skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Swyddfeydd GwE, Bryn Eirias, Ffordd Abergele, Bae Colwyn, LL29 8BF

Cyswllt: Sioned Williams  01286 632729

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau.

Cofnod:

Rita Price (Esgobaeth Wrecsam), Jonathan Morgan (Cynrychiolydd Ysgolion Arbennig), Dr Gwynne Jones (Cyngor Sir Ynys Môn), Steve Vincent (Llywodraeth Cymru).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad buddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

 

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw fater sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 168 KB

(copi’n atodedig)

Cofnod:

Derbyniwyd y cofnodion o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 20 Gorffennaf 2017, fel rhai cywir.

 

5.

CYFRIFON TERFYNOL AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 21 MAWRTH 2017 pdf eicon PDF 209 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd Pennaeth Cyllid y Awdurdod Lletyol yr adroddiad ac eglurwyd bod y Datganiad wedi bod yn destun archwiliad gan Deloitte, archwilwyr allanol apwyntiwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

 

Adroddodd Cynrychiolydd Deloitte bod yr archwiliad Deloitte wedi ei gwblhau a bod yr adroddiad, yn gyffredinol, yn adlewyrchu yn dda iawn ar GwE a’r Cydbwyllgor. Nodwyd bod dau fân newidiadau wedi’u gwneud i’r adroddiad, gan gynnwys ail-strwythuro paragraff ar waelod tudalen 15 a gwall ‘typo’ yn nhabl ar dudalen 31, a godwyd gan Deloitte ar ôl i’r agenda gael ei yrru i’r Cydbwyllgor.

 

Esboniwyd mai’r cam nesaf, os caiff yr adroddiad ei dderbyn gan y Cydbwyllgor, fydd i’r Cadeirydd a Pennaeth Cyllid yr Awdurdod Lletyol i lofnodi’r Llythyr Cynrychiolaeth a’i yrru yn ôl i Deloitte.

 

PENDERFYNIWYD: I dderbyn yr adroddiad fel mae wedi ei addasu. 

 

6.

ADRODDIAD CYCHWYNNOL AR BERFFORMIAD RHANBARTH pdf eicon PDF 252 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Rheolwr Gyfarwyddwr GwE, diolchodd i staff addysgol y rhanbarth am eu gwaith caled i gyflawni’r canlyniadau, a nodwyd y canlynol:

 

§  Nid yw’r canlyniadau yn ganlyniadau terfynol ar hyn o bryd ac mae posibilrwydd y caiff eu newid.

§  Mae perfformiad Cyfnod Sylfaen wedi cynyddu ar draws y rhanbarth, y cynnydd mwyaf ar lefel genedlaethol. Er hyn, mae perfformiad GwE yn is na’r disgwyl o fewn y pedwar consortiwm (trydydd). Nodwyd bod angen sylw pellach mewn rhai awdurdodau o fewn y rhanbarth gan gynnwys Conwy ac i ddarganfod os oes problemau gyda’r asesiad neu’r addysgu.

§  Mae perfformiad Cyfnod Allweddol 2 yn dda iawn ac mae GwE wedi codi i’r safle cyntaf ymhlith y pedwar consortiwm.

§  Mae’r cynnydd yng Nghyfnod Allweddol 3 wedi bod yn gadarn yn 2017 ond mae sylw pellach wedi ei adnabod ar gyfer Wrecsam.

§  Roedd AT yn awyddus i ganolbwyntio ar canlyniadau Cyfnod Allweddol 4 yn y cyfarfod. Pwysleisiodd bod y manylebau TGAU ar gyfer Saesneg, Cymraeg, Mathemateg a Gwyddoniaeth wedi newid, ac felly mae’r gwaelodlin ar gyfer 2017 yn hollol newydd. Cafodd Mathemateg ei adnabod fel adran yw wella. Yn ogystal, nodwyd bod problemau ynglŷn a denu penaethiaid Mathemateg i ysgolion y rhanbarth. Yn ddiweddar, mae 31 pennaeth Mathemateg newydd wedi eu penodi ar draws y rhanbarth sy’n peri risg i’r adran berfformio yn dda os nad ydynt yn derbyn y cefnogaeth sydd angen.

§  Nodwyd bod Cyfnod Allweddol 5 yn destun blaenoriaeth cenedlaethol. Mae’n gymhleth dadansoddi’r data am fod y model cyflwyno yn amrywio oddi fewn awdurdodau ar draws y rhanbarth.

 

Nodwyd bod Cyfnod Sylfaen yn destun pryder yng Ngwynedd ac angen mwy o sylw. Gofynnwyd os yw’r broblem o ddenu penaethiaid Mathemateg yn un genedlaethol.

 

Pwysleisiwyd bod denu penaethiaid Mathemateg i ysgolion yn anodd iawn, ond ei fod yn haws i’r ysgolion mawr am eu bod gyda’r arian i’w cadw yn y swydd. Awgrymwyd mai un ateb fydd i benodi penaethiaid uwchben y consortiwm a fyddai’n galluogi’r posibilrwydd i symud penaethiaid o gwmpas ysgolion yn ôl yr angen – bydd hyn angen trafodaeth pellach.

 

Nodwyd bod Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar Bapur Gwyn yn ymwneud a Addysg 16+ a gofynnwyd i’r Cyd-Bwyllgor os oedd rhywun yn bresennol yn y cyfarfod yn ymwneud a’r papur a gynhaliwyd yn Llanelwy yn ddiweddar.

 

Nodwyd bod yr awdurdodau heb dderbyn Papur Gwyn gan y Llywodraeth ac eu bod heb ymgynghori gyda’r awdurdodau yn y rhanbarth. Cwestiynwyd pam bod y Llywodraeth heb gynnwys barn asiantaethau allweddol yn y maes yn yr ymgynghoriad a bod yn mater yn annerbyniol.

 

Cadarnhawyd bod GwE wedi cael eu tynnu mewn i drafodaeth cychwynnol gyda’r Llywodraeth ynglŷn a’r ymgynghoriad.

 

Gofynnwyd sut yr rydem am fesur ein cynnydd amser yma blwyddyn nesaf er mwyn codi safonau ac i ddadansoddi’r manylion.

 

Esboniwyd bod GwE am adrodd ar ddata byw, hynny yw, edrych ar ffactorau fel penaethiaid Gwyddoniaeth, Gwaith Cwrs, a’r nifer o ddysgwyr sydd wedi eistedd eu arholiadau yn barod, a dadansoddi y wybodaeth yma. Bydd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

ARGYMHELLION ESTYN - CYNNYDD pdf eicon PDF 358 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Eglurodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE y bydd Estyn yn ymweld â GwE ar 16 Hydref yn dilyn Arolygiad Rhanbarthol Estyn a gynhaliwyd ym mis Ebrill 2016. Bydd Estyn yn adrodd ar y cynnydd sydd wedi ei wneud yn erbyn y chwech argymhelliad a cafodd eu cynnwys yn adroddiad Estyn wedi’r ymchwiliad yn 2016.

 

Bydd cyfarfod Cydbwyllgor GwE arbennig yn cael ei gynnal ar 4 Hydref 2017 er mwyn i aelodau’r pwyllgor mynegi eu barn ar gynnydd yn erbyn y chwech argymhellion.

 

PENDERFYNWYD: Derbyn yr adroddiad. 

 

8.

RHEOLI PERFFORMIAD STAFF GwE pdf eicon PDF 290 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr adroddiad gan Cyfarwyddwr Cynorthwyol GwE a nodwyd y canlynol:

 

§  Mae polisi Rheoli Perfformiad Staff GwE wedi ei ddiwygio i adlewyrchu’n well ar y Cynllun Busnes Rhanbarthol, a’r strwythur atebolrwydd a staff newydd.

§  Yn dilyn y polisi newydd, bydd staff GwE yn mynd drwy drefn Rheoli Perfformiad flynyddol bob mis Hydref a fydd yn cael ei adolygu pob chwarter i fonitro cynnydd.

§  Bydd y newidiadau yn darparu mwy o gyfleodd datblygu i staff ac yn rhoi mwy o adborth a chefnogaeth er mwyn iddynt gyrraedd eu hamcanion. Bydd hefyd yn galluogi staff i fod yn fwy hyblyg o’i hamcanion, drwy eu galluogi i adolygu a diwygio eu cyfeiriad, os oes angen, yn ystod y flwyddyn. 

 

PENDERFYNWYD: Derbyn y polisi.

 

9.

TARGED ARBEDION EFFEITHLONRWYDD pdf eicon PDF 239 KB

Cofnod:

The report was presented by DLE and it was noted that there was an efficiency savings target of £131, 967 in the base budget for 2017/18.  He explained that GwE had a history of under expenditure due to grants being allocated late in the financial year, and that attributing grant income was an issue due to administration and execution.  It was accepted that the grants need to be administered better in future. 

 

It was noted that the education budget has been safeguarded thus far, however what will happen in future if there will be further cuts. 

 

It was noted that it is impossible to foresee this, and rather to respond to things as they happen. 

 

It was noted that GwE would have to follow the same course as the local authorities, that is, whatever financial constraints are put upon the authorities, GwE will have to adapt its budget. 

 

It was emphasised that GwE's inter-authority agreement sets an agreed funding model. Amended contributions will have to be agreed by the partners.

 

It was noted that requirements in service areas, particularly statutory services, affect the budget in other services. 

 

IT WAS RESOLVED: To accept the report.  

 

10.

CYLLIDEB GwE 2017-18 - ADOLYGIAD CHWARTER 1 pdf eicon PDF 259 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd Pennaeth Cyllid yr Awdurdod Lletyol yr adroddiad gan nodi bod adolygiad cychwynnol yn amcangyfrif gorwariant net o £10,660 yn erbyn y gyllideb, a bod trosiant staff a’r cyfnod pryd oedd y Rheolwr Gyfarwyddwr mewn swydd dros dro wedi arwain at danwariant un-tro cymharol fechan.

 

PENDERFYNIWYD: Derbyn yr adroddiad.

 

11.

CALENDR CYFARFODYDD pdf eicon PDF 301 KB

Cofnod:

Bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar y 4ydd Hydref 2017.

 

Nodwyd bod un diwygiad wedi bod yng nghalendr cyfarfodydd, a bydd y Cyd-Bwyllgor mis Chwefror 2018 yn cael ei gynnal ar y 21 Chwefror 2018.