Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Glynda O'Brien 01341 424301
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriad gan Y Cynghorydd Elfed P. Roberts. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatgan o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS I ystyried unrhyw faterion sydd yn teilyngu sylw brys ym
marn y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2018, fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2018,
fel rhai cywir. |
|
Aelod Cabinet: Cynghorydd Dilwyn Morgan I dderbyn adroddiad ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad yr Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc ar yr uchod a chymerodd y cyfle
i ddiolch i’r Cadeirydd a’r Pwyllgor am eu diddordeb a’u cefnogaeth i’r
Gwasanaeth. Roedd yr adroddiad
yn amlinellu cefndir, niferoedd o blant mewn gofal, cymhariaeth gyda Siroedd
eraill, achosion Llys a gwybodaeth ynglyn â’r Tîm Trothwy. Nododd bod niferoedd plant mewn gofal ar
gynnydd ond prysurwyd i ddweud ei fod yn batrwm cenedlaethol. Ar hyn o bryd nodwyd bod Elusen Nuffield yn
gwneud adolygiad gwerthfawr yn edrych i fewn i orchmynion gofal a hyderir y
ceir adborth o’r adolygiad hwnnw yn fuan.
Gwnaed cyfeiriad at y graffiau cymhariaethol o fewn yr adroddiad ac er y
gwelir cynnydd yn y cyfanswm o blant mewn gofal eleni nodwyd bod negeseuon
positif hefyd yng nghynnwys yr adroddiad Rhoddwyd cyfle i
Aelodau graffu cynnwys yr adroddiad ac fe amlygwyd y pwyntiau canlynol ynghyd
â’r ymatebion gan y swyddogion perthnasol: (a)
O edrych ar y graff ar dudalen 17 o’r adroddiad,
pryderwyd bod ffigwr o blant mewn gofal ar gyfer Gwynedd yn ymddangos yn uchel
i gymharu â Siroedd eraill a gofynnwyd beth ellir ei wneud i’w ostwng? A oes patrwm daearyddol i’r ffigyrau o fewn
Gwynedd? Mewn ymateb,
nodwyd yn raddol dros amser bod y ffigwr wedi cynyddu i 227 ym mis Mawrth ac yn
230 ar gyfer mis Ionawr. ‘Roedd yn anodd
i’r Gwasanaeth ragweld faint o gyfeiriadau a ddaw i fewn a bod rhaid gwneud
penderfyniadau yn unol â’r trothwyon.
Sefydlwyd y Tim Trothwy er mwyn ceisio cadw’r niferoedd i lawr a
llwyddwyd i newid patrwm drwy ddychwelyd plant adref lle bo hynny’n ddiogel.
Pwysleiswyd hefyd na dderbyniwyd gwybodaeth cyflawn gan siroedd eraill ond
ymddengys bod cynnydd ymhob un awdurdod yn y flwyddyn ddiwethaf a rhaid
ystyried hefyd natur poblogaeth y siroedd.
Rhaid rhoi
ystyriaeth i’r ffaith bod y Gwasanaeth yn gweithredu i ddiogelu plant ac yn y
modd mwyaf priodol. Tra’n cydnabod bod
niferoedd yn ymddangos yn uchel, bod proffil y plant sydd mewn gofal yn ffactor
i’w ystyried ac a oedd y Gwasanaeth yn gweithredu i ddiogelu plant yn y modd
mwyaf priodol. Cydnabuwyd bod cynnydd yn
y cyfeiriadau a dderbynnir ond rhaid cofio am ddwysder, cymhlethdodau achosion
a sicrhawyd y Pwyllgor bod y Gwasanaeth yn ymateb yn brydlon, yn amserol ac yn
cymryd camau i ddiogelu ymhob achos.
Ychwanegwyd bod y Gwasanaeth yn adnabod risgiau ac yn ymateb iddynt drwy
roi cynlluniau priodol yn eu lle i ddiogelu plant. O safbwynt patrwm
daearyddol, nodwyd bod niferoedd yn amrywio ar draws y Sir. (b)
Pa mor
lwyddiannus ydoedd plant mewn gofal yn addysgiadaol, ac a yw’r ffaith eu bod yn
symud o leoliad i leoliad yn ffactor sy’n cyfrannu at hyn? Nodwyd, yn gyffrediniol bod canlyniadau addysgiadol ar lefel TGAU a Lefel A ymysg y gorau yng Nghymru oherwydd y gefnogaeth a dderbynnir. Tra’n derbyn bod adegau lle mae plant yn gorfod symud o un lle i’r llall, sicrhawyd nad oedd hyn yn bryder i’r Gwasanaeth ac mai’r mesurydd ydoedd 3 lleoliad neu fwy ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
STRATEGAETH CEFNOGI TEULUOEDD YNG NGWYNEDD PDF 247 KB Aelod Cabinet: Cynghorydd Dilwyn Morgan I dderbyn adroddiad ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod
Cabinet Plant a Phobl Ifanc
ar yr uchod
gan nodi ei fod yn
strategaeth gyffrous tu hwnt. Roedd gwaith hanesyddol o waith ataliol llwyddiannus
ond rhaid addysgu o weithio’n integredig a phwysigrwydd i’r unigolyn gyda
esiampl perffaith o hyn yn weithrediad
Cynllun Ysbyty Alltwen. Nodwyd bod Adolygiad Seneddol i Iechyd
a Gofal yng Nghymru yn cyfeirio
i ddatblygu gwasanaethau gofal sydd yn ddi-dor
ac yn gyfleus ac agos i adref.
Y bwriad ydoedd gwneud y gwasanaethau yn llawer mwy
integredig o fewn y Cyngor, partneriaethau eraill a gobeithio canolbwyntio pawb ar ymyrraeth gynnar,
gan dargedu teuluoedd yn y ffordd gywir a chynnig gwasanethau fydd yn lleihau’r
angen nes ymlaen am ymyrraeth llawer mwy dwys. Cydnabuwyd bod dyletswydd ar bawb
i ddiogelu plant a phobl ifanc ond
rhaid rhoi ffocws ar ymdrin
â’r materion yn gynnar a hyderir
y byddir yn brysur ddatblygu’r meddylfryd o fewn y Cyngor a phartneriaethau allanol. Cam positif a wnaed ydoedd trosglwyddo swyddog o’r Adran
Economi i Adran Plant a Theuluoedd sydd yn rhoi
capasiti ychwanegol o fewn yr Adran. Rhoddwyd cyfle i Aelodau ofyn cwestiynau ac amlygwyd y canlynol: (a)
Cyfeiriwyd at raglen Teuluoedd yn Gyntaf a’r
gydnabyddiaeth bod y rhaglen
wedi bod yn llwyddiannus gyda mewnbwn y trydydd sector yn allweddol e.e.
Cyngor ar Bopeth. Os oedd y rhaglenni
yn llwyddiannus, gofynnwyd pam sydd raid newid y model? Eglurodd y Pennaeth
Gwasanaeth, mai penderfyniad
gan y Llywodraeth ydoedd dileu y grantiau i’r trydydd
sector a gyfer datblygu llythrennedd ariannol. Yn ystod y flwyddyn drosiannol, Gwynedd oedd yr unig awdurdod
ddaru ariannu y llynedd ond tra’n
derbyn eu bod wedi bod yn llwyddiannus,
nid oedd yn bosib i ymestyn y ddarpariaeth oherwydd diffyg adnoddau ariannol a’r canllawiau
cenedlaethol. Ychwanegwyd, nad oedd hyn
yn golygu na ellir cyfeirio
teuluoedd i Cyngor ar Bopeth
ond ‘roedd yr arian yn
arfer sicrhau eu bod yn cael
blaenoriaeth. O ran y model arfaethedig, dysgwyd llawer o’r manteision
a’r budd dros y 5 mlynedd diwethaf, nad oedd
anghenion yn cael eu cyfarch,
yn benodol teuluoedd lle roedd
plant yn eu harddegau, iechyd meddwl ar lefel
isel, oediad iaith a llefaredd a materion digartrefedd. Y bwriad ydoedd i gael
gwasanaethau yn eu lle, gan
dargedu teuluoedd fel y gellir adnabod
plant sydd yn dod i ofal
a rhoi tîm o’u hamgylch h.y
asesiadau o anghenion a sylweddoli bod angen ail-gomisynu a thargedu gwahanol garfan o deuluoedd. (b) A oedd mewnbwn gan yr
Adran Addysg yn sgil problemau
gyda diffyg sgiliau plant? Mewn ymateb, cadarnhaodd yr Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc bod Addysg yn un o’r
partneriaid hanfodol ac eisoes wedi cael
cefnogaeth gan yr Adran. Yn ffodus hefyd, nodwyd
bod y gwasanaeth iechyd yn bartner cryf
iawn yng Ngwynedd ac sydd yn hwb enfawr
i’r Gwasanaeth Plant a Theuluoedd. Ychwanegodd y Pennaeth Gwasanaeth bod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |