skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Swyddfeydd GwE, Bryn Eirias, Ffordd Abergele, Bae Colwyn, LL29 8BF

Cyswllt: Sioned Williams  01286 679729

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd am 2018-19.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Gareth Thomas yn Gadeirydd y pwyllgor hwn am 2018/19.

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD 2018-19

I ethold Is-gadeirydd am 2018-19.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Phil Wynn yn Is-gadeirydd y pwyllgor hwn am 2018/19.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

 

Y Cynghorydd Phil Wynn - Is Gadeirydd (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam), Peter Agnew (Cynrychiolydd Ysgolion Uwchradd), Arwyn Williams (Cyngor Sir Ynys Môn), Dafydd L. Edwards (Pennaeth Cyllid yr Awdurdod Lletyol - Cyngor Gwynedd), Steve Vincent (Llywodraeth Cymru), Susan Owen Jones (Rheolwr Busnes GwE), Rhys Howard Hughes (Cyfarwyddwr Cynorthwyol GwE).

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

5.

GWOBRAU ADDYSG PROFFESIYNOL CYMRU

Cofnod:

Adroddodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE bod seremoni gwobrwyo y Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru wedi’i gynnal yng Nghaerdydd ar 13 Mai 2018. Nodwyd bod y gwobrau yn dathlu ymrwymiad a gwaith caled athrawon ar draws Cymru. Amlygwyd bod nifer o athrawon/staff o awdurdodau'r Gogledd wedi cael eu henwebu am wobr, sydd yn dystiolaeth o gryfder y maes addysg yng Ngogledd Cymru.

 

Cyflwynwyd tair a ddaeth yn fuddugol yn eu categorïau unigol i’r cydbwyllgor, sef:

-        Athro Newydd Eithriadol – Helen Jones, Ysgol Uwchradd y Fflint.

-        Athro’r Flwyddyn – Lorraine Dalton, Ysgol Gynradd Esgob Morgan, Llanelwy.

-        Hybu Cydweithio i Wella Cyfleodd Dysgu – Ruth Thackray, GwE.

Cafodd yr enillwyr gyfle i siarad am eu gwaith a mynegwyd eu bod yn hynod o ddiolchgar a balch am eu henwebiad.

 

Yn ogystal, nodwyd fod Gwenan Ellis Jones, Cyngor Gwynedd wedi ennill y wobrDefnyddio’r Gymraeg Mewn Ffordd sy’n Ysbrydoli’. 

 

Mewn ymateb, llongyfarchodd y cydbwyllgor yr enillwyr a’r sawl a gafodd eu henwebu am wobr, a chymeradwywyd eu gwaith caled.

6.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hysteried.

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

7.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 81 KB

(copi wedi ei atodi)

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 21 Chwefror 2018, fel rhai cywir.

 

8.

FFRAMWAITH ATEBOLRWYDD NEWYDD

Cyflwyniad gan Alwyn Jones.

Cofnod:

Rhoddwyd cyflwyniad i’r cydbwyllgor gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol GwE ar y fframwaith atebolrwydd newydd sydd yn rhan o daith diwygio Llywodraeth Cymru. Nodwyd bod yr elfen Fframwaith Atebolrwydd yn rhan fechan o’r daith, a bod cefnogi ysgolion i gwrdd ag agenda’r daith yn mynd i fod yn her enfawr iawn.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, ymatebwyd i gyfres o gwestiynau/sylwadau gan aelodau’r cydbwyllgor mewn perthynas â:

 

-        Pwysigrwydd i holl aelodau (yn arbennig aelodau craffu) gael dealltwriaeth o maint y pwysau gwaith sydd yn eu hwynebu yn sgil y newidiadau sydd gerbron y maes addysg.

-        Awgrym i GwE rhoi cyflwyniad i aelodau cabinet ac aelodau craffu y chwe awdurdod lleol.

-        Pryder bod y broses o reoli adroddiadau data ddim yn eglur - mae angen gwell dealltwriaeth ranbarthol.

-        Beth yw’r camau nesaf a sut mae cyfathrebu hyn?

PENDERFYNWYD

-        GwE i roi cyflwyniad ar y Fframwaith Atebolrwydd Newydd i’r chwe awdurdod lleol.

-        Rheolwr Gyfarwyddwr GwE i anfon llythyr i Lywodraeth Cymru ar ran y cydbwyllgor i ofyn am eglurder o ‘atebolrwydder mwyn sicrhau cysondeb. 

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL GwE 2017-18 pdf eicon PDF 77 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Reolwr Cyfarwyddwr GwE ar berfformiad y Gwasanaeth o ran cyflawni Swyddogaethau’r Gwasanaeth a’r Nodau Allweddol. Tywyswyd yr aelodau drwy’r adroddiad gan nodi ei fod yn grynodeb o’r adroddiad blynyddol ac yn anelu i gyfleu’r negeseuon lefel uchel.

 

PENDERFYNWYD: Nodi a derbyn yr adroddiad.

10.

CYNLLUN BUSNES 2017-2020 - LEFEL 1 pdf eicon PDF 69 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE y Cynllun Busnes Lefel 1. Gofynnwyd am farn y cydbwyllgor am y math o naratif sydd yn fwyaf defnyddiol wrth adrodd ar berfformiad - oes angen ffocysu ar beth sydd angen ei wella neu ganolbwyntio ar lwyddiannau?

 

Mewn ymateb, croesawyd y cydbwyllgor y fformat personol gan nodi bod angen cydbwysedd o’r llwyddiannau yn ogystal â beth sydd angen ei wella er mwyn deall y darlun cyflawn.  

 

PENDERFYNWYD: Nodi a derbyn yr adroddiad.

11.

Y GYMRAEG MEWN ADDYSG pdf eicon PDF 134 KB

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol GwE. Cynigwyd adolygu’r strwythur rhanbarthol ar gyfer gweithredu’n fwy strategol i gefnogi’r Gymraeg o fewn y maes addysg, ac i sefydlu Bwrdd Strategol y Gymraeg i arwain ar y gwaith. Gofynnwyd i’r cydbwyllgor gymeradwyo’r cynigion a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, ymatebwyd i gyfres o gwestiynau/sylwadau gan aelodau’r cydbwyllgor mewn perthynas â:

 

-        Croesawu’r syniad o weithredu yn fwy strategol.

-        Pwy fydd yn rhan o aelodaeth y Bwrdd Strategol y Gymraeg? Mae’n bwysig i’r aelodaeth gynrychioli amrywiaeth y siaradwyr Cymraeg ar draws y rhanbarth.

-        Pwysigrwydd rhoi llais cryf i ddysgwyr yn y datblygiadau.

PENDERFYNWYD: Derbyn yr argymhellion.

12.

CYFRIFON TERFYNOL GwE 2017-18 pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad cryno gan Reolwr yr Uned Cyllid yr Awdurdod Lleol. Tywyswyd yr aelodau drwy’r adroddiadnid oedd unrhyw sylw pellach gan aelodau pwyllgor ar gynnwys yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD: Derbyn yr adroddiad.