Lleoliad: Swyddfeydd GwE, Bryn Eirias, Ffordd Abergele, Bae Colwyn, LL29 8BF
Cyswllt: Annes Sion 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL IS-GADEIRYDD Cofnod: Etholwyd Cyng. Meirion Jones (Cyngor Sir Ynys Môn) yn Is-gadeirydd ar gyfer 2019/20. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Julie Fallon (Cyngor Bwrdeistrefol Sirol Conwy), Cyng. Huw Hilditch-Roberts (Cyngor Sir Ddinbych), Cyng. Ian Roberts (Cyngor Sir y Fflint), Dr Lowri Brown (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy), Claire Homard (Cyngor Sir y Fflint), Ian Roberts (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) Dr Gwynne Jones (Cyngor Sir Ynys Môn) a Gareth Williams (Cadeirydd Bwrdd Ymgynghorol GwE). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod
oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion brys |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL A GYNHALIWYD AR Y 8 GORFFENNAF 2019 PDF 82 KB (copi wedi
ei atodi) Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 8
Gorffennaf fel rhai cywir. |
|
Dafydd L
Edwards i gyflwyno – ·
Datganiad
o’r Cyfrifon ôl-Archwiliad; ·
Adroddiad
Swyddfa Archwilio Cymru; ·
Llythyr
Cynrychiolaeth. (linc fideo
i swyddfa Deloitte) Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: PENDERFYNIAD Derbyniwyd, nodwyd a chymeradwywyd y dogfennau a gyflwynwyd, sef: ¾ Adroddiad
‘ISA260’ ar ran Archwiliwr Cyffredinol Cymru, a ¾
Datganiad o Gyfrifon GwE am 2018/19 (yn dilyn
archwiliad) Derbyniwyd yr argymhelliad yn ogystal fod cyfarfod Bwrdd Rheoli GwE am
gynnwys eitem ar yr agenda i gytuno’n benodol ar ddosbarthiad y Grant Gwella
Addysg flynyddol. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn cwmpasu'r cyfrifon
a gyflwynwyd i’r Cydbwyllgor ym mis Gorffennaf. Mynegwyd nad oedd unrhyw newid
sylweddol i’r cyfrifon yn dilyn y cyfarfod hwnnw. Nodwyd camgymeriad yn y
fersiwn Saesneg o’r adroddiad blaen i’r cydbwyllgor. Eglurwyd fod y ffigyrau
ariannol yn y Datganiad o Gyfrifon GwE yn parhau'r un fath, ond fod ychydig o
addasiadau i’r iaith. Nododd Uwch Reolwr Archwilwyr Deloitte fod y cyfrifon o safon uchel ac
nad oedd unrhyw gywiriadau o sylwedd angen ei wneud. Diolchwyd i staff y Cyngor
am eu gwaith. Tynnwyd sylw at argymhellion cwmni Deloitte, sef fod y Bwrdd
Rheoli GwE yn cynnwys eitem ar yr agenda i gytuno’n benodol ar ddosbarthiad y
Grant Gwella Addysg yn flynyddol. Diolchwyd i Deloitte am eu gwaith. |
|
TARGED ARBEDION EFFEITHLONRWYDD PDF 74 KB Arwyn
Thomas i ofyn am gymeradwyaeth y
Cyd-Bwyllgor i gadarnhau cynllun gweithredu'r targed arbedion
effeithlonrwydd. Cofnod: PENDERFYNIAD Cadarnhawyd
y newidiadau yn y strwythur staffio parhaol, ac o ganlyniad fod modd cynhaeafu
arbedion i fodloni’r targed o £206,485. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod
arbedion blynyddoedd blaenorol i’w canfod, yn ogystal â’r targed arbedion
sefydlwyd ar osod y gyllideb ar gyfer 2019/20. Nodwyd fod GwE wedi dod o hyd
i’r arbedion effeithlonrwydd drwy newid y strwythur staffio parhaol. Mynegwyd
fod un o’r Cyfarwyddwyr Cynorthwyol GwE wedi cael rôl newydd mewn awdurdod
lleol, a gadawodd ei swydd diwedd mis Awst 2019. Mynegodd Rheolwr Gyfarwyddwr
GwE ei fod yn awyddus i beidio penodi i swydd Cyfarwyddwyr Cynorthwyol ac i
ddyrannu’r gwaith rhwng gweddill uwch reolaeth GwE. Nodwyd y bydd cyfarfod o Brif Weithredwr
rhanbarth gogledd Cymru yn cael ei gynnal ym mis Tachwedd, a fydd yn rhoi
syniad am gyfraniadau ariannol yr awdurdodau lleol a chyllideb GwE am 2020/21. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth: Diolchwyd i GwE am edrych ar y targed arbedion hanesyddol a sicrhau ei fod yn cael ei setlo cyn wynebu her ariannol GwE erbyn 2020/21. Mynegwyd fod yr amrediad posibiliadau o ran setliad 2020/21 yr awdurdodau lleol yn eang iawn. Nodwyd gobaith bydd sefyllfa 2020/21 GwE yn fwy clir erbyn y Nadolig |
|
CYLLDIEB GwE 2019-20 - ADOLYGIAD CHWARTER 1 PDF 117 KB Arwyn
Thomas a Dafydd L Edwards i ddiweddaru aelodau’r Cydbwyllgor ar
adolygiad ariannol diweddaraf cyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2019/20 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: PENDERFYNIAD Derbyniwyd yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y gyllideb yn adlewyrchu'r sefyllfa
cyn addasiadau yn sgil yr adroddiad blaenorol oedd yn bodloni’r targed
arbedion. Cadarnhawyd, yn dilyn yr addasiadau hynny, bydd y gwariant yn
adlewyrchu’r gyllideb yn gytbwys ac yn adlewyrchu sefyllfa ariannol boddhaol yn
2019/20 . |
|
CYNLLUN BUSNES 2019-20 - MONITRO CHWARTER 1 PDF 82 KB Arwyn
Thomas i gyflwyno Adroddiad Monitro Chwarter 1 - Cynllun Busnes Lefel 1
i’r Cyd-bwyllgor Dogfennau ychwanegol: Cofnod: PENDERFYNIAD Derbyniwyd yr adroddiad monitro ar gyfer chwarter 1. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad monitro ar gyfer chwarter 1. Nodwyd fod y Cynllun Busnes eisoes wedi ei
gymeradwyo gan y Cydbwyllgor. Mynegwyd fod y Cynllun yn gosod allan y
blaenoriaethau ar draws y rhanbarth. Nodwyd fod gwariant GwE ar drac. |
|
PAPUR TRAFOD - ADRODD AR BERFFORMIAD O FEDI 2019 YMLAEN PDF 91 KB Arwyn
Thomas yn adrodd ar
berfformiad o Fedi 2019 ymlaen Dogfennau ychwanegol: Cofnod: PENDERFYNIAD Derbyniwyd yr
egwyddorion sydd wedi eu nodi yn yr adroddiad ac i lunio set o gwestiynau i
Lywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ac Estyn yn gofyn
am eglurder ar sut orau i ddefnyddio data perfformiad a gwybodaeth i wella
perfformiad dysgwyr ac ysgolion. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod adroddiad perfformiad yn y gorffennol yn dueddol o
edrych ar berfformiad cyfnod allweddol, ond bellach ei fod ar dirwedd newydd.
Tynnwyd sylw at gyhoeddiad ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ac Estyn a oedd yn nodi eu bod yn disgwyl i
awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol gefnogi ysgolion i wneud
penderfyniadau priodol am eu cwricwlwm er mwyn osgoi cyfyngu ar y dewis i
ddysgwyr. Mynegwyd yn ogystal fod y cyhoeddiad yn nodi y bydd gwerthuso
perfformiad ysgolion unigol yn hytrach na chynhyrchu data agregedig ar lefel
awdurdod lleol yn fwy defnyddiol er mwyn cefnogi a herio ysgolion unigol gyda’u
gwelliannau. Holwyd beth fyddai goblygiadau gwneud hyn. Mynegwyd fod mesurau interim newydd ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 eleni.
Ychwanegwyd er bod data 2019 ar gael ar hyn o bryd ynghylch mesurau perfformiad
hanesyddol, mae cymharu â blynyddoedd blaenorol yn annilys oherwydd yr arfer o
gyfrif yr ymgais gyntaf yn hytrach nac y canlyniad gorau. Nodwyd felly yn lleol
nid oes modd o edrych yn ôl a gweld tueddiadau, sy’n codi’r cwestiwn beth
ddylid ei gyflwyno i bwyllgorau craffu. Esboniwyd fod angen i bob
awdurdod fod â data ond mae’n codi llawer o gwestiynau. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth: ¾
Mynegwyd
yr angen i drafod hyn ymhellach – a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried cynnal
gweithdai er mwyn sicrhau dealltwriaeth a chysondeb cenedlaethol. ¾
Nodwyd
o ran craffu, a fyddai’n syniad cael cyfarfod rhanbarthol gyda chadeiryddion
Craffu, penaethiaid addysg yr awdurdodau lleol a GwE i sicrhau dealltwriaeth a
chysondeb rhanbarthol. Esboniwyd fod
rhai cyfarfodydd craffu yr awdurdodau wedi cael eu rhaglennu i gyfarfod yn fuan
- efallai bydd angen dal yn ôl o ran adrodd ar berfformiad. ¾
Nodwyd
yr angen i lunio set o gwestiynau i Lywodraeth Cymru, CLlLC ac Estyn yn gofyn
am eglurder ar sut orau i ddefnyddio data perfformiad a gwybodaeth i wella
perfformiad dysgwyr ac ysgolion, cyn cynhadledd CLlLC wythnos nesaf fel bod
modd cael atebion yn y gynhadledd. |