Lleoliad: Venue Cymru, Y Promenâd, Llandudno, Conwy. LL30 1BB. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Glynda O'Brien 01341 424301
Rhif | eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cyng. Chris
Bithell (Cyngor Sir y Fflint), Diane Chisholm (Cynrychiolydd Ysgolion
Cynradd), Alison Fisher (Cynrychiolydd Llywodraethwyr) ac Iwan Evans (Rheolwr
Gwasanaeth Cyfreithiol yr Awdurdod Lletyol – Cyngor Gwynedd). |
|||||||||||||
CROESO Cofnod: Estynnodd
y Cadeirydd groeso i Mrs
Rita Price o Esgobaeth Wrecsam
i’w chyfarfod cyntaf o’r Cyd-bwyllgor. |
|||||||||||||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datgan
o fuddiant personol gan unrhyw Aelod
oedd yn bresennol |
|||||||||||||
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 242 KB (copi’n amgaeedig) Cofnod: Llofnododd
y Cadeirydd gofnodion o’r pwyllgor hwn
a gynhaliwyd ar y 15 Gorffennaf 2015 fel rhai cywir.
|
|||||||||||||
(copi’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad
gan Bennaeth Cyllid, Cyngor Gwynedd yn cyflwyno datganiad o’r Cyfrifon
ôl-Archwiliad, adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ynghyd â llythyr cynrychiolaeth. Adroddodd cynrychiolydd
Swyddfa Archwilio Cymru bod yr adroddiad
yn gosod allan cyd-destun y cyfrifon a thynnwyd sylw at grynodeb o’r cywiriadau a wnaed i’r datganiadau
ariannol drafft y dylid tynnu sylw’r Cyd-bwyllgor
atynt. Manylwyd
ar gynnwys y cyfrifon a rhoddwyd cyfle i Aelodau’r Cydbwyllgor i ofyn cwestiynau. Penderfynwyd: (a) Derbyn, nodi a chymeradwyo’r wybodaeth yn (i)
Adroddiad “ISA260” gan Swyddfa Archwilio
Cymru (ii)
Datganiad o’r Cyfrifon 2014/15 (ôl-archwiliad) (b) Gofyn i’r Cadeirydd
a’r Pennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd (fel Swyddog Cyllid
Statudol GwE), ardystio’r Llythyr Cynrychiolaeth. |
|||||||||||||
ADRODDIAD CYNNYDD GwE (adroddiad ar lafar) Cofnod: Cyflwynwyd
ystadegau i’r Cyd-bwyllgor yn ystod y cyfarfod a oedd yn amlinellu
canlyniadau, prif ddeilliannau a materion i’w hystyried. Tywysodd
y Rheolwr Gyfarwyddwr GwE y
Cyd-bwyllgor drwy’r adroddiad gan nodi fel a ganlyn: (a) Cyfnod Sylfaen ·
mai perfformiad GwE yw’r isaf o’r holl
gonsortia rhanbarthol. Fodd bynnag, roedd arweiniad cenedlaethol
wedi tynnu sylw at yr angen am lwyfandir mewn
perfformiad ar draws Cymru ynghyd a phroses safoni a
gwirio cadarn. ·
Bod
asesiadau athrawon yn parhau i fod yn bryder. ·
Bod
cynnydd mewn perfformiad disgyblion PYD mewn 4 awdurdod o 2014 ac yn sylweddol
felly yng Ngwynedd a Môn ·
Bod
cynnydd mewn perfformiad o 2014 ar draws yr holl ddangosyddion ar lefel
uwch. Fodd bynnag, mae cynnydd rhanbarthol yn y
Gymraeg yn llai na chynnydd cenedlaethol. ·
Bod
rhai ysgolion wedi perfformio islaw'r canolrif y meincnodau PYD mewn
dangosyddion allweddol dros gyfnod treigl o dair
blynedd a bod angen herio'r
ysgolion hyn yn gadarn. Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhawyd bod y materion uchod yn ddisgwyliedig. (b) Cyfnod Allweddol 2 ·
Bod perfformiad GwE wedi cynyddu, fodd bynnag
fel yn y Cyfnod Sylfaen, bod arweiniad cenedlaethol wedi tynnu sylw at yr
angen am lwyfandir mewn perfformiad ar draws Cymru ynghyd a phroses safoni a gwirio cadarn. ·
Bod asesiadau athrawon yn parhau i fod
yn bryder ·
bod cynnydd mewn perfformiad disgyblion PYD, fodd bynnag, roedd ychydig
o ostyngiad mewn perfformiad ar gyfer Gwynedd a Môn ·
bod cynnydd mewn perfformiad
o 2014 ar draws yr holl ddangosyddion ar lefel disgwyliedig
a’r cynnydd yn fwy na’r
cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer pob
pwnc craidd ·
bod yr uchod yn unol
â’r disgwyl ond eto mae
rhai ysgolion yn perfformio o dan y perfformiad cenedlaethol ac angen sylw penodol fel
rhan o’r broses herio Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol: (i)
gofynnwyd pa mor gadarn yw
Llywodraeth Cymru ynglŷn ag anghysondebau asesiadau athrawon ac a yw’r Undebau Athrawon
yn herio’r Llywodraeth ynghylch hyn? Mewn ymateb, esboniodd
Mr Geraint Rees, Llywodraeth Cymru,
y gosodwyd cytundeb gyda’r 4 rhanbarth i weithredu ar y cyd gyda’r broses yn ei le am y tro
cyntaf eleni. Nodwyd bod amrywiaeth rhwng y 4 rhanbarth yn sylweddol
yng Nghyfnod Allweddol 2. O safbwynt Cyfnod Allweddol 4, nodwyd bod y bwlch yn lleihau. Nodwyd ymhellach bod y broses categoreiddio
angen gweithrediad cadarn a’r cam nesaf fyddai tynhau
cymedroli asesiadau athrawon. Rhaid i’r broses ddigwydd ac o ganlyniad fe fydd rhaid
cael gwared â’r diffyg hyder. (ii)
A yw’r Undebau yn gytûn
ac a oes rhai Siroedd yn wynebu
problemau, os oes, a fyddai’n syniad i gael trafodaeth
gyda’r Gweinidog Addysg? Mewn ymateb, nodwyd
bod cyfarfod gyda’r Undebau Llafur yn fuan er
mwyn derbyn mewnbwn o sut mae
pethau’n mynd. Hefyd, byddai cyfle i Gadeirydd y Cyd-bwyllgor godi’r mater gyda’r Gweinidog Addysg mewn cyfarfod sydd wedi
ei drefnu ar gyfer 16 Hydref. (iii) Bod y diffyg hyder yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|||||||||||||
ADRODDIAD CYLLIDEB GwE 2015-16 – ADOLYGIAD TYMOR YR HAF 2015 PDF 301 KB (copi’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad
y Rheolwr Gyfarwyddwr GwE a
Phennaeth Cyllid yr Awdurdod Lletyol
ar adolygiad ariannol diweddaraf cyllideb GwE am y flwyddyn
gyllidol 2015-16 Cyfeiriwyd
at Atodiad 1 i’r adroddiad a oedd yn cynnwys y wybodaeth
ariannol gyflawn. Tynnwyd sylw at y ddau bennawd o danwariant sef: (i)
“adeilad” a oedd yn cyfeirio at swyddfeydd newydd GwE yng Nghaernarfon a Conwy oherwydd bod llithriad yn y dyddiad symud
i’r lleoliadau newydd; a (ii)
“cludiant” a oedd yn cyfeirio at y penderfyniad i leihau’r gyllideb costau teithio yn agosach
at wir wariant. Nodwyd nad oedd yr
adroddiad yn cynnwys ystyriaeth arbedion posib trwy’r elfen rheolaeth
a gweinyddiaeth rhai grantiau penodol. O safbwynt
y gronfa tanwariant, cyfanswm y gronfa ar gychwyn y flwyddyn
gyllidol 2015/16 oedd
£266,829, gyda Chyd-bwyllgor
GwE eisoes wedi penderfynu ymrwymo £135,000 ar gynlluniau penodol. Gan ychwanegu tanwariant 2015/16 o
£29,903, amcangyfrif cronfa
heb ei ymrwymo
o £161,732. Rhoddwyd cyfle
i Aelodau’r Cydbwyllgor gwestiynu unrhyw elfennau o’r adroddiad. Cadarnhaodd
y Rheolwr Gyfarwyddwr GwE
bod y grant amddifadedd wedi
ei ddosrannu i ysgolion. Penderfynwyd:
Derbyn a nodi’r adroddiad. |
|||||||||||||
DYDDIADAU CYFARFODYDD 2015-16 PDF 241 KB (copi’n amgaeedig) Cofnod: Cyflwynwyd calendr
Cyfarfodydd Cyd-bwyllgor GwE am y flwyddyn
2015-16. Nododd Ian Budd (Cyfarwyddwr Arweiniol - Cadeirydd y Bwrdd Rheoli (Cyngor Sir y Fflint)), bod y rhwydweithiau yn weithredol ac fe fyddir yn adrodd ymhellach ynglyn ag adborth a bwydo gwybodaeth yng nghyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor ym mis Tachwedd.
Penderfynwyd: Cymeradwyo’r dyddiadau canlynol am y flwyddyn 2015- 16:
|