skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Glynda O'Brien  01341 424301

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth Y Cynghorwyr Alan Jones Evans, Peter Read a Cemlyn Rees Williams

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(i)            Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol yn eitem 5 ar y rhaglen – Adroddiad Blynyddol Cartrefi Cymunedol Gwynedd, am y rhesymau a nodir:

 

·         Y Cynghorydd R. Medwyn Hughes oherwydd ei fod yn gyn Gadeirydd Bwrdd Cartrefi Cymunedol Gwynedd

·         Y Cynghorydd Eryl Jones-Williams oherwydd ei fod yn denant i Cartrefi Cymunedol Gwynedd

 

Ni chymerodd yr aelodau ran yn y drafodaeth.

 

(ii)           Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol yn eitem 6 ar y rhaglen – Darpariaeth Iechyd ym Mlaenau Ffestiniog, am y rhesymau a nodir:-

 

·         Y Cynghorydd Sian Hughes oherwydd ei bod yn gyflogedig  i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

·         Y Cynghorydd Elin Walker Jones oherwydd ei bod yn gyflogedig  i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

·         Y Cynghorydd Dafydd Owen oherwydd bod ei ferch yn gyflogedig fel nyrs i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

·         Y Cynghorydd Rheinallt Puw oherwydd ei fod yn gyflogedig i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

 

‘Roedd yr aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau sy’n rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

(iii)          Datganodd y Cynghorydd Dewi Wyn Roberts fuddiant personol yn eitem 6 ar y rhaglen – Darpariaeth Iechyd ym Mlaenau Ffestiniog, gan nodi bod ei ferch yn gyflogedig i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

 

‘Roedd yr aelod o’r farn nad oedd yn fuddiant sy’n rhagfarnu ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

(iv)          Datganodd y Cynghorydd Linda Ann Wyn Jones fuddiant personol yn eitem 9 ar y rhaglen gan nodi bod gan ei gŵr a hithau prosthetig, ac ni chymerodd ran yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.  

 

 

3.

MATERION BRYS

I ystyried unrhyw faterion sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd.  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 289 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor hwn, fel rhai cywir

 

  4 Medi 2017  (Cyfarfod Arbennig)

21 Medi 2017

 

(Copiau yn amgaeedig)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfodydd o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd fel a ganlyn:

 

4 Medi 2017      - Pwyllgor Craffu Gofal Arbennig

21 Medi 2017

 

 

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CARTREFI CYMUNEDOL GWYNEDD pdf eicon PDF 604 KB

Aelod Cabinet:          Y Cynghorydd Craig ab Iago

 

I ystyried adroddiad blynyddol gan Prif Weithredwr, Cartrefi Cymunedol Gwynedd.

(Copi’n amgaeedig)

 

*10.30 – 11.15 y.b.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)       Cyflwynwyd adroddiad blynyddol gan Brif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Gwynedd gan dynnu sylw mai adroddiad ar gyfer 1 Ebrill 2016 i Mawrth 2017 ydoedd y cynnwys ac sydd yn dilyn trefn eisoes wedi ei gytuno gyda’r Cyngor.

 

Tywyswyd y Pwyllgor drwy’r adroddiad gan nodi prif bwyntiau canlynol:

 

·         mai’r ffocws ydoedd cynnal y stoc tai i Safon Ansawdd Tai Cymru ac ail-gychwyn adeiladu tai newydd

·         ymhob contract a osodir allan, disgwylir i gontractwyr   gymryd rhan drwy fuddsoddi yn y cymunedau a chyfeiriwyd at yr enghreifftiau hynny ym mhwynt 4.2 o’r adroddiad

·         gwelwyd o Dabl 1 a oedd yn cyfeirio at y gwahanol  elfennau bod y gwaith ar gyfartaledd yn cydymffurfio â SATC 100%, er bod rhai elfennau ddim yn taro 100% esboniwyd y rhesymau o’r methiant

·         cyfeiriwyd bod rhai tenantiaid yn gwrthod i waith gael ei wneud ar y tai a bod hyn yn dderbyniol onibai bod y gwaith i’w gwblhau yn unol ag iechyd a diogelwch

·         cyflwynir ystadegau i Lywodraeth Cymru yn flynyddol

·         o ran y gwaith adeiladu, cydweithir gyda nifer o bartneriaid  ac yng nghyswllt cynnal tiroedd enillwyd y gontract gan Gyngor Gwynedd gyda’r gwaith yn dda iawn

·         gweithir ar bynciau strategol megis:  digartrefedd (18 o dai wedi eu trosglwyddo ar les i’w defnyddio gan Gyngor Gwynedd); darparu tai fforddiadwy (cyfanswm o 39 uned a dros 100 o dai yn cael eu cyflawni eleni drwy ddefnyddio grant cymdeithasol); cynlluniau twf a phwysleisiwyd bod cyfleon ar hyd arfordir Gogledd Cymru sydd o gymorth i CCG gyflawni mwy

·         cydweithir yn dda gyda Heddlu Gogledd Cymru a chyfeiriwyd yn benodol at gynllun a threfniadau ym Maesincla.

·         Cyfeirwyd at y linciau cadarn rhwng tai a’r gwasanaeth iechyd yn benodol i hwyluso mynediad amserol a haws i wasanaethau iechyd meddwl ar gyfer rhai tenantiaid

·         O safbwynt gwasanaeth trwsio, er nad oedd hyn i safon yn y gorffennol ‘roedd wedi derbyn ffocws penodol i wella’r gwasanaeth a chyfeiriwyd at lwyddiant ym mhwynt 9.5 gyda’r perfformiad wedi gwella a’r gwasanaeth yn llawer iawn mwy cynhyrchiol a boddhad cwsmer wedi cynyddu

·         Arolygir CCG yn flynyddol gan Lywodraeth Cymru a braf ydoedd nodi bod yr arolygwyr yn ganmoladwy o’r gwasanaeth ac wedi rhagori o safbwynt hyfywedd ariannol     

 

(b)     Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

 

(i)       Mynegwyd mai’r gwyn gyffredinol i sawl Aelod ydoedd diffyg dilyn fyny cwynion tenantiaid yn benodol yn ymwneud a mannau cymunedol, ffenestri ddim yn agor.

 

Mewn ymateb, eglurwyd bod safon gofal cwsmer wedi gwella ond mai’n amlwg bod rhai problemau yn parhau ac ymddiheurwyd am hyn.  Sicrhawyd y byddir yn dilyn y materion penodol a grybwyllwyd i fyny gyda’r swyddog priodol.  Nodwyd bod rhaglen fuddsoddi ledled y Sir gyda’r bwriad o uwchraddio mannau cymunedol a hyderir y gellir datrys rhan fwyaf o’r problemau yn y dyfodol.   

 

Yn gyffredinol, nodwyd bod CCG yn gwrando ar denantiaid ac wedi gwneud llawr i wella gofal cwsmer.  Pan weithredir gwaith sylweddol ar stad fe fyddir yn ymgynghori yn drwyadl.  Ar gyfartaledd nodwyd bod tenantaid yn falch iawn o lle maent yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

GWASANAETH IECHYD YN ARDAL BLAENAU FFESTINIOG pdf eicon PDF 393 KB

Aelod Cabinet:          Y Cynghorydd W. Gareth Roberts

 

I ystyried adroddiad ar yr uchod.    (Copi’n amgaeedig)

 

 

*11.15 – 12.00

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)  Cyflwynwyd diweddariad ar y mater uchod ynghyd ag:

 

·         ymatebion i’r argymhellion wnaed gan y Pwyllgor Craffu Gofal hwn ar 21 Medi 2017

·         Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

·         Adroddiad y Pwyllgor Deisebau dyddiedig 22 Ionawr 2018

 

(b)          Croesawodd yr Aelod Cabinet Oedolion Iechyd a Llesiant adroddiad y Pwyllgor Deisebau a oedd yn cymeradwyo chwe argymhelliad y Pwyllgor Craffu Gofal hwn wnaed ar 21 Medi 2017.

 

(c)          Cyfeiriodd Cyfarwyddwr Ardal y Gorllewin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsti Cadwaladr at argymhelliad (i) yn Atodiad A o’r adroddiad a chadarnhau bod y Bwrdd Iechyd wedi cyflawni’r argymhelliad a’r wybodaeth wedi ei rannu gyda’r Pwyllgor Craffu. 

 

(ch)        O safbwynt argymhelliad (ii) sef gofyn am adroddiad ar ddarpariaeth iechyd yn ardal Blaenau Ffestiniog gan asiantaeth annibynnol yn syth, tynnodd Aelod sylw bod y  Pwyllgor Deisebau yn nodi bod 98% yn anghytuno i gael gwared o welyau.  Yn ystod y drafodaeth ddilynol, ‘roedd y Pwyllgor yn gytun mai’r ffordd orau ymlaen ydoedd cadw at y briff gwreiddiol a gofyn i’r Cyngor Iechyd Cymuned ymgymryd â’r dasg i ymchwilio i’r ddarpariaeth iechyd yn ardal  Blaenau Ffestiniog a darparu adroddiad o’r casgliadau.  Fodd bynnag, byddai’n rhaid sicrhau yr un pryd eu bod yn barod i’w ariannu.

 

(d)    Yng nghyd-destun derbyn gwybodaeth am y gwasanaethau a ddarparir yn y Ganolfan Goffa newydd ym Mlaenau Ffestiniog, esboniodd y  Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gofal Cychwynnol y byddir yn cynnal arfarniad ôl prosiect er mwyn edrych a yw’r gwasanaethau  wedi cyrraedd targedau o fewn y cynllun busnes ac y byddir yn adrodd ar hyn i Lywodraeth Cymru.  Fel rhan o’r gwaith hwn byddir yn casglu ymatebion gan ddefnyddwyr y gwasanaethau ac os oes unrhyw wendidau gellir ymateb.

 

          Ychwanegodd yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant y byddai’n fuddiol i gyflwyno adroddiad ar gasgliadau’r arfarniad o wasanaethau yn y Ganolfan Newydd i’r Pwyllgor Craffu Gofal hwn, ac awgrymwyd ymhellach, yn ddibynnol ar y canlyniadau, y gall y Pwyllgor Craffu Gofal gynnal ymchwiliad pellach. 

 

Mewn ymateb i ymholiad ynglyn â sut fydd trigolion Blaenau Ffestiniog a’r Pwyllgor Amddiffyn Ysbyty Goffa Blaenau yn cael mewnbwn, nodwyd bod modd cyflwyno cwynion fel rhan o drefn ond sicrhawyd y byddir yn creu proses ymgysylltu penodol ar ddiwedd tymor yr haf i ofyn am adborth am brofiadau ar y gwasanaethau yn y Ganolfan Goffa newydd ers ei agoriad.  Ychwanegwyd y gall y Cyngor Iechyd Cymuned ymgymryd â’r broses yma hefyd.   

 

          Roedd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gofal Cychwynnol o’r farn bod y gwasanaethau yn wych yn yr adeilad newydd a oedd yn cynnwys therapyddion, fferyllwyr, gwasanaethau yn cydweithio hefo’i gilydd ac yn fwy sefydlog erbyn hyn yn ogystal a recriwtio meddyg teulu.

 

          Mewn ymateb i’r uchod, eglurodd Aelod mai’r prif gwynion ydoedd amddifadu trigolion Blaenau Ffestiniog o’r gwasanaethau hynny oedd ar gael yn yr Ysbyty Goffa Ffestiniog  megis gwelyau i gleifion,  darpariaeth pelydr-x ac uned mân-anafiadau.  

 

          (dd)        Cadarnhaodd y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant bod trafodaethau cychwynnol wedi digwydd ac yn y broses o ddarparu rhaglen waith ar gyfer cynnal asesiad hygyrchredol yn nalgylch Ysbyty  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

CYNLLUN ALLTWEN pdf eicon PDF 261 KB

Aelod Cabinet:          Y Cynghorydd  W. Gareth Roberts

 

I dderbyn diweddariad ar gynnydd a datblygiad y cynllun uchod.   (Copi’n amgaeedig)

 

*12.00 – 12.20 y.p.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)          Cyflwynwyd diweddariad ar gynnydd a datblygiad y cynllun uchod ac fe dywysodd yr Uwch Reolwr Oedolion Gwynedd drwy’r adroddiad gan nodi’r cynnydd a wnaed o ran gweithredu’r model gweithio intregredig Cynllun Alltwen.  Braf ydoedd nodi bod elfennau wedi symud ymlaen gyda enghreifftiau da o’r gwahanol dimau yn gweithio mewn ffordd wahanol.  Rhestrwyd y 5 ardal lle estynnir y cynllun integredig sef:      

 

Ardal Bangor

Ardal Caernarfon

Ardal Llyn

Ardal Eifionydd / Gogledd Meirionnydd

Ardal De Meirionnydd

 

           Rhoddwyd cyfle i Aelodau ofyn cwestiynau ac fe ymatebodd yr Uwch Reolwr Oedolion Gwynedd fel a ganlyn:

 

(i)    Cydnabuwyd bod angen ystyried ymestyn oriau darparu gwasanaeth integredig dros 7 diwrnod.  Bydd yn sialens gweithredu ymestyniad mewn oriau a dyddiau gwaith o fewn y gweithlu presennol heb adnoddau staffio ychwanegol.  Rhaid bod yn ofalus fod unrhyw newid mewn oriau ddim yn amharu ar y gallu i ymateb yn effeithiol yn ystod oriau craidd ac yn cyd-fynd a’r egwyddor o gadw perchnogaeth dros achos. Bydd yn fwriad cwblhau gwaith pellach wedi sefydlu gwasanaeth o fewn 5 ardal i weld beth yw’r galw am gefnogaeth wedi oriau swyddfa arferol ac ar benwythnosau ac adnabod pa sgiliau sydd eu hangen i gwrdd â’r angen wedi oriau craidd. Cyfeiriodd yr Uwch Reolwr Oedolion at enghraifft o fesur y galw mewn perthynas ag ystyried ymestyn oriau gweithio gofalwyr cartref dros nos yn Ne y Sir. Roedd rhan fwyaf o’r galwadau yn ymwneud a’r angen am sgiliau nyrs  a prin oedd yr enghreifftiau o’r angen am wasanaeth gofalyddion.

 

Nodwyd ymhellach fod gwasanaeth allan o oriau eisoes yn gweithredu dros Wynedd a Môn.

 

(ii) O ran amserlen ar gyfer darpariaeth un system electronig integredig i’r timau esboniwyd fod yr adran Gwasanaethau Cymdeithasol yn defnyddio sustem newydd WCCIS ers Awst 2017. ‘Roedd bwriad i’r Bwrdd Iechyd ymuno yn fuan, ond nid oedd yr Uwch Reolwr Oedolion yn gallu rhoi dyddiad. Cytunwyd i ofyn i’r Uwch Reolwr Trawsffurfio am ddiweddariad o ran amserlen Ychwanegwyd bod heriau o ran cofnodi y wybodaeth yn ddwyieithog sydd ar adegau yn gallu cymhlethu gweithio’n integredig.

 

(iii)   Er gwybodaeth bellach, cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol at “Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru” dan arweiniad Dr Ruth Hussey, a chalonogol ydoedd nodi bod y ffurf uchod yn sylfaen dda o weithio ac yn cydfynd gyda llawer o elfennau yn yr adroddiad. 

 

          Penderfynwyd:            (a)   Derbyn, nodi a diolch am yr adroddiad.

 

                                       (b) Gofyn i’r Uwch Reolwr Oedolion Gwynedd anfon rhifau cyswllt y Timau Integredig yn y 5 ardal i aelodau’r Pwyllgor Craffu.

 

                                                     (c) Gofyn i’r Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant wahodd aelodau’r Pwyllgor Craffu i ymweld â’r Timau Ardal pan yn gyfleus.

 

                                                     (ch)  Gofyn i’r Rheolwr Aelodau – Cefnogi a Chraffu anfon y linc isod i aelodau’r Pwyllgor Craffu er mynediad i’r adroddiad gyfeirwyd yn (iii) uchod:

http://gov.wales/topics/health/nhswales/review/?skip=1&lang=cy

 

 

8.

ADRODDIAD YMCHWILIAD GOFALWYR DI-DÂL pdf eicon PDF 430 KB

Aelod Cabinet:          Y Cynghorydd  W. Gareth Roberts

 

I ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Lles ar yr uchod.

(Copi’n amgaeedig)

 

*12.20 y.b. – 12.40 y.p.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)          Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Lles yn amlinellu canfyddiadau ac argymhellion yn deillio o ymchwiliad a gynhaliwyd o’r math o gefnogaeth oedd ar gael i ofalwyr di-dâl yng Ngwynedd.

 

(b)          Tywysodd y  Swyddog Cefnogi Gofalwyr Oedolion a Phlant drwy’r adroddiad gan nodi’r prif bwyntiau isod:

 

·         Bod Gofalwyr Cymru wedi penodi swyddog i’r Gogledd i hybu adnabyddiaeth gofalwyr cudd

·         Bod Grwp Partneriaeth Gofalwyr Gwynedd a Môn wedi llunio strategaeth ac un o’r amcanion ydoedd dod o hyd i ofalwyr cudd

·         Parheir i ymgymryd ag asesiadau a cheisir gwneud hyn mor fuan ag sy’n bosibl

·         O ran adborth gan ofalwyr derbyniwyd llai na 100 allan o 500 o holiaduron yn ol ac roedd ymatebion yr holiaduron dderbyniwyd yn ôl gan ofalwyr unigolion gydag iechyd meddwl yn eithaf calonogol

·         O safbwynt gwybodaeth a chynghori, nodwyd bod canllawiau wedi cael ei cynhyrchu ac yn ol ar y wefan i dynnu sylw staff / gofalwyr gydag linciau perthnasol

·         Cydweithir gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

·         Derbyniwyd grant ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i ddarparu gofal ysbaid i ofalwyr ond tynnwyd sylw nad oedd digon o bobl sydd yn gweithio yn y maes i ddarparu gofal ysbaid yn benodol ym Meirionnydd

·         Bod arbedion a thoriadau yn cael effaith ar y gwasanaeth

·         Iaith gymraeg – bod  angen cyfieithu dogfennau a dderbynnir gan y gwasanaeth iechyd i’r gymraeg, a rhai darparwyr yn cael trafferth recriwtio staff sy’n siarad Cymraeg, yn arbennig yn Ne’r Sir.

 

Annogwyd Aelodau etholedig i hysbysu’r gwasanaeth os ydynt yn ymwybodol o ofalwyr cudd yn eu wardiau sydd yn edrych ar ôl teulu fel bo modd i’r gwasanaeth gynnig cymorth iddynt

 

(c)           Rhoddwyd cyfle i Aelodau graffu’r adroddiad ac fe ymatebodd y Swyddog Cefnogi Gofalwyr Oedolion a Phlant fel a nodir isod:

 

·         gofynnwyd a oedd y gwasanaeth yn addas i bwrpas ac mewn ymateb, nodwyd bod gofynion y Ddeddf newydd yn her, a’r angen i gydweithio hefo partneriaid yn y maes.  Ychwanegwyd yr angen i fod yn realistig a cheisio canolbwynio ar ddau neu dri o’r amcanion. 

·         Ategwyd, bod cyfarch gofynion y ddeddf yn bwysig a’r angen i ystyried sut y gellir cael y gwerth gorau o’r arian drwy adolygu a blaenoriaethu

·         O safbwynt cyfarch anghenion a chefnogi pobl ifanc sy’n ofalwyr, cydweithir yn agos gyda Phrifysgol Bangor sydd yn cynnig cyfnod preswyl i ofalwyr ifanc iddynt gael blas o’r hyn sydd ar gael ac i’w hannog i ennill cymhwyster mewn gofal.  Yn ogystal, cydweithir gyda’r Grwp Rhanbarthol.

·         O’r grant o £114,000 a dderbyniwyd ar gyfer 2017/18 rhannwyd £60,000 gyda’r trydydd sector a’r gweddill yn cefnogi gofalwyr gydag anableddau dysgu, Derwen a gofalwyr sydd yn gofalu am sibling.

·         Mewn ymateb i sylw wnaed gan aelod am brofiad personol tra bo teulu wedi derbyn cefnogaeth cychwynnol dda iawn yn dilyn i glaf ddod gartref o’r ysbyty,  nid oedd gofalwyr wedi ail-ymweld â’r teulu,  anogwyd Aelodau i gyfeirio teuluoedd at y Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr sydd yn siop-un-stop fel bo modd eu cyfeirio i’r sector gywir. Yn ôl y Ddeddf newydd pwysleisir i  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

CEFNOGI POBL ANABL GWYNEDD pdf eicon PDF 216 KB

Aelod Cabinet:          Y Cynghorydd W. Gareth Roberts

 

I ystyried briff terfynol yr Ymchwiliad ac i ethol Aelodau ar gyfer yr ymchwiliad.

(Copi’n amgaeedig)

 

*12.40 – 12.50 y.p.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)          Cyflwynwyd briff ar gyfer Ymchwiliad Craffu ar gyfer cefnogi pobl anabl Gwynedd ac yn benodol addasrwydd trefniadau darparu cadeiriau olwyn i drigolion Gwynedd yn ogystal â gwasanaeth i unigolion gyda chyfarpar prosthetig.  

 

(b)          Esboniodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ardal Gwasanaethau Therapi (dwyreiniol), Bwrdd Iechyd, bod darpariaeth prosthetig wedi cael ei gynnig yn y gorffennol yn Bryn y Neuadd, Llanfairfechan, a’r angen i adolygu lle byddir yn darparu’r gwasanaeth i drigolion yn yr ardal orllewinol boed hyn yn Bryn y Neuadd neu mewn clinigau lloeren ym Mangor yn hytrach na theithio i Ysbyty Maelor Wrecsam.  Er eglurder, tynnwyd sylw mai’r enw a ddefnyddir ar y gwasanaeth bellach ydoedd Gwasanaeth Ystum Corff a Symudedd (Posture and Mobility Service) yn hytrach na ALAC.  Eglurwyd ymhellach bod strwythur yng Nghymru ynglyn â darpariaeth cadeiriau olwyn o fewn trefniadau caffael Llywodraeth Cymru ac nad oedd y penderfyniadau o fewn cylch gorchwyl y Bwrdd Iechyd.

 

(c)   Eglurwyd bod y mater wedi codi pryd y bu i’r Cynghorydd Peter Read gyflwyno rhybudd o gynnig i gyfarfod o’r Cyngor yn cyfeirio cwestiwn o addasrwydd trefniadau darparu cadeiriau olwyn i drigolion Gwynedd i’w ystyried ar raglen craffu.

 

(d)  Mewn ymateb i’r uchod, diolchodd y Rheolwr Aelodau – Cefnogi a Chraffu i swyddogion y Bwrdd Iechyd a gofynnwyd i’r Pwyllgor enwebu oddeutu 5 aelod i wasanaethu fel rhan o’r ymchwiliad.

 

(e)  O safbwynt enwebu, derbyniwyd cyngor gan yr Uwch Gyfreithiwr na ddylai aelod, a / neu  aelod sydd â theulu, sydd yn derbyn gwasanaeth personol gan y darparwyr cadeiriau olwyn / prosthetig fod yn rhan o’r ymchwiliad gan y byddai’n anodd gwahanu buddiant a phrofiadau personol oddi wrth ystyriaethau gyffredinol

 

(f)    Cytunodd y Cynghorwyr R. Medwyn Hughes a Dewi Roberts i fod yn rhan o’r ymchwiliad ond oherwydd buddiant personol sawl aelod ac ymrwymiadau a phwysau gwaith gan eraill ni lwyddwyd i dderbyn enwebiadau ychwanegol.  Awgrymwyd felly, i drafod ymhellach yn y cyfarfod anffurfiol y posibilrwydd o anfon e-bost i’r holl Aelodau i ganfod enwebiadau gan aelodau a oedd yn awyddus i fod yn rhan o’r drefn graffu, i leihau baich y craffwyr presennol.  

 

Penderfynwyd:            (a)        Cymeradwyo briff terfynol i’r Ymchwiliad Craffu ar gyfer Cefnogi Pobl Anabl Gwynedd, gan ychwanegu darpariaeth prosthetig.

 

                                       (b)       Ethol yr Aelodau canlynol i wasanaethu fel rhan o’r Ymchwiliad:

 

Y Cynghorwyr R. Medwyn Hughes a Dewi Wyn Roberts

 

ac i drafod ymhellach yn y cyfarfod anffurfiol o ddenu enwebiadau pellach i wasanaethu ar yr ymchwiliad. 

 

 

10.

BLAEN RAGLEN CRAFFU 2018 pdf eicon PDF 156 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, y blaenraglen craffu, fel mae’n sefyll ar hyn o bryd.

 

(Copi ynghlwm)

 

*12.50 – 13.00 y.p.

 

 

 

*Noder mai amgyfrif yw’r amseroedd.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, blaenraglen craffu y Pwyllgor hwn fel mae’n sefyll ar hyn o bryd.

 

Penderfynwyd:            Gofyn i’r Cadeirydd, Is-gadeirydd, Rheolwr Aelodau – Cefnogi a Chrafu drafod gyda Phenaethiaid Gwasanaeth ar gynnwys eitemau i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu Gofal sydd i’w gynnal 8 Mawrth 2018.