skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Venue Cymru, Llandudno

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd am 2015/16.

Cofnod:

Penderfynwyd ail-ethol y Cynghorydd Eryl Williams yn Gadeirydd i’r Cyd-Bwyllgor am y flwyddyn 2015/16.

2.

IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd am 2015/16.

Cofnod:

Penderfynwyd ail-ethol y Cynghorydd Michael Williams yn Is-gadeirydd i’r Cyd-Bwyllgor am y flwyddyn 2015/16.

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Diane Chisholm (Cynrychiolydd Ysgolion Cynradd), Rita Price (Esgobaeth Wrecsam) ac Arwyn Thomas (Cyngor Gwynedd).

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datgan o fuddiant personol gan unrhyw Aelod oedd yn bresennol.

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

6.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 248 KB

(copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 25 Chwefror 2015 fel rhai cywir.

 

4.1       MATERION YN CODI O’R COFNODION

 

            Adroddwyd bod y gwaith gwirio cenedlaethol a gwaith asesu a safoni gan y 4 rhanbarth, er mwyn sicrhau ansawdd yn genedlaethol, wedi ei gwblhau gydag adroddiad drafft wedi ei lunio. Nodwyd y cyflwynir adroddiad yng nghyswllt y wybodaeth leol i gyfarfod nesaf y Cyd-Bwyllgor ar 23 Medi 2015.

 

            Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

7.

CYNLLUN BUSNES RHANBARTHOL 2014-15 - ADRODDIAD MONITRO pdf eicon PDF 349 KB

(copi’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE yn diweddaru’r Cyd-Bwyllgor ar y cynnydd yn erbyn Cynllun Busnes 2014-15. Tywysodd yr aelodau trwy’r adroddiad fesul blaenoriaeth ac ymatebwyd i sylwadau, yn ystod y drafodaeth gwnaed y prif bwyntiau canlynol:

 

(a)         Blaenoriaeth 4 ‘Cynyddu Niferoedd mewn Cymraeg Iaith Gyntaf, yn ogystal â chodi safonau, ar draws y rhanbarth’ - Nodwyd yn dilyn secondiad Mrs Eleri Jones yn dod i ben, y byddai unigolyn arall yn ymgymryd â’r gwaith a bod y flaenoriaeth dal yn bwysig.

(b)         Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod yng nghyswllt sicrhau dilyniant yn genedlaethol a rhanbarthol, nododd Mr Geraint Rees (Llywodraeth Cymru) bod adroddiad yr Athro Donaldson yn amlygu addysg cyfrwng Cymraeg a bod angen datblygiad cydlynus ym mhob rhanbarth. Ychwanegodd bod Cyngor Gwynedd yn awdurdod arweiniol ar addysg cyfrwng Cymraeg yn y rhanbarth a gydag amrywiaeth ar draws y rhanbarth bod angen rhwydweithio dyfnach.

(c)         Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod parthed cynnal trafodaethau ar y ffordd ymlaen gydag addysg cyfrwng Cymraeg yn y rhanbarth gan fod strategaeth wahanol gan y 6 Sir a phroffiliau gwaith gwahanol, nodwyd ei fod yn hynod bwysig cael trafodaeth ar y ffordd ymlaen.

(ch)     Blaenoriaeth 6 ‘Sefydlu a hybu model rhanbarthol ysgol i ysgol’ – 

           Nodwyd bod tystiolaeth gref i ddangos bod ysgolion â’r awydd i gyd-

           weithio ond rhai ysgolion dal yn fwy traddodiadol eu hagwedd. 

           Pwysleisiwyd yr angen i sicrhau ei fod yn rhaglen rhanbarth cyfan.

(d)         Blaenoriaeth 7 ‘Datblygu arweinyddiaeth a dysgu ac addysgu o safon ar bob lefel’ – Nododd aelod bod datblygu arweinyddiaeth yn hynod bwysig a bod angen mesur gwerth.

(dd)    Blaenoriaeth 8 ‘Cefnogi ysgolion i ddatblygu prosesau asesu, safoni

 a chymedroli mwy cadarn ac effeithiol’ - Mewn ymateb i sylw gan    

 aelod, nododd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE bod camau yn cael ei

 cymryd i sicrhau gwell cydbwysedd rhwng herio a chefnogi yn dilyn 

 cyhoeddiad adroddiad blynyddol Estyn.    

(e)       Blaenoriaeth 10 ‘Sicrhau bod GwE yn cael ei lywodraethu’n effeithiol’ -   

     Nododd Mr Geraint Rees (Llywodraeth Cymru) o ran trefniadau craffu 

     bod Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) wedi nodi eu dymuniad bod 

     craffu yn digwydd yn rhanbarthol ond erbyn hyn gwelir symudiad tuag 

     at Bwyllgorau Craffu perthnasol yr Awdurdodau yn edrych ar

     adroddiadau thematig. Nodwyd bod trafodaethau yn mynd rhagddynt o 

     ran cael trefn graffu cydlynus.

 

            Penderfynwyd:          Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad.

8.

CYFRIFON TERFYNOL Y CYD-BWYLLGOR AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2015 pdf eicon PDF 262 KB

(copi’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd yn amlinellu sefyllfaalldroar y cyfrifon Incwm a Gwariant Refeniw 2014/15 ynghyd â datganiad o’r cyfrifon, ar ffurf statudol, wedi’i ardystio, ond cyn Archwiliad.

 

Manylwyd ar gynnwys y cyfrifon a rhoddwyd cyfle i Aelodau’r Cyd-Bwyllgor i ofyn cwestiynau.

 

Adroddwyd bod y cyfrifon wedi eu hardystio a’u hanfon i SAC a fe’u cyflwynir gerbron cyfarfod nesaf y Cyd-Bwyllgor i’w cymeradwyo.

 

Arwyddodd y Cadeirydd a Rheolwr Gyfarwyddwr GwE Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2014-15.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad gan gymeradwyo’r driniaeth o’r tanwariant fel amlinellir yn Atodiad A  Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw 2014/15’ ynghyd â’r Datganiad o’r Cyfrifon 2014/15 (cyn-archwiliad) – Atodiad B.

9.

ALINIO'R TREFNIADAU GWEITHIO RHANBARTHOL GYDA MODEL CENEDLAETHOL AR GYFER GWEITHIO RHANBARTHOL LLYWODRAETH CYMRU pdf eicon PDF 357 KB

(copi’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)  Cyflwynwyd, er cymeradwyaeth, achos busnes terfynol GwE oedd yn crynhoi’r sefyllfa bresennol fesul maes gwaith, yn asesu’r opsiynau posib ac yn argymell yr ymyraethau mwyaf effeithiol ar gyfer cyflawni.

 

Nododd Ian Budd (Cyfarwyddwr ArweiniolCadeirydd y Bwrdd Rheoli) yr aseswyd y cynllun busnes yn erbyn y meini prawf canlynol:

·         A yw’n gwneud y gorau o brofiad ac arbenigedd?

·         Mewn adeg o lymder ariannol a sicrheir gwerth am arian ac oes hyblygrwydd i reoli’r lleihad mewn arian?

·         A yw’n ddealladwy fel y gellir ei rannu â rhan ddalwyr?

 

(b)  Nododd Mr Geraint Rees (Llywodraeth Cymru) bod yr Awdurdodau Lleol wedi cadw’r rolau arweiniol yn y meysydd hyn felly dylid sicrhau  capasiti digonol o fewn y rhwydweithiau.

 

Mewn ymateb nododd Ian Budd (Cyfarwyddwr ArweiniolCadeirydd y Bwrdd Rheoli), bod y Bwrdd Rheoli wedi diwygio ei gylch gwaith ynghyd a’i aelodaeth i gydymffurfio â’r model cenedlaethol.

 

(c)  Yn ystod y drafodaeth ddilynol amlygwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Yr angen i wella Cyrff Llywodraethu Ysgolion.

 

·         Mewn ymateb i sylw gan aelod, nododd Ian Budd (Cyfarwyddwr ArweiniolCadeirydd y Bwrdd Rheoli) bod prif swyddog yn chwarae rôl arweiniol ar bob rhwydwaith. Ychwanegodd y gallai awdurdodau rhoi mwy o adnoddau i gyflawni rhaglen benodol ond pan sefydlwyd GwE ni ddarganfuwyd gofynion unigryw gan awdurdodau unigol.

 

·         Byddai atebolrwydd yn gliriach pan fo’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth yn ei le yn nodi rôl a chyfrifoldebau.

 

·         Bod adroddiad SAC yn nodi y dylid gweld symudiad tuag at gyd-berchnogi yn hytrach na chomisiynu gan awdurdod unigol a bod GwE yn cymryd camau ymlaen gyda chynllun busnes ar y cyd wedi ei lunio.

 

            Penderfynwyd:         

(a)        Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad.

 

(b)       Cymeradwyo’r ymyraethau canlynol fesul maes gwaith:

·         Cyngor a Chefnogaeth i Lywodraethwyr (tudalen 10 o’r  adroddiad)

·         Y Cyfnod Sylfaen (tudalen 10 o’r adroddiad)

·         Llwybrau Dysgu 14 – 19 (tudalen 12 o’r adroddiad)

·         Cynlluniau Strategol y Gymraeg Mewn Addysg a Grant y Gymraeg Mewn Addysg (tudalen 13 o’r adroddiad)

·         Cydlynu Rhanbarthol y Strategaeth TGC  (tudalen 14 o’r adroddiad)

·         Cefnogaeth Adnoddau Dynol Arbenigol  (tudalen 14 o’r adroddiad)

 

(c)       Dirprwyo’r cyfrifoldeb o gynllunio a gweithredu ar yr ymyraethau i Fwrdd Rheoli GwE.

 

10.

PRIF FLAENORIAETHAU GwE pdf eicon PDF 252 KB

(copi’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)  Cyflwynwyd adroddiad gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE yn diweddaru’r Cyd-Bwyllgor ar brif flaenoriaethau’r gwasanaeth. Adroddwyd bod Estyn yn cynnal arolwg yn ystod Gwanwyn/Haf 2016 ar fframwaith newydd sydd eto i’w gyhoeddi. Nodwyd yr ymgynghorir ar y fframwaith yn Hydref 2015 a gwybyddwyd consortia y disgwylir tystiolaeth bod dim cystadleuaeth rhyngddynt.

 

Derbyniwyd cyflwyniad gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol (Safonau) GwE yn manylu ar y gefnogaeth a her a gynigir gan GwE.

 

(b)   Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd:

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod parthed cadarnhau categori ysgolion, y cymerir i ystyriaeth canlyniadau arholiadau TGAU ym mis Awst a chadarnheir categori efo’r ysgolion yn dechrau mis Medi.

 

·         Mewn ymateb i ymholiad, nodwyd o ran ysgolion uwchradd y cymerir 1 i 2 mlynedd i ysgolion wella a dod allan o’r categori coch.

 

·         Yr angen i gyd-weithio oddi mewn ac ardraws Awdurdodau Lleol i wella ysgolion.

 

·         Bod rhai ysgolion angen cefnogaeth ddwys gydag ysgolion yn ennill annibyniaeth yn y pendraw.

 

·         Nad yw’r dadansoddiad lliw yn dangos yr holl ddarlun gyda rhai ysgolion yn fodlon bod yn y melyn a ddim eisiau mynd ymlaen i’r gwyrdd, ac fe ddylid eu herio yn lleol.

 

·         Y rhannir y prif flaenoriaethau efo Cyrff Llywodraethu Ysgolion yn y dyfodol a dod i ddealltwriaeth o ran gwneud y gorau efo’r model.

 

(c) Derbyniwyd cyflwyniad gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol (Cefnogaeth a Broceru) GwE yn manylu ar y rhaglen datblygu arweinyddiaeth.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan aelod parthed gwerthusiad tymor hir, nodwyd yr asesir yr effaith ar ddiwedd y flwyddyn addysgiadol. Ychwanegodd yn y tymor byr gwelir bod 4 unigolyn a oedd yn rhan o’r rhaglen datblygu arweinwyr canol wedi derbyn dyrchafiad gyda’r unigolion o’r farn ei fod wedi bod o gymorth.

           

            Penderfynwyd:          Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad.

11.

CYLLIDEB SYLFAENOL GwE 2015/16 pdf eicon PDF 322 KB

(copi’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr GwE a Phennaeth Cyllid yr Awdurdod Lletyol ar gyllideb sylfaenol GwE am y flwyddyn gyllidol 2015-16.

 

Manylwyd ar gynnwys yr adroddiad a rhoddwyd cyfle i Aelodau’r Cyd-Bwyllgor gwestiynu unrhyw elfennau o’r adroddiad.

 

Penderfynwyd: Mabwysiadu’r gyllideb sylfaenol ar gyfer 2015/16 fel a gyflwynwyd yn Atodiad 1.