skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Swyddfeydd GwE, Bryn Eirias, Ffordd Abergele, Bae Colwyn, LL29 8BF

Cyswllt: Sioned Williams  01286 679729

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau.

Cofnod:

Y Cynghorydd Garffild Lewis, Diane Chisholm (Cynrychiolydd Ysgolion Cynradd), Mair Herbert (Cynrychiolydd Ysgolion Uwchradd), Alison Fisher (Cynrychiolydd Llywodraethwr), Dr Lowri Brown (Cyngor Bwrdeistrefol Conwy), Dafydd L. Edwards (Pennaeth Cyllid yr Awdurdod Lletyol – Cyngor Gwynedd), Steve Vincent (Llywodraeth Cymru), Rhys Howard Hughes (Cyfarwyddwr Cynorthwyol GwE), Delyth Molyneux (Cyngor Sir Ynys Môn).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad buddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw faterion brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

(a)    Cynhadledd Ranbarthol Athrawon Uwchradd

Yn dilyn sylw’r cyfryngau ar y gost i wahodd siaradwyr i Gynhadledd Ranbarthol Athrawon Uwchradd GwE ym mis Gorffennaf, rhoddwyd cyfle i Reolwr Gyfarwyddwr GwE ymateb i nifer o gwestiynau, wedi’i llunio gan Gynghorwyr y Cydbwyllgor, a gosod cyd-destun i’r mater. Ar gais aelodau, nodwyd y bydd unrhyw drefniadau i gynnal cynhadledd yn y dyfodol yn dod o flaen y Cydbwyllgor er mwyn trafod y gost ac i sicrhau gwerth am arian

 

 

(b)    Ailstrwythuro Cwricwlwm Newydd yng Nghymru

Cyflwynodd Uwch Arweinydd Cwricwlwm i Gymru ddiweddariad ar y gwaith mae GwE yn ei wneud i ddatblygu'r cwricwlwm newydd yng Nghymru.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 196 KB

(copi’n atodedig)

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 4 Hydref 2017, fel rhai cywir.

 

5.

ADBORTH ESTYN pdf eicon PDF 307 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Diolchodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE i holl bartneriaid GwE am eu hymroddiad a’u cyfraniad i lwyddiant yr arolwg, a nodwyd bod y tîm yn ymfalchïo yn yr adroddiad.

Cyfeiriwyd at y prif negeseuon ar gyfer pob un o’r argymhellion yn ogystal â’r elfennau hynny sydd angen sylw sef y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 4, sydd eisoes wedi eu cynnwys mewn cynlluniau busnes.

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol:

§  Diolchwyd i Reolwr Gyfarwyddwr a staff GwE am gyflawni gwaith a chanlyniad gwych mewn cyfnod amser byr.

§  Canmolwyd cryfder y cydweithrediad rhwng partneriaid GwE a phwysleisiwyd pwysigrwydd i’w gynnal ar y lefel uchel yma.

§  Nodwyd bod newid diwylliant sylweddol wedi digwydd. Erbyn hyn mae diwylliant o gydnabod cyfraniadau ein gilydd yn bodoli ac mae’r amser yn iawn am ddatblygiad pellach.

 

6.

CYNLLUN BUSNES LEFEL 1 ADRODDIAD MONITRO CHWARTER 2 pdf eicon PDF 293 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE adroddiad monitro chwarter 2 ar gyfer y Cynllun Busnes Lefel 1.  Amlygwyd yr heriau ar gwelliannau sydd eu hangen yn y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 4.T 4.

 

PENDERFYNWYD: Derbyn yr adroddiad.

 

7.

CYLLIDEB GwE 2017-18 - ADOLYGIAD CHWARTER 2 pdf eicon PDF 357 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Cyflwynwyd adroddiad gan Reolwr Cyllid yr Awdurdod Lletyol. Nodwyd nad oes newid arwyddocaol yn Adolygiad Chwarter 2.

 

PENDERFYNWYD: Derbyn yr adroddiad.

 

8.

STRATEGAETH GWELLA GwE 2017-20 - UWCHRADD, CYNRADD A CWRICWLWM I GYMRU pdf eicon PDF 292 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol GwE ar Strategaethau Gwella GwE sydd wedi’i alinio gyda’r ddogfen Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl Llywodraeth Cymru, ac yn gosod y cyfeiriad am y tair blynedd nesaf. Amlygwyd y strategaeth uwchradd a’r effaith mae’r gweithredu wedi ei gael i wella’r proffil arolygiadau y rhanbarth.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol:

§  Mae angen mynd i’r afael o’r broblem o recriwtio penaethiaid i’r proffesiwn.

§  Cwestiynwyd a oes modd integreiddio sgiliau arweinwyr ar gyfer y cynradd a’r uwchradd wrth gynllunio ar gyfer y cwricwlwm newydd.

 

PENDERFYNWYD: Derbyn yr adroddiad.

 

9.

CYNLLUN DATBLYGU'R GWEITHLU I GEFNOGI'R GYMRAEG MEWN ADDYSG pdf eicon PDF 263 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Is-grŵp y Gymraeg mewn perthynas â’r cynllun ‘Datblygu’r Gweithlu i Gefnogi’r Gymraeg mewn Addysg’.

 

Adroddwyd bod Llywodraeth Cymru ar fin lansio’r cynllun gyda’r nod o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Nodwyd fod y rhanbarth wedi derbyn dyraniad grant o £557,051 er mwyn datblygu’r gweithlu i gefnogi’r Gymraeg mewn addysg. Mae Is-grŵp y Gymraeg eisoes wedi ei sefydlu, sydd yn cynnwys cynrychiolaeth o bob awdurdod lleol yn y rhanbarth, ac yn bwriadu i weithredu fel Bwrdd Prosiect ar gyfer y gwaith. 

 

Amlygwyd y pwyntiau canlynol:

§  Nododd Pennaeth Addysg Dros Dro Sir y Fflint bod timau effeithiol eisoes yn bodoli sydd yn gyfrifol am raglenni datblygu’r gweithlu. Mynegwyd bod mudiadau fel yr Urdd yn chwarae  rôl allweddol i dorri rhwystrau a newid agweddau tuag at yr iaith Gymraeg mewn ardaloedd Seisnigaidd, ac yn ei wneud yn fwy hygyrch a cynhwysol. Mae’n bwysig bod y cynllun ddim yn ffocysu ar addysg yn unig, ac yn cael ei ymestyn tu allan i ysgolion cyfrwng y Gymraeg.

§  Cwestiynwyd a fydd y cynllun yn perthyn i’r ysgolion ynteu i’r Cyngor. Nodwyd y byddai’n anodd dylanwadu ar gynllun ysgol. 

 

PENDERFYNWYD: Derbyn a chymeradwyo’r briff prosiect.