Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr Menna Baines, Selwyn Griffiths, Huw Wyn Jones a Keith Jones; Anest Gray Frazer (yr Eglwys yng Nghymru) a David Healey (Undebau Athrawon).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nododd y Cadeirydd iddi dderbyn cais gan y Cynghorydd Alwyn Gruffydd i godi mater brys yn ymwneud â thrafnidiaeth.  Mynegodd y Cynghorydd Alwyn Gruffydd ei bryder ei bod yn ymddangos bod plant yn y sir wedi’u cludo ar fysiau heb unrhyw fath o yswiriant.  Eglurodd y Cadeirydd, ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol, na allai ganiatáu trafod y mater yn y cyfarfod hwn.  Gan hynny, byddai’n codi’r mater yn y sesiwn anffurfiol gyda’r aelodau yn dilyn y pwyllgor hwn er mwyn gweld a oes mater i’w graffu.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 254 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr, 2017 fel rhai cywir  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr, 2017, fel rhai cywir.

 

5.

CAIS CYNLLUN TWF AR GYFER GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD CYNNYDD pdf eicon PDF 139 KB

Ystyried adroddiad Arweinydd y Cyngor  (ynghlwm).

 

*10.10yb– 10.50yb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad Arweinydd y Cyngor yn nodi’r cynnydd gyda datblygu Cais y Cynllun Twf ar gyfer Gogledd Cymru ynghyd ag adnabod rhai materion sydd angen ystyriaeth.

 

Ymhelaethodd yr Arweinydd a’r Cyfarwyddwr ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau.

 

Crynhodd y Cadeirydd brif gasgliadau’r drafodaeth fel a ganlyn:-

·         Bod anogaeth i’r holl aelodau fynd i’r gweithdy Cynllun Twf ar y 15fed o Chwefror er mwyn deall y maes a deall beth yw’r prosiectau, gan hefyd ystyried yr angen am fwy o sesiynau yn dilyn hynny.

·         Bod cefnogaeth yn gyffredinol i’r uchelgais o sicrhau twf economaidd ar draws Gogledd Cymru, ond bod her sylweddol i sicrhau hynny hefyd.

·         Bod neges glir bod cefnogaeth i’r Cynllun Twf ar gyfer y Canolbarth hefyd, yn arbennig o safbwynt ardal Meirionnydd, a bod angen sicrhau mewnbwn cryf a chydweithio gyda’r prosiect hwnnw, a chydweithio gyda Cheredigion a Phowys hefyd ar yr un amser, gan hefyd gofio pwysigrwydd sicrhau prosiectau ar draws Gwynedd.

·         Bod angen sicrhau statws i’r iaith Gymraeg yn y gwaith yma a defnyddio Bwrdd Twf Gogledd Cymru fel cerbyd i hyrwyddo’r Gymraeg.

·         Bod neges glir i ddysgu o wersi’r gorffennol a sicrhau bod y defnydd gorau yn cael ei wneud o adnoddau, ac wrth herio cynlluniau, bod angen herio trylwyr ar y cynlluniau hynny.

·         Bod angen datblygu’r elfen herio a chraffu o safbwynt Gwynedd er sicrhau dealltwriaeth glir o’r trefniadau gan ystyried sut mae aelodau yn mynd i gael mewnbwn yn gyffredinol i’r prosiectau sydd ar y gweill a’u siapio’n amserol.

·         Y dylid sicrhau adborth rheolaidd i’r pwyllgor hwn.

 

 

6.

AIL-FODELU'R GWASANAETH IEUENCTID pdf eicon PDF 361 KB

Ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant  (ynghlwm).

 

*10.50yb – 11.40yb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant yn amlinellu’r camau sydd wedi’u cymryd i adnabod yr opsiwn a ffafrir ar gyfer Ail-fodelu’r Gwasanaeth Ieuenctid ac yn gwahodd sylwadau’r pwyllgor craffu ar y cynllun er mwyn eu cyflwyno i’r Cabinet ar y 13eg o Fawrth, 2018.

 

Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet a’r swyddogion ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau.

 

Rhoddwyd cryn sylw yn ystod y drafodaeth i’r ffaith bod y 4 opsiwn a amlinellwyd yn yr adroddiad yn golygu torri / lleihau’r grant blynyddol a roddir i’r Urdd, Ffermwyr Ifanc, Y Geidiaid a’r Sgowtiaid, a chefnogi’r mudiadau hynny mewn ffordd wahanol.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd argymhelliad i beidio torri grant y mudiadau gwirfoddol ar y sail eu bod yn gwneud gwaith ardderchog yn ein cymunedau.

 

Mewn ymateb, eglurwyd wrth yr aelodau:-

·         Y byddai argymhelliad o’r fath yn arwain at lawer llai ar gyfer pobl ifanc Gwynedd gan y byddai’n golygu gofyn i’r Cabinet lunio opsiwn gwahanol i’r 4 opsiwn a ystyriwyd eisoes, fyddai’n cadw’r elfen o £76,000 ar gyfer y mudiadau gwirfoddol, ond yn lleihau’r gyllideb ar gyfer gweddill y Gwasanaeth Ieuenctid.

·         Nad oedd nifer o fudiadau gwirfoddol eraill yn y sir, megis clybiau rygbi, yn derbyn unrhyw grant o gwbl gan y Cyngor.

 

Pleidleisiwyd ar y cynnig.  Pleidleisiodd 6 aelod o blaid a 6 aelod yn erbyn.  Ni chymerwyd pleidlais fwrw.  Gan nad oedd mwyafrif o blaid, nid oedd gan y pwyllgor argymhelliad i’w gyflwyno i’r Aelod Cabinet.

 

Crynhodd y Cadeirydd brif gasgliadau’r drafodaeth fel a ganlyn:-

·         Bod cydnabyddiaeth bod y sefyllfa yn un anodd iawn i bawb, gan fod y gyllideb wedi’i thorri eisoes a neb yn hoffi newid.  Fodd bynnag, nid yw aros yr un fath yn opsiwn.

·         Bod y gwaith craffu wedi dangos bod yna wahaniaeth barn ymhlith aelodau’r pwyllgor o ran a yw’r opsiwn a ffafrir ar gyfer ail-fodelu’r Gwasanaeth Ieuenctid yn deg i holl ieuenctid Gwynedd, yn cynnig gwerth am arian, ac yn gynaliadwy i’r dyfodol, a hynny oherwydd y pryder am effaith y toriad yn y gyllideb ar bobl ifanc.

·         Bod nifer yr ymatebion i’r holiadur yn galonogol iawn ac yn dangos bod yna lawer o ddiddordeb yn y maes.

·         Bod y pwyllgor yn gefnogol i’r syniad o edrych ar sefydlu clybiau yn y gymuned a chynorthwyo’r clybiau hynny i sefydlu eu hunain.  Hefyd, bod neges gryf gan y pwyllgor i’r Adran gysylltu â’r cynghorau cymuned i weld sut y gellir eu cynorthwyo i gynnal gweithgareddau a phrosiectau ar ran y Gwasanaeth Ieuenctid.

·         Bod pryder ynglŷn â’r effaith ar y bobl ifanc hynny sy’n byw mewn ardaloedd difrenintiedig, yn benodol o safbwynt cael mynediad at y gwasanaeth, a phryder hefyd ynglŷn â’r effaith ar yr iaith.

 

7.

DARPARIAETH ADDYSG OL-16 pdf eicon PDF 327 KB

Ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg  (ynghlwm).

 

*11.40yb– 12.25yp

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn gwahodd sylwadau neu gwestiynau gan aelodau’r pwyllgor craffu ar friff drafft ar gyfer comisiynu ymgymerwr i gynnal asesiad annibynnol o’r ddarpariaeth addysg ôl-16 bresennol yng Ngwynedd.

 

Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet a’r swyddogion ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau.

 

‘Roedd prif gasgliadau’r drafodaeth fel a ganlyn:-

·         Y dylai’r gwaith o asesu cyfrwng iaith y cyrsiau fynd at wraidd y sefyllfa, yn hytrach na dibynnu ar y ffigurau y bydd y sefydliadau yn eu darparu.

·         Bod disgwyl i’r asesiad gymryd i ystyriaeth bod gwaelodlin perfformiad lefel A yn wahanol i waelodlin perfformiad TGAU.

·         Bod angen i’r asesiad edrych ar y dystiolaeth bod pobl ifanc yn dewis pynciau sydd ddim yn golygu teithio rhwng safleoedd yn ystod y dydd er hwylustod iddynt.

·         Cytunwyd i gyflwyno’r adroddiad ar ganfyddiadau’r gwaith ymchwil i’r pwyllgor hwn ym mis Medi (yn ddibynnol ar gyflawni’r gwaith o fewn yr amserlen wreiddiol a osodwyd) er mwyn deall y sefyllfa bresennol cyn adnabod y ffordd ymlaen.

 

8.

YMCHWILIAD CRAFFU POSIB' I'R MAES EFFAITH DATBLYGIADAU ADEILADAU NEWYDD AR GYFER YSGOLION AR ANSAWDD ADDYSG pdf eicon PDF 123 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd  (ynghlwm).

 

*12.25yp – 12.40yp

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Cadeirydd yn gofyn i’r pwyllgor fabwysiadu’r egwyddor o gynnal ymchwiliad i’r maes “effaith datblygiadau adeiladau newydd ar gyfer ysgolion ar ansawdd addysg” ac adnabod 5 aelod i fod yn rhan o’r ymchwiliad.

 

PENDERFYNWYD

(a)     Cefnogi’r egwyddor o gynnal ymchwiliad i’r maes “effaith datblygiadau adeiladau newydd ar gyfer ysgolion ar ansawdd addysg”.

(b)     Adnabod y Cynghorwyr Steve Collings, Cai Larsen a Paul Rowlinson i fod yn rhan o’r ymchwiliad a chysylltu â holl aelodau’r pwyllgor i weld pwy arall fyddai â diddordeb.

 

 

9.

BLAENRAGLEN CRAFFU 2017/18 pdf eicon PDF 154 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, y blaenraglen craffu, fel mae’n sefyll ar hyn o bryd  (ynghlwm).

 

*12.40yp – 12.45yp

 

 

 

*amcangyfrif o’r amseroedd

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – y blaenraglen craffu, fel mae’n sefyll ar hyn o bryd.

 

Derbyniwyd y blaenraglen gyda’r diweddariadau a nodir mewn print trwm isod:-

 

17 Ebrill

2018

§    Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Addysg (neu Addysg Arbennig)

§    Adroddiad y Cyfnod Sylfaen

§    Canolfannau Byw’n Iachcraffu’r cytundeb