Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y ddau ymgeisydd. Nodwyd bod y ddau ymgeisydd wedi amlygu nad oeddynt eisiau i’r gwrandawiad
gael ei ohirio
oherwydd eu habsenoldeb |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw
aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r
cyhoedd allan
o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth
ar yr eitemau
canlynol gan ei fod yn
debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir
ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn
berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn
cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd a hawl i
breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd
cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma.
O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid
cadw’r wybodaeth yn eithriedig. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd
allan o’r cyfarfod yn ystod
y drafodaeth ar yr eitemau canlynol
gan ei fod yn debygol y datgelir
gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd
bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes
unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion
nac yn gofyn
am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus
o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais Mr A (copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig) Cofnod: a) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad
yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas
y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd
gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: • Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol • Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd • Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest • Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig. Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd
gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r
Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a
chollfarnau perthnasol. Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor
ganiatáu’r cais. Nid oedd yr ymgeisydd yn bresennol i ymhelaethu ar
ei gais. b)
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a
phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor
Gwynedd. c) Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor
wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion
‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
ffurflen
gais yr ymgeisydd ·
adroddiad
yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS ch) Rhoddwyd
ystyriaeth benodol i’r materion canlynol Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn gan Lys Ynadon Caernarfon a Gwyrfai (Awst
2000) am fod yn feddw ac afreolus yn groes i adran 91(1) o Ddeddf Trosedd
Cyfiawnder 1967. Cafodd ddirwy o £50 a
gorchymyn i dalu £30 costau. Yn Ionawr 2007 derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn
gan Lys Ynadon Gwynedd am ddefnyddio ymddygiad afreolus neu eiriau
ymosodol/treisgar/dilornus oedd yn debygol o achosi aflonyddwch, braw neu
drallod, trosedd yn groes i adran 5(1)(A) o’r Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986.
Derbyniodd ‘ryddhad amodol’ o 12 mis ynghyd a gorchymyn i dalu costau o £75.00. d)
Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle
nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael
ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau
am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn
unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i
brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Ystyriwyd paragraff 4.5
sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau)
(Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf
1974 neu beidio. Mae paragraff 6 o’r Polisi yn cyfarch troseddau o drais. Ym mharagraff 6.1 nodir, gan fod gyrwyr trwyddedig yn dod i gysylltiad agos ar cyhoedd yn rheolaidd y byddai is-bwyllgor yn mabwysiadu safbwynt cadarn at y rhai hynny sydd â throseddau yn ymwneud a thrais. Mae paragraff 6.5 o’r Polisi yn nodi y bydd cais am drwydded fel rheol yn cael ei wrthod os oes gan yr ymgeisydd fater i’w ystyried (gan gynnwys rhybuddion) am ymosodiad cyffredin a /neu drosedd o dan A4 Trefn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais Mr B (copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig) Cofnod: a) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad
yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas
y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd
gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: • Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol • Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd • Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest • Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig. Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd
gan Mr B am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor
ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, datganiad yr Asiantaeth Trwyddedu
Gyrwyr & Cherbydau, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol.
Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor wrthod y cais. Nid oedd yr ymgeisydd yn bresennol i ymhelaethu ar
ei gais. b)
PENDERFYNWYD nad oedd yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor
Gwynedd. c) Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr
Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion
‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
Ffurflen
gais yr ymgeisydd ·
Adroddiad yr Adran Drwyddedu,
datganiad DBS a datganiad yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr & Cherbydau ·
Canllawiau y Sefydliad Trwyddedu ·
Clip fideo o ddigwyddiad Ionawr 2019 ch) Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion
canlynol Yn
Mai 1982, derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn am gyfres o droseddau. Roedd y
drosedd gyntaf am
ddwyn o gerbyd yn groes i Ddeddf Lladrata 1968. Roedd yr ail yn un o fyrgleriaeth, y trydydd am ddifrod troseddol yn groes i
adran 1 Deddf Difrod Troseddol 1971 a’r pedwerydd yn un arall am ddwyn o
gerbyd. Ar gyfer pob cyhuddiad
unigol cafodd orchymyn gwasanaeth cymunedol 150 awr, gorchymyn i wneud
cyfraniad at gymorth cyfreithiol o £75.00 a gorchymyn i dalu costau o £75.00. Yn Nhachwedd 1983
derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn gan Lys Ynadon Pwllheli ar un
cyhuddiad o geisio dwyn o gerbyd, yn groes i adran 1 o’r Ddeddf Lladrata 1968.
Derbyniodd ddirwy o £60.00 a gorchymyn i dalu costau o £3.00. Yn Mai 1985
derbyniodd gollfarn gan Lys Ynadon Pwllheli am gyfres o gyhuddiadau – troseddau
yn ymwneud a dwyn yn groes i adran 1 Deddf Lladrata 1968, ac o geisio bwrglera
yn groes i adran 9(1)(B) Deddf Lladrata 1968. Derbyniodd ddedfryd o garchar
ieuenctid am 6 mis a gorchymyn i dalu iawndal o £450.00. Yn Hydref 1988
derbyniodd gollfarn gan Lys y Goron Caernarfon am gyhuddiad o ymosodiad a
arweiniodd at niwed corfforol yn groes i adran 47 Deddf Troseddau yn Erbyn y
Person 1861. Derbyniodd ddedfryd o garchar am 9 mis, wedi ei atal am 6 mis. Yn dilyn digwyddiad yn Ionawr 2019, derbyniodd gollfarn gan Lys Ynadon Gogledd Orllewin Cymru (Medi 2019) am ymyrraeth beryglus ag offer traffig, yn groes i adran 22A(1)(c) Deddf Traffig Ffordd 1988. Derbyniodd ddirwy o £250.00, gorchymyn i ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |