skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr:- Beth Lawton, Dewi Owen, Mair Rowlands a Gareth Williams.

Anest Gray Frazer (Eglwys yng Nghymru) a David Healey (ATL)

Y Cynghorydd Gareth Thomas (Aelod Cabinet Economi)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd y Cynghorydd Selwyn Griffiths fuddiant personol yn yr eitemau a ganlyn am y rhesymau a nodir isod:-

 

·         Eitem 6 - Cefnogi Busnesau Gwynedd i Ymateb i Brexit - oherwydd bod ei fab yn gyd-awdur yr adroddiad.  Nid oedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant oedd yn rhagfarnu, ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

·         Eitem 8 – Amlinelliad o’r Cynllun TRAC yng Ngwynedd – oherwydd bod ei ferch-yng-nghyfraith yn gweithio i’r gwasanaeth.  ‘Roedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant oedd yn rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 71 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 10 Hydref, 2019 fel rhai cywir  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 20 Mehefin, 2019 fel rhai cywir.

 

5.

ADOLYGIAD HAFAN A HARBWR PWLLHELI pdf eicon PDF 105 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Gareth Thomas

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod  (ynghlwm)

 

*10.30yb – 11.30yb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Economi yn manylu ar y gwaith sydd wedi’i wneud hyd yma o ran datblygu opsiynau rheoli ar gyfer yr Hafan a Harbwr Pwllheli.

 

Ymhelaethodd y swyddogion ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau/ sylwadau gan yr aelodau.

 

Crynhodd y Cadeirydd brif sylwadau’r aelodau yn codi o’r drafodaeth fel a ganlyn:-

 

·         Cafwyd atebion i nifer o gwestiynau yn ystod y drafodaeth ac mae hyn wedi dyfnhau ein dealltwriaeth o’r sefyllfa ym Mhwllheli.

·         Mae’r aelodau wedi pwysleisio bod sicrhau datrysiad i’r sefyllfa carthu a chael gwared â’r gwaddod i gadw’r sianel yn glir yn gwbl greiddiol i’r holl sefyllfa.

·         Mae’r gwaith wedi bod yn mynd rhagddo ers cryn amser bellach, ac mae angen bwrw ymlaen yn awr gyda’r achosion busnes.  Mae angen mwy o eglurder ynglŷn â’r costau buddsoddi posib’, y cyfleoedd posib’, y berthynas gyda Phlas Heli, ayyb, er mwyn codi safon a denu mwy o gwsmeriaid i’r Hafan.

·         Mae angen parhau i ymgysylltu â chwmnïau lleol, ayb.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad, a gofyn am ddiweddariad buan ar y Cynllun Rheoli’r Hafan a’r Harbwr (gan gynnwys yr achosion busnes) i’r pwyllgor craffu hwn.

 

 

6.

CEFNOGI BUSNESAU GWYNEDD I YMATEB I BREXIT pdf eicon PDF 70 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Gareth Thomas

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod  (ynghlwm)

 

*11.30yb – 12.15yp

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Economi yn amlinellu sut mae’r Cyngor, a sefydliadau eraill, yn cynyddu ymwybyddiaeth busnesau o oblygiadau penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd (Brexit) ac yn eu cefnogi i oresgyn unrhyw rwystrau sy’n deillio.

 

Ymhelaethodd y swyddogion ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau/ sylwadau gan yr aelodau.

 

Crynhodd y Cadeirydd brif sylwadau’r aelodau yn codi o’r drafodaeth fel a ganlyn:-

 

·         Gan fod sefyllfa Brexit yn newid yn barhaus, a neb yn gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd, mae’n anodd iawn rhoi sylwadau pendant.

·         Fodd bynnag, mae’n glir o’r adroddiad a’r atebion a roddwyd bod y Cyngor yn rhoi cefnogaeth i’r sector busnes i wynebu heriau Brexit a bod angen i ni barhau â’r gefnogaeth yma, gan ganolbwyntio yn arbennig ar y byd amaeth a thwristiaeth a chefn gwlad, a hefyd y sector bysgota.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

7.

ARBEDION 2020/21 - ADRAN ADDYSG AC YSGOLION AC ADRAN ECONOMI A CHYMUNED pdf eicon PDF 73 KB

Aelodau Cabinet – Y Cynghorwyr Gareth Thomas a Cemlyn Williams

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod  (ynghlwm)

 

*12.15yp – 1yp

 

 

*TORIAD AM GINIO – 1yp – 1.45yp

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg a’r Aelod Cabinet Economi yn gwahodd y pwyllgor i graffu cynigion yr Adran Addysg ac Ysgolion a’r Adran Economi a Chymuned i ddygymod gyda’u cyfran o’r bwlch £2m posib’ yng nghyllideb 2020/21, ynghyd â chynnig cynlluniau amgen i gyfarch diffyg cynlluniau arbedion cyfredol ar gyfer yr Adran Addysg.

 

Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet Addysg, y ddau Bennaeth Gwasanaeth a’r swyddogion ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau.

 

Cynigion Arbedion yr Adran Economi a Chymuned

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd, er y derbynnid y byddai’r cynigion arbedion yn cael rhywfaint o effaith ar drigolion Gwynedd, bod yr Adran wedi llwyddo i leihau’r effaith gymaint â phosib’.

 

Cynigion Arbedion yr Adran Addysg ac Ysgolion

 

Yn ystod y drafodaeth, mynegwyd cryn bryder gan aelodau ynglŷn â dau gynnig arbed yn benodol, sef ‘Integreiddio – Cynllun Datblygu Unigol (CDU)/Datganiadau’ (£112,530) a chynyddu’r gymhareb disgybl / athro yn y fformiwla dyrannu (£463,900).  Wedi derbyn rhywfaint o esboniad pellach am yr hyn y byddai’r naill gynllun a’r llall yn ei olygu i ysgolion y sir, nodwyd y byddai’r naill yn golygu llai o gymorth i ddisgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol sydd ddim yn destun CDU / Datganiad a’r llall yn arwain at leihau nifer athrawon a / neu leihau niferoedd staff ategol, gan effeithio ar safonau addysgol.

 

Nodwyd ymhellach gan aelodau:-

 

·         Bod yr ysgolion wedi gorfod torri nôl i’r asgwrn yn barod.

·         Y dylai’r Cyngor anfon llythyr at Lywodraeth Cymru yn datgan anfodlonrwydd llwyr ynglŷn ag annigonolrwydd y grant, sydd wedi arwain at sefyllfa ariannol lle mae’r Cyngor yn gorfod gwneud arbedion sylweddol.

·         Y dylid ail-edrych mewn mwy o fanylder ar y cynigion er mwyn gweld beth yn union sy’n cael ei argymell.

·         Na all yr ysgolion wneud eu gwaith heb yr arian a bod y newidiadau’n effeithio ar forâl athrawon a phlant fel ei gilydd.

·         Y dylid chwilio am arbedion yn rhywle arall.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau hyn, nododd y Prif Weithredwr:-

 

·         Eleni, am y tro cyntaf, bod gwariant y pen ar addysg yng Ngwynedd yr uchaf ymhlith holl awdurdodau gwledig Cymru, a hyd yn oed o wneud y toriadau hyn, byddai Gwynedd yn dal ar y brig.

·         Y llwyddwyd i warchod y gyllideb ysgolion yn gyfan gwbl y llynedd.

·         Bod y Cyngor hwn wedi bod yn llythyru, ac yn cyfarfod gyda’r Llywodraeth yn gyson, a bod y Llywodraeth yn fyw iawn i’r pryderon.

·         Fel cyngor darbodus, bod rhaid cynllunio ar gyfer y posibilrwydd o orfod canfod y bwlch posib’ o £2m yng nghyllideb 2020/21.

·         Bod pob adran o’r Cyngor yn gwegian bellach, a rôl y pwyllgor craffu oedd penderfynu, os bydd yn ofynnol i’r Adran ddod â chynigion arbedion ymlaen, ai’r cynigion a restrwyd yn yr adroddiad, neu gynigion eraill, fyddai’n cael lleiaf o ardrawiad ar blant y sir.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Addysg fod ystyriaeth ddwys wedi’i rhoi i’r holl opsiynau.  Ni allai wneud argymhellion yn unman arall a’r cynlluniau gerbron oedd y rhai fyddai’n cael lleiaf o ardrawiad  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

AMLINELLIAD O'R CYNLLUN TRAC YNG NGWYNEDD pdf eicon PDF 70 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Cemlyn Williams

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod  (ynghlwm)

 

*1.45yp – 2.30yp

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn rhoi amlinelliad o’r Cynllun TRAC, sydd yn darparu cefnogaeth ychwanegol i gynnal plant bregus o fewn ysgolion neu eu hymgysylltu yn ôl â’u haddysg.

 

Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet a’r swyddogion ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau.

 

Crynhodd y Cadeirydd brif sylwadau’r aelodau yn codi o’r drafodaeth fel a ganlyn:-

 

·         Dymuna’r pwyllgor longyfarch yr Adran ar eu gwaith ac roedd yr aelodau yn ymfalchïo o ddeall bod bywydau plant, fyddai fel arall wedi disgyn drwy’r rhwyd, yn cael eu gweddnewid.

·         Bod yr adroddiad yn amlygu’r hyn sy’n bosib’ i’w wneud pan mae’r adnoddau ar gael a bod gwers yma i wleidyddion ar bob lefel.

·         Bod yr adroddiad hefyd yn dangos y gwahaniaeth y gall cynllunio pwrpasol ei wneud.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

9.

DIWEDDARIAD GWASANAETH ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL A CHYNHWYSIAD GWYNEDD A MON pdf eicon PDF 59 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Cemlyn Williams

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod  (ynghlwm)

 

*2.30yp – 3.15yp

 

 

 

*amcangyfrif o’r amseroedd

 

 

 

Cynhelir sesiwn anffurfiol ar gyfer yr aelodau ar derfyn y cyfarfod.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn rhoi diweddariad o ran datblygiad y strwythur gwasanaeth newydd a'r newidiadau deddfwriaethol fydd yn dod yn weithredol ym mis Medi 2021.

 

Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet a’r swyddogion ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau.

 

Codwyd cwestiwn gan aelod ar ran unigolyn oedd yn methu bod yn bresennol yn y cyfarfod ynglŷn â sefyllfa gyllidol ysgol benodol.  Gan na fyddai’n briodol trafod hynny mewn fforwm agored, awgrymwyd bod yr awdur yn cynghori’r ysgol dan sylw i gysylltu â’r adran.

 

Crynhodd y Cadeirydd brif sylwadau’r aelodau yn codi o’r drafodaeth fel a ganlyn:-

 

·         Mae cydnabyddiaeth ymysg yr aelodau o’r gwaith manwl sy’n digwydd o fewn yr Adran. 

·         Derbynnir bod yna heriau, ond mae datblygiadau mawr wedi cymryd lle a chroesawir y ffaith y bydd hynny’n parhau.  Hefyd, roedd y pwyllgor yn ymfalchïo o glywed bod Gwynedd gymaint ar y blaen i awdurdodau eraill yn y maes yma.

·         Dymuna’r pwyllgor longyfarch yr Adran ar eu gwaith ac roedd yr aelodau yn falch iawn o ddeall bod y gwasanaeth ar gael yn Gymraeg i bob plentyn, waeth beth yw’r anawsterau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

Ar derfyn y cyfarfod, nododd y Pennaeth Addysg fod y Rheolwr Cynllun TRAC a’r Uwch Reolwr Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad yn gweithio o fewn y ddau faes mwyaf anodd o fewn y gwasanaeth addysg, gydag adnoddau prin, a diolchodd i’r ddwy ohonynt a’u timau am eu gwaith yn gweddnewid bywydau’r plant mwyaf bregus ac anghenus.