Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorwyr Keith Jones, Dewi Owen a Paul
Rowlinson (Is-gadeirydd); Anest Gray Frazer (yr Eglwys yng Nghymru) a
David Healey (ATL); Y Cynghorwyr Craig ab Iago (Aelod Cabinet
Tai, Hamdden a Diwylliant) a Gareth Thomas (Addysg). |
|||||||||||||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd y Cynghorydd Selwyn Griffiths
fuddiant personol yn Eitem 7 – Rôl Swyddogion Adfywio Bro i’r Dyfodol, oherwydd
bod ei fab yn gweithio yn yr Uned Economi a bod posibilrwydd y bydd yn gyfrifol
am yr Uned Adfywio Cymunedol i’r dyfodol. Datganodd y Cynghorydd Aled Evans fuddiant
personol yn Eitem 7 – Rôl Swyddogion Adfywio Bro i’r Dyfodol, oherwydd bod
perthynas iddo yn gweithio yn yr Uned Adfywio Bro. ‘Roedd yr aelodau o’r farn eu bod yn
fuddiannau sy’n rhagfarnu, a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr
eitem. |
|||||||||||||
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w
nodi. |
|||||||||||||
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfodydd o’r pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar y dyddiadau isod fel rhai cywir:- (a) 20 Medi, 2018 (ynghlwm) (b) 15 Hydref, 2018 – Cyfarfod Arbennig (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y
cyfarfodydd o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 20 Medi ac 15 Hydref (Cyfarfod
Arbennig), 2018, fel rhai cywir. |
|||||||||||||
ADOLYGIAD HAFAN A HARBWR PWLLHELI PDF 154 KB Aelod Cabinet – Y
Cynghorydd Ioan Thomas Derbyn cyflwyniad ac ystyried adroddiad ar yr
uchod (ynghlwm). *10.30yb – 11.15yb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet
Datblygu’r Economi ynghyd â chyflwyniad sleidiau gan yr Uwch Reolwr Economi ac
Adfywio yn olrhain hanes Harbwr a Hafan Pwllheli ers y 1990au cynnar, yn
amlinellu’r ystyriaethau perthnasol ac yn manylu ar y gwaith sydd wedi digwydd
hyd yma o safbwynt datblygu opsiynau ar y safle, yn sgil tuedd gostyngol yn
incwm yr Hafan ers 2008/09. Gwahoddwyd y
pwyllgor craffu i ystyried y gwaith hwnnw a gofynnwyd i’r aelodau a oeddent yn
cytuno:- ·
Gyda’r
amcanion craidd a gynigiwyd ar gyfer gwerthuso’r
sefyllfa bresennol a’r opsiynau amgen i’r dyfodol. ·
Bod
achos dros newid. ·
Gyda’r
argymhellion i ddatblygu 4 opsiwn ymhellach. Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet, y Pennaeth
Gwasanaeth a’r Uwch Reolwr ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i
gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau. Crynhodd
y Cadeirydd brif gasgliadau’r drafodaeth fel a ganlyn:- ·
Bod y pwyllgor o’r farn bod achos dros newid a hynny oherwydd bod
y sefyllfa bresennol, gyda’r tuedd gostyngol yn incwm a defnydd yr Hafan a’r Harbwr,
yn arwain at risg o fethu cyflawni amcan craidd yr Hafan o fod yn sbardun
economaidd, yn arbennig i ardal Pwllheli, ac felly’n anghynaladwy. ·
Bod y pwyllgor yn cyd-fynd â’r opsiynau i wneud gwaith pellach a
bod yna negeseuon allweddol i’r gwasanaeth eu hystyried wrth gyflawni’r gwaith
hwnnw, yn benodol o safbwynt edrych sut y gellir buddsoddi ymhellach er mwyn
gwneud yr Hafan a’r Harbwr yn hyfyw a cheisio datrysiad i’r sefyllfa carthu a
gwaredu gwaddod yn y tymor byr a’r hir dymor.
Dylid ystyried hefyd oes gwersi i’w dysgu gan awdurdodau eraill o
safbwynt gwaredu’r gwaddod. ·
O safbwynt yr opsiwn o gadw’r incwm net o £400k y rhagwelir y bydd
yr Hafan yn ei ddychwelyd eleni, bod y pwyllgor o’r farn bod rhaid bod yn
agored, ar y naill law, i beth fyddai effaith hynny ar weddill gwasanaethau’r
Cyngor, ac ar y llaw arall, i beth fyddai effaith peidio gwneud hynny ar
economi ardal Pwllheli, a’r perygl o golli’r marina yn y pen draw. ·
Bod neges hefyd o ran yr angen i ddeall gofynion y cwsmer er mwyn
gallu ymateb iddynt ac y dylai’r opsiynau edrych ar sut i farchnata a chadw’r
safle’n hyfyw, ayb. ·
Y dylid cyflwyno adroddiad pellach i’r pwyllgor hwn maes o law ar
ôl datblygu’r gwahanol opsiynau mewn mwy o fanylder. |
|||||||||||||
CEFNOGI BUSNESAU GWYNEDD (YNG NGHYSWLLT BREXIT) PDF 58 KB Aelod Cabinet – Y
Cynghorydd Ioan Thomas Ystyried adroddiad ar yr uchod (ynghlwm). *11.15yb – 12.00yp Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet
Datblygu’r Economi yn manylu ar sut mae’r Cyngor a sefydliadau eraill yn
cefnogi busnesau lleol yn gyffredinol ac mewn ymateb i Brexit. Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet, y Pennaeth
Gwasanaeth a’r Rheolwr ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau /
sylwadau gan yr aelodau. Crynhodd
y Cadeirydd brif gasgliadau’r drafodaeth fel a ganlyn:- ·
Bod y sylwadau a gyflwynwyd yn adlewyrchu ei bod yn parhau’n
gyfnod dyrys o ansicrwydd. Cydnabyddir
ei bod yn anodd iawn cefnogi busnes yn yr hinsawdd bresennol oherwydd y diffyg
gwybodaeth, ac ati, ond croesawir y ffaith bod busnesau risg uchel yn cael eu
targedu er mwyn ceisio gweld oes yna unrhyw beth arall y gall y Cyngor ei wneud
i’w cynorthwyo. Cydnabyddir hefyd bod
amseru’r drafodaeth yn anodd a bod rhaid osgoi creu dryswch rhag rhoi camarweiniad. ·
Bod yna awydd gan aelodau’r pwyllgor i’r Adran ystyried ymhellach
sut i gefnogi’r busnesau lleiaf yng Ngwynedd, ac efallai rhoi hysbysrwydd neu
ehangu’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol er mwyn uchafu’r wybodaeth sydd ar
gael a’r hyn mae pobl yn gwybod am y gefnogaeth sy’n bodoli eisoes, neu efallai
dreialu sgyrsiau mewn cymunedau llai. ·
Bod awydd hefyd gan aelodau’r pwyllgor i’r Adran ystyried oes yna gapasiti i roi diweddariad i’r cynghorau cymuned fel eu bod
hwythau’n ymwybodol o’r hyn sydd ar gael o ran
cefnogaeth gan y Cyngor. ·
Y gofynnir i’r Gwasanaeth roi gwybod i’r aelodau am unrhyw
ddatblygiadau yn y maes hwn, e.e. trwy Rhaeadr, yn hytrach nag aros o un
pwyllgor craffu i’r nesaf. |
|||||||||||||
ROL SWYDDOGION ADFYWIO BRO I'R DYFODOL PDF 257 KB Aelod Cabinet – Y
Cynghorydd Craig ag Iago Ystyried adroddiad ar yr uchod (ynghlwm). *12.00yp
– 12.45yp *TORIAD
I GINIO – 12.45yp – 1.30yp Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Tai,
Hamdden a Diwylliant yn gwahodd barn y pwyllgor ar 2 opsiwn i wneud y defnydd
gorau o sgiliau ac adnoddau’r Tîm Swyddogion Adfywio Bro i’r dyfodol, sef:- ·
Opsiwn
1 – cyfuno rôl y Tîm Adfywio Cymunedol gyda thimau eraill o fewn y Gwasanaeth
Rhaglenni Datblygu Economaidd. ·
Opsiwn
2 – cadw tîm bychan gyda’i gilydd er mwyn cadw’r pwyslais ar gefnogi cymunedau
i gyflawni. Gofynnwyd hefyd am sylwadau’r pwyllgor ar yr
argymhellion a ganlyn:- ·
Ail-ddiffinio
rôl Swyddogion Adfywio Bro i fod yn Swyddogion Cefnogi Cymunedau fyddai’n
ymgorffori rôl cyswllt â’r Cynghorau Cymuned a’r Trydydd Sector. ·
Bod
swyddog cyswllt yn cael ei adnabod i gymunedau unigol, ond bod y swyddogion yn
gweithio yn fwy fel tîm sirol, er mwyn manteisio ar sgiliau a chryfderau
penodol gwahanol aelodau o’r tîm. ·
Bod
y tîm yn cryfhau’r cyswllt gyda’r llyfrgelloedd er mwyn hyrwyddo mynediad
cymunedau i ffynonellau gwybodaeth a chymorth i’r dyfodol. Dosbarthwyd copïau o Raglen Waith y
Gwasanaeth Adfywio Cymunedol i’r aelodau yn y cyfarfod. Ymhelaethodd y Pennaeth Gwasanaeth ar
gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau. Crynhodd
y Cadeirydd brif gasgliadau’r drafodaeth fel a ganlyn:- ·
Bod yna gefnogaeth yn gyffredinol i opsiwn 2, ar y sail y byddai
hynny’n creu adnodd fyddai’n galluogi i’r Cyngor gynnal perthynas gyda’r
cymunedau ar ystod ehangach o raglenni a ddim yn eu cyfyngu i raglenni sydd yn
cyfrannu i amcanion adfywio a datblygu’r economi yn unig. ·
Bod cefnogaeth hefyd i beilota’r cynllun
gyda’r llyfrgelloedd fel canolfan ffynonellau gwybodaeth. |
|||||||||||||
DYLEDION CINIO YSGOL PDF 73 KB Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Gareth Thomas Ystyried adroddiad ar yr
uchod (ynghlwm). *1.30pm
– 2.00pm *amcangyfrif o’r amseroedd Cynhelir Gweithdy ar y Toriad
i’r Grant Gwella Addysg am 2.00yp, gyda sesiwn anffurfiol i ddilyn ar
gyfer yr aelodau ar derfyn
y gweithdy. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet
Addysg ar gais y Cadeirydd yn manylu ar y sefyllfa dyledion cinio ysgol, y prosesau
sydd wedi bod yn weithredol er mwyn ymateb i’r sefyllfa o ddyledion, ynghyd â’r
camau pellach y mae’r Adran wedi, ac yn bwriadu, eu gweithredu er mwyn ymateb
yn briodol i’r sefyllfa, gan leihau dyledion cinio ysgol dros amser. Ymhelaethodd y Pennaeth Gwasanaeth a’r Uwch
Swyddog ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan
yr aelodau. Tynnwyd sylw at y ffaith bod gwall yn y
ffigurau yn y fersiwn Saesneg o’r golofn ‘Gwerth
anfonebau a godwyd yn y flwyddyn’ yn Nhabl B o dan paragraff 4.1 o’r
adroddiad (tudalen 29 o’r rhaglen) a bod y ffigurau cywir fel a ganlyn:-
Crynhodd
y Cadeirydd brif gasgliadau’r drafodaeth fel a ganlyn:- ·
Bod y pwyllgor yn gefnogol i’r hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd o
ran targedu cymorth i’r ysgolion hynny sydd â’r dyledion mwyaf i sicrhau eu bod
yn dilyn y drefn a bod y penaethiaid yn cymryd cyfrifoldeb ac yn deall beth
sydd i fod i ddigwydd o safbwynt y trefniadau. ·
Bod cefnogaeth hefyd i edrych ar ddod â’r Awdurdod yn rhan o’r
broses mor fuan â phosib’, a hynny’n cynnwys monitro’r sefyllfa’n gyson, gan
edrych a oes yna rôl ganolog i’r Awdurdod, yn hytrach na bod hyn yn digwydd
fesul ysgol. ·
Bod cefnogaeth hefyd i fwriad yr Adran i edrych a oes modd paratoi
pecyn i gynorthwyo’r teuluoedd hynny sy’n cael problemau talu. ·
Y gofynnir i’r Adran ystyried a oes modd gwneud gwaith pellach i
weld beth, os o gwbl, yw’r cyswllt rhwng y codiad ym mhris cinio ysgol a’r
lefelau dyled. ·
Bod cefnogaeth gref i fynd i’r afael â’r sefyllfa mor fuan â
phosib’, fel mae’r Adran wedi cychwyn gwneud eisoes, fel bod llai o deuluoedd
yn mynd i ddyled. |