skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Llangefni. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Nia Haf Davies 01286 679 890  E-bost: niahafdavies@gwynedd.llyw.cymru

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD AM 2016 - 2017

I ethol Cadeirydd am 2016/17

Cofnod:

Cafodd Cyng Dafydd Meurig ei ethol fel Cadeirydd y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd a Phanel Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd am y cyfnod 2016 – 2017.

2.

ETHOL IS - GADEIRYDD AM 2016 - 2017

I ethol Is–gadeirydd am 2016/17

Cofnod:

Cafodd Cyng Richard Dew ei ethol fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd a Phanel Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd am y cyfnod 2016 – 2017

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan  Cyng. John Brynmor Hughes (CG), Cyng. Michael Sol Owen (CG) – Eilydd  a Cyng. John Pughe Roberts (CG)

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad buddiant personol.

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.

 

Cafodd Dylan Williams ei gyflwyno fel Pennaeth Adran newydd Rheoleiddio a Datblygu Economaidd yn dilyn ymddeoliad Jim Woodcock. Fe wnaeth o roi amlinelliad o rai o’r materion a phrosiectau fydd angen sylw yn ystod y misoedd nesaf, sydd yn cynnwys rhoi Cyngor Sir Ynys Môn mewn lle da i allu manteisio ar y cyfleon trawsnewidiol. Bydd mabwysiadu’r Cynllun yn gam pwysig yn ogystal a adolygu’r Canllawiau Cynllunio Atodol am Wylfa newydd.

6.

COFNODION pdf eicon PDF 284 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 29.1.16 fel rhai cywir  

Cofnod:

Derbyniwyd Cofnodion Pwyllgor 29 Ionawr 2016 fel y rhai cywir ac fe wnaeth y Cadeirydd eu harwyddo.

7.

DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL AR GYFER PWYLLGOR POLISI CYNLLUNIO AR Y CYD pdf eicon PDF 179 KB

Cylfwyn adroddiad gan Pennaeth yr Adran Rheoleiddio (dros dro)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Gareth Jones a oedd yn cynnwys y Datganiad Llywodraethu ar gyfer y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd. Mae’n ofyniad statudol bod datganiadau o’r math yma’n cael eu paratoi. Eglurwyd bod gofynion y Rheoliadau wedi newid ers y llynedd. Golyga hyn na fydd angen cyflwyno’r Datganiad i’r Pwyllgor eto yn ystod 2016 – 17, oni bai bod Swyddfa Archwilio Cymru yn argymell newidiadau iddo. Cafodd y Datganiad ei arwyddo gan y Cadeirydd ar ran y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd.

8.

CYFRIFON TERFYNNOL PWYLLGOR POLISI CYNLLUNIO AR Y CYD (ar gyfer y flwyddyn ddaeth i ben 31.3.16) pdf eicon PDF 58 KB

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Reolwr Cyllid

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan W E Jones oedd yn ymateb i ofyniad statudol o dan Adran 12 o Ddeddf Archwilio Gyhoeddus (Cymru) 2004 i adrodd yn benodol am gyfrifo ac archwilio cyfrifon Pwyllgorau ar y Cyd. Eglurwyd fod angen cwblhau ffurflenni swyddogol ar gyfer Swyddfa Archwilio Cymru a byddai’r ffurflenni’n destun archwiliad ar wahân. Cyflwynwyd copi o’r ffurflenni yn Atodiad A & B. Bydd yr Archwilydd Penodedig, sef Deloitte, (archwilwyr allanol a benodwyd gan Gyngor Gwynedd) yn archwilio’r wybodaeth. Esboniwyd i’r Pwyllgor nad oes angen ail-gyflwyno’r adroddiad i’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd ym mis Medi 2016 (cyn iddo gael ei ardystio gan yr Archwiliwr) oherwydd newid yn y drefn, oni bai bydd angen tynnu sylw’r Pwyllgor at newidiadau argymhellir gan yr Archwilydd Penodedig. Ni chafwyd ymholiadau ynglŷn a’r Cyfrifon ac fe gafodd y dogfennau perthnasol eu harwyddo gan y Cadeirydd ar ran Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd.