Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Glyder Fawr, Swyddfeydd y Cyngor, Penrallt, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1BN. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Nia Haf Davies  01286 679890

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Sian Wyn Hughes, John Pughe Roberts, Berwyn Parry Jones a Richard O Jones

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad buddiant personol

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 259 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 28.6.17 fel rhai cywir  

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion Pwyllgor a gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2017 fel y rhai cywir.

5.

ADRODDIAD YR AROLYGYDD A DOGFENNAU PERTHYNOL pdf eicon PDF 330 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Cynllunio (Polisi)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cafwyd cyflwyniad bras gan Rhun ap Gareth yn amlinellu'r canlynol:

 

·         Rôl y Pwyllgor mewn derbyn Adroddiad yr Arolygydd

·         Gofynion y broses statudol o ran y broses o baratoi CDLl ar y Cyd

·         Ystyried addasrwydd y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd – Gwynedd a Môn

 

Cafwyd eglurhad gan Nia Davies ar gamau'r broses o ddarparu'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ac ar Adroddiad yr Arolygydd.

 

Cefndir (1 – 6)

·         Angenrheidrwydd o gael Cynllun yn ei le.

·         Esbonio’r broses a ddechreuwyd yn 2011 a’r camau  proses statudol cymhleth i gyrraedd y pwynt yma, sef derbyn Adroddiad yr Arolygydd.

·         Proses cynhwysol - ymgynghori cyhoeddus a chyfnodau cyfranogiad wedi bod drwy gydol y broses.

 

Proses Yr Archwiliad (7- 12)

·         Gwrandawiadau i wahanol themâu

·         Dilyn ‘ Pwyntiau Gweithredu’ a newidiadau

·         Cyflwyno cofrestr Newidiadau Materion sy’n Codi

·         Gwrandawiadau ychwanegol yn cael eu cynnal fel canlyniad i’r uchod

 

Adroddiad yr Arolygydd (13 – 21)

·         Adroddiad yr Arolygydd wedi cael ei dderbyn ar 30 Mehefin, 2017.

·         Neges yr Adroddiad fod y Cynllun yn gadarn ac yn ymateb i’r profion cadernid, ynghyd ac argymhellion o newidiadau mân (Atodiad A & B).

·         Rhaid i’r Cynghorau dderbyn yr Adroddiad yn ei gyfanrwydd gan ei fod yn adroddiad rhwymol. Nid oes posib dewis a dethol rhannau o’r adroddiad yn unig.

 

Gofynion Statudol (22 – 23)

·         Gofyniad statudol Cynghorau dderbyn/dim derbyn y Cynllun o fewn cyfnod 8 wythnos o fod wedi derbyn Adroddiad yr Arolygydd.  Cynhelir y Pwyllgorau yma yng Ngwynedd ar y 28 Gorffennaf 2017 ac ym Môn ar y  31 Gorffennaf 2017.

 

Risgiau a Heriau o beidio cael Cynllun (24 - 32)

·         Fel mae’n sefyll ar hyn o bryd nid oes unrhyw Gynllun yn ei le gan y ddau awdurdod.

·         Gofyniad i gael cynllun i reoli datblygiadau.  Nid oes cyflenwad tir ar gyfer tai gan y ddau awdurdod ar hyn o bryd, felly mae hyn yn codi heriau o apeliadau ar geisiadau cynllunio sydd yn arwain i gostau yn erbyn yr awdurdodau.

·         Nodyn i atgoffa fod pwerau dewisol gan Lywodraeth Cymru i fabwysiadau’r cynllun.

·         Os penderfynwyd mabwysiadau’r Cynllun, mae’r rheolaeth yn hawlio i fudiad/unigolyn (ayyb) i gyflwyno her i’r Llys Uchel am gyfnod hyd at  chwe wythnos o’r dyddiad o benderfynu mabwysiadu’r Cynllun.

 

Gofynion Ychwanegol (33 – 34)

·         Nodwyd y bydd rhaid i’r Cynghorau gyhoeddi datganiad mabwysiadu ac Asesiad Cynaladwyedd.

             

Camau i’w cymryd os fydd y Cynghorau unigol yn penderfynu mabwysiadu’r Cynllun (35-39)

·         Casglu gwybodaeth ac adrodd ar y Fframwaith Fonitro (pennod 7) yn flynyddol ynghyd a pharatoi cyfres o Ganllawiau Cynllunio Atodol (rhestr Atodiad 9 o’r Cynllun).

·         Cynnal Adolygiad o’r Cynllun pedair blynedd ar ôl y dyddiad mabwysiadu.

 

 

Pwyntiau a Godwyd:

                      i.        Diolchwyd am y gwaith oedd wedi cael ei gynnal hyd yma fel rhan o’r broses o baratoi'r Cynllun, fodd bynnag nodwyd pryder ynglŷn â’r orddarpariaeth o dai (8,000 o dai a fyddai’n cyfateb i gynnydd o 20,000 yn y boblogaeth). Nodwyd y rhwystredigaeth yn y ffaith fod y ffigwr hwn yn cael ei orfodi ar y Cynghorau. Er bod yna gost ariannol yn gysylltiedig â pharatoi'r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.