skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Dwyryd, Uned 2b, Parc Busnes Eryri, Minffordd, Penrhyndeudraeth, LL48 6LD. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Peter Read.

Nodwyd ei fod wedi derbyn llawdriniaeth yn ddiweddar ac anfonwyd dymuniadau am wellhad buan ato

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

 

 

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

           Dim i’w nodi

 

4.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion yma . O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

 

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.  Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod.  O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu.

 

5.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ystyried cais gan Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Cofnod:

a)    Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

           Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

           Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

           Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

           Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

           Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

           Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. 

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais a rhoi gwybodaeth am gefndir y troseddau a’i amgylchiadau personol. Amlygodd bod collfarn 1988 yn un a ddigwyddodd pan oedd yn ei arddegau ac nad oedd wedi bod mewn unrhyw fath o drwbl ers hynny. Ategodd nad oedd collfarn 1989 yn berthnasol iddo ef ac fe gyflwynodd lythyr gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (dyddiedig 26.9.19) yn cadarnhau hynny. Nododd hefyd y byddai tystysgrif ddiwygiedig yn cael ei anfon ato.

 

Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

b)    PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

c)    Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

 

·         Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         sylwadau llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd yn ystod y gwrandawiad

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS

 

   ch)    Ym Medi 1988 canfuwyd yr ymgeisydd yn euog gan Lys Ynadon Porthaethwy ar ddau gyhuddiad - un o ymosod yn achosi niwed corfforol yn groes i adran 47 Deddf Troseddau Corfforol 1861, ac un cyhuddiad o affräe yn groes i adran 3 Deddf Trefn Gyhoeddus 1986. Cafodd ddirwy o £400.00 a gorchymyn i dalu costau o £47.00.

Yn ôl datganiad DBS yr ymgeisydd roedd ganddo gollfarn (Mawrth 1989) am dri cyhuddiad o ddwyn o siopau, yn groes i adran 1 Deddf Lladrata 1968. Fodd bynnag, cadarnhaodd yn y gwrandawiad bod y cofnod hwn wedi'i gynnwys mewn camgymeriad a cyflwynodd lythyr i'r Is-bwyllgor gan y DBS yn cadarnhau bod y datgeliad yn cynnwys gwall.

 

    d)     Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol.

 

Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod y Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974       (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ystyried cais gan Ms B

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

 

Cofnod:

a)    Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

           Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

           Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

           Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

           Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

           Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

           Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Ms B am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. 

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei chais a rhoi gwybodaeth am gefndir y drosedd a’i hamgylchiadau personol. Amlygodd bod y drosedd wedi digwydd o ganlyniad ifod yn y lle anghywir ar yr amser anghywir’. Nododd bod ei theulu yn rhedeg cwmni tacsi a'i bod wedi cael cynnig gwaith i gynorthwyo gyda’r busnes dros y penwythnosau.

 

Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

b)    PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

c)    Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

 

·         GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         sylwadau llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd yn ystod y gwrandawiad

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS

 

   ch)    Derbyniodd yr ymgeisydd rybudd gan Heddlu Gogledd Cymru (Mehefin 2015) am un drosedd o guro (battery) yn groes i adran 39 Deddf Cyfiawnder Troseddol 1988.

 

    d)     Mae paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.3 yn nodi bod rhybuddion yn cael eu cynnwys felmaterion eraill i’w hystyried

 

Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod y Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974             (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.

 

Mae adran 6 o’r Polisi yn cyfarch troseddau o drais. Ym mharagraff 6.1 nodir, gan fod gyrwyr trwyddedig yn dod i gysylltiad agos ar cyhoedd yn rheolaidd y byddai is-bwyllgor yn mabwysiadu safbwynt cadarn at y rhai hynny sydd â throseddau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ystyried cais gan Mr C

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Cofnod:

 Hefyd yn bresennol : Owain Williams (Swyddog Gorfodaeth Gwarchod y Cyhoedd – swyddog cyfrifol am arwain yr erlyniad Medi 2016) ac Alun Merfyn Roberts (Swyddog Gorfodaeth Gwarchod y Cyhoedd - arsylwi)

 

a)    Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

           Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

           Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

           Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

           Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

           Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

           Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr C am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. 

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais a rhoi gwybodaeth am gefndir y troseddau a’i amgylchiadau personol. Mynegodd ei fod wedi bod drwy gyfnod anodd yn ddiweddar gyda thor priodas, ei fab wedi bod mewn damwain ddifrïol a marwolaeth un o’i frodyr. Nododd,er nad oedd yn chwilio am esgus bu iddo adael i bethau lithro o ran gweinyddu a rhedeg ei fusnes tacssi. Ategodd ei fod yn yrrwr da a'i fod yn dymuno dychwelyd i Ogledd Cymru i weithio. Dadleuodd na ddylai gael ei feirniadu ar un camgymeriad ac yntau wedi bod yn yrrwr tacsi difai.

 

Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

b)    PENDERFYNWYD nad oedd yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

c)    Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

 

·         Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         sylwadau llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd yn ystod y gwrandawiad

·         sylwadau llafar a gyflwynodd y swyddog gorfodaeth yn ystod y gwrandawiad

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS

 

   ch)    Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn (Mehefin 1979) gan Lys Ieuenctid Lerpwl ar un cyhuddiad o ddwyn, yn groes i Adran 1 Deddf Lladrata 1968. Derbyniodd ryddhad amodol am 12 mis (collfarn 1). Yn mis Awst 1984 cafwyd yr ymgeisydd yn euog gan Lys Ynadon  Wirral ar un cyhuddiad o ddwyn o gerbyd yn groes i Ddeddf Lladrata 1968. Cafodd ddirwy o £50.00 a gorchymyn i dalu iawndal o £12.00 (collfarn 2). Yn mis Tachwedd 1986 cafwyd yr ymgeisydd yn euog gan Lys Ynadon Birkenhead ar ddau gyhuddiad o hawlio budd-dal plant drwy dwyll, yn groes i adran 11 Deddf Budd-dal Plant 1975. Derbyniodd ddirwy o £60.00, a gorchymyn i dalu costau o £30.00 ac iawndal o £ 8.00 (collfarn 3).


Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn yng Ngorffennaf 1991 gan Lys Ynadon Dolgellau ar 3 chyhuddiad – un o rwystro’r heddlu, yn groes i Adran 51  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.