Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Sioned Mai Jones  01286 679665

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Dewi Morgan (Pennaeth Adran Cyllid), Karen Evans (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) a Graham Boase (Cyngor Sir Ddinbych).

 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

 

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.  

Cofnod:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 128 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr, 2023 fel rhai cywir.  

Cofnod:

Cadarnhawyd fod cofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar y 6ed o Ragfyr, 2023, yn gywir.

 

5.

CYLLIDEB GWE 2023/2024 - ADOLYGIAD 3YDD CHWARTER pdf eicon PDF 149 KB

I ddiweddaru aelodau’r Cydbwyllgor ar yr adolygiad ariannol diweddaraf o gyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2023/24.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a chymeradwyo’r adroddiad ar adolygiad o gyllideb GwE hyd at ddiwedd Rhagfyr 2023.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad oedd yn rhoi diweddariad ariannol i aelodau’r Cydbwyllgor am gyllideb GwE hyd at ddiwedd Rhagfyr 2023 a’r rhagolygon tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Nodwyd ar sail gwariant ac incwm, rhagwelir y bydd gorwariant net o £59,500 erbyn diwedd y flwyddyn ariannol 2023/24. Cadarnhawyd bod y wybodaeth yma yn parhau i fod yn gyfredol. Nodwyd bod hyn yn cymharu â £37,000 oedd wedi ei ragolygu yn adolygiad diwedd Medi sydd yn golygu bod y gorwariant wedi cynyddu.

 

Nodwyd bod gorwariant o £46,000 o dan y pennawd Gweithwyr; roedd hyn yn dilyn i GwE dderbyn targed arbedion o £102,000 o dan y pennawd hwn yn 2023/24. Ychwanegwyd bod y gorwariant yn cael ei leihau o ganlyniad i ddwy swydd barhaol sydd heb eu llenwi yn ogystal â throsiant staff. Tynnwyd sylw at y tanwariant o £16,500 o dan y pennawd Cludiant, yn bennaf oherwydd y ffyrdd newydd o weithio. Ychwanegwyd y rhagwelir gorwariant o £23,000 dan y pennawd Cyflenwadau a Gwasanaethau gyda chostau adnewyddu offer T.G wedi taro GwE eleni.

 

Mynegwyd bod bwriad i ddefnyddio cronfa sydd ar gael er mwyn cyllido’r £59,500 o’r gorwariant a ragwelir; byddai hyn yn gadael £239,000 ar ôl yn y gronfa.

           

Nid oedd unrhyw sylwadau.

 

PENDERFYNWYD

Derbyn a chymeradwyo’r adroddiad ar adolygiad o gyllideb GwE hyd at ddiwedd Rhagfyr 2023.

 

 

6.

CYNLLUN BUSNES RHANBARTHOL GWE 2023/2024 - MONITRO CHWARTER 3 pdf eicon PDF 160 KB

Cyflwyno adroddiad monitro chwarter 3 - Cynllun Busnes Rhanbarthol 2023-2024 GwE i'r Cyd-Bwyllgor. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo a derbyn yr adroddiad monitro ar gyfer chwarter 3.

Cofnod:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol GwE yr adroddiad oedd yn adrodd ar gynnydd yn erbyn y Cynllun Busnes Rhanbarthol ac yn canolbwyntio ar y cyfnod o ddiwedd Medi i Ragfyr 2023.

 

Adroddodd bod 28 o gynlluniau manwl yn bodoli ar y ddarpariaeth sydd ar gael i ysgolion ar draws y Rhanbarth a bod cefnogaeth gyfoethog iawn wedi ei ddarparu i’r ysgolion hynny. Eglurodd bod Atodiad 2 yn cyfeirio at y data rhanbarthol â’r niferoedd sydd wedi ymgysylltu gyda’r ddarpariaeth.

 

Mynegwyd bod yr adroddiad yn gynhwysfawr a diolchwyd i’r staff am eu gwaith i greu’r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD    

Cymeradwyo a derbyn yr adroddiad monitro ar gyfer chwarter 3.

 

 

7.

DYFODOL GWELLA YSGOLION YNG NGOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 221 KB

I ganiatáu i aelodau'r Cyd-bwyllgor wneud penderfyniadau gwybodus am ddyfodol gwella ysgolion yng Ngogledd Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

·       Nodi cynnwys yr adroddiad ac ystyried goblygiadau risg ar gyfer 2024-25 a thu hwnt.

·       Bod y Bwrdd Rheoli yn cyflwyno adroddiad yng nghyfarfod mis Mai o’r Cyd-bwyllgor ar y ffordd ymlaen fydd yn ymdrin ag amserlen a materion llywodraethu yn ogystal â goblygiadau cyllidebol.

·       I aelodau pleidleisio’r Cyd-bwyllgor gytuno i gyflwyno rhestr o gwestiynau i’w cyflwyno i’r Gweinidog Addysg yn y cyfarfod sydd wedi ei drefnu ar gyfer mis Ebrill.

 

Cofnod:

Cyflwynodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE yr adroddiad gan nodi bod newid sylweddol ar y gweill i’r hyn sydd wedi bod yn wasanaeth rhanbarthol. Mynegwyd bod y cyfnod hwn yn y cyfnod anoddaf iddo ei brofi ers bron i 40 o flynyddoedd yn gweithio yn y maes Addysg ac mai un o’r heriau mwyaf yw ymdopi gyda’r ansicrwydd.

 

Cyfeiriwyd at yr amserlen ers y 18fed o Ragfyr a’r argymhellion a gafwyd yn dilyn adolygiad Dylan Jones. Nodwyd y bydd model newydd o wasanaeth gwella ysgolion a bydd angen edrych ar y capasiti o fewn y system honno; nid oes cynllun manwl am y system newydd ar hyn o bryd. Soniwyd am yr heriau i Awdurdodau Lleol sydd wedi ei hamlygu yn rhan 3.2 o’r adroddiad. Rhedwyd drwy’r risgiau cyffredinol a’r goblygiadau ariannol.

 

Nodwyd y bydd yna gyfnod o newid cyn i’r model newydd fod mewn lle ac ardrawiad newid grantiau fydd yn cael effaith ar unwaith. Eglurwyd y bydd y gwasanaeth yn peidio â bod yn wasanaeth a rennir ar draws Gogledd Cymru. Golyga hyn y bydd newid mawr o’r 1af o Ebrill ble bydd y gwasanaeth gwella ysgolion yn dod yn wasanaeth comisiwn gan wahanol Awdurdodau Lleol unigol. Amlygwyd bod angen trafodaeth ddwys am rôl y Cydbwyllgor i’r dyfodol a rôl y Bwrdd Rheoli a bod hwn yn faes llywodraethu y bydd angen edrych arno wrth symud ymlaen.

 

Cyfeiriwyd at y posibilrwydd y bydd Gweinidog Addysg newydd yn dilyn cyhoeddi’r Prif Weinidog newydd heddiw ac y gallai hynny arwain at oedi. Nodwyd mai’r amserlen a roddwyd yw Ebrill 2025 ar gyfer cael model gwella ysgolion newydd mewn lle. Pryderwyd y gallai’r amserlen o Ebrill 2025 fod yn heriol i Awdurdodau Lleol.

 

Mynegwyd cydymdeimlad at wasanaethau’r Awdurdod lletya, gan y byddai’n golygu gwaith ychwanegol i wasanaethau Cyllid, Cyfreithiol ac Adnoddau Dynol Cyngor Gwynedd, ynghyd â chostau ychwanegol i bawb, megis costau cau a diswyddiadau posib. Yng nghyfarfod nesaf o’r Cydbwyllgor ym mis mai, nodwyd y bydd angen edrych ar gyfluniad y tîm gan gysidro sut fydd y cyllidebau erbyn mis Mawrth 2025.  Bydd angen hefyd ystyried pa swyddi gall gael eu rhyddhau ar hyn o bryd.

 

Eglurwyd bod y gyllideb yn dynn ar bob lefel a bydd yr arian sydd wedi ei neilltuo ar gyfer gwella ysgolion yn cael ei leihau’n sylweddol. Pwysleisiwyd bod angen eglurder ynghylch y model dysgu proffesiynol cenedlaethol. Cyfeiriwyd at forâl isel staff oherwydd yr holl ansicrwydd a’r anallu i roi gwybod i staff am eu dewisiadau ar hyn o bryd. 

 

I gloi cydnabuwyd y byddai pawb yn hoffi mwy o fanylder a mwy o wybodaeth gan amlygu bod Cam 2 o ymholiad Dylan Jones yn cael ei gynnal ar hyn o bryd.

 

Nododd y Cadeirydd bod cyfarfod wedi ei drefnu gyda’r Gweinidog Addysg ym mis Ebrill. Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Cydbwyllgor fynegi unrhyw bryderon penodol neu gwestiynau felly y gallai’r Cadeirydd eu cyfleu yn y cyfarfod ym mis Ebrill. Cytunwyd y byddai GwE yn coladu cwestiynau ar gyfer y Cadeirydd.

 

Cyflwynodd yr aelodau'r sylwadau canlynol:  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

CYLLIDEB GWE 2024/2025 (CYLLIDEB SYLFAENOL) pdf eicon PDF 251 KB

I ystyried yr adroddiad a mabwysiadu’r gyllideb sylfaenol ar gyfer 2024/25 fel ei cyflwynir yn Atodiad 1.  

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu’r gyllideb sylfaenol ar gyfer y flwyddyn gyllidol 2024/25 fel y’i chyflwynir yn Atodiad 1 o’r adroddiad sef £8,460,971.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad ar y gyllideb gan egluro ei bod yn adlewyrchu’r newid sydd wedi bod yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i addasu’r dull o ddosbarthu grantiau Addysg ar gyfer 2024/25. Ychwanegwyd bod y targed arbedion o 10% gan yr Awdurdodau wedi eu cynnwys yn y gyllideb sylfaenol.

 

Cyfeiriwyd at y newid gan Lywodraeth Cymru i drefniadau o ran grantiau yn rhan 2.1 o’r adroddiad sy’n nodi y bydd y grant Addysg Awdurdodau Lleol yn cael ei dalu yn uniongyrchol i’r Cynghorau neu’r ysgolion.

 

Tynnwyd sylw at y tabl yn rhan 2.3 o’r adroddiad sy’n nodi’r penawdau sydd ddim bellach o dan gyfrifoldeb GwE, ac yn dangos y newidiadau cyllidol yn sgil hynny. Nodwyd bod y cyllid wedi lleihau o £6.2 miliwn yn 2023/24 i £4.5 miliwn yn 2024/25 sy’n leihad o £1.7 miliwn. Eglurwyd mai’r prif reswm yw toriad gan Lywodraeth Cymru yn swm y grantiau. 

 

Cyfeiriwyd at Atodiad 2 oedd yn rhoi trosolwg o’r gyllideb graidd ar gyfer 2024/25. Eglurwyd bod y tabl yn crynhoi’r wybodaeth o ran yr arian craidd sy’n gyfanswm o £4 miliwn. Ymhellach, cyfeiriwyd at Atodiad 1 oedd yn nodi’r gyllideb o £8.46 miliwn sydd wedi ei osod a’n nodi’r incwm sy’n cyfateb i’r gwariant. Mynegwyd bod cyllideb gytbwys wedi ei gosod ar gyfer GwE ar gyfer 2024/25.

 

Yn ychwanegol, eglurwyd ar ôl ystyried chwyddiant ar holl wariant GwE ar gyfer 2024/25, gan nad yw’r grantiau Addysg yn cael eu chwyddo yn flynyddol, golyga hyn doriad sy’n gyfanswm o £737,000 yn hytrach na’r ffigwr o £392,000.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, cyflwynodd yr aelodau'r sylwadau canlynol:

 

-        Pwysleisiwyd bod cyfraniad craidd GwE wedi lleihau 18% ac nid 10% gan ystyried y chwyddiant y cyfeirir ato yn rhan 3 o’r adroddiad. Nodwyd y bydd hyn yn cael ei egluro ymhellach yn y cyfarfod mis Mai ble bydd dosraniad yr arian yn cael ei drafod.

-        Mynegwyd y bydd gwybodaeth sensitif yn cael ei drafod yn y cyfarfod nesaf yn ymwneud â swyddi staff presennol GwE. Cadarnhawyd y bydd angen edrych ar y categori gwybodaeth eithriedig ar gyfer rhai eitemau yn y cyfarfod nesaf a llunio’r agenda yn unol â hynny.

-        Diolchwyd i staff Cyllid Cyngor Gwynedd am eu cefnogaeth ac am eu gwaith wrth lunio’r gyllideb. Ategwyd bod yr amserlen cyhoeddi wedi bod yn fyr iawn a mynegwyd gwerthfawrogiad am eu gwaith caled.

 

PENDERFYNWYD

Mabwysiadu’r gyllideb sylfaenol ar gyfer y flwyddyn gyllidol 2024/25 fel y’i chyflwynir yn Atodiad 1 o’r adroddiad sef £8,460,971.

 

 

9.

CALENDR CYFARFODYDD 2024-25 pdf eicon PDF 154 KB

I wneud cais i’r Cyd-bwyllgor gytuno ar galendr cyfarfodydd am y flwyddyn i ddod.

Penderfyniad:

Cymeradwyo calendr cyfarfodydd y Cyd-bwyllgor am y flwyddyn 2024-25

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad fel eitem er gwybodaeth er mwyn i aelodau’r Cydbwyllgor allu nodi’r dyddiadau yn eu calendrau, gan nodi efallai y bydd angen elfen o hyblygrwydd gan yr aelodau. Eglurwyd efallai y bydd angen rhagor o gyfarfodydd os bydd angen gwneud penderfyniadau ar frys yn sgil y sefyllfa bresennol.

 

Diolchwyd i’r Cydbwyllgor am eu gwaith â’u cyfraniadau.

 

PENDERFYNWYD

Cymeradwyo calendr cyfarfodydd y Cyd-bwyllgor am y flwyddyn 2024-25