Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Media
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorwyr:- Freya Bentham, Aled Evans a
Huw Wyn Jones. Anest Gray Frazer (Eglwys yng Nghymru) Y Cynghorydd Gareth Thomas (Aelod Cabinet
Economi) (oedd yn dirprwyo ar ran Arweinydd y Cyngor mewn cyfarfod arall). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol
gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd
yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 20 Mehefin, 2019 fel rhai cywir
(ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 20 Mehefin, 2019 fel rhai cywir. |
|
CYNLLUN GWYNEDD: CYNLLUN ELWA O DWRISTIAETH PDF 99 KB Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Gareth Thomas Ystyried
adroddiad ar yr uchod (ynghlwm). *10.30yb – 11.15yb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Economi
yn diweddaru’r aelodau ar y prosiect Elwa o Dwristiaeth, oedd yn rhan o Gynllun
Gwynedd. Gwahoddwyd y pwyllgor i
graffu’r drefn weithredu ar gyfer y prosiect ac i graffu’r Fframwaith
Twristiaeth i’r dyfodol, pan fyddai’n amserol gwneud hynny. Ymhelaethodd y swyddogion ar gynnwys yr
adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau. Crynhodd
y Cadeirydd brif sylwadau’r aelodau yn codi o’r drafodaeth fel a ganlyn:- ·
Fel rhan o’r gwaith, mae angen ystyried y buddiannau i bobl
Gwynedd, yn ogystal ag ochr arall y geiniog – yn enwedig effaith
gor-dwristiaeth:- -
ar yr iaith; -
ar drefniadau parcio; -
yr effaith ar bobl leol ayyb, e.e. y cynnydd mewn Air B&B’s; -
effaith ymestyn y tymor gwyliau a’r effaith ar feysydd carafanau all
droi yn ‘bentrefi’ ychwanegol a chael effaith ar ein gwasanaethau, trefniadau
cynllunio a’r iaith. Mae’r
swyddogion wedi nodi eu parodrwydd i roi cyflwyniad pellach i’r pwyllgor ar
hyn, gan gynnwys rhoi mwy o gig ar yr asgwrn gyda rhai o’r opsiynau, yn
arbennig gan fod rhai ohonynt yn eithaf cynhennus. ·
Mae glanweithdra yn elfen amlwg sy’n effeithio ar dwristiaeth ac
mae anogaeth i’r Adran ystyried yr elfen yma ymhellach a pharhau i gyd-weithio
gyda Croeso Cymru, adrannau’r Cyngor, a cheisio adnabod atebion i’r problemau
hyn. ·
Gofynnir hefyd am y cyfle i gael mwy o eglurder o ran yr opsiynau,
yn arbennig eglurder am yr achos busnes fesul opsiwn – sef cost gweinyddu,
buddion ddaw allan o hyn yn ariannol ac i fusnesau a buddion i’r gymdeithas
ehangach. |
|
ADOLYGIAD HAFAN A HARBWR PWLLHELI PDF 56 KB Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Gareth Thomas Ystyried
adroddiad ar yr uchod (ynghlwm). *11.15yb – 11.25yb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet
Economi yn rhoi diweddariad byr i’r aelodau ar y gwaith o ddatblygu gwahanol
opsiynau ar gyfer yr Hafan a Harbwr Pwllheli. Ymhelaethodd y swyddog ar gynnwys yr
adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau. I
grynhoi, nododd y Cadeirydd fod y pwyllgor yn gallu gweld
bod y gwaith yn mynd yn ei flaen.
Cyflwynid adroddiad llawn i’r cyfarfod nesaf a byddai cyfle i graffu’r
gwaith bryd hynny. |
|
CYNLLUN PEILOT Y CANOLFANNAU IAITH PDF 74 KB Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Cemlyn Williams Ystyried
adroddiad ar yr uchod (ynghlwm). *11.25yb – 12.10yp *amcangyfrif o’r
amseroedd Cynhelir sesiwn anffurfiol ar gyfer yr aelodau ar derfyn y
cyfarfod. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet
Addysg yn gwahodd y pwyllgor craffu i gyflwyno syniadau ac awgrymiadau allai
gyfrannu at yr ymchwil y bwriedid ei gynnal i fesur effaith gweithredu’r peilot
mewn un Canolfan Iaith ac i fynegi barn ar y modd y bwriedid mesur effaith
gweithredu’r peilot mewn un Canolfan Iaith. Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet, y Pennaeth
Gwasanaeth a’r swyddog ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau /
sylwadau gan yr aelodau. Crynhodd
y Cadeirydd brif sylwadau’r aelodau yn codi o’r drafodaeth fel a ganlyn:- ·
Croesawyd y ffaith bod y tîm sy’n
gweithredu ar ran yr Adran Addysg yn dîm amlddisgyblaethol, sy’n gymysg o
arbenigwyr o’r adran ac arbenigwyr allanol, ond pwysleisiwyd y dylai’r
adroddiad ar gasgliadau’r ymchwil gael ei gyflwyno yn enw arbenigwr allanol, er
sicrhau’r elfen wrthrychol. Croesawyd
hefyd bod yna arbenigedd ieithyddol o fewn yr Adran Addysg a bod cyfuniad o
ddata meintiol ac ansoddol yn yr ymchwil. ·
Croeswyd bod y fethodoleg yn adnabod yr angen i adnabod y cefndir
/ gwaelodlin fesul plentyn. Derbynnir bod
angen mesur yn erbyn cyrraedd Lefel 2, ond mae angen ystyried ffordd deg o
fesur yn erbyn y gwaelodlin. ·
Mae’n allweddol sicrhau adborth gan ysgolion gan fod hyn yn
allweddol i’r fethodoleg, ac mae barn ysgolion, y canolfannau iaith a’r
disgyblion a’u rhieni yn hollbwysig. Mae
lle hefyd i fod yn sicrhau defnyddio’r trefniadau tracio disgybl yn y tymor
hwy. ·
Mae pwyslais hefyd gan y pwyllgor i gadw mewn cof bod angen
ystyried sut i wella safonau yn barhaus, ac nid i gynnal y safonau yn unig. ·
Nododd aelodau hefyd awydd i fod yn rhan o’r broses yn barhaus, ac
roeddent hefyd yn dymuno cael gwybodaeth am gost y gwaith yma eleni. ·
Nodwyd hefyd bod angen i’r fethodoleg ystyried y tymor hwy a’r
effaith ar ardrawiad polisi’r Cyngor ac ar ein hysgolion yn y tymor hwy. ·
Codwyd pryder am yr amserlen, a rhoddwyd neges glir ynglŷn â
phwysigrwydd gwneud y gwaith yn gywir. |