Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Media
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorwyr Freya H Bentham, Judith
Humphreys, Keith Jones, Mair Rowlands a Gareth Williams. Anest Gray Frazer (yr Eglwys yng Nghymru). Dilwyn Ellis Hughes (UCAC) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys
ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
CYNLLUN TWF AR GYFER ECONOMI GOGLEDD CYMRU: Y DDOGFEN GYNNIG PDF 27 KB Craffu’r
adroddiad sydd i’w gyflwyno i’r Cabinet ar 16 Hydref, 2018 (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd y Ddogfen Gynnig gan yr Arweinydd
a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol : Cynllun Twf ar gyfer Economi Gogledd Cymru, cyn
i’r Cabinet ei ystyried yn ei gyfarfod ar 16 Hydref 2018 ac yna yng nghyfarfod
arbennig o'r Cyngor Llawn ar 25ain Hydref, 2018. Ymhelaethodd yr Arweinydd, a’r Cyfarwyddwr
Corfforaethol ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau
gan yr aelodau. Nodwyd
prif gasgliadau’r drafodaeth, gan gynnwys sylwadau a risgiau
ychwanegol a adnabuwyd fel a ganlyn : Risgiau Ariannol · Mae’n
allweddol parhau i gynnal trafodaethau gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a
Llywodraeth Cymru er mwyn lleihau’r risgiau ariannol - yn arbennig y risgiau
perthnasol i’r llif ariannol a’r risg o golli grantiau os nad oes rheolaeth
ariannol gadarn yn ei le · Argymhellir y dylid parhau i drafod
gyda Llywodraeth Cymru i geisio
cadw’r dreth annomestig (neu elfen o leiaf) fel modd o leihau’r
costau i awdurdodau lleol · Fodd bynnag, rhaid
bod yn effro i’r risg ariannol
ddisgyn ar Awdurdodau Lleol a pharatoi ar gyfer
hynny trwy ystyried y proffil prosiectau a gwariant Risgiau Llywodraethu · Nodwyd
y risg petai un o Bartneriaid y Cynllun yn tynnu’n ôl, ond cadarnhawyd y byddai
hynny yn cael ei reoli gan y Cytundeb Partneriaeth sy’n cael ei ddatblygu yn
gyfredol · Nodwyd fod angen eglurder
ynghylch y Fframwaith Llywodraethu i’r dyfodol, gyda’r Fframwaith Llywodraethu yn sicrhau trefn
atebolrwydd clir yr Arweinyddion i’r Cynghorau unigol Risgiau Gwleidyddol · Nodwyd
y risg i endid Cenedlaethol Cymru trwy ddatblygiad y Cynllun Risgiau Prosiectau · Bydd
angen ceisio sicrhau fod busnesau bychain ac amaeth yn cael budd o’r Cynllun yn
ogystal â’r cwmnïau mawr. PENDERFYNWYD (a) Danfon
cadarnhad at y Cabinet fod y Pwyllgor Craffu yn gefnogol i’r
cyfeiriad strategol ac yn dangos eu
cefnogaeth i fwrw ymlaen gyda’r
Ddogfen Gynnig. |