skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Glyder Fawr, Council Offices, Penrallt, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1BN

Cyswllt: Nia Haf Davies  01286 679890

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyn ymddiheuriadau gan  Cyng. Robin Williams (CSYM), Cyng. Richard Owain Jones (CSYM), Cyng. Nicola Roberts (CSYM), Cyng. Bryan Owen (CSYM), Cyng. John Griffith (CSYM), Cyng. John Pughe Roberts (CG), Cyng. John Brynmor Hughes (CG)

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

 

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys

4.

COFNODION pdf eicon PDF 486 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 26.10.18 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion Pwyllgor a gynhaliwyd ar 26 Hydref 2018 fel y rhai cywir.

5.

CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL: CYNNAL A CHREU CYMUNEDAU NODEDIG A CHYNALIADWY – DRAFFT YMGYNGHOROL DIWYGIEDIG pdf eicon PDF 397 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Cynllunio

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd Nia Haf Davies yr adroddiad a’r atodiadau, a oedd yn cynnwys fersiwn drafft ymgynghorol diwygiedig o’r Canllaw Cynllunio Atodol (drafft ymgynghorol) ‘Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig’. Nododd bod penderfyniad y Pwyllgor hwn ym mis Ebrill wedi arwain at benodi partneriaeth i ymgymryd â gwerthusiad beirniadol o’r Canllaw drafft ymgynghorol. Tynnodd sylw at gymwysterau a phrofiad y ddau gwmni, gan nodi bod Owain Wyn (Burum) yn bresennol i sȏn am y gwaith (Atodiad 1) ac i ateb cwestiynau. Tynnodd Nia sylw at y math o newidiadau a fyddai eu hangen er mwyn gallu gweithredu ar argymhellion Burum a Chwmni Iaith. Dywedodd bod yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd a’r Gwasanaethau Cynllunio yn gwbl gefnogol i argymhellion y cwmnïau a’r newidiadau. Wrth fynd trwy Atodiad 3, tynnodd sylw at y prif newidiadau a oedd yn gwella llif y ddogfen a rhoi mwy o eglurder am ddisgwyliadau yn gysylltiedig â’r broses o roi ystyriaeth i’r iaith Gymraeg o’r cam sgrinio i’r cam gwneud penderfyniad.

 

Tynnodd Owain Wyn sylw’r Pwyllgor at y canlynol:

 

i. Eu bod wedi addasu profion a fyddai arolygwyr cynllunio’n defnyddio i asesu

cadernid cynllun datblygu;

 

ii. Eu bod wedi adnabod gwelliannau a fyddai’n golygu bod yr asesiadau ieithyddol yn

fwy tebyg i ffurfiau eraill o asesiadau (amgylcheddol a busnes) a oedd yn edrych ar

risg (nid perygl), tebygolrwydd y risg, a pha mor ddifrifol ydi’r risg;

 

iii. Mai asesiadau ieithyddol a oedd eu hangen ar gyfer Datganiad ac adroddiad Asesiad Effaith;

 

iv. Bod yr angen i ymgymryd ag ymgynghoriad cyhoeddus cyn cyflwyno cais cynllunio ar gyfer datblygiadau ‘mawr’ yn gam pwysig oherwydd mae’n golygu byddai’n rhoi cyfle

clir i ymgeiswyr ar gyfer y math hwn o ddatblygiad i ymgysylltu gyda chymunedau ac

eraill cyn cyflwyno cais cynllunio ynglŷn â natur y datblygiad a’i effaith ar gymunedau,

gan gynnwys yr iaith Gymraeg;

 

v. Bod y matrics effaith yn ddull gweladwy o ddod i gasgliad am effaith y datblygiad;

 

vi. Bydd mwy o asesiadau yn fodd o ddatblygu sail dystiolaeth a dealltwriaeth am y maes.

 

Atgoffwyd y Pwyllgor bod craffu’r Canllaw yn digwydd yn gynharach yng Ngwynedd nag yn Ynys Môn. Tynnodd sylw at adroddiad Cadeirydd y Gweithgor Ymchwiliad Craffu Cymunedau (Atodiad 2 a 2a), a oedd yn cyfeirio at adborth a gafwyd yn ystod cyfnod ymgysylltu anffurfiol yn 2016 ynglŷn â chynnwys Canllawiau am ddatblygu a’r iaith Gymraeg sy’n bodoli yn y 2 Sir ar hyn o bryd. Nododd bod y Gweithgor wedi gofyn am ymateb cryno i’r materion a godwyd bryd hynny. Cyfeiriodd at yr ymateb drafft yng ngholofn C a cholofn Ch fel man cychwyn, a bod cyfle i’r Pwyllgor holi neu wneud sylwadau am yr ymateb cyn iddo gael ei gyfeirio at y Gweithgor.

 

Cyfeiriwyd at yr argymhellion ac wrth wneud hynny cyfeiriodd at Atodiad 4, a oedd yn rhoi gwybodaeth am y drefn ymgynghori gyhoeddus, yn ogystal â’r amserlen arfaethedig ar gyfer camau nesaf y broses.

 

Materion a godwyd:

i. Derbyniwyd sylw am y term ‘Cynnal a Chreu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL: TAI FFORDDIADWY – DRAFFT YMGYNGHOROL pdf eicon PDF 599 KB

Cyflwyno adroddiad gan Arweinydd Tim Polisi Cynllunio

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwyniad gan Bob Thomas yn amlygu rôl y Canllawiau Cynllunio Atodol ac yn esbonio’r camau sydd wedi cael eu gymryd hyd yma fel rhan o’r gwaith o baratoi'r Canllaw dan sylw. Nodwyd fod y Canllaw ar ei ffurf drafft eisoes wedi bod o flaen y Panel yn ystod mis Gorffennaf eleni. Amlygwyd y newidiadau sydd wedi cael eu gwneud i’r Canllaw yn sgil y mewnbwn a dderbyniwyd yn ystod cyfarfod y Panel ac yn sgil trafodaethau mewnol sydd wedi digwydd ers hynny.

 

Materion a godwyd:

·         Beth yn union ydi’r diffiniad o dŷ fforddiadwy

 

Ymateb:

·         Diffiniad o ran beth a ystyrir i fod yn dŷ fforddiadwy wedi ei gynnwys mewn Arweiniad Polisi Cynllunio Cenedlaethol. Ystyriaethau gwahanol ar gyfer gwahanol ardaloedd. Fforddiadwyedd yn cael ei ystyried fel 3.5 gwaith incwm yr uned breswyl. O ran yr angen ystyried pa unigolion sydd wedi cael ei restru a’u hasesu ar gofrestr Tai Teg.

 

Penderfyniad

Penderfynwyd rhyddhau’r Canllaw Cynllunio Atodol: Tai Fforddiadwy am gyfnod ymgynghori cyhoeddus.