Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Swyddfeydd GwE, Bryn Eirias, Ffordd Abergele, Bae Colwyn, LL29 8BF
Cyswllt: Sioned Williams 01286 672729
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorydd Meirion
Jones (Cyngor Sir Ynys Môn), Rita Price (Esgobaeth Wrecsam), Mair Herbert
(Cynrychiolydd Ysgolion Uwchradd), Alison Fisher (Cynrychiolydd
Llywodraethwyr), Ian Robert (Cyngor Bwrdeistrefol Wrecsam), Steve Vincent
(Llywodraeth Cymru), Gareth Williams (Cadeirydd y Bwrdd Ymgynghorol), a Alwyn
Jones (Cyfarwyddwr Cynorthwyol GwE). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad buddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol gan
unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw faterion brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyired. Cofnod: Nid oedd unrhyw
faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 306 KB (copi’n atodedig) Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd
gofnodion o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 22 Tachwedd 2017, fel rhai cywir. |
|
CYFLWYNIAD G6 Cyflwyniad ar lafar Cofnod: Rhoddwyd cyflwyniad i’r
Cydbwyllgor o’r system G6, sef system sydd yn galluogi ysgolion i gynnal
deialog gyda’i Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant am eu cynnydd drwy fewnbynnu gwybodaeth
i mewn i ddangosfwrdd rhanbarthol. Bydd mynediad
hefyd ar gael i awdurdodau lleol. Bwriad y system G6 yw trawsnewid y berthynas
rhwng GwE ac ysgolion ac i annog cyd-weithio rhwng ysgolion. Nodwyd bod y
sustem eisoes wedi ei dreialu mewn ysgolion yn Sir Ddinbych ac mae’r ymateb
iddo wedi bod yn gadarnhaol iawn. Yn ystod y drafodaeth
ddilynol, ymatebwyd i gyfres o gwestiynau/sylwadau gan aelodau’r cydbwyllgor
mewn perthynas â: §
Posibilrwydd i osod lefel mynediad gwahanol i’r sustem ar
gyfer gwahanol ddefnyddwyr. §
Mesur dilysrwydd dyfarniad ysgolion wrth iddynt fewnbynnu
gwybodaeth. §
Her o ddelio gydag ysgolion sydd mewn categori
coch/melyngoch ond ddim eisiau cael eu cyhoeddi. §
Pwyslais bod y sustem yn arf i wella perfformiad nid arf
i arfarnu ysgolion. §
Oes gan y 3 consortiwm arall sustem debyg/oes modd
ehangu’r sustem i fod yn genedlaethol? |
|
ADRODDIAD MONITRO CYNLLUN BUSNES LEFEL 1 - CHWARTER 3 PDF 242 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE adroddiad
monitro perfformiad chwarter 3 ar gyfer Cynllun Busnes Lefel 1. Amlygwyd bod
angen edrych ar effaith y gweithredu a bod angen sicrhau bod pawb yn glir o
beth yw’r rhesymeg tu ôl i’r blaenoriaethau. Yn ystod y drafodaeth ddilynol, ymatebwyd i gyfres
o gwestiynau/sylwadau gan aelodau’r cydbwyllgor mewn perthynas â: § Cwestiynwyd
os yw’n ddilys nodi’r elfen arweinyddiaeth yn ‘wyrdd’ - mae’r gwaith gweithredu
yn ‘wyrdd’ ond nid yw’r deilliannau. § Angen
trefnu cyfarfod cyn i aelodau’r Cabinet gyfarfod gyda’r WLGA ym mis Mawrth. PENDERFYNWYD: Derbyn yr
adroddiad. |
|
ADRODDIAD MONITRO Y GYLLIDEB 2017-18 - CHWARTER 3 PDF 394 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad
gan Reolwr Cyllid yr Awdurdod Lletyol. Nodwyd nad oes newid arwyddocaol yn
Adolygiad Chwarter 3. PENDERFYNWYD: Derbyn yr adroddiad. |
|
ADRODDIAD CYLLLIDEB SYLFAENOL 2018/19 PDF 381 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan Reolwr
Cyllid yr Awdurdod Lletyol, a nodwyd bod angen i’r
cydbwyllgor mabwysiadu’r gyllideb am y flwyddyn sydd i ddod. Yn ystod y drafodaeth
ddilynol, ymatebwyd i gyfres o gwestiynau/sylwadau gan aelodau’r cydbwyllgor
mewn perthynas á: §
Pwysigrwydd rheoli’r risg. §
Awgrym i flaenoriaethu unrhyw adnodd cyllidol sydd dros
ben i ysgolion sydd yn y categori ‘coch’. §
Pwysigrwydd sicrhau gwerth am arian wrth roi rhagor o
arian i ysgolion yn y categori ‘coch’ - nid yw darparu mwy o arian yn golygu
bod yr ysgol am wella. PENDERFYNWYD: Mabwysiadau’r
gyllideb. |
|
CYNLLUN ARIANNOL TYMOR CANOLIG 2017/18 - 2020/21 PDF 240 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad
gan Reolwr Cyllid yr Awdurdod Lletyol. Nodwyd nad oes newid arwyddocaol yn y
ffigyrau ac nid oes angen llawer o newid i’r cynllun gweithredu. PENDERFYNWYD: Cymeradwyo’r cynllun. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd Rheolwyr
Busnes GwE y gofrestr risg. Nodwyd bod angen i’r cydbwyllgor adolygu cynnwys y
gofrestr a’i dderbyn. PENDERFYNWYD: Derbyn y cofrestr
risg. |
|
ADRODDIAD Y BWRDD YMGYNGHOROL PDF 325 KB Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad y
Bwrdd Ymgynghorol yn nodi’r trafodaethau a fu yn eu cyfarfod diwethaf.
Gofynnwyd i’r Cydbwyllgor nodi cynnwys yr adroddiad. Llongyfarchwyd Aled
Evans am ei benodiad mewn rôl arweiniol gyda Llywodraeth Cymru a nodwyd bod
Carl Hughes wedi ei benodi fel aelod newydd o’r Bwrdd Ymgynghorol. PENDERFYNWYD: Nodi cynnwys yr
adroddiad. |
|
DYDDIADAU CYFARFODYDD PDF 301 KB Cofnod: Cyflwynwyd cais am
ddyddiadau i gyfarfod Cydbwyllgor GwE am y flwyddyn. PENDERFYNWYD: Derbyn y cais. |