skip to main content

Rhaglen a chofnodion drafft

Lleoliad: Ystafell Glyder Fawr, Swyddfeydd y Cyngor, Penrallt, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1BN. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Nia Haf Davies 01286 679 890  E-bost: niahafdavies@gwynedd.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd am 2015/16

Cofnod:

Cafodd Cyng Dafydd Meurig ei ethol fel Cadeirydd y Pwyllgor a Phanel CDLl ar y Cyd am y cyfnod 2015 – 2016

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd am 2015/16

Cofnod:

Cafodd Cyng Richard Dew ei ethol fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor a Phanel CDLl ar y Cyd am y cyfnod 2015 - 2016.

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. John Arwel Roberts (CSYM) a’r

Cyng. Nicola Roberts (CSYM)

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. 

Cofnod:

Dim

5.

MATERION BRYS

 

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim

6.

COFNODION pdf eicon PDF 302 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr 2014 fel rhai cywir.

Cofnod:

Derbyniwyd Cofnodion Pwyllgor 18 Rhagfyr 2014 fel y rhai cywir a chafwyd eu harwyddo gan y Cadeirydd.

7.

DATGANIAD LLYWODRAETHU AR GYFER Y PWYLLGOR POLISI CYNLLUNIO AR Y CYD pdf eicon PDF 176 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Adran Rheoleiddio Dros Dro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Gareth Jones oedd yn cynnwys y Datganiad Llywodraethu ar gyfer y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd. Mae’n ofyniad statudol bellach bod datganiadau o’r math yma’n cael eu paratoi. Eglurwyd bod gofynion y Rheoliadau wedi newid ers y llynedd. Golyga hyn na fydd angen cyflwyno’r Datganiad i’r Pwyllgor eto yn ystod 2015 – 16, oni bai bod Swyddfa Archwilio Cymru yn argymell newidiadau iddo.Cafodd y Datganiad ei arwyddo gan y Cadeirydd ar ran y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd.

8.

CYFRIFON TERFYNNOL Y PWYLLGOR POLISI CYNLLUNIO AR Y CYD (hyd diwedd Mawrth 2015) pdf eicon PDF 52 KB

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Reolwr Cyllid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan W E Jones oedd yn ymateb i ofyniad statudol o dan Adran 12 o Ddeddf Archwilio Gyhoeddus (Cymru) 2004 i adrodd yn benodol am gyfrifo ac archwilio cyfrifon Pwyllgorau ar y Cyd. Eglurwyd fod angen cwblhau ffurflenni swyddogol ar gyfer Swyddfa Archwilio Cymru a byddai’r ffurflenni’n destun archwiliad ar wahân. Cyflwynwyd copi o’r ffurflenni yn Atodiad A & B. Bydd yr Archwilydd Penodedig yn archwilio’r wybodaeth. Esboniwyd i’r Pwyllgor nad oes angen ail-gyflwyno’r adroddiad i’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd ym mis Medi 2015 (cyn iddo gael ei ardystio gan yr Archwiliwr) oherwydd newid yn y drefn, oni bai bydd angen tynnu sylw’r Pwyllgor at newidiadau argymhellir gan yr Archwilydd Penodedig.

Pwyntiau a Godwyd:

·         Cafwyd ymholiad ynglŷn a gorwario a thanwario ar wahanol elfennau, gan holi os oedd yna gyfleoedd i arbed arian yn ystod 2015 – 2016.

·         Esboniwyd bod gwaith yn cael ei wneud ar ddechrau pob blwyddyn ariannol er mwyn ceisio rhagweld beth fyddai’r gwariant yn ystod y flwyddyn honno. Mae hynny’n seiliedig ar wybodaeth sydd ar gael am wneud gwaith tebyg o’r blaen a ffactorau eraill. Mae llwyddiant yr Uned i allu ymgymryd â gwaith ei hun yn hytrach na chomisiynu gwaith yn enghraifft o ffactor sydd yn golygu bod llai o arian wedi cael ei wario na ragwelwyd yn ystod 2014 - 2015.

·         Esboniwyd fod costau helaeth i ddod cyn gellir symud y Cynllun ymlaen i’r cam mabwysiadu, h.y. costau’n gysylltiedig â’r archwiliad cyhoeddus.

 

Fe gafodd y datganiad ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd a’i arwyddo ar ran y Pwyllgor gan y Cadeirydd.