Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Swyddfeydd GwE, Bryn Eirias, Ffordd Abergele, Bae Colwyn, LL29 8BF
Cyswllt: Sioned Williams 01286 679729
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Rita Price
(Esgobaeth Wrecsam), Diane Chisholm
(Cynrychiolydd Ysgolion Cynradd), Jonathan Morgan (Cynrychiolydd Ysgolion
Arbennig), Alison Fisher (Cynrychiolydd
Llywodraethwr), Dr Lowri Brown (Cyngor
Bwrdeistref Conwy), Karen Evans (Cyngor Sir Ddinbych), Ian Roberts (Cyngor
Bwrdeistrefol Sirol Wrecsam), Garem Jackson (Cyngor Gwynedd), Dr Gwynne Jones (Cyngor Sir Ynys Môn), Rhys Howard Hughes
(Cyfarwyddwr Cynorthwyol GwE), Dr Alwyn Jones
(Cyfarwyddwr Cynorthwyol GwE). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan
unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 237 KB Copi’n amgaedig. Cofnod: Derbyniwyd y cofnodion o’r pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar y 22 Medi 2017 fel rhai cywir. |
|
CYNNYDD YN ERBYN ARGYMHELLION ESTYN PDF 358 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE yn diweddaru aelodau’r Cydbwyllgor ar y cynnydd o ran
cyflawni’r argymhellion a nodir yn adroddiad Estyn ar ansawdd y gwasanaethau
gwella ysgolion a ddarperir gan Gonsortiwm Gogledd Cymru. Gofynnwyd i’r Cydbwyllgor mynegi eu barn am
yr adroddiad gan ystyried y ddwy elfen y bydd Estyn yn fesur, sef y cynnydd yn erbyn y chwe argymhelliad, a
gosod y cynnydd yng nghyd-destun y cynnydd sydd wedi digwydd ers sefydlu GwE. Amlygwyd y dylid canmol cyflymder y cynnydd yn ystod yr
amser a roddwyd, ond er bod y sefyllfa llawer mwy positif eleni, ‘does dim modd
rhagweld effaith y newidiadau ar wasanaethau GwE. Derbyniwyd sylwadau y Cydbwyllgor a diolchodd
Rheolwr Gyfarwyddwr GwE am eu cyfraniad a nodwyd y
byddai’n ystyried y sylwadau. Penderfynwyd: Derbyn a
chymeradwyo’r adroddiad. |
|
CYNLLUN BUSNES 2017-2020 LEFEL 1 PDF 296 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad Cynllun Busnes Rhanbarthol 2017-2020
gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE yn nodi gweledigaeth 3
blynedd, blaenoriaethau, gweithredoedd, allgynnyrch a meini prawf llwyddiant ar
draws y rhanbarth. Penderfynwyd: Derbyn a chymeradwyo’r adroddiad. |
|
CYNLLUN BUSNES RHANBARTHOL 2017-2020 Cofnod: Cyflwynodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE
monitro chwarter 1 y Cynllun Busnes Rhanbarthol 2017-2020 Cafwyd trafodaeth o amgylch yr agweddau oedd yn peri
pryder. Amlygwyd perfformiad mathemateg fel mater sydd angen
sylw. Cyfeiriwyd at y gofrestr risg a
cafwyd trafodaeth pellach yn yr eitem i ddilyn.
Penderfynwyd: Derbyn a chymeradwyo’r adroddiad. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE
y gofrestr risg ddiweddaraf i’r Cydbwyllgor. Nodwyd bod y gofrestr risg yn
ffurfioli’r broses o adnabod risgiau a chymryd camau gweithredu dilynol i’w
lliniaru, ac yn galluogi GwE i gefnogi amcanion y
rhanbarth, gwneud defnydd effeithiol o adnoddau a chyflawni’r deilliannau yn ôl
y bwriad. Pwysleisiodd fod y gofrestr risg yn agored i aelodau’r Cydbwyllgor ac
yn cael ei adolygu yn rheolaidd. Croesawyd unrhyw sylwadau gan y Cydbwyllgor. Tynnwyd sylw at y golofn ‘lliniaru’r risg’ ac amlygwyd
bod angen cryfhau R1 a R2. Penderfynwyd: Derbyn a chymeradwyo’r adroddiad. |
|
CYNLLUN ARIANOL TYMOR CANOLIG PDF 236 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad ar Gynllun Ariannol Tymor Canolig
2017/18-2020/21 gan Bennaeth Cyllid yr Awdurdod Lletyol.
Amlygwyd bod yr adroddiad yn cynnwys yr amcangyfrifon gorau bosib yn wyneb yr
her ariannol ac ansicrwydd y dyfodol. Penderfynwyd: Derbyn a chymeradwyo’r adroddiad. |
|
POLISI A FFRAMWAITH GWERTH AM ARIAN PDF 312 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE
Polisi Gwerth am Arian a Fframwaith GwE i’r
Cydbwyllgor. Nodwyd mai’r amcan yw sicrhau perfformiad ‘absoliwt’, targedu a
gwella adnoddau, a chynyddu iechyd sefydliadol y gweithlu. Amlygir bod staff GwE yn ymwybodol o’r amcanion hyn ac yn cefnogi’r polisi. Penderfynwyd: Derbyn a chymeradwyo’r adroddiad. |