skip to main content

Rhaglen a chofnodion drafft

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd am cyfarfod yma yn unig

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Stephen Churchman yn gadeirydd am y cyfarfod.

 

2.

IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd am y cyfarfod yma yn unig

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD  ethol  y Cynghorydd Peredur Jenkins yn is-gadeirydd am y cyfarfod.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Y Cynghorydd Seimon Glyn (Cyngor Gwynedd), Cynghorydd H. Eifion Jones (Cyngor Sir Ynys Môn), Sharon Warnes (Cadeirydd Bwrdd Pensiwn), Victoria Hallaron (Cartrefi Cymunedol Gwynedd / Bwrdd Pensiwn), Caroline Owen (Ysgol Bryn Elian), Kate Jackson (Comisiynydd Heddlu), Jackie Waddicor (Cyngor Tref Biwmares), Fiona Jones (Cyngor Sir Ynys Môn), Ann Coxton  (Cyngor Tref Blaenau Ffestiniog), Kathryn Coughlin (Grŵp Llandrillo Menai), Gwyn Jones (Ysgol Eirias), Angela Middleton-Jones (Grŵp Llandrillo Menai), Emyr Roberts (Parc Cenedlaethol Eryri), David O’Neill (CVSC), Paul McGrady (Cartrefi Cymunedol Gwynedd), Jo Cavill (Gyrfa Cymru), Geraint Owen (Cyngor Gwynedd), Helen Barritt (Cyngor Tref Conwy), Tina Earley, (Cyngor Tref Bae Colwyn), Caren Bryon (Cwmni Gyrfa), June Jeremy (WEA Cymru), Einir Wyn Griffith (Cyngor Gwynedd), Huw Ifor Jones (Conwy), Clifford Everett (Cyngor Tref Caergybi), Delyth Gwyn Williams (Cartrefi Cymunedol Gwynedd), Medrwn Môn a Chyngor Tref Llandudno.

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol

 

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

6.

CRONFA BENSIWN pdf eicon PDF 1 MB

Derbyn Adroddiad Blynyddol y Gronfa Bensiwn am 2015-2016

Cofnod:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Adroddiad Blynyddol y Cynllun Pensiwn am 2015/16.

Rhoddwyd sylw penodol i brif faterion yr adroddiad sef:

 

·                                     Perfformiad Buddsoddi

 

Gwerth asedau:

 

Adroddwyd cynnydd yng ngwerth asedau’r Gronfa o £1,497m (31/03/2015) i £1,525m (31/03/2016) - cynnydd o £28m yn ystod y flwyddyn. Roedd y meincnod perfformiad safonol yn -0.3% ar gyfer 2015/16, ac felly lle i ddiolch i reolwyr y Gronfa am lwyddo i gael +1.3% mewn blwyddyn.

 

Rhwng 1af o Ebrill 2016 a’r 30 Mehefin 2016, nodwyd bod gwerth marchnad y Gronfa wedi codi £58m arall i £1,583m, ond yn dilyn refferendwm y Deyrnas Unedig ar aelodaeth Undeb Ewropeaidd a chanlyniad y bleidlais i adael, gwelwyd effaith uniongyrchol ar werth y bunt a chyfraddau llog y DU. Bu i’r marchnadoedd byd-eang wella ar ôl y gostyngiad gwreiddiol yn dilyn canlyniad y refferendwm, ond anodd oedd rhagweld effaith hir dymor penderfyniad ‘Brexit’ ar Gronfa Bensiwn Gwynedd.

 

Amlygwyd perfformiad rhagorol gan Veritas (buddsoddwyr mewn ecwiti ar ran y Gronfa) ynghŷd â pherfformiad da iawn gan Threadneedle ac UBS (buddsoddwyr mewn eiddo), a dychweliadau eithriadol o dda gan Partners Group yn 2015/16, wrth i fuddsoddiadau Ecwiti Preifat ddwyn ffrwyth, wedi buddsoddiad tymor hir gan y Gronfa  i’r categori yma.

 

·                                     Cyd-fuddsoddi

 

Adroddwyd bod Llywodraeth San Steffan wedi penderfynu  pŵlio buddsoddiadau y CPLlL yn hytrach nac uno cronfeydd.  Golygai hyn bod Cronfa Bensiwn Gwynedd am barhau ar wahân i gronfeydd fel Clwyd, Powys, ayb, ond bydd buddsoddiadau yn cael eu gwneud trwy strwythur cydweithredol. Ategwyd bod yr 8 Cronfa Gymreig eisoes wedi cychwyn cyd-fuddsoddi.

 

Cynhaliwyd ymgynghoriad gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (“DCLG”) yn mynnu cyflwyniadau gan holl gronfeydd Lloegr a Chymru, yn esbonio eu cynlluniau cydweithio a’r arbedion y disgwylid i’w cyflawni. Eglurwyd nad oedd prosiect cydweithio Cymru gyfan (gwerth deuddeg biliwn o bunnoedd) yn cyrraedd gofynion safonol y Trysorlys o ran maint (pump ar hugain biliwn), ond cytunodd y Llywodraeth y dylai’r gwaith cydweithio, barhau.  Nodwyd bod strwythur llywodraethol y pŵl yn cael ei ddylunio, a chyfrifoldebau yn cael eu cytuno, cyn i’r strwythur newydd fod yn weithredol yn 2017.  Y gobaith yw sefydlu cydbwyllgor llywodraethu, gydag un bleidlais arno i bob un o’r 8 Cronfa.

 

Bydd y drefn pŵl yn symud penderfyniadau apwyntio, monitro a therfynu rheolwyr buddsoddi unigol oddi wrth pob Cronfa. Fodd bynnag, bydd Pwyllgor Pensiynau Gwynedd yn parhau yn gyfrifol am y strategaeth fuddsoddi, a’r dyraniad asedau rhwng categorïau ecwiti, eiddo, ayb.  sef y gyrrwr mwyaf arwyddocaol ar ddychweliadau buddsoddi.

 

Cyhoeddwyd bod gwybodaeth pellach am y cynlluniau cyd-fuddsoddi ar gael ar wefan y Gronfa.

 

Sicrhaodd y Cadeirydd bod yr atebolrwydd yn parhau yn lleol sydd yn galluogi i’r Gronfa ymateb i anghenion yr aelodau. Nododd mai'r cam nesaf fydd creu Cyd-Bwyllgor Cysgodol. Hyd yma, ategodd bod yr arwyddion yn galonogol gyda chydweithio buddiol rhwng Cadeiryddion yr 8 Cronfa, ac arbedion sylweddol eisoes wedi eu cyflawni ar y ffioedd am fuddsoddiadau ecwiti goddefol.

 

·                                     Bwrdd Pensiwn

 

Adroddwyd bod cyfansoddiad Bwrdd Pensiwn Cronfa Gwynedd wedi ei sefydlu ym Mawrth 2015 a’r cyfarfod cyntaf wedi  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.