Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Swyddfeydd y Cyngor, Cyngor Mon, Llangefni LL77 7TW. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Nia Haf Davies  01286 679890

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnod:

 

Cyng. Richard Dew (CSYM)

Cyng. Dafydd Meurig (CG)

Cyng. Bryan Owen (CSYM)

Cyng. John Pughe Roberts (CG)

Cyng. Nicola Roberts (CSYM)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

Cofnod:

 

 Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys

4.

COFNODION pdf eicon PDF 493 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion o’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd, a gynhaliwyd ar 21 Medi, 2018, fel rhai cywir.

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion Pwyllgor a gynhaliwyd ar 21 Medi 2018 fel y rhai cywir.

5.

CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL: CYMYSGEDD TAI – DRAFFT TERFYNOL pdf eicon PDF 368 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Cynllunio (Polisi)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwyniad gan Nia Haf Davies yn rhoi gwybodaeth am yr ymgynghoriad cyhoeddus am y Canllaw ac yn amlygu’r sylwadau a dderbyniwyd, ymateb y swyddogion i’r sylwadau yma a’r newidiadau i’r Canllaw yn sgil yr ymgynghoriad cyhoeddus. Nid oedd unrhyw sylw a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus yn arwain at newid arwyddocaol i’r Canllaw drafft. ‘Roedd y copi o'r Canllaw a oedd yn Atodiad 2 yn cynnwys y newidiadau angenrheidiol yn sgil yr ymgynghori. Ar ôl ei fabwysiadu bydd y Canllaw yn ystyriaeth cynllunio berthnasol.

 

Eglurodd Nia fod Canllaw yn disgyn i mewn i gategori o gynlluniau a rhaglenni a fyddai’n cyfrannu i’r broses o wneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio. Penderfynwyd mynd drwy broses sgrinio i benderfynu ai peidio os dylai’r Canllaw fod yn destun Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS) yn unol â Chyfarwyddeb Ewropeaidd 2001/42/EC a’r Asesiad Amgylcheddol o Gynlluniau cysylltiedig ac yn destun Asesiad Priodol o dan Reoliadau Cynefinoedd 2004. Oherwydd bod y Canllaw yn cefnogi polisïau a fuodd yn destun ASS a bod y Cynllun wedi ei hasesu o dan y Rheoliadau Cynefinoedd, y casgliad oedd nad oedd angen i’r Canllaw fod yn destun gwaith pellach. Cafodd yr asesiad sgrinio hwn ei gadarnhau gan y cyrff amgylcheddol penodol. Caiff adroddiad sgrinio ei gyhoeddi.

Gofynnwyd i’r Pwyllgor benderfynu mabwysiadu’r Canllaw.

 

Materion a godwyd:

·         Paragraff 4.5 - bod pris canolrif tai yn llai na phris tai fforddiadwy yn Llanengan.

·          Paragraff 1.6 - cyfeiriwyd at sylw a dderbyniwyd gan Bwyllgor Ymgyrch Tai Lleol - sut oedd hi’n bosib i’r Awdurdodau ganiatáu datblygiadau sydd ddim yn darparu tai fforddiadwy fel rhan o'r datblygiad?

 

Ymateb:

 

·         Nodi’r pwynt ac mae’r sylw yn ffeithiol gywir. Pwrpas y tabl oedd rhoi trosolwg o’r sefyllfa ar lefel Sirol. Mae’n dangos fod fforddiadwyedd, sef y gwahaniaeth rhwng prisiau tai ac incwm ac felly’n tynnu sylw at bwysigrwydd hyrwyddo tai fforddiadwy yn ardal y cynllun.

·         Mae’r rhan yma o’r Canllaw yn glir yn dweud mai dim ond mewn eithriadau bydd cefnogaeth i’r math yma o ddatblygiadau. Mae polisïau tai fforddiadwy’r Cynllun yn glir mai cael tai fforddiadwy ydi’r man cychwyn a bydd rhaid cael tystiolaeth gan y ddatblygwyr ar ffurf asesiad hyfywdra i gyfiawnhau dull arall o ddatblygu safleoedd. Gallai’r dull amgen olygu derbyn cyfraniad ariannol gan ddatblygwyr. Cyfeiriwyd at Ganllaw Tai Fforddiadwy sydd wrthi’n cael ei baratoi, a fydd yn rhoi mwy o fanylion am y disgwyliadau o ran darparu tystiolaeth. Rôl y Canllaw hwn ydi rhoi arweiniad ynglyn â’r disgwyliadau yn gysylltiedig â chael cymysgedd o dai – math, maint a safon.

 

Penderfyniad:

 

Penderfynwyd mabwysiadu’r Canllaw Cynllunio Atodol: Cymysgedd Tai.

6.

CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL: ATYNIADAU A LLETY I DWRISTIAID – YR ADRODDIAD YMGYNGHORI pdf eicon PDF 351 KB

Cyflwyno adroddiad gan Uwch Swyddog Polisi Cynllunio

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwyniad gan Linda Lee a oedd yn amlygu’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus ar gyfer y CCA drafft hwn. Cyflwynwyd tabl a oedd yn rhan o’r adroddiad ymgynghori (Atodiad 1) a oedd yn nodi’r sylwadau hyn ynghyd ag ymateb ac argymhelliad y Swyddogion ar eu cyfer.

Fe nodwyd bod sylwadau wedi amlygu’r angen am newidiadau bach a dau newid mwy arwyddocaol i’r CCA sef:

 

·         Sut dylid diffinio ‘gormodedd’ o lety gwyliau mewn ardal? Nodwyd bod rhai ymatebion yn gofyn am roddi ffigwr neu ganran penodol o ran hyn. Mae’r sefyllfa yn wahanol ar draws ardal y Cynllun ac nad oes modd felly rhoi un ffigwr fel trothwy a fyddai’n berthnasol i bobman o fewn ardal y Cynllun. Awgrymwyd mai’r ffordd orau ymlaen fyddai amlygu ystyriaethau penodol a fyddai’n sefydlu’r amgylchiadau hynny pryd mae digon o lety gwyliau gwasanaeth neu hunan- wasanaeth mewn ardal a lle byddai ychwanegu atynt yn broblemus.

·         Mae angen mwy o wybodaeth ac arweiniad yn y CCA o ran sut i ymdrin â cheisiadau i newid gwestai i ddefnydd preswyl. Mae Polisi yn y CDLl ar y Cyd yn gwarchod gwestai ond mae angen darparu rhagor o wybodaeth ar ei gyfer. Awgrymwyd mai’r ffordd orau ydi cynnwys rhan newydd yn CCA i egluro’r dystiolaeth a fyddai’n rhaid ei gyflwyno er mwyn profi fod y gwesty ddim bellach yn hyfyw.

 

Gofynnwyd am gefnogaeth i’r ymatebion arfaethedig a’r hawl i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus am y ddau newid a ddisgrifiwyd uchod ac yn rhes 1 a 2 yn yr adroddiad ymgynghoriad cyhoeddus

 

Materion a godwyd:

 

·         Wrth ddelio gyda cheisiadau cynllunio am lety gwyliau hunan- wasanaeth a ddylid cynnwys pob math o lety gwyliau, gan gynnwys tai haf, yn yr hafaliad ar gyfer asesu os oes gormodedd yn yr ardal?

·          Cafwyd dwy farn wahanol am yr angen neu beidio i geisio cadw gwestai: (i) ‘roedd mynd ar wyliau yn boblogaidd iawn yn oes Fictoria ond oherwydd newidiadau yn nyheadau ymwelwyr, amlder cyfnodau gwyliau a chyfnodau gwyliau yn y wlad yma nid yw aros mewn gwesty mor boblogaidd ac mae llawer o westai yn cau. Mae’n anodd meddwl sut gellir atal hyn; (ii) mae rhai ymwelwyr dal yn hoffi mynd i aros mewn gwestai o safon dda.

 

Ymateb:

·         Nodi’r sylw bod sawl math o lety yn ardal y Cynllun ar gyfer yr ymwelwyr, - tai haf (pan mae eu perchnogion yn dod i aros ynddynt ar wahanol adegau’r flwyddyn); tai gwyliau (pan mae eu perchnogion yn eu gosod allan i wahanol ymwelwyr ar adegau yn y flwyddyn neu trwy gydol y flwyddyn; gwestai; carafanau a mathau tebyg o lefydd aros. Mae Polisi TWR 2: Llety Gwyliau yn y CDLl ar y Cyd ond yn delio gyda llety â gwasanaeth a llety hunan- wasanaeth. Mae Polisïau eraill yn bodoli yn y Cynllun yn barod i reoli lleoliad mathau o lety sydd angen caniatâd cynllunio ar eu cyfer, sef y polisïau sydd yn ymwneud â charafanau a llety gwyliau amgen, er mwyn osgoi niwed i gymunedau. Mae Polisi  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.