mis Mawrth ac yn 230 ar gyfer mis Ionawr.  ‘Roedd yn anodd i’r Gwasanaeth ragweld faint o gyfeiriadau a ddaw i fewn a bod rhaid gwneud penderfyniadau yn unol â’r trothwyon.  Sefydlwyd y Tim Trothwy er mwyn ceisio cadw’r niferoedd i lawr a llwyddwyd i newid patrwm drwy ddychwelyd plant adref lle bo hynny’n ddiogel. Pwysleiswyd hefyd na dderbyniwyd gwybodaeth cyflawn gan siroedd eraill ond ymddengys bod cynnydd ymhob un awdurdod yn y flwyddyn ddiwethaf a rhaid ystyried hefyd natur poblogaeth y siroedd.  

 

Rhaid rhoi ystyriaeth i’r ffaith bod y Gwasanaeth yn gweithredu i ddiogelu plant ac yn y modd mwyaf priodol.  Tra’n cydnabod bod niferoedd yn ymddangos yn uchel, bod proffil y plant sydd mewn gofal yn ffactor i’w ystyried ac a oedd y Gwasanaeth yn gweithredu i ddiogelu plant yn y modd mwyaf priodol.  Cydnabuwyd bod cynnydd yn y cyfeiriadau a dderbynnir ond rhaid cofio am ddwysder, cymhlethdodau achosion a sicrhawyd y Pwyllgor bod y Gwasanaeth yn ymateb yn brydlon, yn amserol ac yn cymryd camau i ddiogelu ymhob achos.  Ychwanegwyd bod y Gwasanaeth yn adnabod risgiau ac yn ymateb iddynt drwy roi cynlluniau priodol yn eu lle i ddiogelu plant.

 

O safbwynt patrwm daearyddol, nodwyd bod niferoedd yn amrywio ar draws y Sir.

 

(b)                 Pa mor lwyddiannus ydoedd plant mewn gofal yn addysgiadaol, ac a yw’r ffaith eu bod yn symud o leoliad i leoliad yn ffactor sy’n cyfrannu at hyn?

 

Nodwyd, yn gyffrediniol bod canlyniadau addysgiadol ar lefel TGAU a Lefel A ymysg y gorau yng Nghymru oherwydd y gefnogaeth a dderbynnir.  Tra’n derbyn bod adegau lle mae plant yn gorfod symud o  un lle i’r llall, sicrhawyd nad oedd hyn yn bryder i’r Gwasanaeth ac mai’r mesurydd ydoedd 3 lleoliad neu fwy  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

STRATEGAETH CEFNOGI TEULUOEDD YNG NGWYNEDD pdf eicon PDF 247 KB

Aelod Cabinet:          Cynghorydd Dilwyn Morgan

 

I dderbyn adroddiad ar yr uchod.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc ar yr uchod gan nodi ei fod yn strategaeth gyffrous tu hwnt.  Roedd gwaith hanesyddol o waith ataliol llwyddiannus ond rhaid addysgu o weithio’n integredig a phwysigrwydd i’r unigolyn gyda esiampl perffaith o hyn yn weithrediad Cynllun Ysbyty Alltwen.  Nodwyd bod Adolygiad Seneddol i Iechyd a Gofal yng Nghymru yn cyfeirio i ddatblygu gwasanaethau gofal sydd yn ddi-dor ac yn gyfleus ac agos i adref. Y bwriad ydoedd gwneud y gwasanaethau yn llawer mwy integredig o fewn y Cyngor, partneriaethau eraill a gobeithio canolbwyntio pawb ar ymyrraeth gynnar, gan dargedu teuluoedd yn y ffordd gywir a chynnig gwasanethau fydd yn lleihau’r angen nes ymlaen am ymyrraeth llawer mwy dwys.  Cydnabuwyd bod dyletswydd ar bawb i ddiogelu plant a phobl ifanc ond rhaid rhoi ffocws ar ymdrin â’r materion yn gynnar a hyderir y byddir yn brysur ddatblygu’r meddylfryd o fewn y Cyngor a phartneriaethau allanol.  Cam positif a wnaed ydoedd trosglwyddo swyddog o’r Adran Economi i Adran Plant a Theuluoedd sydd yn rhoi capasiti ychwanegol o fewn yr Adran. 

 

Rhoddwyd cyfle i Aelodau ofyn cwestiynau ac amlygwyd y canlynol:

 

(a)              Cyfeiriwyd at raglen Teuluoedd yn Gyntaf a’r gydnabyddiaeth bod y rhaglen wedi bod yn llwyddiannus gyda mewnbwn y trydydd sector yn allweddol e.e. Cyngor ar Bopeth.  Os oedd y rhaglenni yn llwyddiannus, gofynnwyd pam sydd raid newid y model?

 

Eglurodd y Pennaeth Gwasanaeth, mai penderfyniad gan y Llywodraeth ydoedd dileu y grantiau i’r trydydd sector a gyfer datblygu llythrennedd ariannol.  Yn ystod y flwyddyn drosiannol, Gwynedd oedd yr unig awdurdod ddaru ariannu y llynedd ond tra’n derbyn eu bod wedi bod yn llwyddiannus, nid oedd yn bosib i  ymestyn y ddarpariaeth oherwydd diffyg adnoddau ariannol a’r canllawiau cenedlaethol. Ychwanegwyd, nad oedd hyn yn golygu na ellir cyfeirio teuluoedd i Cyngor ar Bopeth ondroedd yr arian yn arfer sicrhau eu bod yn cael blaenoriaeth.

 

O ran y model arfaethedig, dysgwyd llawer o’r manteision a’r budd dros y 5 mlynedd diwethaf, nad oedd anghenion yn cael eu cyfarch, yn benodol teuluoedd lle roedd plant yn eu harddegau, iechyd meddwl ar lefel isel, oediad iaith a llefaredd a materion digartrefedd.  Y bwriad ydoedd i gael gwasanaethau yn eu lle, gan dargedu teuluoedd fel y gellir adnabod plant sydd yn dod i ofal a rhoi tîm o’u hamgylch h.y asesiadau o anghenion a sylweddoli bod angen ail-gomisynu a thargedu gwahanol garfan o deuluoedd.

 

(b)   A oedd mewnbwn gan yr Adran Addysg yn sgil problemau gyda diffyg sgiliau plant?

 

Mewn ymateb, cadarnhaodd yr Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc bod Addysg yn un o’r partneriaid hanfodol ac eisoes wedi cael cefnogaeth gan yr Adran.  Yn ffodus hefyd, nodwyd bod y gwasanaeth iechyd yn bartner cryf iawn yng Ngwynedd ac sydd yn hwb enfawr i’r Gwasanaeth Plant a Theuluoedd.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Gwasanaeth bod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.