skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Arfon, Swyddfa Penrallt, Caernarfon

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorwyr Jason Parry, Huw Wyn Jones, a Keith Jones. 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

Cofnod:

Datganodd y Cynghorydd Menna Baines fuddiant personol yn eitem 7 oherwydd ei rôl ar Fwrdd Ymgynghorol Cynnal.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 220 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 26 Medi, 2017 fel rhai cywir  (ynghlwm).

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd y cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar y 26 Medi 2017, fel rhai cywir.

 

5.

TREFNIADAU LLYWODRAETHU ARFAETHEDIG CWMNI HAMDDEN CYNGOR GWYNEDD pdf eicon PDF 276 KB

Ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant  (ynghlwm).

 

 

*1.40yh – 2.25yh

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant a’r  Pennaeth Economi a Chymunedau, yn cyflwyno trefniadau llywodraethu arfaethedig Cwmni Hamdden Cyngor Gwynedd. Gwahoddwyd aelodau i roi eu mewnbwn ar y trefniadau cyn i’r eitem fynd ger bron y Cabinet. Diolchodd yr Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant i’r Pwyllgor am y cyfle i drafod y trefniadau. 

 

Yn ystod y drafodaeth ar yr eitem, rhoddwyd rhagor o wybodaeth i aelodau am y materion canlynol:

§  Rôl a phwrpas y Bwrdd Cynghorol.

§  Dealltwriaeth o bwy fydd yn gyfrifol am benodi’r Bwrdd Rheoli. 

§  Cyfrifoldeb ac atebolrwydd aelodau’r bwrdd pe bai’r cwmni yn fethiant, a pha gamau sydd gan y Cyngor i ddelio â hyn – yn arbennig yr effaith ar staff y cwmni.

§  Trefn penodi, rôl a chyfrifoldeb y Rheolwr Gyfarwyddwr. 

 

Nodwyd y sylwadau canlynol am y trefniadau llywodraethu’r cwmni gan y Pwyllgor Craffu er sylw’r Aelod Cabinet a’r  Cabinet;

§  Fod angen i’r Bwrdd Cysgodol fod yn rhan allweddol yn y broses o benodi’r Rheolwr Gyfarwyddwr.

§  Y dylid ystyried  os oes angen mwy na phum aelod ar y Bwrdd Rheoli gan fod cryn ofynion ar yr aelodau hynny.

§  Pwysigrwydd sicrhau perthynas iach ac agored gyda’r Bwrdd Cynghorol o’i sefydlu.  Bydd y Pwyllgor craffu yn dymuno eglurder pellach ynghylch sut y bydd hyn yn datblygu dros y misoedd nesaf.

§  Fod angen eglurder pellach o rôl y pum cyfarwyddwr wedi iddynt eu penodi.

§  Fod y datblygiad yn cynnwys cyfleoedd newydd, er enghraifft;

o   Cyfle i farchnata'r Canolfannau Hamdden yn fwy creadigol.

o   Y dylid ystyried argymhelliad i gyflwyno ‘cynllun bonws’ i staff sydd yn hyrwyddo’r cwmni yn egnïol. 

§  Y dylid hefyd sicrhau bod clybiau fel ‘Dementia Go’ a threfniadau llwyddiannus eraill yn parhau.

 

Bydd aelodau’r Pwyllgor Craffu yn croesawu’r cyfle i graffu’r datblygiadau ymhellach yn unol â’r addewid.

 

Penderfynwyd: Cefnogi’r adroddiad i fynd i’r Cabinet.

 

6.

EFFAITH A CHANLYNIAD YR HYN A DDARPERIR GAN GWE AR RAN AWDURDOD ADDYSG GWYNEDD pdf eicon PDF 468 KB

Ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg  (ynghlwm).

 

 

*2.25yh – 3.10yh

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llongyfarchodd Aelod Cabinet Addysg staff GwE ar lwyddiant yr adroddiad Estyn diweddar.

 

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod Cabinet Addysg a'r Pennaeth Addysg, yn ymateb i nifer o gwestiynau a ddarparwyd gan aelodau’r pwyllgor ymlaen llawn ynglŷn ag effaith a chanlyniad y gwasanaeth a ddarperir gan GwE ar ran Awdurdod Addysg Gwynedd. 

 

Bu i aelodau’r Pwyllgor fynegi barn bod yr adroddiad yn rhy gyffredinol ac yn disgrifio holl ystod gwaith GwE, yn hytrach nag amlygu’r gwerth am arian i Wynedd yn benodol.

 

Yn ystod y drafodaeth ar yr eitem, rhoddwyd rhagor o wybodaeth i aelodau am y materion canlynol:

§  Rhoddwyd esboniad ar natur y gwasanaeth sy’n cael ei gomisiynu gan GwE ac amlinellwyd bod dwy lefel benodol sef;

a.       y gwasanaeth mae GwE yn ei ddarparu i’r chwe awdurdod.

b.       cynllun busnes sydd wedi’i deilwra yn benodol i anghenion Gwynedd. 

§  Eglurder o’r broses o lunio’r cynlluniau busnes ar gyfer pob Sir.

§  Pryderon bod gwendid wedi bod yng nghanlyniadau'r Cyfnod Sylfaen am ddwy flynedd yn olynol.  

§  Pryderon bod ysgol wedi ei rhoi mewn mesurau arbennig o dan y trefniant presennol rhwng yr awdurdod a GwE.

§  Rôl y Swyddogion Cefnogi Gwelliant i sicrhau cefnogaeth gyson er mwyn sicrhau gwelliant cyson ar draws y Sir.

§  Y berthynas rhwng yr awdurdod a GwE – a oes digon o herio yn mynd ymlaen?

§  Esboniad fod arweinyddiaeth mewn ysgolion yn flaenoriaeth gan yr awdurdodau a GwE a dyna oedd sail y gynhadledd datblygu arweinyddiaeth a fu yn yr haf.  

§  Prinder o athrawon/penaethiaid addysg.

 

Mewn ymateb i’r sylw am brinder o athrawon a phenaethiaid addysg yng Ngwynedd, amlygodd y Pennaeth Addysg yr hyn mae’r awdurdod yn ei wneud i fynd i’r afael a’r broblem;

§  Swyddfeydd Addysg Ardal - wedi’i datblygu i annog gweithio ar y cyd ac i sicrhau bod y gwaith gweinyddol yn effeithiol ac yn effeithlon ar draws ysgolion.

§  Consortiwm Hyfforddiant – gwaith rhanbarthol sydd ar droed yn targedu penaethiaid strategol, rheolwyr safle, penaethiaid y dyfodol a dirprwy penaethiaid. 

 

Penderfynwyd: Derbyn yr adroddiad.

 

7.

ADRODDIAD YMCHWILIAD CRAFFU GWASANAETHAU CEFNOGOL ADDYSG pdf eicon PDF 285 KB

Ystyried adroddiad yr Ymchwiliad Craffu Gwasanaethau Cefnogol Addysg  (ynghlwm).

 

 

*3.10yh – 3.55yh

 

 

 

 

** amcangyfrif o’r amseroedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cynghorydd Alwyn Gruffydd yn cyflwyno’r chwe argymhelliad o’r ymchwiliad craffu gwasanaethau cefnogol addysg.  Diolchwyd i bawb a gyfrannodd i’r ymchwiliad.

 

Penderfynwyd: Derbyn yr argymhellion.