skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Swyddfeydd GwE, Bryn Eirias, Ffordd Abergele, Bae Colwyn, LL29 8BF

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Dafydd Edwards (Pennaeth Cyllid yr Awdurdod Lletyol – Cyngor Gwynedd), Alison Fisher (Cynrychiolydd Llywodraethwyr) a Jonathan Morgan (Cynrychiolydd Ysgolion Arbennig).

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 235 KB

(copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd 2015, fel rhai cywir.

 

5.

SAFONI A CHYMEDROLI CLWSTWR CA2 A 3 pdf eicon PDF 339 KB

(copi’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE adroddiad a oedd yn manylu ar drefniadau safoni a chymedroli rhanbarthol a chenedlaethol ar gyfer dilysu asesiadau athrawon yn niwedd cyfnod allweddol 2 a 3.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y prif bwyntiau canlynol:

·         Ei fod yn hawdd anghofio disgyblion na all gyrraedd y meincnod ac felly  dylid asesu cynnydd disgybl ers y cyfnod sylfaen;

·         Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod, nododd Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Safonau) GwE bod Dafydd Rhys, Ymgynghorydd Her GwE wedi cysylltu efo’r 6% o arweinwyr asesu CA2 a CA3 na fynychodd sesiwn gwybodaeth;

·         Yn dilyn y gwaith y gobeithir y bydd gwell dealltwriaeth cenedlaethol gan olygu gwella dibynadwyedd a chysondeb asesiadau athrawon;

·         Ei fod yn anodd nodi amser penodol o ran cymharu yn deg yn genedlaethol.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r adroddiad.

6.

YMCHWILIO I'R DREFN GOSOD TARGEDAU, TRACIO CYNNYDD AC YMYRRAETH pdf eicon PDF 401 KB

(copi’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth ar ganfyddiadau ymchwil i’r drefn gosod targedau, tracio cynnydd ac ymyrraeth yn deillio o wahaniaeth arwyddocaol rhwng targedau/amcangyfrifon terfynol a gwir berfformiad 2015 CA4 mewn nifer o ysgolion y rhanbarth.

 

Tynnwyd sylw at yr argymhellion yn deillio o’r ymchwil ar gyfer GwE, awdurdodau lleol ac ysgolion. Nodwyd y cyflwynir yr adroddiad mewn cynhadledd ranbarthol ar 12 Chwefror.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod parthed yr argymhelliad i GwE/Awdurdodau Lleol sefydlu gweithgor o arweinwyr ysgolion ac arbenigwyr technegol er mwyn llunio system generig i dracio’r dangosyddion newydd, nododd Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Safonau) GwE y cyd-weithir efo SIMS i greu system gyffredin ar gyfer y rhanbarth gyfan. Nododd yr aelod yr angen i weithredu ar fyrder o ystyried bod y dechnoleg yn bodoli’n barod er sicrhau cysondeb ar draws y rhanbarth.

 

Cyfeiriodd aelodau at effaith absenoldebau staff a prinder argaeledd athrawon llanw / wrth gefn ym Mathemateg a Saesneg ar berfformiad rhai ysgolion. Nododd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE yr edrychir ar sefydlu ymgyrch recriwtio cenedlaethol i geisio denu athrawon i weithio yng Nghymru.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r adroddiad.

7.

CYFNOD ALLWEDDOL 4 LEFEL 2+ - CYNNYDD TUAG AT DARGEDAU 2016 pdf eicon PDF 377 KB

(copi’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE adroddiad a oedd yn manylu ar y cynnydd tuag at dargedau 2016 CA4 Lefel 2+ fesul Awdurdod Lleol. Nodwyd bod camau wedi eu cymryd i adrodd yn gyson a byddai casgliad canolog o ddata cynnydd yn cymryd lle diwedd Chwefror a diwedd Ebrill 2016.

 

Nododd Karen Evans (Cyngor Sir Ddinbych), yr angen i nodi’n eglur mai targedau'r ysgolion a nodir yn y tabl ‘Tymor yr Hydref: Targedau a Rhagfynegiadau Cyfanredol Ysgolion 2016’ ac nid rhai a osodir gan yr Awdurdod Lleol. Ychwanegodd bod cadernid targedau ysgolion yn amrywio.

 

Nododd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE yr heriwyd targedau rhai ysgolion ymhellach i’r her cychwynnol gyda’r targedau wedi eu mireinio o ganlyniad i’r ymyrraeth.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan aelodau parthed sicrwydd y gwelir gwellhad yng nghanlyniadau Haf 2016, nododd Ian Budd (Cyfarwyddwr Arweiniol - Cadeirydd y Bwrdd Rheoli (Cyngor Sir y Fflint)) bod y materion a oedd angen sylw wedi eu hadnabod a chynllun gweithredu mewn lle felly ei fod yn obeithiol y bydd y canlyniadau yn well. Ategodd John Davies (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam), y sylwadau gan nodi mai canlyniadau’r arholiadau a fyddai’n rhoi cadarnhad pendant ond ei fod yn ffyddiog y byddai’r canlyniadau yn well.

 

Amlygwyd pryder bod ystadegau yn cael eu casglu mewn ffyrdd gwahanol ar draws Cymru.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r adroddiad.

8.

RHAGLEN DATBLYGU ARWEINYDDIAETH

(adroddiad ar lafar)

Cofnod:

Derbyniwyd cyflwyniad gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol (Cefnogaeth a Broceru) GwE ar y rhaglen datblygu arweinyddiaeth.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau ac ymatebwyd iddynt fel a ganlyn:

·         Bod proses ymgeisio i gymryd rhan yn y Rhaglen Datblygu Arweinwyr;

·         Bod 102 o arweinwyr canol wedi cymryd rhan yn y Rhaglen Datblygu Arweinwyr Canol;

·         Bod swyddog cymeradwyo yn yr Awdurdod Lleol i wirio bod unigolyn yn barod  i geisio am y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP);

·         Bod 47 unigolyn wedi eu cymeradwyo i geisio am y CPCP yn 2016 ond bod cyllid gan Lywodraeth Cymru ond yn ddigonol ar gyfer 41 unigolyn;

·         Bod derbyn y cymhwyster CPCP yn golygu bod unigolyn yn addas i weithio fel Pennaeth mewn unrhyw ysgol yng Nghymru, gan gynnwys Ysgolion Eglwysig;

·         Bod yr ymrwymiad angenrheidiol yn gallu arwain at anhawster i gael Penaethiaid o’r sectorau Uwchradd ac Arbennig i weithredu fel panelwyr yn y Ganolfan Asesu.

 

Cyhoeddwyd y cynhelir cynhadledd i oddeutu 1,400 o athrawon am 5.00pm, 12 Chwefror 2016 yn Venue Cymru, Llandudno lle rhoddir cyflwyniad gan Syr John Jones. Estynnwyd gwahoddiad i’r aelodau.

9.

RHWYDWAITH CYFRWNG CYMRAEG AC ADEILADU CYNHWYSEDD pdf eicon PDF 362 KB

(copi’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd Arwyn Thomas (Cyngor Gwynedd) adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar weithgarwch a deilliannau’r Rhwydwaith Cyfrwng Cymraeg ac Adeiladu Cynhwysedd. Adroddwyd yn dilyn adroddiadau cadarnhaol am lwyddiant y Siarter Iaith yng Ngwynedd derbyniwyd cais gan Lywodraeth Cymru i ddefnyddio arbenigedd ac arferion da Gwynedd er mwyn ymestyn y prosiect i ardaloedd eraill yng Nghymru.

 

Nodwyd y cynhaliwyd cynhadledd lwyddiannus i lansio’r Siarter Iaith yn rhanbarthol ar 22 Ionawr 2016. Tynnwyd sylw at gynllun gweithredu ehangu’r Siarter ar draws y rhanbarth.

 

Nododd Geraint Rees (Cynrychiolydd Llywodraeth Cymru) ei fod yn llongyfarch y rhwydwaith ar ei waith ar draws y rhanbarth ac y gallai ardaloedd eraill elwa o’r arfer da.

 

Nodwyd sylwadau cadarnhaol o ran y cyd-weithio a nodwyd bod brwdfrydedd i wneud y Siarter yn llwyddiannus ar draws y rhanbarth.

 

Mewn ymateb i sylw gan aelod, nododd Arwyn Thomas (Cyngor Gwynedd) y byddai’n trefnu i’r aelodau dderbyn y papurau a gyflwynwyd yn y gynhadledd ynghyd â gwerthusiad o’r diwrnod.

10.

CYNLLUN BUSNES 2015-18: ADRODDIAD MONITRO pdf eicon PDF 336 KB

(copi’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE adroddiad monitro cynnydd ar Gynllun Busnes 2015-18.

 

Nododd Arwyn Thomas (Cyngor Gwynedd) yr angen i sicrhau bod yr hyn a nodir o dan ‘Penawdau/Lliniaru’ yn y dangosfwrdd monitro yn cyfarch y cerrig milltir.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r adroddiad.

11.

TREFNIADAU AROLYGIADAU CONSORTIWM RHANBARTHOL ESTYN (EBRILL 2016) pdf eicon PDF 250 KB

(copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Cyflwynodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE adroddiad yng nghyswllt trefniadau arolygiadau Estyn o’r consortia rhanbarthol, gan nodi y byddai arolwg GwE yn cael ei gynnal yn ystod y cyfnod 18 – 29 Ebrill 2016. Nodwyd y cynhelir arolygiad dilynol ymhen oddeutu 12 mis i edrych ar y cynnydd yn erbyn yr argymhellion.

 

Adroddwyd y byddai arolygwyr Estyn yn cyfarfod ag aelodau’r Cyd-bwyllgor yn ystod yr wythnos yn cychwyn 25 Ebrill 2016.

 

Mewn ymateb i ymholiad parthed capasiti Estyn i gynnal y cyfweliadau yn yr Iaith Gymraeg, nododd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE y byddai’n cysylltu efo arweinwyr Estyn i dderbyn cadarnhad.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r adroddiad.