skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Swyddfeydd y Cyngor, Cyngor Mon, Llangefni LL77 7TW. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rebeca Jones  01286 679890

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Y Cynghorwyr Richard Owain Jones (CSYM), Robin Williams (CSYM), John Brynmor Hughes (CG), Gareth Roberts (CG) a John Pughe Roberts (CG).

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 114 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 14 Mehefin 2019, fel rhai cywir.

 

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 14 Mehefin 2019 fel rhai cywir.

5.

CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL (CCA) I’W MABWYSIADU: CYNNAL A CHREU CYMUNEDAU NODEDIG A CHYNALIADWY pdf eicon PDF 80 KB

Cyflwyno adroddiad gan Bob Thomas (Arweinydd Tîm) Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddwyd trosolwg o beth yw pwrpas Canllawiau Cynllunio Atodol gan nodi mae ei brif bwrpas ydi bod o gymorth i ymgeiswyr wrth gyflwyno a pharatoi ceisiadau cynllunio ynghyd a bod o gymorth i’r sawl fydd yn gwneud y penderfyniad ar y cais, boed hynny’n Swyddogion, Cynghorwyr neu yn Arolygydd annibynnol.

 

Yng nghyswllt y CCA dan sylw nodwyd fod yna gyfnod ymgynghori cyhoeddus wedi cymryd lle rhwng Rhagfyr 2018 ac Ionawr 2019. Yn ogystal â hynny mae’r Canllaw wedi bod trwy broses craffu yn y ddau Gyngor ac wedi bod yn destun gwerthusiad beirniadol annibynnol gan arbenigwyr o fewn y maes Cynllunio Iaith.

 

Yn sgil y broses Craffu fe dderbyniwyd adborth gan Bwyllgor Craffu Cymunedau Gwynedd ynghyd a Phwyllgor Sgriwtini Môn, mae’r tabl a gynhwysir ym mharagraff 4.2 ac 4.3 (yn ôl eu trefn) yn cofnodi’r ymateb yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd i’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Yn ystod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus, dderbyniwyd 88 sylw unigol (rhain i’w gweld yn Atodiad 1b o’r adroddiad). Nodwyd fod rhan fwyaf o’r sylwadau yn rhai adeiladol a bod yna gynnig o fan ddiwygiad i gynnwys y Canllaw yn aml yn cael ei gynnig yn sgil sylw a dderbyniwyd. Ble nad oes yna argymhelliad i ddiwygio’r Canllaw yn sgil y sylw, mae yna nodyn o eglurhad/rheswm yn cael ei nodi dros y penderfyniad hynny. Yn aml mae’r rheswm hynny’n ymwneud a’r ffaith fod y mater a gyfeirir ato o fewn y sylw wedi ei gynnwys mewn rhan arall o’r Canllaw. 

 

Nodwyd fod yna gopi cyflawn o’r Canllaw wedi ei gynnwys yn Atodiad 2, sydd wedi ymgorffori’r newidiadau a awgrymwyd yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Materion a godwyd:

 

      Oes yna ymateb i’r farn gyfreithiol a dderbyniwyd ar ran Cymdeithas yr Iaith.

      Gofynnwyd am eglurder o ran pryd fyddai angen Asesiad/Datganiad (beth yw’r trothwyon). Cyfeiriwyd at y tabl a gynhwysir ym Mhara 4.2 o’r Canllaw a’r cwestiwn sydd wedi cael ei godi gan Bwyllgor Craffu Cymunedau Cyngor Gwynedd sydd yn ymwneud a’r un mater.

      Holwyd sut mae’r trothwyon o ran pryd gofynnir i ymgeisydd gyflwyno Datganiad/Asesiad yn cymharu hefo’r gofynion presennol (hynny yw'r gofynion sydd wedi ei osod allan yng Nghanllaw Cynllunio Atodol Cyngor Gwynedd sydd yn ymwneud a Chynllunio a’r Iaith Gymraeg).

      Gofynnwyd a oes yna unrhyw enghreifftiau o ddatblygiadau penodol ble na fyddai ystyriaeth yn cael ei roi i’r effaith ar yr iaith Gymraeg. Oes yna rhai mathau o geisiadau a fyddai’n gallu llithro drwy’r rhwyd.

      Holwyd ynglŷn â statwsCanllawiau Cynllunio Atodolgan maecanllawiauyn unig ydynt. A oes yna unrhyw arweiniad wedi ei gynnwys o fewn y Canllaw o ran beth fyddai’r goblygiadau pe fyddai’r ymgeisydd ddim yn cydymffurfio hefo’r Canllawiau hyn.

      Nodwyd y ffaith fod yna broses craffu ac ymgynghori hirfaith wedi bod wrth baratoi'r Canllaw,  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.