Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr Judith Humphreys, Keith Jones a Dewi Owen

Anest Gray Frazer (yr Eglwys yng Nghymru)

 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd y canlynol fuddiant personol yn Eitem 7 – Canolfannau Byw’n Iach:-

·         Y Cadeirydd, y Cynghorydd Beth Lawton oherwydd ei bod yn Gyfarwyddwr y Cwmni Byw’n Iach.  ‘Roedd o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu ac ymneilltuodd o’r gadair a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem. 

·         Y Cynghorydd Cemlyn Williams, oherwydd ei fod yn Gyfarwyddwr y Cwmni Byw’n Iach.  Roedd o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu, a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 108 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd, 2018 fel rhai cywir  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd, 2018 fel rhai cywir.

 

5.

CANLYNIADAU TERFYNOL HAF 2018 pdf eicon PDF 119 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Gareth Thomas

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod  (ynghlwm).

 

*10.00yb – 10.45yb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn manylu ar ganlyniadau terfynol haf 2018.

 

Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet a’r swyddogion ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau.

 

Crynhodd y Cadeirydd brif gasgliadau’r drafodaeth fel a ganlyn:-

 

·         Bod y brif drafodaeth ar y mater hwn wedi digwydd ym mis Medi'r llynedd pan gyflwynwyd y data craidd i’r pwyllgor hwn, a dim ond mân sylwadau a godwyd yn y cyfarfod hwn.

·         O ran y Cyfnod Sylfaen, mae yna ddealltwriaeth bod newid wedi bod yn sail yr asesu a bod GwE yn cyd-weithio gyda’r ysgolion er mwyn sicrhau asesu o safon a sicrhau cefnogaeth i hynny.

·         O ran Cyfnod Allweddol 5, er y derbyniwyd esboniad o’r data a’r hyn sy’n digwydd yng Ngwynedd a pha gefnogaeth sydd ar gael, mynegir peth siom a phryder nad yw’r data’n gyhoeddus ac mae angen sicrhau sut y gall aelodau gynorthwyo ysgolion yn eu rôl fel llywodraethwyr i sicrhau bod cefnogaeth benodol ar gyfer pynciau penodol, fel bo’r angen.

·         O ran y newid yn lefel trothwy graddau TGAU Saesneg, mae’r pwyllgor yn parhau i roi cefnogaeth i’r Aelod Cabinet a’r adran i frwydro o ran y newid sydd wedi bod yn y ffin ac yn datgan eu siomedigaeth na chafwyd datrysiad i hyn hyd yma, yn arbennig ar gyfer yr unigolion hynny na lwyddodd efallai i gael y graddau C a B disgwyliedig y llynedd.  Hefyd, dymuna’r pwyllgor roi neges glir bod angen sicrhau na fydd disgyblion eleni yn dioddef yn yr un ffordd mewn unrhyw bwnc.

 

6.

AILSTRWYTHURO CANOLFANNAU IAITH pdf eicon PDF 98 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Gareth Thomas

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod  (ynghlwm).

 

*10.45yb – 11.30yb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn ceisio barn yr aelodau ar yr opsiynau ar gyfer ail-strwythuro’r Canolfannau Iaith yn sgil diffyg yn y gyllideb o 2019/20 ymlaen, ynghyd â’r sylwadau a gyflwynwyd fel rhan o’r ymgynghoriad.

 

Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet a’r swyddogion ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau.

 

Crynhodd y Cadeirydd brif gasgliadau’r drafodaeth fel a ganlyn:-

 

·         Bod y pwyllgor yn ddiolchgar am y diweddariad o’r hyn sydd wedi digwydd gyda’r ymgynghoriad mewnol a bod yna werthfawrogiad clir o’r gwaith a wneir gan y canolfannau iaith a’u llwyddiant. 

·         Nad oes yna neges glir o’r pwyllgor hwn ynglŷn â’r datrysiad i’r diffyg ariannol.  Serch hynny, mae yna negeseuon clir i’w cyflwyno i sylw’r adran mewn pedwar maes, sef:-

 

Ø  Mae pryder wedi’i gyfleu gan y pwyllgor nad oedd yr un o’r egwyddorion yn cynnwys sicrhau cadw ansawdd y ddarpariaeth i’r dyfodol a bod pwyslais gan y pwyllgor i gynnal asesiad effaith cydraddoldeb ar yr opsiwn ffafredig, ac efallai bod lle hefyd i fesur yr ansawdd ac effaith newid ar y ddarpariaeth o hyn ymlaen.

Ø  Nodir peth pryder ynglŷn â’r newid posib’ yn llwyth gwaith y sawl sy’n gweithio yn y canolfannau iaith, ond nodir hefyd, ar yr un pryd, bod y pryder hwnnw ar draws yr holl ystod o wasanaethau a ddarperir gan yr Adran Addysg ym mhob ysgol a bod y gymhareb disgybl / athro ym mhob dosbarth yn fater sydd angen edrych arno hefyd.  Ar yr un pryd, roedd pwyslais ar yr angen i gael 2 athro / athrawes yn yr Uned Uwchradd.

Ø  Cefnogir parhad y trafodaethau mewn ymgais i ddwyn perswâd ar Lywodraeth Cymru i barhau i roi mwy o arian ar gyfer cefnogi’r Gymraeg o hyn allan.

Ø  Derbynnir bod y grant yn cael ei dorri ac er y byddai’n well gan bawb petai hynny ddim yn bod, mae’r pwyllgor yn annog yr adran i edrych ar unrhyw ffynonellau eraill posib’, boed hyn yn arian grant ychwanegol neu ba ffynhonnell bynnag.  Er hynny, derbynnir yn llwyr fod yr ysgolion wedi cymryd toriadau sylweddol a pharhaus dros amser bellach, ac er yn opsiwn, nid oedd y pwyllgor yn dymuno edrych ar yr ysgolion i gyllido hyn.  Yn ogystal, fe godwyd y risg ynglŷn â’r posibilrwydd o beth sy’n mynd i ddigwydd  yn y dyfodol gan fod GwE yn edrych ar y grant yma ymhellach.

 

 

7.

CANOLFANNAU BYW'N IACH pdf eicon PDF 59 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Craig ab Iago

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod  (ynghlwm).

 

*11.30yb – 12.15yp

 

 

*amcangyfrif o’r amseroedd

 

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cadeiriwyd yr eitem hon gan yr Is-gadeirydd oherwydd buddiant y Cadeirydd yn y mater.

 

Cyflwynwyd - adroddiad yr Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant yn diweddaru’r pwyllgor craffu o’r cynnydd sydd wedi ei wneud yn erbyn yr achos fusnes cymeradwy ar gyfer trosglwyddo’r canolfannau byw’n iach i gwmni sydd wedi ei reoli gan y Cyngor ac yn cynnig amlinelliad o’r trefniadau sydd mewn lle i gyfarch y sylwadau a wnaethpwyd gan y pwyllgor hwn yn ôl yn ei gyfarfod ar 26 Medi, 2017.

 

Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet a’r swyddogion ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau.

 

Crynhodd yr Is-gadeirydd brif gasgliadau’r drafodaeth fel a ganlyn:-

 

·         Bod gwell dealltwriaeth o’r datblygiadau yn dilyn yr eitem hon i’r pwyllgor, yn arbennig o ran y cytundeb, y berthynas gyda’r Cyngor, y trefniadau llywodraethu a’r ochr ariannol hefyd. 

·         Cafwyd atebion i nifer o gwestiynau ar faterion penodol mewn perthynas â sefyllfa llyfrgelloedd, ysgolion, grantiau, ayb.

·         Ymatebwyd hefyd i’r materion a godwyd ym Medi 2017 ac nid oedd gan y pwyllgor unrhyw sylwadau penodol pellach i’w gwneud.

·         Bod y pwyllgor o’r farn y dylid llunio cynllun cyfathrebu er mwyn sicrhau bod trigolion Gwynedd yn ymwybodol o’r camau sydd ar droed.

·         Rhaid cael sicrwydd y bydd y gofynion o ran yr iaith Gymraeg yn rhan o’r cytundeb ac y bydd hynny’n cael ei graffu gan y pwyllgor hwn.