Rhaglen a chofnodion drafft

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

CADEIRYDD

         I ethol Cadeirydd am y cyfarfod hwn

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd W Tudor Owen yn gadeirydd am y cyfarfod.

 

2.

IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd am y cyfarfod hwn          

Cofnod:

PENDERFYNWYD  ethol  y Cynghorydd Stephen Churchman yn is-gadeirydd am y cyfarfod.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnod:

Y Cynghorwyr Glyn Thomas,  Gethin Glyn Williams (Cyngor Gwynedd), Jo Worrall (Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri), Wendy Jones (Cefnogaeth a Gymunedol a Gwirfoddol Conwy), Katherine Owen, Clerc Cyngor Tref Caernarfon, Sharon Warnes (Cadeirydd Bwrdd Pensiwn), Victoria Hallaron (Cartrefi Cymunedol Gwynedd / Bwrdd Pensiwn), a Chyngor Tref Bae Colwyn.

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi

6.

CRONFA BENSIWN pdf eicon PDF 748 KB

Derbyn Adroddiad Blynyddol y Gronfa Bensiwn am 2014/15

Cofnod:

 

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Adroddiad Blynyddol y Cynllun Pensiwn am 2014/15 gan dynnu sylw at daflen wybodaeth am y Gronfa Bensiwn yn crynhoi cefndir y Gronfa a’r prif ffeithiau.

Rhoddwyd sylw penodol i brif faterion yr adroddiad sef:

 

·            Perfformiad Buddsoddi

 

Yn 2014/15, llwyddwyd i sicrhau cynnydd yng ngwerth asedau’r Gronfa o £1.3bn (31/03/2014) i bron £1.5bn (31/03/2015) – cynnydd o £187m yn ystod y flwyddyn. Yn dilyn perfformiad gwell na’r farchnad yn 2013/14, roedd 2014/15 yn flwyddyn gymysg gan y cwmnïau sy’n buddsoddi ar ran y Gronfa Bensiwn.  O ran disgwyliadau buddsoddi (dychweliadau 5.9% y flwyddyn), mae’r dychweliadau hynod galonogol o 12.2% a gafwyd gan y Gronfa am y flwyddyn hon yn adlewyrchu perfformiad gwych gan y farchnad stoc yn gyffredinol.

 

Yn 2014/15, roedd y marchnadoedd yn cynhyrchu perfformiad gwell na’r flwyddyn cynt yn gyffredinol, gydag ecwiti yn perfformio’n dda ac eiddo yn perfformio’n arbennig o dda, er bod ein cronfa ni wedi dioddef yn gymharol o fethu’r dychweliadau annisgwyl o uchel ar fondiau eleni. Cyfeiriwyd at berfformiad rhagorol cwmni Fidelity sy’n buddsoddi mewn ecwiti ar ran y gronfa, a pherfformiad da iawn hefyd gan UBS a Threadneedle wrth fuddsoddi mewn eiddo.  Cyrhaeddodd  sawl cwmni ei meincnod, tra disgwylir dychweliadau gwell yn y tymor canol oddi wrth Veritas a Partners, sydd â marchnadoedd arbenigol.

 

·            Prisiad actiwaraidd teir-blynyddol 31 Mawrth 2016 -

 

Bydd pris uchel bondiau, gyda lefel isel o ddychweliadau ar fondiau, yn cael effaith negyddol ar y gyfradd ddisgowntio, ac yn chwyddo’r amcangyfrif o werth ymrwymiadau pensiwn. Er gwaethaf cynnydd sylweddol iawn yng ngwerth ein hasedau ar y farchnad stoc, bydd hynny wedi’i wrthbwyso gan gynnydd sylweddol mewn ymrwymiadau.  Bydd cyflogwyr yn ymwybodol o’r cynnydd mewn ymrwymiadau, sydd wedi’i gyfrifo yn unol â safonau cyfrifo ryngwladol (FRS17, IAS19, ayb).  Rhoddwyd  “ciplun” o hynny yn ei gyd-destun.

 

-     Yn y Prisiad Actiwaraidd Teir-blynyddol 2013, roedd lefel ariannu y Cynllun yn 85%, ac roedd hynny yn well na’r cyfartaledd 79% ar draws y cyfan o'r CPLlL yng Nghymru a Lloegr, lle mae cronfeydd yn defnyddio amrywiaeth o dybiaethau a methodoleg actiwaraidd.

 

-     Byddai hyn yn gosod Gwynedd yn gyfforddus ar gyfer y cyfnod diffyg ac adfer ar draws yr holl CPLlL, ond nid yw canlyniadau cyhoeddedig y cronfeydd pensiwn ar sail debyg am debyg.  Yn dilyn ymlaen o ryddhau canlyniadau’r prisiant, cynhaliwyd adolygiad manwl gan ein actiwari, Hymans Robertson, ac fe ail-seiliwyd y canlyniadau yma ar un set o dybiaethau. Pan ddatgelwyd y darlun cymharol gywir, roedd sefyllfa ariannol Gwynedd ymysg y deg uchaf o gronfeydd Lloegr a Chymru yn gyffredinol.

 

-     Ar sail gyffredin, mae cyfnod adfer diffyg Cronfa Gwynedd yn wyth mlynedd, y byrraf o holl gronfeydd Cymru, a'r seithfed byrraf o’r holl 88 o gronfeydd y CPLlL.  Mae cyfnodau adfer diffyg cronfeydd eraill Cymru yn amrywio o 11 i 44 mlynedd  felly, mae gennym strategaeth gyllido risg isel a chynllun cyllido cymharol sy’n gredadwy.

 

-     Yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.