skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Swyddfeydd GwE, Bryn Eirias, Ffordd Abergele, Bae Colwyn, LL29 8BF

Cyswllt: Annes Sion  01286 679490

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL IS-GADEIRYDD

Cofnod:

Etholwyd Cyng. Meirion Jones (Cyngor Sir Ynys Môn) yn Is-gadeirydd ar gyfer 2019/20.

2.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Julie Fallon (Cyngor Bwrdeistrefol Sirol Conwy), Cyng. Huw Hilditch-Roberts (Cyngor Sir Ddinbych), Cyng. Ian Roberts (Cyngor Sir y Fflint), Dr Lowri Brown (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy), Claire Homard (Cyngor Sir y Fflint), Ian Roberts (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) Dr Gwynne Jones (Cyngor Sir Ynys Môn) a Gareth Williams (Cadeirydd Bwrdd Ymgynghorol GwE).

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

4.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys

5.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL A GYNHALIWYD AR Y 8 GORFFENNAF 2019 pdf eicon PDF 82 KB

(copi wedi ei atodi)

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 8 Gorffennaf fel rhai cywir.

 

6.

CYFRIFON TERFYNOL Y CYD-BWYLLGOR AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2019 AC ARCHWILIAD PERTHNASOL pdf eicon PDF 104 KB

Dafydd L Edwards i gyflwyno

·         Datganiad o’r Cyfrifon ôl-Archwiliad;

·         Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru;

·         Llythyr Cynrychiolaeth.

 

(linc fideo i swyddfa Deloitte)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd, nodwyd a chymeradwywyd y dogfennau a gyflwynwyd, sef:

¾     Adroddiad ‘ISA260’ ar ran Archwiliwr Cyffredinol Cymru, a

¾     Datganiad o Gyfrifon GwE am 2018/19 (yn dilyn archwiliad)

 

Derbyniwyd yr argymhelliad yn ogystal fod cyfarfod Bwrdd Rheoli GwE am gynnwys eitem ar yr agenda i gytuno’n benodol ar ddosbarthiad y Grant Gwella Addysg flynyddol.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn cwmpasu'r cyfrifon a gyflwynwyd i’r Cydbwyllgor ym mis Gorffennaf. Mynegwyd nad oedd unrhyw newid sylweddol i’r cyfrifon yn dilyn y cyfarfod hwnnw. Nodwyd camgymeriad yn y fersiwn Saesneg o’r adroddiad blaen i’r cydbwyllgor. Eglurwyd fod y ffigyrau ariannol yn y Datganiad o Gyfrifon GwE yn parhau'r un fath, ond fod ychydig o addasiadau i’r iaith.

 

Nododd Uwch Reolwr Archwilwyr Deloitte fod y cyfrifon o safon uchel ac nad oedd unrhyw gywiriadau o sylwedd angen ei wneud. Diolchwyd i staff y Cyngor am eu gwaith. Tynnwyd sylw at argymhellion cwmni Deloitte, sef fod y Bwrdd Rheoli GwE yn cynnwys eitem ar yr agenda i gytuno’n benodol ar ddosbarthiad y Grant Gwella Addysg yn flynyddol.

 

Diolchwyd i Deloitte am eu gwaith.

7.

TARGED ARBEDION EFFEITHLONRWYDD pdf eicon PDF 74 KB

Arwyn Thomas i ofyn am gymeradwyaeth y Cyd-Bwyllgor i gadarnhau cynllun gweithredu'r targed arbedion effeithlonrwydd. 

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Cadarnhawyd y newidiadau yn y strwythur staffio parhaol, ac o ganlyniad fod modd cynhaeafu arbedion i fodloni’r targed o £206,485.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod arbedion blynyddoedd blaenorol i’w canfod, yn ogystal â’r targed arbedion sefydlwyd ar osod y gyllideb ar gyfer 2019/20. Nodwyd fod GwE wedi dod o hyd i’r arbedion effeithlonrwydd drwy newid y strwythur staffio parhaol. Mynegwyd fod un o’r Cyfarwyddwyr Cynorthwyol GwE wedi cael rôl newydd mewn awdurdod lleol, a gadawodd ei swydd diwedd mis Awst 2019. Mynegodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE ei fod yn awyddus i beidio penodi i swydd Cyfarwyddwyr Cynorthwyol ac i ddyrannu’r gwaith rhwng gweddill uwch reolaeth GwE. 

 

Nodwyd y bydd cyfarfod o Brif Weithredwr rhanbarth gogledd Cymru yn cael ei gynnal ym mis Tachwedd, a fydd yn rhoi syniad am gyfraniadau ariannol yr awdurdodau lleol a chyllideb GwE am 2020/21.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:

Diolchwyd i GwE am edrych ar y targed arbedion hanesyddol a sicrhau ei fod yn cael ei setlo cyn wynebu her ariannol GwE erbyn 2020/21. Mynegwyd fod yr amrediad posibiliadau o ran setliad 2020/21 yr awdurdodau lleol yn eang iawn. Nodwyd gobaith bydd sefyllfa 2020/21 GwE yn fwy clir erbyn y Nadolig

8.

CYLLDIEB GwE 2019-20 - ADOLYGIAD CHWARTER 1 pdf eicon PDF 117 KB

Arwyn Thomas a Dafydd L Edwards i ddiweddaru aelodau’r Cydbwyllgor ar adolygiad ariannol diweddaraf cyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2019/20

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y gyllideb yn adlewyrchu'r sefyllfa cyn addasiadau yn sgil yr adroddiad blaenorol oedd yn bodloni’r targed arbedion. Cadarnhawyd, yn dilyn yr addasiadau hynny, bydd y gwariant yn adlewyrchu’r gyllideb yn gytbwys ac yn adlewyrchu sefyllfa ariannol boddhaol yn 2019/20 .

 

9.

CYNLLUN BUSNES 2019-20 - MONITRO CHWARTER 1 pdf eicon PDF 82 KB

Arwyn Thomas i gyflwyno Adroddiad Monitro Chwarter 1 - Cynllun Busnes Lefel 1 i’r Cyd-bwyllgor

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd yr adroddiad monitro ar gyfer chwarter 1.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad monitro ar gyfer chwarter 1.  Nodwyd fod y Cynllun Busnes eisoes wedi ei gymeradwyo gan y Cydbwyllgor. Mynegwyd fod y Cynllun yn gosod allan y blaenoriaethau ar draws y rhanbarth. Nodwyd fod gwariant GwE ar drac. 

 

10.

PAPUR TRAFOD - ADRODD AR BERFFORMIAD O FEDI 2019 YMLAEN pdf eicon PDF 91 KB

Arwyn Thomas yn adrodd ar berfformiad o Fedi 2019 ymlaen

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd yr egwyddorion sydd wedi eu nodi yn yr adroddiad ac i lunio set o gwestiynau i Lywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ac Estyn yn gofyn am eglurder ar sut orau i ddefnyddio data perfformiad a gwybodaeth i wella perfformiad dysgwyr ac ysgolion.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod adroddiad perfformiad yn y gorffennol yn dueddol o edrych ar berfformiad cyfnod allweddol, ond bellach ei fod ar dirwedd newydd. Tynnwyd sylw at gyhoeddiad ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ac Estyn a oedd yn nodi eu bod yn disgwyl i awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol gefnogi ysgolion i wneud penderfyniadau priodol am eu cwricwlwm er mwyn osgoi cyfyngu ar y dewis i ddysgwyr. Mynegwyd yn ogystal fod y cyhoeddiad yn nodi y bydd gwerthuso perfformiad ysgolion unigol yn hytrach na chynhyrchu data agregedig ar lefel awdurdod lleol yn fwy defnyddiol er mwyn cefnogi a herio ysgolion unigol gyda’u gwelliannau. Holwyd beth fyddai goblygiadau gwneud hyn.

 

Mynegwyd fod mesurau interim newydd ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 eleni. Ychwanegwyd er bod data 2019 ar gael ar hyn o bryd ynghylch mesurau perfformiad hanesyddol, mae cymharu â blynyddoedd blaenorol yn annilys oherwydd yr arfer o gyfrif yr ymgais gyntaf yn hytrach nac y canlyniad gorau. Nodwyd felly yn lleol nid oes modd o edrych yn ôl a gweld tueddiadau, sy’n codi’r cwestiwn beth ddylid ei gyflwyno i bwyllgorau craffu.  Esboniwyd fod angen i bob awdurdod fod â data ond mae’n codi llawer o gwestiynau.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

¾     Mynegwyd yr angen i drafod hyn ymhellach – a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried cynnal gweithdai er mwyn sicrhau dealltwriaeth a chysondeb cenedlaethol.

¾     Nodwyd o ran craffu, a fyddai’n syniad cael cyfarfod rhanbarthol gyda chadeiryddion Craffu, penaethiaid addysg yr awdurdodau lleol a GwE i sicrhau dealltwriaeth a chysondeb rhanbarthol.  Esboniwyd fod rhai cyfarfodydd craffu yr awdurdodau wedi cael eu rhaglennu i gyfarfod yn fuan - efallai bydd angen dal yn ôl o ran adrodd ar berfformiad.

¾     Nodwyd yr angen i lunio set o gwestiynau i Lywodraeth Cymru, CLlLC ac Estyn yn gofyn am eglurder ar sut orau i ddefnyddio data perfformiad a gwybodaeth i wella perfformiad dysgwyr ac ysgolion, cyn cynhadledd CLlLC wythnos nesaf fel bod modd cael atebion yn y gynhadledd.