skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Swyddfeydd GwE, Bryn Eirias, Ffordd Abergele, Bae Colwyn, LL29 8BF

Cyswllt: Annes Sion  01286 679490

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I ddebyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Garffild Lewis (Cyngor Bwrdeistrefol Conwy), Cyng. Huw Hilditch-Roberts (Cyngor Sir Ddinbych), Alison Fisher (Cynrychiolydd Llywodraethwyr), Arwyn Williams (Cyngor Sir Ynys Mon), Claire Homard (Cyngor Sir y Fflint), Iwan Evans (Swyddog Monitro Awdurdod Lletyol – Cyngor Gwynedd) a Steve Vincent (Llywodraeth Cymru).  

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o  fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw faterion brys

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL - 28 TACHWEDD 2018 pdf eicon PDF 89 KB

Copi amgaedig

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 28 Tachwedd 2018, fel rhai cywir.

 

5.

CYLLIDEB GwE 2018-19 - ADOLYGU CHWARTER 3 pdf eicon PDF 137 KB

Adroddiad gan Dafydd L Edwards

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr Adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod GwE yn cadw o fewn y cyllid craidd am 2018-19, a bod yr amcangyfrif yn nodi tanwariant net o £994.

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:

-        Cafwyd trafodaeth ar amlder arolygiadau Estyn yn benodol mewn rhai ysgolion uwchradd.

-        Nodwyd fod llawer o’r arian sydd yn dod i GwE yn cael ei ddatganoli’n uniongyrchol i’r ysgolion. 

-        Tynnwyd sylw at gynnydd mewn costau teithio a mynegwyd fod hyn oherwydd fod cymaint o gyfarfodydd yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd. Nodwyd fod angen codi’r mater â’r Llywodraeth, ac efallai cynnig fod y cyfarfodydd yn cael eu trefnu mewn lleoliadau eraill yn ogystal. 

 

6.

CYLLDIEB GwE 2019/20 pdf eicon PDF 100 KB

Adroddiad gan Dafydd L Edwards

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Mabwysiadau’r gyllideb sylfaenol ar gyfer 2019/20 fel y’i cyflwynir yn Atodiad 2 yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod cyllideb GwE yn parhau i ddatblygu.  Nodwyd fod effaith ariannol chwyddiant/cynnydd mewn prisiau wedi’u hamcangyfrif a’u cynnwys yn y gyllideb sylfaenol, gan gynnwys codiadau cyflog a chynnydd CPI. Ychwanegwyd fod y gyllideb yn adlewyrchu penderfyniad Bwrdd Arweinyddiaeth Gogledd Cymru i gynnwys targed arbedion sy’n cyfateb i leihad o 1% yn nhermau arian, yng nghyfraniadau craidd y 6 awdurdod; mynegwyd yn nhermau real fod 3.19% o gynnydd mewn costau.

 

Ychwanegwyd gyda’r cynnydd mewn costau, yr angen am gynllun parhaol ar gyfer arbedion 2018/19 a gorwariant blynyddol yn y Cyflenwadau a Gwasanaethau y bydd angen darganfod cyfanswm cronnus arbedion o £206,485 ar gyfer 2019/20.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-        Holwyd os yw’r codiadau mewn cyflogau a phensiwn athrawon sydd ar secondiadau yn GwE wedi eu cynnwys yn y gyllideb. Nodwyd o ran yr athrawon sydd ar restrau cyflogaeth GwE, mae’r rhain wedi  eu cynnwys. 

-        Nodwyd fod grantiau wedi lleihau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a bod trafodaethau dwys wedi eu cynnal, ac yn parhau am gyllidebau addysg.

-        Diolchwyd i Dr Gwynne Jones a Dafydd Edwards am eu cefnogaeth. 

 

 

7.

CYNLLUN ARIANNOL TYMOR CANOLIG pdf eicon PDF 70 KB

Adroddiad gan Dafydd L Edwards

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi nad oes llawer o newidiadau i’r Cynllun. Ychwanegwyd ei bod yn anodd rhagweld beth fydd yn digwydd yn y dyfodol gan fod llawer yn ddibynnol ar benderfyniadau’r Llywodraeth, sydd hefyd yn creu llawer o ansicrwydd.  Nodwyd pwysigrwydd o edrych ar arbedion yn barod i’r dyfodol.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-        Nodwyd ei bod yn anodd cyflwyno cynllun ariannol tymor canolig tair blynedd gan fod y gyllideb mor annelwig, ond pwysleisiwyd pwysigrwydd y cynllun.

-        Mynegwyd yr angen am drafodaethau â Gweinidogion Llywodraeth Cymru i drafod os oes digon o gefnogaeth ar gael i ysgolion. Ychwanegwyd fod angen fwy o eglurdeb o rôl GwE pan fydd newidiadau yn y cwricwlwm.  Nodwyd fod angen codi hyn gyda’r Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

 

8.

CYNLLUN BUSNES 2018-19 - MONITRO CHWARTER 3 pdf eicon PDF 68 KB

Adroddiad gan Arwyn Thomas

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr Adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai'r brif flaenoriaeth yw Cyfnod Allweddol 4, gan fod pryderon wedi codi am yr arholiadau Saesneg.

 

Tynnwyd sylw at adran 3 o’r Cynllun – Arweinyddiaeth – yn benodol gwella ansawdd arweinyddiaeth adrannol mewn pynciau craidd mewn ysgolion.  Ychwanegwyd fod gwaith da yn cael ei wneud mewn partneriaeth â’r ysgolion.

 

Tynnwyd sylw yn ogystal at adran 4 o’r Cynllun – Lles –  angen parhau i edrych ar gynlluniau i gefnogi plant mewn gofal a disgyblion sydd yn cael cinio am ddim.

 

9.

CYNLLUN BUSNES LEFEL 1 - BLAENORIAETHAU 2019-20 pdf eicon PDF 109 KB

Adroddiad gan Arwyn Thomas

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y prif flaenoriaethau gwella wedi eu hadnabod. Nodwydd y blaenoriaethau a oedd yn cynnwys gwella perfformiad yn y sector uwchradd, cwricwlwm trawsnewidiol, lles, rhaglenni datblygu arweinyddiaeth a’r model ymgysylltu a chymheiriaid.  Cytunwyd i gyflwyno copi o’r Cynllun Busnes yn y cyfarfod nesaf. 

 

10.

COFRESTR RISG 2018-19 - ADOLYGU CHWARTER 3 pdf eicon PDF 101 KB

Adroddiad gan Arwyn Thomas

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod cofrestr risg GwE yn ddogfen fyw sydd yn cael ei hadolygu yn gyson. Mynegwyd fod yr holl risgiau wedi ei hadolygu a’u diweddaru a bod 9 o risgiau wedi ei diwygio, sef risg 2,5,6,8,12,13,14,15 ac 17.

 

11.

Y GYMRAEG MEWN ADDYSG - CYLCH GORCHWYL pdf eicon PDF 109 KB

Adroddiad gan Alwyn Jones

 

Cofnod:

Penderfynwyd gohirio trafod  yr eitem hon tan y cyfarfod nesaf.

 

12.

CATEGOREIDDIO CENEDLAETHOL pdf eicon PDF 77 KB

Adroddiad gan Alwyn Jones

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr Adroddiad

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod categoreiddio yn broses barhaus. Mynegwyd fod y Gweinidog dros addysg wedi nodi’r posibilrwydd y bydd y broses yn cael ei addasu. 

 

Nodwyd fod pob ysgol uwchradd gyda chynllun cefnogaeth a bod trafodaethau wedi eu cynnal am lefel y gefnogaeth i ysgolion.

 

Mynegwyd fod yr adroddiad am y broses yn unig. Nodwyd fod 35 o ysgolion wedi eu dethol o’r chwe awdurdod ar gyfer y Cymedroli Rhanbarthol, a chafwyd trafodaeth gadarn yn ystod y cymedroli. Nodwyd nad oedd unrhyw newidiadau wedi eu gwneud i’r ysgolion yn ystod y broses a ni dderbyniwyd unrhyw ymholiadau gan Lywodraeth Cymru yn dilyn cyflwyno’r sampl iddynt.

 

13.

CALENDR CYFARFODYDD 2019/20 pdf eicon PDF 78 KB

Adroddiad gan Arwyn Thomas

Cofnod:

Penderfynwyd derbyn y dyddiadau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

 

 

14.

CENHADAETH EIN CENEDL: CWRICWLWM GWEDDNEWIDIOL - CYNIGION AM FFRAWAITH DEDDFWRIAETHOL NEWYDD

15.

ADY - YMGYNGHRIAD AR Y COD ADY DRAFFT