skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: YSTAFELL BWYLLGOR 1, SWYDDFEYDD CYNGOR SIR YNYS MÔN, LLANGEFNI

Cyswllt: Nia Haf Davies  01286 679890

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd am 2017/18

Cofnod:

Cafodd Cyng. Richard Dew ei ethol fel Cadeirydd y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd am y cyfnod 2017 - 2018.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd am 2017/18

Cofnod:

Cafodd Cyng. Dafydd Meurig ei ethol fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd am y cyfnod 2017 - 2018

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd John Brynmor Hughes, John Pughe Roberts (CG), Robin Williams a Nicola Roberts (GSYM)

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad buddiant personol.

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys. 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 124 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 24.6.16 fel rhai cywir   . 

 

Cofnod:

Derbyniwyd Cofnodion Pwyllgor 26 Mehefin 2016 fel y rhai cywir ac fe wnaeth y Cadeirydd eu harwyddo.

 

7.

CYFRIFON TERFYNOL A DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL AR GYFER PWYLLGOR POLISI CYNLLUNIO AR Y CYD pdf eicon PDF 529 KB

I ystyried adroddiad yr Uwch Reolwr Cyllid

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Ffion Madog Evans  a oedd yn ymateb i ofyniad statudol o dan Adran 12 o Ddeddf Archwilio Gyhoeddus (Cymru) 2004 i adrodd yn benodol am gyfrifo ac archwilio cyfrifon Pwyllgorau ar y Cyd.

Eglurwyd fod angen cwblhau ffurflenni swyddogol ar gyfer Swyddfa Archwilio Cymru a byddai’r ffurflenni’n destun archwiliad ar wahân.

Cyflwynwyd copi o’r ffurflenni yn Atodiad A & B. Bydd yr Archwilydd Penodedig, sef Deloitte, (archwilwyr allanol a benodwyd gan Gyngor Gwynedd) yn archwilio’r wybodaeth. Esboniwyd  i’r Pwyllgor nad oes angen ail-gyflwyno’r adroddiad i’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd ym mis Medi 2017 (cyn iddo gael ei ardystio gan yr Archwiliwr) oni bai bydd angen tynnu sylw’r Pwyllgor at newidiadau argymhellir gan yr Archwilydd Penodedig. 

Materion a godwyd:

                      i.        Beth oedd cyfanswm y gost o baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd – nid oedd y manylion penodol gan y swyddogion. Er hynny, cyfeiriwyd at adroddiadau a gyflwynwyd yn flaenorol a oedd yn cyfeirio at y costau. Nodwyd bod cyfanswm y gost heb gynnwys costau staff oddeutu £1,000,000 a rannwyd rhwng y ddau Gyngor.

                     ii.        Cyfeiriwyd at y ffaith bod llai o arian wedi ei wario ar elfennau fel yr Archwiliad Cyhoeddus ac argraffu. Nodwyd mai’r rheswm am hynny oedd nad ydi’r broses wedi dod i ben yn llwyr eto. Mewn ymateb i gwestiwn ynglyn ag cyllid ar gyfer cwblhau’r broses yn ystod 2017 – 2018, derbyniwyd cadarnhad bod costau cwblhau’r broses wedi cael ei gynnwys ym mhroffil gwariant 2017 – 2018.

                    iii.        Holwyd beth oedd cynnwys y ffigwr gwariant ‘Costau Staffio Eraill’?  Esboniwyd fod y gwariant yma yn costau diswyddiad.

Fe gafodd y dogfennau perthnasol eu harwyddo gan y Cadeirydd ar ran Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd.

 

8.

CYLCH GORCHWYL PWYLLGOR POLISI CYNLLUNIO AR Y CYD pdf eicon PDF 199 KB

I ystyried adroddiad y Rheolwr Cynllunio (Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd - Gwynedd a Môn)

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd darnau allan o’r Gytundeb sy’n bodoli rhwng y ddwy Sir ynglŷn â’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd. Nodwyd bod llawer o’r tasgau wedi cael eu cwblhau oherwydd bod y broses paratoi’r Cynllun bron a dod i ben. Er hynny, bydd gan y Pwyllgor swyddogaeth yn gysylltiedig â phenderfynu ar gynnwys Canllawiau Cynllunio Atodol a’r gwaith i fonitro gweithrediad polisïau os penderfynir i fabwysiadu y Cynllun.

           

‘Roedd yr adroddiad yn cyfeirio at ddyddiadau a oedd yng nghalendr pwyllgorau’r Cynghorau. Tynnwyd sylw’r Aelodau at gyfarfod ychwanegol sy’n cael ei drefnu ar 14 Gorffennaf 2017.