Lleoliad: Ystafell Glyder Fawr, Swyddfeydd y Cyngor, Penrallt, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1BN. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Nia Haf Davies 01286 679890
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Sian Wyn Hughes, John Pughe Roberts, Berwyn Parry Jones a Richard O Jones |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad buddiant personol |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 28.6.17 fel rhai cywir Cofnod: Derbyniwyd cofnodion Pwyllgor a gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2017 fel y rhai cywir. |
|
ADRODDIAD YR AROLYGYDD A DOGFENNAU PERTHYNOL PDF 330 KB Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Cynllunio (Polisi) Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cafwyd
cyflwyniad bras gan Rhun ap Gareth yn amlinellu'r canlynol: ·
Rôl y
Pwyllgor mewn derbyn Adroddiad yr Arolygydd ·
Gofynion
y broses statudol o ran y broses o baratoi CDLl ar y Cyd ·
Ystyried
addasrwydd y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd – Gwynedd a Môn Cafwyd eglurhad gan
Nia Davies ar gamau'r broses o ddarparu'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ac ar
Adroddiad yr Arolygydd. Cefndir (1 – 6) ·
Angenrheidrwydd
o gael Cynllun yn ei le. ·
Esbonio’r broses a ddechreuwyd yn 2011 a’r camau proses statudol cymhleth i gyrraedd y pwynt
yma, sef derbyn Adroddiad yr Arolygydd. ·
Proses cynhwysol - ymgynghori cyhoeddus a chyfnodau
cyfranogiad wedi bod drwy gydol y broses. Proses Yr Archwiliad (7- 12) ·
Gwrandawiadau
i wahanol themâu ·
Dilyn ‘ Pwyntiau Gweithredu’ a newidiadau ·
Cyflwyno
cofrestr Newidiadau Materion sy’n Codi ·
Gwrandawiadau
ychwanegol yn cael eu cynnal fel canlyniad i’r uchod Adroddiad yr Arolygydd (13 – 21) ·
Adroddiad
yr Arolygydd wedi cael ei dderbyn ar 30 Mehefin, 2017. ·
Neges yr Adroddiad fod y Cynllun yn gadarn ac yn ymateb
i’r profion cadernid, ynghyd ac argymhellion o newidiadau mân (Atodiad A &
B). ·
Rhaid i’r Cynghorau dderbyn yr Adroddiad yn ei gyfanrwydd
gan ei fod yn adroddiad rhwymol. Nid oes posib dewis a dethol rhannau o’r
adroddiad yn unig. Gofynion Statudol (22 – 23) ·
Gofyniad
statudol Cynghorau dderbyn/dim derbyn y Cynllun o fewn cyfnod 8 wythnos o fod
wedi derbyn Adroddiad yr Arolygydd.
Cynhelir y Pwyllgorau yma yng Ngwynedd ar y 28 Gorffennaf 2017 ac ym Môn
ar y 31 Gorffennaf 2017. Risgiau a Heriau o
beidio cael Cynllun (24 - 32) ·
Fel
mae’n sefyll ar hyn o bryd nid oes unrhyw Gynllun yn ei le gan y ddau awdurdod. ·
Gofyniad i gael cynllun i reoli datblygiadau. Nid oes cyflenwad tir ar gyfer tai gan y ddau
awdurdod ar hyn o bryd, felly mae hyn yn codi heriau o apeliadau ar geisiadau
cynllunio sydd yn arwain i gostau yn erbyn yr awdurdodau. ·
Nodyn i atgoffa fod pwerau dewisol gan Lywodraeth Cymru i
fabwysiadau’r cynllun. ·
Os penderfynwyd mabwysiadau’r Cynllun, mae’r rheolaeth yn
hawlio i fudiad/unigolyn (ayyb) i gyflwyno her i’r Llys Uchel am gyfnod hyd
at chwe wythnos o’r dyddiad o benderfynu
mabwysiadu’r Cynllun. Gofynion Ychwanegol (33 – 34) ·
Nodwyd
y bydd rhaid i’r Cynghorau gyhoeddi datganiad mabwysiadu ac Asesiad
Cynaladwyedd. Camau i’w cymryd os fydd y Cynghorau
unigol yn penderfynu mabwysiadu’r Cynllun (35-39) ·
Casglu
gwybodaeth ac adrodd ar y Fframwaith Fonitro (pennod 7) yn flynyddol ynghyd a
pharatoi cyfres o Ganllawiau Cynllunio Atodol (rhestr Atodiad 9 o’r Cynllun). ·
Cynnal Adolygiad o’r Cynllun pedair blynedd ar ôl y
dyddiad mabwysiadu. Pwyntiau a Godwyd: i. Diolchwyd am y gwaith oedd wedi cael ei gynnal hyd yma fel rhan o’r broses o baratoi'r Cynllun, fodd bynnag nodwyd pryder ynglŷn â’r orddarpariaeth o dai (8,000 o dai a fyddai’n cyfateb i gynnydd o 20,000 yn y boblogaeth). Nodwyd y rhwystredigaeth yn y ffaith fod y ffigwr hwn yn cael ei orfodi ar y Cynghorau. Er bod yna gost ariannol yn gysylltiedig â pharatoi'r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |