skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr:- Freya Bentham, Aled Evans a Huw Wyn Jones.

Anest Gray Frazer (Eglwys yng Nghymru)

Y Cynghorydd Gareth Thomas (Aelod Cabinet Economi) (oedd yn dirprwyo ar ran Arweinydd y Cyngor mewn cyfarfod arall).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 70 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 20 Mehefin, 2019 fel rhai cywir  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 20 Mehefin, 2019 fel rhai cywir.

 

 

5.

CYNLLUN GWYNEDD: CYNLLUN ELWA O DWRISTIAETH pdf eicon PDF 99 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Gareth Thomas

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod  (ynghlwm).

 

*10.30yb – 11.15yb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Economi yn diweddaru’r aelodau ar y prosiect Elwa o Dwristiaeth, oedd yn rhan o Gynllun Gwynedd.  Gwahoddwyd y pwyllgor i graffu’r drefn weithredu ar gyfer y prosiect ac i graffu’r Fframwaith Twristiaeth i’r dyfodol, pan fyddai’n amserol gwneud hynny.

 

Ymhelaethodd y swyddogion ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau.

 

Crynhodd y Cadeirydd brif sylwadau’r aelodau yn codi o’r drafodaeth fel a ganlyn:-

 

·         Fel rhan o’r gwaith, mae angen ystyried y buddiannau i bobl Gwynedd, yn ogystal ag ochr arall y geiniog – yn enwedig effaith gor-dwristiaeth:-

-       ar yr iaith;

-       ar drefniadau parcio;

-       yr effaith ar bobl leol ayyb, e.e. y cynnydd mewn Air B&B’s;

-       effaith ymestyn y tymor gwyliau a’r effaith ar feysydd carafanau all droi yn ‘bentrefi’ ychwanegol a chael effaith ar ein gwasanaethau, trefniadau cynllunio a’r iaith.

Mae’r swyddogion wedi nodi eu parodrwydd i roi cyflwyniad pellach i’r pwyllgor ar hyn, gan gynnwys rhoi mwy o gig ar yr asgwrn gyda rhai o’r opsiynau, yn arbennig gan fod rhai ohonynt yn eithaf cynhennus.

·         Mae glanweithdra yn elfen amlwg sy’n effeithio ar dwristiaeth ac mae anogaeth i’r Adran ystyried yr elfen yma ymhellach a pharhau i gyd-weithio gyda Croeso Cymru, adrannau’r Cyngor, a cheisio adnabod atebion i’r problemau hyn.

·         Gofynnir hefyd am y cyfle i gael mwy o eglurder o ran yr opsiynau, yn arbennig eglurder am yr achos busnes fesul opsiwn – sef cost gweinyddu, buddion ddaw allan o hyn yn ariannol ac i fusnesau a buddion i’r gymdeithas ehangach.

 

6.

ADOLYGIAD HAFAN A HARBWR PWLLHELI pdf eicon PDF 56 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Gareth Thomas

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod  (ynghlwm).

 

*11.15yb – 11.25yb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Economi yn rhoi diweddariad byr i’r aelodau ar y gwaith o ddatblygu gwahanol opsiynau ar gyfer yr Hafan a Harbwr Pwllheli.

 

Ymhelaethodd y swyddog ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau.

 

I grynhoi, nododd y Cadeirydd fod y pwyllgor yn gallu gweld bod y gwaith yn mynd yn ei flaen.  Cyflwynid adroddiad llawn i’r cyfarfod nesaf a byddai cyfle i graffu’r gwaith bryd hynny.

 

7.

CYNLLUN PEILOT Y CANOLFANNAU IAITH pdf eicon PDF 74 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Cemlyn Williams

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod  (ynghlwm).

 

*11.25yb – 12.10yp

 

*amcangyfrif o’r amseroedd

 

 

Cynhelir sesiwn anffurfiol ar gyfer yr aelodau ar derfyn y cyfarfod.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn gwahodd y pwyllgor craffu i gyflwyno syniadau ac awgrymiadau allai gyfrannu at yr ymchwil y bwriedid ei gynnal i fesur effaith gweithredu’r peilot mewn un Canolfan Iaith ac i fynegi barn ar y modd y bwriedid mesur effaith gweithredu’r peilot mewn un Canolfan Iaith.

 

Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet, y Pennaeth Gwasanaeth a’r swyddog ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau.

 

Crynhodd y Cadeirydd brif sylwadau’r aelodau yn codi o’r drafodaeth fel a ganlyn:-

 

·         Croesawyd y ffaith bod y tîm sy’n gweithredu ar ran yr Adran Addysg yn dîm amlddisgyblaethol, sy’n gymysg o arbenigwyr o’r adran ac arbenigwyr allanol, ond pwysleisiwyd y dylai’r adroddiad ar gasgliadau’r ymchwil gael ei gyflwyno yn enw arbenigwr allanol, er sicrhau’r elfen wrthrychol.  Croesawyd hefyd bod yna arbenigedd ieithyddol o fewn yr Adran Addysg a bod cyfuniad o ddata meintiol ac ansoddol yn yr ymchwil.

·         Croeswyd bod y fethodoleg yn adnabod yr angen i adnabod y cefndir / gwaelodlin fesul plentyn.  Derbynnir bod angen mesur yn erbyn cyrraedd Lefel 2, ond mae angen ystyried ffordd deg o fesur yn erbyn y gwaelodlin.

·         Mae’n allweddol sicrhau adborth gan ysgolion gan fod hyn yn allweddol i’r fethodoleg, ac mae barn ysgolion, y canolfannau iaith a’r disgyblion a’u rhieni yn hollbwysig.  Mae lle hefyd i fod yn sicrhau defnyddio’r trefniadau tracio disgybl yn y tymor hwy.

·         Mae pwyslais hefyd gan y pwyllgor i gadw mewn cof bod angen ystyried sut i wella safonau yn barhaus, ac nid i gynnal y safonau yn unig.

·         Nododd aelodau hefyd awydd i fod yn rhan o’r broses yn barhaus, ac roeddent hefyd yn dymuno cael gwybodaeth am gost y gwaith yma eleni.

·         Nodwyd hefyd bod angen i’r fethodoleg ystyried y tymor hwy a’r effaith ar ardrawiad polisi’r Cyngor ac ar ein hysgolion yn y tymor hwy.

·         Codwyd pryder am yr amserlen, a rhoddwyd neges glir ynglŷn â phwysigrwydd gwneud y gwaith yn gywir.