Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Swyddfeydd GwE, Bryn Eirias, Ffordd Abergele, Bae Colwyn, LL29 8BF

Cyswllt: Einir Rhian Davies  01286 679868

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd am 2017-18

Cofnod:

Cynigiodd Meirion Jones ac eiliodd Huw Hilditch-Roberts y Cynghorydd Gareth Thomas yn Gadeirydd.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd am 2017-18

Cofnod:

Cynigiodd Huw Hilditch-Roberts ac eiliodd Meirion Jones y Cynghorydd Phil Wynn yn Is-gadeirydd.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnod:

Cyng. Gareth Jones (Cyngor Bwrdeistrefol Conwy), Mrs K Evans (Cyngor Sir Ddinbych), Alison Fisher (Cynrychiolydd Llywodraethwyr), Dr Gwynne Jones (Cyngor Sir Ynys Môn), Rita Price (Esgobaeth Wrecsam), Diane Chrisholm (Cynrychiolydd Ysgolion Cynradd), Mair Herbert (Cynrychiolydd Ysgolion Uwchradd), Martyn Gray (Llywodraeth Cymru), Delyth Molyneux (Cyngor Sir Ynys Môn), Cynghorydd Garffild Lewis (Cyngor Conwy).

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

6.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 215 KB

(copi wedi ei atodi)

Cofnod:

Derbyniwyd y cofnodion o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 8 Mawrth, 2017, fel rhai cywir.

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL pdf eicon PDF 456 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Arwyn Thomas gan nodi nad oedd y cynnwys wedi newid ers ei drafod ym Mawrth 2017. Tywysodd AT yr Is-grŵp drwy’r adroddiad a nodwyd y canlynol:

 

§  Mae’r adroddiad wedi ei ddiweddaru ers yr adroddiad drafft a gyflwynwyd ym mis Mawrth.

§  Mae’r adroddiad yn adnabod y meysydd sydd angen cynnydd mewn perfformiad a fydd yn cael eu blaenoriaethu yn Gynllun Busnes GwE – bydd y cynllun yma yn ffurfio manyldeb cynlluniau penodol yr awdurdodau lleol.

§  Bydd angen ffocysu nawr ar y camau nesaf sydd yn cynnwys ailstrwythuro'r gwasanaeth, rhoi pwyslais ar gyfnod allweddol pedwar, a symleiddio’r model llywodraethu.

§  Bydd angen i aelodau sefydlu rheolau ac ethos tîm GwE mewn ysgolion i sicrhau bod pawb yn cefnogi'r un gwasanaeth, ar lefel ysgol, awdurdod a rhanbarth

§  Bydd angen i awdurdodau lleol edrych ar eu problemau unigol ac i weithio mewn partneriaeth gyda GwE yn rhanbarthol yw datrys.

 

Nododd y Cynghorydd Ian Roberts bod Cyfarwyddwr Dros Dro Sir y Fflint yn anhapus gyda’r lefelau perfformiad a'u bod yn gweithio i wella hyn ar frys. Cododd pryderon ynglŷn â than wariant o £300,000 ar Ymgynghorwyr  Her. Dywedodd bod gronfeydd dros ben GwE o £900,000 yn annerbyniol pan mae perfformiad Sir y Fflint yn dirywio. Awgrymodd y byddai’r arian hyn yn cael ei wario yn well mewn ysgolion.

 

Nododd Dafydd Edwards bod y tan wariant yn gamarweiniol. Esboniodd bod yr Ymgynghorwyr Her a briodolir i danwariant ar yr awdurdodau lleol wedi bod yn gwneud busnes arferol a bod y grantiau gan y Llywodraeth sy’n ymwneud a’i gwaith y tu allan yw rôl arferol wedi cyrraedd yn hwyr.

 

Nododd y Cynghorydd Ian Roberts bod Cyfarwyddwr Dros Dro Sir y Fflint yn anhapus gyda pherfformiad yr awdurdod a'u bod angen gweithio ar frys i wella hyn. Cododd bryderon ynglŷn â than wariant pan mae perfformiad Sir y Fflint yn dirywio. Awgrymodd y dylai'r arian gael ei wario i wella perffomiad yr ysgolion sy'n tanberfformio.

 

Nododd Dafydd Edwards bod y tan wariant yn gamarweiniol. Esboniodd bod yr Ymgynghorwyr Her a briodolir i danwariant ar yr awdurdodau lleol wedi bod yn gwneud busnes arferol a bod y grantiau gan y llywodraeth sy’n ymwneud a’i gwaith y tu allan i’w rôl arferol wedi cyrraedd yn hwyr. Nodod Arwyn Thomas fod GwE yn gweithio mewn partneriaeth gyda'r awdurdodau a'r ysgolion i godi safonau.

 

PENDERFYNWYD: Cynigiodd Huw Hilditch-Roberts, ac eiliodd Meirion Jones derbyn a chymeradwyo yr Adroddiad Blynyddol. 

 

8.

COFRESTR RISG pdf eicon PDF 395 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd y Gofrestr Risg gan AT. Tywysodd AT yr Is-grŵp drwy’r adroddiad a nodwyd y canlynol:

 

§  Bydd y rhestr, sydd yn cynnwys risgiau ar draws y rhanbarth  yn cael ei ail werthuso wedi canlyniadau'r Haf ar gyfer mis Medi a bydd yn debyg y bydd rhai materion yn dod oddi ar y gofrestr.

 

PENDERFYNWYD: Cynigiodd Phil Wynn ac eiliodd Meirion Jones dderbyn a chymeradwyo y Gofrestr Risg fel mae’n sefyll.

 

Ychwanegu Y Gofrestr Risg yn ôl ar yr agenda ym mis Medi er mwyn i’r Is-grŵp ail-wyntyllu beth fydd yn cael ei gynnwys ynddo. 

 

9.

CYNNYDD YN ERBYN ARGYMHELLION ESTYN pdf eicon PDF 403 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 Cyflwynwyd yr adroddiad gan AT a nodwyd y canlynol :

 

Mae cynnydd da yn cael ei wneud yn erbyn argymhellion yr adroddiad ond bydd angen ail-drafod yng nghyd-destun effaith yn dilyn derbyn canlyniadau’r Haf.

 

Cafwyd adroddiad byr gan Alwyn Jones ble trafodwyd CA4 yn dilyn y manylebau newydd mewn Cymraeg, Mathemateg a Saesneg.  Nododd Alwyn Jones bwysigrwydd cymharu ffigyrau canlyniadau gyda ffigyrau Awdurdodau eraill, ac nid gyda chanlyniadau y blynyddoedd blaenorol.  Cytunwyd bod angen sefydlu gwaelodlin yn Haf 2017.

 

Nododd Meirion Jones yr anhawster bod yr Awdurdod ddim yn cael gwybod am y canlyniadau tan fore y canlyniadau.  Cadarnhaodd Arwyn Thomas bod y mater wedi ei godi gyda Chymhwysterau Cymru, ac y dylai pawb allu ymddiried yn ei gilydd o ran materion cyfrinachedd, ond roedd Cymhwysterau Cymru yn gadarn yn eu safiad.

 

Cadarnhaodd Arwyn Thomas bod yr amserlen ar gyfer ymweliad ESTYN yr wythnos yn cychwyn16 Hydref 2017 a gofynnodd i aelodau y Cyd-bwyllgor geisio bod ar gael ar gyfer sgwrs gyda Swyddogion Estyn.  Holodd Arwyn Thomas tybed a fyddai diddordeb ymysg yr aelodau mewn gweithdy cyn y cyfarfod i drafod yr adroddiad.

 

Nododd Huw Hilditch-Roberts bod y sefyllfa secondiadau o ysgolion i GwE yn creu peth gur pen.  Nododd yr angen am brotocol ar gyfer rhyddhau Penaethiaid, fyddai yn lleihau rywfaint ar y tensiwn o ran anghenion GwE/yr unigolyn/yr ysgol a’r Awdurdod.

 

PENDERFYNWYD: Cynigiodd Huw Hilditch-Roberts ac eiliodd Phil Wynn i dderbyn a chymeradwyo yr adroddiad.

Cytunwyd i gynnal gweithdy i aelodau ym mis Medi.

 

10.

AMCANION 3 BLYNEDD GwE

Cyflwyniad ar Lafar

Cofnod:

Cafwyd diweddariad gan AT o amcanion GwE a ble gobeithir y bydd GwE erbyn 2020 a nodwyd y canlynol:

 

§  Mae Cynllun Busnes GwE 2017-18 wedi gosod targedau safonau addysgu a dysgu.

§  Bydd y Cynllun yn cael ei gyflwyno yn ffurfiol i’r Cydbwyllgor ym mis Medi.

 

Roedd AT yn awyddus i aelodau drafod y Cynllun gyda phenaethiaid yn eu hawdurdodau lleol. Croesewir unrhyw adborth a bydd sylwadau/awgrymiadau yn cael eu bwydo mewn i’r Cynllun.

 

PENDERFYNWYD: Yr is-grŵp i addasu'r Cynllun ym mis Medi drwy glymu i mewn cynlluniau'r awdurdodau lleol a blaenoriaethu amcanion.

 

11.

TREFNIADAU GWEITHREDU GwE pdf eicon PDF 272 KB

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Arwyn Thomas.

 

PENDERFYNWYD: Cafodd yr adroddiad ei chynnig gan Phil Wynn, a’i heilio gan Meirion Jones a’i dderbyn gan y Cyd-bwyllgor.

 

 

12.

CYFRIFON 2016-17 pdf eicon PDF 209 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dafydd Edwards gan gadarnhau bod yr elfen Datganiad Cyfrifon yn elfen statudol yn unol â Deddf gwlad.  Tynnodd Dafydd Edwards sylw at

 

·         Tanwariant Ymgynghorwyr Her £300,000

·         Brocera £139,000

 

Cwestiynodd Phil Wynn tybed a oes modd gwario y reserfau ar unrhyw beth?  Cadarnhawyd bod y prif reserfau ar gael ar wahân at ddibenion TG a phensiynau.  Nododd Arwyn Thomas ei fod angen sgwrs bellach i drafod y defnydd o reserfau.

 

PENDERFYNWYD : Cynigiodd Meirion Jones ac Eiliodd Phil Wynn dderbyn a chymeradwyo yr adroddiad.

 

13.

DATGANIAD LLYWODRAETHU 2016-17 pdf eicon PDF 289 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Awgrymodd Arwyn Thomas bod Datganiad Llywodraethu, sydd yn ymwneud a phriodoldeb ymddygiad a phriodoldeb llywodraethu yn cael ei drafod yn y cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD: Cynigiodd Meirion Jones ac eiliodd Phill Wynn y datganiad a’i cymeradwyodd gan y Cyd-bwyllgor.

 

14.

FFRAMWAITH DEILLIANNAU-GRANT GWELLA ADDYSG pdf eicon PDF 260 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Arwyn Thomas a nodwyd y canlynol:

 

§  Fel Consortiwm, rydem angen trafodaeth gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â rhaglen y gyllideb dros y 2-3 mlynedd nesaf, gyda chais i amodau’r grant fod yn fwy hyblyg i gyfarch anghenion lleol

§  Mae angen model cyllideb debyg dros y pedwar rhanbarth gyda grantiau yn canolbwyntio ar gefnogi athrawon a gwella perfformiad plant.

 

PENDERFYNWYD: Cynigiodd Meirion Jones ac eiliodd Phil Wynn yr adroddiad a’i derbyniwyd a’i gymeradwyo gan y Cydbwyllgor. 

 

15.

CALENDR CYFARFODYDD 2017-18 pdf eicon PDF 305 KB

Cofnod:

Nododd Arwyn Thomas fod Susan Owen Jones wedi dyrannu dyddiadau penodol i gyfarfodydd y Cydbwyllgor.

 

Atgoffodd Arwyn Thomas y Cydbwyllgor bod presenoldeb aelodau yn y cyfarfodydd yn hanfodol bwysig er mwyn sicrhau eu bod yn cael cyfle i liwio’r drafodaeth.

 

Nododd Iwan Evans bod angen cadw cworwm o leiafswm tri aelod i bleidleisio. 

 

Ychwanegodd y Cadeirydd bod cydweithio yn elfen sylfaenol o’r Cydbwyllgor a'i fod yn fodlon i gynnal cyfarfodydd ychwanegol pe byddai aelodau yn dymuno i drafod materion ym mhellach.

 

Penderfynwyd y byddai’r Cydbwyllgor, yn y dyfodol, yn cychwyn yn ffurfiol am 10:30am ac yn anffurfiol am 9.30 neu 10.00 i alluogi aelodau i gael cyngyfarfod yn anffurfiol.

 

16.

ANY OTHER MATTERS

Cofnod:

Trefniadau craffu'r pwyllgor : mae’r cytundeb craffu rhanbarthol yn y broses o gael ei gadarnhau. Penderfynwyd y bydd adroddiad ar y drefn craffu ar agenda cyfarfod nesaf y Cydbwyllgor.