Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem | ||
---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorwyr Menna Baines, Selwyn Griffiths,
Huw Wyn Jones a Keith Jones; Anest Gray Frazer (yr Eglwys yng Nghymru) a David
Healey (Undebau Athrawon). |
|||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o
fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|||
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nododd y Cadeirydd iddi dderbyn cais gan y
Cynghorydd Alwyn Gruffydd i godi mater brys yn ymwneud â thrafnidiaeth. Mynegodd y Cynghorydd Alwyn Gruffydd ei
bryder ei bod yn ymddangos bod plant yn y sir wedi’u cludo ar fysiau heb unrhyw
fath o yswiriant. Eglurodd y Cadeirydd,
ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol, na allai ganiatáu trafod y mater yn y cyfarfod
hwn. Gan hynny, byddai’n codi’r mater yn
y sesiwn anffurfiol gyda’r aelodau yn dilyn y pwyllgor hwn er mwyn gweld a oes
mater i’w graffu. |
|||
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr, 2017 fel rhai cywir (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr, 2017, fel rhai cywir. |
|||
CAIS CYNLLUN TWF AR GYFER GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD CYNNYDD PDF 139 KB Ystyried adroddiad Arweinydd y Cyngor (ynghlwm). *10.10yb– 10.50yb Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad Arweinydd y Cyngor yn
nodi’r cynnydd gyda datblygu Cais y Cynllun Twf ar gyfer Gogledd Cymru ynghyd
ag adnabod rhai materion sydd angen ystyriaeth. Ymhelaethodd yr Arweinydd a’r Cyfarwyddwr ar
gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau. Crynhodd
y Cadeirydd brif gasgliadau’r drafodaeth fel a ganlyn:- ·
Bod
anogaeth i’r holl aelodau fynd i’r gweithdy Cynllun Twf ar y 15fed o Chwefror
er mwyn deall y maes a deall beth yw’r prosiectau, gan hefyd ystyried yr angen
am fwy o sesiynau yn dilyn hynny. ·
Bod
cefnogaeth yn gyffredinol i’r uchelgais o sicrhau twf economaidd ar draws
Gogledd Cymru, ond bod her sylweddol i sicrhau hynny hefyd. ·
Bod
neges glir bod cefnogaeth i’r Cynllun Twf ar gyfer y Canolbarth hefyd, yn
arbennig o safbwynt ardal Meirionnydd, a bod angen sicrhau mewnbwn cryf a
chydweithio gyda’r prosiect hwnnw, a chydweithio gyda Cheredigion a Phowys
hefyd ar yr un amser, gan hefyd gofio pwysigrwydd sicrhau prosiectau ar draws
Gwynedd. ·
Bod
angen sicrhau statws i’r iaith Gymraeg yn y gwaith yma a defnyddio Bwrdd Twf
Gogledd Cymru fel cerbyd i hyrwyddo’r Gymraeg. ·
Bod
neges glir i ddysgu o wersi’r gorffennol a sicrhau bod y defnydd gorau yn cael
ei wneud o adnoddau, ac wrth herio cynlluniau, bod angen herio trylwyr ar y
cynlluniau hynny. ·
Bod
angen datblygu’r elfen herio a chraffu o safbwynt Gwynedd er sicrhau dealltwriaeth
glir o’r trefniadau gan ystyried sut mae aelodau yn mynd i gael mewnbwn yn
gyffredinol i’r prosiectau sydd ar y gweill a’u siapio’n amserol. ·
Y
dylid sicrhau adborth rheolaidd i’r pwyllgor hwn. |
|||
AIL-FODELU'R GWASANAETH IEUENCTID PDF 361 KB Ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant (ynghlwm). *10.50yb – 11.40yb Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Tai,
Hamdden a Diwylliant yn amlinellu’r camau sydd wedi’u cymryd i adnabod yr
opsiwn a ffafrir ar gyfer Ail-fodelu’r Gwasanaeth Ieuenctid ac yn gwahodd
sylwadau’r pwyllgor craffu ar y cynllun er mwyn eu cyflwyno i’r Cabinet ar y
13eg o Fawrth, 2018. Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet a’r swyddogion
ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr
aelodau. Rhoddwyd
cryn sylw yn ystod y drafodaeth i’r ffaith bod y 4 opsiwn a amlinellwyd yn yr
adroddiad yn golygu torri / lleihau’r grant blynyddol a roddir i’r Urdd,
Ffermwyr Ifanc, Y Geidiaid a’r Sgowtiaid, a chefnogi’r mudiadau hynny mewn
ffordd wahanol. Cynigiwyd
ac eiliwyd argymhelliad i beidio torri grant y mudiadau gwirfoddol ar y sail eu
bod yn gwneud gwaith ardderchog yn ein cymunedau. Mewn
ymateb, eglurwyd wrth yr aelodau:- ·
Y byddai argymhelliad o’r fath yn arwain at lawer llai ar gyfer
pobl ifanc Gwynedd gan y byddai’n golygu gofyn i’r Cabinet lunio opsiwn
gwahanol i’r 4 opsiwn a ystyriwyd eisoes, fyddai’n cadw’r elfen o £76,000 ar gyfer y mudiadau
gwirfoddol, ond yn lleihau’r gyllideb ar gyfer gweddill y Gwasanaeth Ieuenctid. ·
Nad oedd nifer o fudiadau gwirfoddol eraill yn y sir, megis
clybiau rygbi, yn derbyn
unrhyw grant o gwbl gan y Cyngor. Pleidleisiwyd
ar y cynnig. Pleidleisiodd 6 aelod o blaid
a 6 aelod yn erbyn. Ni chymerwyd
pleidlais fwrw. Gan nad oedd mwyafrif o
blaid, nid oedd gan y pwyllgor argymhelliad i’w gyflwyno i’r Aelod Cabinet. Crynhodd
y Cadeirydd brif gasgliadau’r drafodaeth fel a ganlyn:- ·
Bod
cydnabyddiaeth bod y sefyllfa yn un anodd iawn i bawb, gan fod y gyllideb
wedi’i thorri eisoes a neb yn hoffi newid.
Fodd bynnag, nid yw aros yr un fath yn opsiwn. ·
Bod
y gwaith craffu wedi dangos bod yna wahaniaeth barn ymhlith aelodau’r pwyllgor
o ran a yw’r opsiwn a ffafrir ar gyfer ail-fodelu’r Gwasanaeth Ieuenctid yn deg
i holl ieuenctid Gwynedd, yn cynnig gwerth am arian, ac yn gynaliadwy i’r
dyfodol, a hynny oherwydd y pryder am effaith y toriad yn y gyllideb ar bobl
ifanc. ·
Bod
nifer yr ymatebion i’r holiadur yn galonogol iawn ac yn dangos bod yna lawer o
ddiddordeb yn y maes. ·
Bod
y pwyllgor yn gefnogol i’r syniad o edrych ar sefydlu clybiau yn y gymuned a
chynorthwyo’r clybiau hynny i sefydlu eu hunain. Hefyd, bod neges gryf gan y pwyllgor i’r Adran
gysylltu â’r cynghorau cymuned i weld sut y gellir eu cynorthwyo i gynnal
gweithgareddau a phrosiectau ar ran y Gwasanaeth Ieuenctid. ·
Bod
pryder ynglŷn â’r effaith ar y bobl ifanc hynny sy’n byw mewn ardaloedd
difrenintiedig, yn benodol o safbwynt cael mynediad at y gwasanaeth, a phryder
hefyd ynglŷn â’r effaith ar yr iaith. |
|||
DARPARIAETH ADDYSG OL-16 PDF 327 KB Ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg (ynghlwm). *11.40yb– 12.25yp Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet
Addysg yn gwahodd sylwadau neu gwestiynau gan aelodau’r pwyllgor craffu ar
friff drafft ar gyfer comisiynu ymgymerwr i gynnal asesiad annibynnol o’r
ddarpariaeth addysg ôl-16 bresennol yng Ngwynedd. Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet a’r swyddogion
ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr
aelodau. ‘Roedd
prif gasgliadau’r drafodaeth fel a ganlyn:- ·
Y dylai’r gwaith o asesu cyfrwng iaith y cyrsiau fynd at wraidd y
sefyllfa, yn hytrach na dibynnu ar y ffigurau y bydd y sefydliadau yn eu
darparu. ·
Bod disgwyl i’r asesiad gymryd i ystyriaeth bod gwaelodlin
perfformiad lefel A yn wahanol i waelodlin perfformiad TGAU. ·
Bod angen i’r asesiad edrych ar y dystiolaeth bod pobl ifanc yn
dewis pynciau sydd ddim yn golygu teithio rhwng safleoedd yn ystod y dydd er
hwylustod iddynt. ·
Cytunwyd
i gyflwyno’r adroddiad ar ganfyddiadau’r gwaith ymchwil i’r pwyllgor hwn ym mis
Medi (yn ddibynnol ar gyflawni’r gwaith o fewn yr amserlen wreiddiol a osodwyd)
er mwyn deall y sefyllfa bresennol cyn adnabod y ffordd ymlaen. |
|||
Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (ynghlwm). *12.25yp – 12.40yp Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad y Cadeirydd yn gofyn
i’r pwyllgor fabwysiadu’r egwyddor o gynnal ymchwiliad i’r maes “effaith
datblygiadau adeiladau newydd ar gyfer ysgolion ar ansawdd addysg” ac adnabod 5
aelod i fod yn rhan o’r ymchwiliad. PENDERFYNWYD (a) Cefnogi’r
egwyddor o gynnal ymchwiliad i’r maes “effaith datblygiadau adeiladau newydd ar
gyfer ysgolion ar ansawdd addysg”. (b) Adnabod
y Cynghorwyr Steve Collings, Cai Larsen a Paul Rowlinson i fod yn rhan o’r
ymchwiliad a chysylltu â holl aelodau’r pwyllgor i weld pwy arall fyddai â
diddordeb. |
|||
BLAENRAGLEN CRAFFU 2017/18 PDF 154 KB Cyflwyno, er gwybodaeth, y blaenraglen craffu, fel mae’n sefyll ar hyn o bryd (ynghlwm). *12.40yp – 12.45yp *amcangyfrif o’r amseroedd Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – y blaenraglen
craffu, fel mae’n sefyll ar hyn o bryd. Derbyniwyd y blaenraglen
gyda’r diweddariadau a nodir mewn print trwm isod:-
|