Rhaglen a chofnodion drafft

Lleoliad: Ystafell 2, Swyddfeydd y Cyngor, Cae Penarlâg, Dolgellau, Gwynedd. LL40 2YB. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lynda Humphreys 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

2.

ETHOL CADEIRYDD

Cofnod:

PENDERFYNWYD Ethol y Cynghorydd Alun Williams (Ceredigion) fel Cadeirydd y Cyd-Bwyllgor am y flwyddyn i ddod.

3.

ETHOL IS-GADEIRYDD

Cofnod:

PENDERFYNWYD Ethol y Cynghorydd John Wynn Jones (Gwynedd) fel Is-Gadeirydd y Cyd-Bwyllgor am y flwyddyn i ddod.

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim

5.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF A MATERION YN CODI pdf eicon PDF 200 KB

Cofnod:

Derbyniwyd y cofnodion fel rhai cywir

 

Materion yn codi

 

i) Asesiadau Ariannol ar gyfer Awdurdodau Partner – Ymhellach i’r cais gan Dilwyn Williams yng nghyfarfod diwethaf y Cyd-bwyllgor ar 29 Ionawr 2015 i ddarparu asesiad ariannol ar gyfer pob Awdurdod Partner o’r newid yn y model ar ôl yr Asiantaeth gan gynnwys trosglwyddo swyddogaethau craidd perthnasol. Ar ôl i LC dderbyn yr achosion busnes ar 27 Awst 2015 a gyflwynwyd gan ACGCC ar 31 Ebrill 2015, darparwyd asesiadau ariannol i AP unigol ar 25 Medi 2015 yn dangos trosiant y swyddogaeth weddilliol ddangosol, cyfraniad at orbenion a gwerth ffioedd.

Mae’r asesiad wedi ystyried y gyllideb waelodlin ddiwygiedig o £37.88M a gadarnhawyd gan LlC ym mis Medi 2015 yn erbyn yr hyn mae’r cyfanswm targed arbedion cost o £7.75M yn awr yn cael ei fesur. Dynododd DRC bod yr asesiad wedi dangos y dylai’r mewnbwn ar gyfer yr unedau gwaith aros fel y bu yn y blynyddoedd blaenorol ond bydd cyfansoddiad gweithgareddau gwaith yn newid yn unol â gofynion manyleb newydd Llawlyfr Rheoli Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru (LlRhCLlC) 2015.

 

6.

ADRODDIAD CYD BWYLLGOR pdf eicon PDF 676 KB

Cofnod:

Rhoddwyd diweddariad gan DRC.

Dyrannu Gwaith i Unedau Darparu Gwasanaeth Awdurdodau Lleol – Adroddodd DRC bod y taliadau terfynol ar gyfer 2014-15, yn amodol ar gytuno ar hawliadau terfynol, yn dangos bod disgwyl i wariant refeniw amcanol ar gyfer 2015-16 fod yn debyg i 2014-15, er bod y lefelau ariannu cyfalaf yn is nag yn y blynyddoedd blaenorol. Roedd hyn yn effeithio ar lwyth gwaith Ymgynghoriaeth AP ac ar gadwyn sector preifat yr Asiant ar gyfer gweithgareddau ymgynghoriaeth ac adeiladu.

Cytundeb Partneriaeth – Er gwaethaf lefelau uchel o ansicrwydd yngl9n â threfniadau Rheoli Cefnffyrdd yng Nghymru yn y dyfodol, adroddodd DRC na fu unrhyw broblemau o ran cyflwyno gwasanaeth parhaus gan yr Awdurdodau Partner ac y cafwyd cydweithio a chymorth da hyd yma wrth weithredu mesurau lleihau cost arfaethedig.

Cofrestr Risg – Dangosodd cofrestr risg gyfredol ACGCC a gyflwynwyd gan DRC y camau parhaus a weithredwyd er mwyn rheoli a lliniaru risgiau i’r Asiant, gyda llawer ohonynt wedi’u cyflwyno ym mis Ebrill i LC.

 

7.

DIWEDDARIAD AR DDATGANIAD Y GWEINIDOG

i)              Llythyr Penderfyniad y Gweinidog

ii)             Adborth o gyfarfod gyda LlC 27/8/15

Cofnod:

Rhoddwyd diweddariad gan DRC.

i) Llythyr Penderfyniad y Gweinidog 11/8/15

Derbyniwyd llythyr yngl9n ag ymateb y Gweinidog i arbedion cost ACGCC a gyflwynwyd i LC ar 31/4/15 ar 11/8/15 ac fe’i hanfonwyd at Awdurdodau Partner ar 18/8/15. Dyma oedd prif bwyntiau’r ymateb:

·           Derbyn yr arbedion arfaethedig a’r achosion busnes cysylltiedig

·           Parhad model cyflwyno presennol y Sector Cyhoeddus yn amodol ar wireddu’r arbedion a nodwyd yn yr hyn a gyflwynwyd gan ACGCC.

Fodd bynnag, roedd y Gweinidog yn awyddus i gyflwyno technoleg newydd ac arloesedd i’n proses o gyflwyno gwasanaeth a chawsom ein herio i gyrraedd targed caeth o £3m o arbedion pellach i’w cyflawni erbyn mis Mawrth 2018.

ii) Adborth o’r Cyfarfod gyda LlC 27/8/15

Darparwyd diweddariad gan DRC a gadarnhaodd bod y cyfarfod yn galonogol ar y cyfan a bod Sheena Hague (Dirprwy Gyfarwyddwr LlC) wedi cadarnhau bod y cyflwyniad gwreiddiol wedi cwrdd â gofynion swyddogion LlC, ac wedi rhagori ar ddisgwyliadau arbedion cost, ond gwrthodwyd y cyflwyniad gan y Gweinidog – a oedd yn esbonio'r gofyn i gyrraedd targed caeth.

Y waelodlin o ran cyflawni’r arbedion pellach yw’r LlRhCLlC 2015 wedi’i gostio’n llawn. Cost amcanol ACGCC ar gyfer y safon ddiwygiedig hon yw £37.9m o’i gymharu â gwariant hanesyddol gydag Awdurdodau Partner o thua £27m. Felly, hyd yn oed gydag arbedion cost o £7.75m, roedd yn debygol y byddai mewnbwn gwaith gydag unedau gwaith Awdurdodau Partner yn cael ei gynnal a’i gynyddu o bosib i ryw raddau drwy ofynion cynyddol LlRhCLlC 2015 oedd yn galonogol.

Datganodd Nigel Brinn (Powys) bod hyn yn newyddion da o ran yr hyn a ddisgwyliwyd. Cydnabuwyd hyn gan y Pwyllgor.

 

8.

NMWTRA SUBMISSION TO WG 31/4/15 pdf eicon PDF 100 KB

i)              Model Trosolwg ACGChC

ii)             Asesu goblygiadau staffio ACGchC

iii)            Cynllun Rhaglennu a Darparu

Cofnod:

Ar ôl i LC dderbyn cyflwyniad 31 Ebrill gan ACGCC, cadarnhaodd DRC bod amcanion cyflwyniad ACGCC i’r Cyd-bwyllgor ar 29 Ionawr wedi’u bodloni oherwydd yr hyn a ganlyn:

·      Byddai’r model fyddai’n cael ei arwain gan y sector cyhoeddus yn cael ei gadw gan LC;

·      Cedwir y cyfraniad at ddepo'r uned waith a gorbenion costau sefydlog cynnal a chadw yn ystod y gaeaf;

·      Cedwir y darbodion maint o gynnal rhwydweithiau Cefnffyrdd a ffyrdd Sirol;

·      Cedwir cyflwyniad gwasanaeth gan yr uned waith a’r ymgynghoriaeth.

 

i)    Trosolwg o newid model ACGCC

Darparwyd trosolwg gan DRC. Y bwriad oedd gweithredu’r model newydd rhwng nawr a mis Mawrth 2015. Byddai’r mwyafrif o’r swyddogaethau craidd a oedd wedi’u caffael yn hanesyddol drwy swyddogaeth y Weinyddiaeth Dechnegol yn trosglwyddo i’r Asiant ym mis Ebrill 2016. Byddai rhai swyddogaethau’r Weinyddiaeth Dechnegol sydd yn weddill yn aros gydag Awdurdodau Partner yn cynnwys swyddogaethau Cyngor ar Reolaeth Ddatblygu, Monitro Signalau Pell a Chanolfan Alw. Byddai’r swyddogaethau archwilio arbenigol a gyflawnir ar hyn o bryd gan unedau ymgynghoriaeth AP hefyd yn cael eu mewnoli yn ACGCC.

 

ii)  Asesu goblygiadau staffio

Adroddodd DRC bod cyfarfodydd manwl yn cael eu cynnal yn unigol gyda phob AP ym mis Medi gyda’r bwriad o nodi nifer y swyddi gyda TUPE a sut i reoli’r staff Cyfwerth ag Amser Llawn (FTE) nad oeddynt yn disgyn o fewn proses TUPE.

 

Ar gyfer trosglwyddiadau nad oeddynt yn TUPE, eglurodd DRC bod yr Asiant yn bwriadu gweithio ar ddull o ddewis grwpiau i’w hystyried ymlaen llaw ar gyfer pob swyddogaeth fyddai’n cael ei throsglwyddo. Felly, bwriedid adnabod y staff fyddai’n cael eu heffeithio, goblygiadau swyddi a llwythi gwaith presennol fyddai’n pennu’r grwpiau i’w hystyried ymlaen llaw. Erbyn canol mis Hydref 2015, bwriedid cytuno ar y grwpiau fyddai’n cael eu hystyried ymlaen llaw a’r grwpiau TUPE gyda phob AP gyda chyfnod trawsnewid rhwng nawr a diwedd y flwyddyn ariannol. Byddai staff yn y grwpiau i’w hystyried ymlaen llaw yn cael eu gwahodd i wneud cais am swyddi gyda’r Asiant yn ystod mis Tachwedd a Rhagfyr. Nododd DRC ei fod yn bwysig fod trefniadau trosglwyddo staff yn cefnogi'r achosion busnes a bod cyfleoedd gwaith yn cael eu cadw cyn belled ag y bo modd.

 

Gallai’r broses hon effeithio ar hyd at 50 swydd ar draws saith AP. Roedd chwe aelod o staff wedi cael eu hasesu fel rhai oedd yn gymwys ar gyfer TUPE gyda’r cydbwysedd o bosib yn disgyn i’r grwpiau fyddai’n cael eu hystyried ymlaen llaw. Roedd yr Asiant mewn trafodaethau gyda phob AP ar hyn o bryd.

 

Codwyd y mater o alwadau/ymholiadau i’r ganolfan alw a cheisiadau am wasanaeth gan Gwyn Morris Jones. Adroddodd DRC y byddai’r Asiant yn defnyddio canolfannau galw pob AP ac yn gwneud cyfraniad er mwyn bodloni costau AP.

 

iii) Cynllun a Rhaglen Gyflawni

 

Cyflwynwyd y proffil a’r amserlen arbedion arfaethedig gan DRC. Dangosodd y rhaglen y byddai'r newidiadau sefydliadol mwyaf arwyddocaol yn digwydd o fis Ebrill 2016 ymlaen. Nododd DRC hefyd bod y mesurau a weithredwyd hyd yma eisoes wedi cynhyrchu arbedion cost  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

CYTUNDEB CYFLAWNI GWASANAETHAU 2016

i)              Cynnal a Chadw ar sail deallusrwydd

ii)             WGMA 2015 gofynion ychwanegol

Cofnod:

i)  Cynnal a chadw’n seiliedig ar wybodaeth

Eglurodd DRC y dull diwygiedig a darluniodd ei weithrediad drwy ddefnyddio system lanhau Gully. Yn hanesyddol, gweithredwyd y system lanhau unwaith y flwyddyn ond oherwydd materion gweithredol a brofwyd, newidiodd ACGCC i gylchoedd dwywaith y flwyddyn. Fodd bynnag, roedd hyn wedi’i adnabod fel gor-ddarpariaeth ar isadeiledd wedi’i adeiladu’n dda felly bwriadwyd dychwelyd yn awr at gylch gwaelodlin unwaith y flwyddyn gydag ail gylch wedi’i dargedu ar adrannau bregus y rhwydwaith gyda’r bwriad o gyflawni’r system gynnal orau posib.

Cyfeiriodd DRC at lythyr a dderbyniwyd gan y Cyng. Bithell yn mynegi ei bryderon ynglŷn â’r newidiadau i’r gweithgareddau cynnal cylchol yn seiliedig ar wybodaeth, yn enwedig y system torri gwellt.

Rhannodd DRC bryderon y Cyng. Bithell ac aelodau’r Pwyllgor. Fodd bynnag, eglurodd DRC bod yr arbedion posib yn arwyddocaol a bod y penderfyniad yn awr yn nwylo LlC a’i fod bellach yn fater i Bolisi LlC.

ii)  Gofynion ychwanegol WGTRMM 2015

Rhoddwyd diweddariad gan DRC a chyfeiriodd at weithgareddau newydd WGTRMM nad oeddynt yn cael eu cynnal ar hyn o bryd. Byddai’r gweithgareddau ychwanegol hyn yn gwneud i fyny am sgôp llai’r gwaith a grëwyd gan y system gynnal yn seiliedig ar wybodaeth.

Y bwriad fyddai cyflwyno’r SDA diwygiedig ym mis Tachwedd. Bwriadwyd i'r Asiant gyfarfod gyda Thîmau Cyflawni pob AP i egluro’r gofynion cyn gweithredu’r newidiadau yn ystod 2016.

 

10.

UFA

Cofnod:

Cytundeb Partneriaeth – Tynnodd Dilwyn Williams sylw’r aelodau at bwysigrwydd diogelu’r Cytundeb Partneriaeth a’r angen i gynnal yr ymdrechion a wnaed gan bob parti hyd yma i sicrhau parhad model cyflawni’r sector cyhoeddus, yn enwedig dros y cyfnod fyddai’n arwain at etholiad 2016 a thu hwnt.

 

11.

DYDDIAD CYFARFOD NESAF

Cofnod:

Cytunodd aelodau y byddai’r Cyd-bwyllgor nesaf yn cyfarfod ym mis Mai 2016. Byddai dyddiadau’n cael eu cylchredeg er mwyn cael cytundeb.