skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

Ethol Cadeirydd ar gyfer 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Beth Lawton yn Gadeirydd y pwyllgor hwn am 2018/19.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Paul Rowlinson yn Is-gadeirydd y pwyllgor hwn am 2018/19.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr Aled Evans, Keith Jones, Mair Rowlands a Cemlyn Williams; Anest Gray Frazer (yr Eglwys yng Nghymru) a David Healey (Undebau Athrawon).

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw faterion sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

6.

COFNODION pdf eicon PDF 119 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 17 Ebrill, 2018 fel rhai cywir  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 17 Ebrill, 2018, fel rhai cywir.

 

7.

CAIS CYNLLUN TWF AR GYFER GOGLEDD CYMRU - DIWEDDARIAD CYNNYDD pdf eicon PDF 93 KB

Ystyried adroddiad yr Arweinydd  (ynghlwm).

 

*10.10yb – 10.55yb

 

 

*amcangyfrif o’r amser

 

 

 

(Dilynir y cyfarfod gan weithdy aelodau am 11.00yb i flaenoriaethu eitemau ac adnabod rhaglen waith y pwyllgor am 2018/19.)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad Arweinydd y Cyngor yn cyflwyno diweddariad ar y Cynllun Twf i Ogledd Cymru, ynghyd â gwybodaeth am y trefniadau llywodraethu arfaethedig.

 

Gwahoddwyd sylwadau a barn y pwyllgor ar y Cytundeb Llywodraethu.

 

Ymhelaethodd yr Arweinydd a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau.

 

Crynhodd y Cadeirydd brif gasgliadau’r drafodaeth fel a ganlyn:-

 

Roedd aelodau’r pwyllgor yn ddiolchgar o dderbyn diweddariad gan yr Arweinydd i’r trefniadau TwF Economaidd Gogledd Cymru.  Mae aelodau’r pwyllgor wedi dangos cefnogaeth i gyfeiriad y cynllun o’r dechrau, ac yn parhau i fod yn gefnogol.  Mae’r prif negeseuon heddiw fodd bynnag, yn canolbwyntio fwy ar y risgiau sydd angen eu hystyried wrth i’r cynllun ddatblygu.

 

RISGIAU ARIANNOL

Yn sgil yr adroddiad a’r trafodaethau heddiw, bu i’r aelodau adnabod fod potensial o risgiau a goblygiadau ariannol i’r Cyngor yn sgil y cynllun.  Mae angen sicrwydd:-

·         Fod y buddion o’r cynllun yn gorbwyso y risgiau ariannol.

·         Fod holl aelodau Gwynedd yn fodlon fod pob cam posib yn cael ei gymeryd i leihau’r risgiau ariannol.

·         Fod y cynllun busnes a’r cynlluniau prosiect yn wydn, ac yn cael eu rheoli yn gadarnhynny er mwyn lleihau’r risgiau fod partneriaid yn tynnu allan o brosiectau a’r risg ariannol wedyn yn disgyn i’r awdurdod.

·         Fod angen i’r aelodau fod yn gallu craffu'r cynlluniau yn aml i sicrhau fod risgiau busnes (ariannol a chyflawni) yn cael eu rheoli.

RISGIAU LLYWODRAETHU

Eto, yn deillio o’r wybodaeth i law a’r trafodaethau heddiw, nodwyd y negeseuon a’r risgiau isod ynghylch y trefniadau llywodraethu arfaethedig:-

·         Mae cefnogaeth i graffu'r cynllun TwF fesul awdurdod.

·         Nodwyd pryder am ddirprwyo hawliau i’r Arweinydd, gan dderbyn ar yr un pryd ei fod yn angenrheidiolFodd bynnag, rhaid sicrhau fod yr Arweinydd yn bwydo gwybodaeth yn gyson i Aelodau Gwynedd ac yn atebol i’r aelodau am gyfeiriad y cynllun, cynnydd ar brosiectau ac am risgiau’n cael eu rheoli.

RISGIAU ERAILL

Nodwyd hefyd rhai risgiau eraill y dylid eu hystyried:-

·         Risgiau gwleidyddol, megis newid cyfeiriad o du Llywodraeth Cymru, a’i bod yn hanfodol bod yn effro i hyn.

·         Parhau i nodi’r risg gwleidyddol o gydweithio ar draws awdurdodau Gogledd Cymru.

Fodd bynnag, yn allweddol, nodwyd mai un o’r prif risgiau fyddai peidio gweithio’n Rhanbarthol.  Trwy gyd-weithio’n Rhanbarthol gall Cyngor Gwynedd sicrhau llais cryf i fynnu fod materion a datblygiadau yn dod yn sgil y cynllun i Wynedd gyfan.  Nodwyd hefyd gais i roi sylw i ystyried y buddion a’r goblygiadau o Wynedd yn awdurdod lletyol ar gyfer y Cynllun.