Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorwyr Aled Evans, Huw Wyn Jones,
Keith Jones, Elfed Roberts a Gareth Williams; Anest Gray Frazer (yr Eglwys yng
Nghymru) a Rita Price (Yr Eglwys Gatholig). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o
fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r
pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 23 Ionawr, 2018 fel rhai cywir (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 23 Ionawr, 2018, fel rhai cywir. |
|
DEILLIANNAU CYFNOD SYLFAEN GWYNEDD PDF 448 KB Ystyried
adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg
(ynghlwm). *10.10yb
– 10.55yb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet
Addysg yn cyflwyno canlyniadau’r adroddiad a gomisiynwyd i’r Cyfnod
Sylfaen. Yn ystod y drafodaeth, amlygwyd y prif
bwyntiau a ganlyn:- ·
Er
bod canfyddiad bod sgiliau cymdeithasol yn is mewn plant nag yn y gorffennol,
bod perfformiad Gwynedd o ran y dangosydd personol a chymdeithasol yn uchel ac
yn awgrymu nad yw’n gymaint o broblem â’r ffactor ieithyddol. ·
Bod
y ffaith bod perfformiad plant Gwynedd o ran allbwn yn 3ydd drwy Gymru ar
ddiwedd Cyfnod Allweddol 2, gan gynnwys y maes iaith, yn awgrymu bod y
gyfundrefn gynradd yn ei chyfanrwydd yn gwneud ei gwaith a bod plant yn gadael
y gyfundrefn gynradd gyda’r sgiliau angenrheidiol i’w galluogi i gyrraedd eu
llawn botensial. ·
Dylid
rhoi pwysau ar lywodraethwyr i wneud pob ymdrech i gyflogi siaradwyr Cymraeg ar
gyfer pob swydd mewn ysgol, er y cydnabyddir bod hynny’n gallu bod yn her mewn
rhai ardaloedd. ·
Bod
yr adroddiad yn neidio o un peth i’r llall yn hytrach na chanolbwyntio ar y
cyfnod sylfaen yn unig. ·
Bod
sawl cyfeiriad yn yr adroddiad at wanychu’r Gymraeg, e.e. y sylw nad yw pob
aelod o staff yn cadw at bolisi iaith yr ysgol bob amser a’u bod yn troi i’r
Saesneg i siarad â disgyblion di-gymraeg.
Hefyd, mae awgrym yma y caniateir i blant ymateb i brofion drwy’r
Saesneg pan mae’r sefyllfa’n codi, yn groes i’r polisi o ymateb i brofion
drwy’r Gymraeg. Rhaid cofio hefyd, wrth
sôn am ddisgyblion ‘Saesneg fel iaith ychwanegol’, bod y Saesneg hefyd yn iaith
ychwanegol i’r 64% o blant Gwynedd sy’n dod o aelwydydd Cymraeg. ·
Nad
oes unrhyw reswm pam na all pob plentyn, ar wahân i newydd-ddyfodiaid, ddilyn
eu holl gwrs ysgol drwy’r Gymraeg. ·
Bod
y lleihad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn ein hysgolion cynradd yn fater o
bryder a rhaid mynd i’r afael â hyn ar fyrder neu mae perygl y bydd y niferoedd
yn gostwng i’r fath raddau fel na ellir cyfiawnhau’r polisi o gwbl. ·
Mae
cydnabyddiaeth bod yr addysg drochi yn y cyfnod sylfaen yn allweddol bwysig a
bod y canolfannau iaith yn chwarae rôl hynod bwysig yn trochi disgyblion CA2. ·
Er
y deellir nad oes yna lefydd gweigion wedi bod yn y canolfannau iaith hyd yma,
pe cyfyd sefyllfa o’r fath yn y dyfodol, gellid ystyried y posibilrwydd o
ymestyn y ddarpariaeth yn ehangach na blwyddyn 2 yn unig, ond gan gadw mewn cof
mai ieuenga’n byd yw’r plant, lleiaf perthnasol yw’r
cwrs ar eu cyfer. ·
Bod
lle i gryfhau’r elfen pontio rhwng y cyfnod sylfaen a’r cylchoedd meithrin ym
maes llafaredd. Mae yna bobl arbennig o
dda yn y cylchoedd meithrin yn hyrwyddo sgiliau caffael iaith a hefyd
arbenigedd amlwg yn y cyfnod sylfaen all gynorthwyo’r cylchoedd meithrin hefyd
fel bod gwaelodlin y plant yn gwella pan maent yn cyrraedd yr ysgol. · Na chredir bod gwerth mewn sefydlu canolfannau iaith penodol i ddysgu Saesneg i blant, gan nad ydi dysgu’r Saesneg yn broblem i neb oherwydd dylanwadau’r iaith honno ar blant o bob cyfeiriad. I’r gwrthwyneb, ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL A CHYNHWYSIAD PDF 1 MB Ystyried
adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg
(ynghlwm). *10.55yb
– 11.40yb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd - adroddiad yr Aelod Cabinet
Addysg yn rhoi amlinelliad o’r Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a
Chynhwysiad newydd a ddaeth i rym ym Medi 2017, gan fanylu ar brif
lwyddiannau’r gwasanaeth a’r meysydd sydd angen eu datblygu ymhellach i sicrhau
gwasanaeth effeithiol ac effeithlon i bartneriaeth Awdurdodau Addysg Cynghorau
Gwynedd a Môn. Yn ystod y drafodaeth, amlygwyd y prif
bwyntiau a ganlyn:- ·
Canmolwyd
y rhaglen Rhwyd Arall sy’n cefnogi rhieni lle bo ansicrwydd neu ddiffyg
dealltwriaeth o oblygiadau addysgu gartref a nodwyd bod unigolion sydd wedi bod
allan o’r gyfundrefn addysg am flynyddoedd wedi symud yn ôl i addysg prif lif
gyda mewnbwn y rhaglen yma a Comic Relief. Datganodd y
Cynghorydd Cemlyn Williams fuddiant personol gan ei fod yn gyfarwyddwr ar Gwmni
Sylfaen oedd wedi bod â chysylltiad â’r rhaglen hon yn y gorffennol. Nid oedd o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n
rhagfarnu ac ni adawodd y cyfarfod. ·
Bod
yr ysgolion yn gwbl greiddiol i lwyddiant y gyfundrefn newydd a’i bod yn bwysig
bod yr athrawon / cymorthyddion yn derbyn yr
hyfforddiant sydd ei angen arnynt i symud hyn ymlaen. ·
Bod
cefnogaeth y Bwrdd Iechyd yn greiddiol i lwyddiant y gwasanaeth hefyd. ·
Mynegwyd
pryder bod gan y Gwasanaeth Cwnsela restr aros o bron i 100 ar hyn o bryd, ond
croesawyd y cydweithio hefo CAMHS.
Nodwyd bod y gwaith hwn yn croesi maes sawl pwyllgor craffu a bod
athroniaeth ataliol yn amlygu ei hun fwyfwy yn yr ysgolion hefyd. Nodwyd yr angen i edrych ar y rhesymau dros y
cynnydd mewn gorbryder ymhlith pobl ifanc. ·
Nad
oes cyfeiriad yn yr adroddiad at blant abl a thalentog, sydd hefyd yn blant ag
anghenion dysgu ychwanegol. ·
Bod
y gwasanaeth yn cael ei werthfawrogi’n fawr yn y prif lif. ·
Bod
y cynlluniau datblygu unigol yn ddogfennau maith sy’n creu baich gwaith
ychwanegol i ysgolion. Gofynnwyd i’r Swyddog Addysg Ardal roi ei
argraffiadau o sut ‘roedd pethau wedi mynd hyd yma ac unrhyw broblemau a
ragwelai ar y gorwel. Nododd:- ·
Bod
y newidiadau wedi bod yn sylweddol ac yn arwyddocaol, nid yn unig i gynnwys yr
hyn a gynigir i ysgolion a’r ffordd o weithio gydag
ysgolion, ond hefyd o ran y gweithio ar draws dwy sir. ·
Mai
elfen bwysig o lwyddiant Gwedd 1 o’r adolygiad strategol oedd bod y broses
drwyddi draw wedi bod yn adweithiol i unrhyw newid wrth i’r broses honno fynd
rhagddi. Gan hynny, ‘roedd yna bethau
wedi newid yn barod i ymateb i sylwadau ysgolion ac i wneud y gwasanaeth hyd yn
oed yn fwy llyfn. ·
Gan
fod y maes yn eang iawn a chwestiynau’n mynd i godi’n aml, y sefydlwyd y
grŵp defnyddwyr fel bod y broses o wella’n mynd rhagddi’n
barhaus. ·
Y
byddai Gwedd 2 o’r adolygiad yn golygu mwy o newidiadau eto a byddai’r hyn a
ddysgwyd o Wedd 1 yn cael ei ymgorffori yng Ngwedd 2 fel bod modd edrych ar
hynny fel rhan o briff y camau nesaf. · Bod y cynllun o resymoli’r tîm, ayb, wedi cyfarch hanner yr arbedion ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
EGWYDDORION ADDYSG ADDAS I BWRPAS PDF 513 KB Ystyried adroddiad yr Aelod
Cabinet Addysg
(ynghlwm). *11.40yb
– 12.25yp *amcangyfrif o’r amseroedd Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd - adroddiad yr Aelod Cabinet
Addysg yn ceisio barn y pwyllgor craffu ar yr egwyddorion addysg arfaethedig
fydd yn sail ar gyfer gwireddu gweledigaeth yr Adran Addysg a datblygu’r
gyfundrefn er sicrhau addysg o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc Gwynedd ar
gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Ar sail canlyniadau’r ymgynghoriad gyda’r Llywodraethwyr
a’r ysgolion, a gweledigaeth yr Adran Addysg, gofynnwyd yn benodol am farn
aelodau’r pwyllgor craffu ar yr egwyddorion canlynol, a ystyrir yn sail i
gyfundrefn addysg Gwynedd i’r dyfodol:- ·
Cyfundrefn
o ysgolion uwchradd hyfyw; ·
Dau
ystod oedran o fewn yr un dosbarth yn y cynradd; ·
Oddeutu
80% o amser digyswllt i’r Pennaeth i ganolbwyntio ar faterion arweinyddiaeth yn
y cynradd. Yn seiliedig ar yr wybodaeth oedd i law,
amlygwyd y sylwadau a ganlyn yn ystod y drafodaeth:- ·
Rhaid
bod yn glir ynglŷn â beth fydd effaith mabwysiadu’r egwyddorion hyn. ·
Mae’n
debygol y bydd yna dorri athro neu oriau athro mewn rhai ysgolion a bydd
hynny’n anodd iawn i bennaeth, yn enwedig os yw’n rheoli dwy neu dair ysgol. ·
Dechrau’r
daith yw hyn ac mae tipyn mwy o waith a chraffu i’w wneud. ·
Mae’r
diffyg ymgeiswyr ar gyfer swyddi drwy drwch yr ysgolion cynradd ac uwchradd yn
destun pryder. ·
Mae’r
gyfundrefn yn rhy dameidiog i fod yn denu’r genhedlaeth nesaf o
arweinyddion. Er enghraifft, nid oes
cyfle i benaethiaid adrannau yn yr ysgolion uwchradd lleiaf eu maint feithrin
sgiliau i fod yn arweinwyr oherwydd, fel adrannau un person, nid oes ganddynt
yr amser i arwain yr adran na neb yn yr adran i’w rheoli. Hefyd, gan fod ysgolion cynradd yn aml yn rhy
fach i gael dirprwy bennaeth, nid oes cyfle yno chwaith i bobl ddatblygu
sgiliau arwain. ·
Mae’r
gofynion sylweddol uwch sy’n cael eu gosod ar bobl o ran addysgu ac arwain yn
golygu bod swyddi mewn ysgolion wedi mynd yn llawer llai atyniadol. ·
Gallai’r
cwestiynu yn yr holiadur fod wedi bod yn fwy treiddgar, e.e. yn hytrach na
gofyn yn unig am farn ar y datganiad “Mae’n
bwysig rhoi digon o amser i Benaethiaid reoli ac arwain ...”, dylid hefyd
bod wedi gofyn ydi’r ymatebwyr yn cytuno â’r datganiad er gwaethaf goblygiadau
hynny. ·
O
ran yr awgrym y dylai penaethiaid ysgolion uwchradd fod yng ngofal tua 900 o
ddisgyblion, y dymunir gweld tystiolaeth gadarn i gefnogi hynny ar ffurf gwaith
ymchwil yn y wlad yma ac ar draws Ewrop i’r maint o ysgol sy’n gweithio orau ac
yn rhoi’r canlyniadau gorau i blant. ·
Er
y croesawir y bwriad i uno rhai ysgolion bychain i’w gwneud yn fwy hyfyw, nad
yw hynny’n ymarferol bosib’ yn y Wynedd sydd ohoni ac y byddai’r pennaeth yn
treulio cyfran helaeth o’i amser yn teithio rhwng y naill safle a’r llall. · Bod polisi recriwtio’r colegau, sy’n mynnu bod rhaid i’r sawl sy’n dymuno dilyn cwrs ymarfer dysgu feddu ar radd 2:1, yn golygu bod pobl ifanc yn mynd dros y ffin i Loegr i hyfforddi fel athrawon a bod hynny, yn ei dro, yn arwain ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |